Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. BRITON Fekky.—Ysgol Sabbothol, Bethesda.- Pros lawcr o nynyddau mae wedi bod yn arferiad gart yr ysgol lion yn gystal ag ysgolion eraill y lie (iin a'r ddeg mewn nifer), i dreulio dydd Llun Sulgwyn mewn gorymdeit-hio drwy y pentref, a chyfranogi o de a theisen, &c., yn y prydnawu (Dud elem, rnegis y llynedd, o herwydd gwlyban- iaetli cyfyngwyd yr ysgolion, pob un o fewn ei muriau ei hun, bob ddim gorymdeithio. Mwynhaodd yr ysgol uchod bryd da o do a bara bnth, a. weinyddwyd yn hylaw oddiar y trays gan y boncddigesau canlynol:—Mrs Jones, Lodge; Mrs Griffiths, Ritson-street; Mrs Morris, Neath- road; Mrs Griffith Thomas, eto; Mrs David Thomas, eto Mrs Thomas, Railway-terrace Mrs Pritehard, eto; Mrs Jenkins, Church-street; Mrs Jenkins, Regent-street; Miss Thomas, Railway- terrace; Miss Thomas, Top Shop; Miss Eve, Mort, a Miss S. J. Thomas, Warren-hill. Yn yr hwyr, trwy ddiwydrwydd rhai o'r brodyr, cafwyd cyfarfod adloniadol a chystadleuol, yr hyn a drndd allan Y11 llwyddiant pcrffaith, er nad oeddid wedi darparu dim ar ei gyfer cyn y prydnawn. Tynu o'r stoc ydoedd hi y tro hwn. Llywyddwyd dros gymaint o amser yn ddellfeuig gan hen arweinydd canu y gobeithlu, Mr Thomas Jones, Morristou ond drwy ryw amgylchiad gorfu iddo S, ymadael cyn bod y cyfarfod drosodd Cymerodd Nr D. Harris ei Ie. Aed trwy raglen fa.ith, ond lii chaniata gofod i ni fanylu.-Un yn brcsenol. Ceinewydd.—Cynhaliodd yr Annibynwyr eu eymanfa ysgolion flynyddol yn nghapel y Towyn, Ceinewydd, dydd Mawrth, Mehefin y 15fed. Holwyd ysgol Nanternis gan Mr Morgan Evans, U.H., Oakford; Maenygroes gan y Parch. J. M. Prytherch, Wern; a Towyn gan y Parch. D. Adams, B.A., Hawen. Cafwyd cyfarfodydd da iawn, yr lioli, ateb, a'r canu yn hynod dda. Cynhaliodd Cymdeithas Ryddfrydig Dosbarth Ceinewydd gyfarfod nos lau, yr 17eg cyf., yn yr hen ysgoldy. Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Jones (M.C.) Darlienwyd llythyr oddiwrth Dr. Evans, llyvvydd y gymd'eithas, yn datgan ei ymddiswyddiad o'r gadair lywyddol, o herwydd ei ar. alluogrwydd i bleidio Mesur o Fmreolaeth i'r Iwerddon. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad, a phasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth yn y gorphenol. Yna awd atamean piawr y cyfarfod,sef dewis cynrychiolydd Senedd- ol. Y ddau gafodd fwyaf o sylw y cyfarfod oeddynt y Milwriad Pryse, Arglwydd Eaglaw y Sir, a W. Bowen Rowlands, Ysw., Q.C. Yr oedd y mwvafrif o ddigon dros Mr Rowlands, felly efe yw dewis ddyn Dosbarth Ceinewydd. Deallwn fod Mr Rowlands eisoes wedi ei ddewis gan fwy nag un Gymdeithas Ryddfrydig yn y sir .—Etna. CASNEWYDD AR WYSA—Marwolaeth Ddisyfyd. -Mae dydd llun y Sulgwyn ynNghasnewydd yn un o ddiwrnoda,u pwysicaf y flwyddyn, gorym- deithia Ysgolion Sabbothol y lie gan chwareu offerynau Cerdd a chario banerau, chwareu, ac yfed te yn ddidrai bron. Fodd bynag, er anffawd fawr i'r bobl ieuanc ac eraill, yr oedd yn gwlawio yn gyson trwy y dydd fel ag i dori yr boll gyn- lluniau. Cawsom yn y bore gyfarfod hyfryd iawn yn nghapel Victoria-road (A.), ac ysgol Mynydd Sion (A.) yno hefyd. Cafwyd anerch- iadan a chanu. hyfryd iawn. Ac yn y dorf hono yr oedd em anwyl weinidog, y Parch. J. Griffiths, Mount Seion a'r plant