Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYNT v WLAD Y LLYNOEDD.

" PARCH I'R HWN Y MAE PARCH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PARCH I'R HWN Y MAE PARCH YN DDYLEDUS." MR GoL.,—Hysbys i Gymru i gyd fod ein gweinidog anwyl a JBEyddlon, Dr. Pan Jones, wedillwyddo, trwy ymdrech galed a diflino, i ddileu y ddyled oedd ar yr eglwys hon ac yn ymddangos. un adeg yn anileadwy. Priny mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr amgylchiadau a'n hanalluogodd i dalu am ein haddoldy wedi ei wneud yn anmhosifel i ni roddirngwemidog y gydnabyddiaeth y gall- asai efe ei hawlio ac y buasai yn hyfrydwch genym ninau ei rhoddi; ac nis gwyddom i ba fesur y mae, oherwydd byny, wedi ymwadu er's llawer o flynyddoedd bellach. Y mae yr eglwys a'r gynulleidfa yn awyddns iawn i gydnabod mewn modd ymarferol eu I. rhwymedigaeth iddo am ei ymwadiad a"i ym- roddiad mawr a llwyddianus; ac yn wir, pe na buasai yr awydd hon ynom, anhawdd fuasai i m beidio gwneud hyn, oblegid y mae llawer iawn o bob rhan o'r wlad wedi ysgrifenu atom yn gwasgu arnom i roddicyfleusdra iddynt hwy ae eraill roddi mynegiad sylweddol i'w hedmygedd o Dr. Pan Jones ac o'r gwaith rhag- orol y mae wedi ei wneuthur. Yn ngwyneb y cymhellion hyn yr ydym yn fwy calonog yn anfon allan ac yn cyhoeddi y cylchlythyr hwa, fel y gwypo pawb ar y sydd yn ewyllysio cyfranu tuag at < dysteb iddo i bwy i anfon eu rboddion. Anfonir llyfrau casglu i bawb a ewyllysio eu cael; derbynir tanysgrifiadau genym ni sydd a'n henwau isod a chydnabyddir hwy yn y Celt ac yn Tarian y QweitKiwr.-—Yr eiddoch yn gywir, THOMAS ELLIS, Trysorydd, JOHN YAUGHAN, Chapel Walks, Mostyn, Ysgrifenydd. Y Oysegr, Mostyn, Gorphenaf 25ain, 1890.

Advertising