Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PENILLION I AFON CLETWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENILLION I AFON CLETWR. Afon fach, 0, mor brydferth, Ymddolen; ar dy daitb, Nes cyrhaeddyd dy orphwysfa, Draw yn nghol yr eigion llaith; Canwaith bu'm yn syllu arnat Oddiar y bont-bren hon, Mewn teimladau cymysgedig, Weithiau'n brudd ao weithiau'n lion. Mae rhyw fiwsig yn dy furmur, Sydd yn medru dwyn fy mryd, Nes anghofio peth o ddwndwr A gofidiau'r anial fyd Bnost yn athrawes ffyddlawn, Do, a baddiol iawn i mi; Rhoddaist i mi lu o wersi, Rhoddaf finan gan i ti. Er nad wyt ond afon fechan, Er nad wyt ond un ddinod, Mwy o swyn i mi sydd ynot Nag yn enw un sy'n bod. Gall yr estron balch fy ngwawdio Am nad wyt yn enwog iawn; Ond, tra'r galon hon yn enro, Caraf di a chariad llawn. Pan yn gwel'd afonydd mawrion Llifant drwy y doldir gwyrdd, A'u hysgwyddau yn ymgrymu Fel o dan y llongau fyrdd Nid yw'r olwg hardd yn deilwng O'i chymaru, i'm tyb i, A'r holl olygfeydd rhamantus Welir ar dy lenydd di. Mae fy meddwl yn ehedeg, pt Megis ar adenydd chwim, 'Nol i adeg fy mhlentyndod, At gyfeillion anwyl im'; 1 Och; mae rhai mewn bedd yn huno, Rhai yn mhell o dir en gwlad, Nid oes ond fy mrawd yn aros Braidd o'm cydchwareuwyr mai Jacob Herbert sy'n Awstralia,— Cyfaill calon oedd i mi; David Jones yn yr Amerig,- Anwyl oedd o honot ti j Thomas Jones sy'n awr yn Llundain, John yn ngwlad yr hedd yn byw, A Hugh Hughes yn mlodau'i ddyddiau Alwyd adref at ei Ddnw. Llawer gwaith y bu'm yn chwareu, Hyd dy lenydd yn ddibaid, Gwylio symudiadau'th bysgod, Rhedeg drwy y dwr a'r Haid Ac wrth geisio neidio drosot, Syrthio'n fynych fyddai 'm r n, Nes dychrynu'r holl frithyllod Ymddifyrent gylch y fan. Mae fy llygaid fel pe'n gweled Hwy a minau yn un llu, Yn ymbrancio fel wyn bychain, Ar dy lenydd anwyl di; Ac wrth ganfod yr hen lwybrau, Lie chwareuwn gyda hwy, Trwm yw'r teimlad i fy nghalon Na chaf yma'u gweled mwy. Ond er fod fy holl gyfeillion Wedi'm gadael bron i gyd, Diolch i ti, Cletwr anwyl, Caf dy gwmni di o hyd. Pan yn mhell o'm cartref serchog, Pan yn glaf fel pan yn iach, Hed fy meddwl fel y fellten I dy lenydd Clettwr fach. Rhandir. CLETTWRIAN' Dydd Llun diweddaf, dedfrydodd ynadon RkyJ ddau dafarnwr i bunt a'r costau am ganiatau ba| £ chwareuaeth yn eii tafarndei. Dywedai yr he geidwaid fod nifer o fechgyn ieuaino y dref eu difetha trwy y chwareuon hyn, a'u hod benderfynol o ddiwreiddio y drwg.

NEWYDION CYMREIG.