yn siriol a llawen, ac yn cydganu a ni i U Where the white robes children are." Yn y prydnawn aeth ysgol Victoria-road a Mount Seion i'w hystafelloedd ysgol i gael te, ac ar ol y te buont yn chwareu yn llawen ac ymddifyru yn nghwmni eu gilydd. Ac ar ol hyny yn Victoria- road, bu cyfarfod adloniadol gan yr Y sgol Sul hono. A dyna lie yr oedd Miss Alicia Griffiths, merch hynaf y Parch. John Griffith, ein gwemi- dog ni yn Mynydd Seion, yn mwynhau ei hunam yn nghanol ei chydgyfoedion ieuanc, ond ar ganol y cyfarfod, ac yn eistedd ar y fainc, gogwyddai y ferch ieuanc hon ei phen, a bu farw yn y fan Geneth ieuanc gref yr olwg arni oedd Miss Griffith, ac nowydd ddychwelyd adref o'r ysgol o Maesyewmwr i dreulio ei gwyliau yn llawen gyda ei rhieni anwyl, a'r gweddill o'r teulu; Nid oedd ein anwyl weinidog ei thad ond newydd ein gadael ni yn Mount Seion i'w dy, pan y daeth cenad i fynegi y ffaith alarus hon iddo, y fath gontrast, onide ? Yr oedd ei thad yn y bore yn priodi Mr Richard Harries, y draper, un o'i aelodau, ac yn llawen trwy y dydd, ac ar dhiaw- iad amrant, wele y larometer yn disgyn fel mellden o'r sett fare i ganol y stormy, y mae y dref oil wadi ei pbarluso gan yr amgylchiad, ac yn cydyindeimlo yn fawr iawn a'r teulu g&larus yn eu trailed blin a'r dyfroedd dyfnion. Rhodded y nofoedd iddynt, yn dad a mam a. phlant oil, nerth i ddal o dan alluag law yr Arglwydd yw ein gweddi. Daeth torf fawr o gauoedd o bobl i hebrwng ei gweddillion marwol i'r gladdfii brydferth yn Nghasnewydd. Yr oedd yr arch yn llwythog o flodau glymau prydferth iawn, a holl weinidogion y dref bron yn yr angladd. Ac yn mhlith y rhai a gymerasant ran yn y gwasanaeth yr oedd j Parch. Mr Wrenford, gweinidog Eglwya Loegr. 7 Gweddiodd yn faith, dwys, priodol ac effeithiol iawn. Pe gallaswn fod yn bresenol yn yr angladd buasai genym gyfrif manylach ar y gweinyddwyr, ond nis gallaswn fod. Hawdd iawn ydyw genym mewn amgylchiadau fel hyn ofyn pa fodd a phaham, onide ? Ond ni atebir mohonom yn awr, ond y mae addewid fel hyn i ni onid oes, a diolch am daai. Ti a gei wybod ar ol hyn." Yr oedd hon yn enetli rirtweddol iawn. Ac y mae yn awr tu hwnt i bob dadl yn gwybod trwy brofiad am wisgo, a bod yn y wlad Where the white robed children are," y canai hi a ninau mor felus am danynt yn y bore. Ni wyddom beth a ddigwydd mewn diwrnod," ni wyddom beth a fydd y fory. Meddwl pethau gwych i ddyfod, Croes i hyny maent yn d'od Meddwl fory daw gorfoledd, Fory'r tristwch mwya'r 'rioed. -Iocm Dderwen o Fon. Cydwelt.—Sul, Mehefin 20fed, 1886, cynhaliodd Ysgolion Sabbothol cylchgweinidog-aeth y Parch. W. C. Jenkins, eu eymanfa flynyddol yn Sardis, Trimsaron. Am ddau o'r gloch safodd ysgol Tabor i fyny yn gyntaf, adroddwyd y Salm xxiii. gan eneth fechan, gweddiodd y gweinidog, ac holodd y plant mewn penod 0 Rhodd Mam," a'r ysgol fawr yn Matthew vii. benod. Ar ei hoi hi safodd ysgol Soar i fyny, holwyd y plant gan y gweinidog mewn penod o Hanes Daniel," a'r ysgol fawr gan Mr D. C. Davies, o Pencader, myfyriwr diwyd a da yn Ngholeg Henadurol Caerfyrddin, yn Rhuf. xii. holwyd yn bur fanwl a chafwyd atebion parod. Canwyd "Hamburg," "Heidel burg," "Elliot," ac eraill, a chasglwyd at y coleg yn ol yr arfer yn y gymanfa hon. Am chwech, safodd y fam ysgol i fyny, Capel Sul, Cydweli, adroddodd bachgen bychan o ysgol Sardis y 3ydd benod 0 Daniel yn rhagorol dda, gweddiodd Mr Davies, ac holodd y gweinidog y fam ysgol yn Rhuf. v. Bu yn awr holi ac ateb a arwyddai ymchwiliad mawr i'r pynciau o Gyfiawnhad trwy Ffydd," a'r Atbrawiaeth o Gyfrifiad." Yr oedd yn adeilad- aeth a mwynhad i ganoedd wrando trin pynciau fel hyn gyda chymaint 0 ol llafur. Yn olaf, safodd ysgol Sardis i fyny, holwyd y plant gan Mr Davies yn "Hanes Daniel," a'r ysgol fawr ganddo yn Gal. i. Yr oedd yma eto ol llafur diflino, dangosodd Mr Davies fod ganddo fedr at y gwaith, a bu rhwng yr ysgol ag yntau dynu egniol ar ambell fater. Canwyd gan yr ysgol gyntaf donau cynulleidfaol, megis Ernan," Pen Nebo," Lawsanne," Nearer Home," &c., a'r ysgol olaf dair ton swynol o Odlau yr Efengyl," fel y tybiem. Casglwyd eto at y coleg, a therfynwyd yr oedfa. Yr oedd y pedair ysgol tua 400, a chynulleidfaoedd o wrandawyr yn gorlanw y capel, teimlwn fod y gymanfa flynyddol hon yn talu ei ffordd yn ogoneddus, hon oedd y ddegfedgymanfa oddiar ei sefydliad cyntaf, ni chafwyd eto well na hon, yr oedd bias nefol ar y gwaith.—Gwr o'r lle. Fkstiniog.—Cyjlioyniad Anrheg.-N os lau, ym- gynullodd tyrfa dda yn Bethel (A.) i'r amcan 0 gyflwyno tysteb i Mr Lodwick y gweinidug. Dyma'r rliaglenCan, Eos Fes tin anerchiad gan y llywydd, &ef y Parch. P. Howells; can gan Miss Lizzie Evans (merch i'r diweddar y talentog Ap Dudwyj; anerchiad gan y Parch. Merfyu Lewis, Trawsfynydd; can gan Mr John M. Jones; anerchiad gan y Parch. E. C, Mason, Tanygrisiau can gan Mr John 0. Jones; anerchiad gan Mr Cadwaladr Jones, tad i Meistri John a Morris Cadwaladr, pa rai sydd er ys blynyddati bellach yn weinidogion yn America, a'r hwn hefyd sydd wedi bod yn ddiacon o'r eglwys o'i chychwyniad, Y Saron Bach trwy dwU,' fel y gelwid yr hen gapel bach cyntaf. Efe hefyd gyflwynodd y llyfran dros yr ieuenctyd a'r eglwys i Mr Lod- wick. Gwnaeth hyny yn ei ddull gwreiddiol ei hun. Yna cafwyd gair gan Mr Lodwick. Dy- wedai ei fod yn teimlo yn wahanol i bawb oedd yn bresenol—eu bod hwy yn rhoi ac yntau jn Ilerbyn llyfrnu. Diolchai ei ^fod ef yn dewia ei lyfrau gwerth deg punt, a chan ei fod yn caei arian i dalu am danynt yr oedd yn cael discount da fel yr oedd hyuy yn chwyddo swm y llyfrau. Sicrhai idds brynu yn un o'r deugain cyfrol, Feibl newydd yr hwn a osododd ar ben y llyfrau gyda'r bwriad i Cadwaladr Jones ei gymeryd a i gy- flwyno iddo fel y llyfr blaenaf,—Llyfr y llyfrau. Os na byddai yn cael ei foddloni yn y gweddill. nis gallai feio neb ond ei hunan gan i'r cyfeillion ymddiried iddo'r gwaith o'u dewis a'u prynu. Gobeithiai wneud ei oreu o'r rhodd fel ag y byddai y frawdoliaeth ar eu henill. Yna- cafwyd can gan Mr David Lewis, eto gan Eos Ffestin; anerchiad Mr Robert Griffith, eto can gan Miss Lizzie Evans, ac hefyd gan Mr Thomas Pugh. Cafwyd cyfarfod da. Yr anerchwyr a'r cantorion mewn hwyl rhagorol. Da genym fod y cantorion ieuainc yn cynyddu. Yr ydym yn sicr fod dy- fodol addawol yn mlaen drwy ddyfalbarhau i lafurio. Bendith fyddo ar yr eglwys a'r gwein- Idog.-E. O. Aberhosan, MA.LDwYN.-Cynhaliwyd eistedd- fod lewyrchus a phoblogaidd yn y lie uchod, dydd Gwener, 1VIehefin lleg. Beirniadwyd y rhyddiaeth gan y Parch. G. P. Thomas (A.), y farddoniaeth gan Derwenog, a'r gerddoriaeth gan Mr John Evans (Eos Myrddin), Dowlais. Dyma ymddang- osiad cyntaf Eos Myrddin yn y Gogledd, ond rhodd ei feirniadaethau manwl, ymarferol, a thejj foddlonrwydd cyffredinol, fel y credwn y bydd galw mynych am dano yn y dyfodol. Eoillwyd yn y gwahanol bethau gan luaws o gyfeillion nas goddef gofod i'w henwi un ac un.-Cantwr. Langeler.—Sciron.—Cynhaliwyd eisteddfod ya y lie uchod nos Llungwyn, pryd y dewiswyd y Parch. W. P. Haws, B.D., Beulah, yn gadeirydd, yn absenoldeb Mr H. Jones. Arweinydd, Mr Jeffreys y gweinidog. Beirniaid y gerddoriaeth, Mr W. Davies, Henfryn Factory, a Mr R. Rees, Felindre. Aethpwyd drwy raglen faith. Yr elw at yr ysgol Frytanaidd, Saron.-Ioan Bargoed. Aberystwyth.—Hysbysir am lwyddiant a. wna-ed yn ddiweddar gan gyn-^rydwyr Prifysgol Cymru :—Mr Richard Hughes o Goleg Sant loan, Caergrawnt, wedi enill y drydedd radd mewn Trioecld Ilanesiol. Cafodd Mr Hughes yn flaen- orol yr ail radd mewn Trioedd Rhifyddol. Mr David Da.vies o Goleg Sant loan, Caergrawnt, a gyrhaeddodd yr ail radd mewn Trioedd Duwin- yddol, ac a enillodd hefyd y wobr am Hebraeg. Graddiwyd Mr Samuel Baker Jones yn M.B. a C.M. yn Mhrifysgol Edinburgh. Llanybri.—Mehefin lOfed a'r lleg, cynhaliwyd cyfarfodydd sefydliad y Parch. H. Evans, gynt 0 Llandderfel, yn yr Hen Gapel a Bethesda Llan- gunog. Pregethodd yr hwyr cyntaf yn Bethesda, y Parchn. J. Francis, Ceulyn; a W. Gibbon, di- weddar o Lanymddymfri, ac yn yr Hen Gapel y Parchn. W. M. Davies, Blaenycoed, a D. Cad- van Jones, Caerfyrddin. Tranoeth am ddeg, yu yr Hen Gapel, gweddiodd Mr D. Lewis, Gibeon, a phregethodd y Parchn. T. D. Evans, Gwernogle S. Davies, Peniel, a W. C. Jenkins, Cydweli, yr olaf i'r gweinidog a'r eglwys yn nghyd. Am ddau, gweddiodd y Parch. D. Lewis Llan- stephan, a phregethodd y Parchn. D. R. Davies, Rhydyceisiaid, a D. Evans, Caerfyrddin. Am chwech, gweddiodd y Parch. D. Thomas, Capel Newydd, a phregethodd y Parchn. D. 0. Rees, Sketty; T. R. Davies, Penrhiwgaled, a W. Gibbon. Cafwyd cyfarfodydd tra rliagorol. Yr oeddid yn casgil1 trwy y cyfarfodydd at cldyled oedd yn aros mewn cysylltiad a'r Hen Gapel, a thybiem wrth y swn fod swm lied dda yn dyfod i mewn. Mae Mr Evans yn dechreu ei weinidog- aeth yn y lie hwn yn nghalon ei bobl, ac eiddunwn iddo lawer o flynyddau dedwydd a Ilwyddiauus yn y gwaith. Hyderwn fod y cyfarfodydd rhagorol gafwyd wrth gydnabod yr undeb ffurfiwyd rhwng ein hanwyl frawd a'r eglwysi yn flaenbrawf o lawer o gyfarfodydd da geir eto dan y weinidog- aetb feunyddiol. Mae coelbren Mr Evans wedi syrthio yn nghanol pobl garedig, sefydlog ac heddychol. Arosed y gogoniant ar y fangre ddedwydd.—Eivyllysiwr da. Menai BRIDGE.—Mae y myfyrwyr canlyuol o Ysgol Rammadegol y Parch. Cynfflg Davies wedi pasio yn ddiweddar drwy eu harlioliadau yn dra llwyddianus:—Mri. Michael Owen, yn Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd Bala; J. D. Jones, gwas y gylchdaith Wesleyaidd yn Beaumaris a Menai Bridge yn arholiad y dalaeth, a D. D. Davies, yn arl.oaad y Wesleyaid, a W. J. Nicholson yn arhol- iad Athrofa Annibynol Aberhonddu, a'i enw ar ben y rheatr. Arholid yr uchod mewn Duwinydd- iaeth, Groeg, Lladin, Mesuroniaeth, a gwahanol feuaydd yr iaith Saesneg, &c.—Ooh.