Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
BREUDDWYD DIGRI.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BREUDDWYD DIGRI. I Do, mi welais freuddwycl digri' Geneth landeg yn fy ngaru, Yn y gwanwyn gwyrdd yn unig Dan gysgodion tew y goedwig. Suai'r nant a gwenai'r lili, Cloch y pentref oedd yn canu, Yfem ninau fwynder bywyd Ac ymfoddem yn eiri gwynfyd. Ond hi ddaeth yn well,—mae'n rhyfedd, Troes y breuddwyd yn wirionedd, Yn y gwanwyn nid wy'a unig Da.n gysgodion tow y goedwig. Sua'r nant a gwenar lili, .1 Cloch y pentref sydd yn canu, Minau'u canu ac yn suo Hwyr a boreu gyda'm Gweno. Mae yn wanwyn ar fy nghalon, Byw mewn sylwedd, nid breuddwydion, Troes y breuddwyd hwnw'n sylwedd Dyna freuddwyd rhyfedd, rhyfedd. J. ALDEN.
A. J. WILLIAMS, YSW., A.S.,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A. J. WILLIAMS, YSW., A.S., A CHYFARFOD BUILTH. GAN DR. E. PAN JONES. p Wrth son am gyfarfod Federasiwn y De, a gynhaliwyd yn Builth, Awst 13eg, dy. wedais (gwel y Gelt, Awst 22,) fod Mr A. J. Williams yn siarad o blaid parhau land- lordiaetb yn y wlad," ond yn y Celt diwedd- af, Medi 12fed, gwelaf lythyr o eiddo Mr Williams ei hun, yn yr hwn y dywed, mai digrif (ludicrous) oedd awgrymu ei fod ef o blaid landlordiaeth. Wel, os gwnaethum gam ag ef, gallaf ei sicrhau i mi wneud hyny yn bollol anfwriadol, canys nid wyf yr credu dim mewn gwneud cam a neb, apheth arall buasai yn wir dda genyf ddeall fod ein plaid ni yn myned ar gynydd yn neillduol yn cael cefnogwyr o safle Mr Williams, felly os gwaaethum gam ag ef, gwn y cymer fi yn esgusodol, ond gadawer i mi fwrw golwg ar yr amgylchiadau yn wyneb haul a llygad goleuni Cynygiwyd penderfyniad yn y cyfarfod hwnw ar wella cyfreithiau y tir, gan land- lord o gryn fri, (Mr Griffiths, y Portb), dv- wed yr adroddiad iddo fyned yn fanwl drwy wahanol adranau y penderfyniad, iddo ddangos y dylid cymeryd y cwestiwn i fynu ar un-tfraitb, iddo ddangos y rhaid cael medd- iant dwbl yn y tir, (dual ownership), neu fel yr oeddwn, ac yr wyf yn deail, y rhaid cael landlord a thenant, cyn y ceid y tir o dan driniaeth briodol. Eiliwyd y pender. fyniad yna, penderfyniad amrwd ac anhymig, Thywbeth fel y gellid disgwyl oddi wrth landlords, gan Mr Rees Davies, Hwlffordd, yr hwn a ddywedai y ceid gwella eyfreithiau tir pan ddeuai y Rhyddfrydwyr i awdurded. Diau, nid oedd y dywediad yna o eiddo Mr Davies amgen ymfflamychiad barddonol, canys gallasai wybod fod Rhyddfrydwyr fel landlords yn llawn gwaeth na'r Toriaid, a chyhyd ag y byddo landlords yn y mwyafrif yn y Senedd, gobaith gwan sydd am wella llawer ar gyfreithiau y tir. Cynygiodd Mr Miller, o Aberhonddu, welliant, ac yn wir nid oedd ond gwelliant cymhedrol, baich yr hwn oedd, fod y Llyw- odraeth i gefnogi y small holdings, i roddi benthyg arian i gynorthwyo pobl i brynu tir yn lie bod ohonynt yn byw dan y dual ownership fel yr oedd y cynygiad neu y cyn- ygydd wedi dyweud, ond ni chafodd Mr Miller neb i'w eilio Ac i mi mae y ffaith nad oedd un dyn yn y cyfarfod hwnw yn Builth, cyfarfod o bobl sydd yn galw eu hunan yn arweinydd y blaid Ryddfrydig, llawer o honynt yn weinidogion yr efengyl, Federasiwn y De, y bobl sydd am i'r cyboedd gredu mai bwy sydd yn myned i wella y byd, ac i osod gorthrwm i lawr, ond nid oedd yn y cynulliad hwnw gymaint ag un dyn yn barod i gefnogi Mr Miller, yr bwn a ofynai fod i'r L'ywodraeth gynorthwyo pobl dlod- ion i gael tamaid o dir i'w drin,—^yr hwn sydd dlawd bydded dlawd eto. Rhag y fath I Federasiwn gwared ni Arglwydd daionus. Ar hyn, cododd Mr A. J. Williams i gefnogi penderfyniad Mr Griffiths, yr hwn oedd eisiau dual ownership, a chredaf nas gall neb a ddarlleno ei araeth gael lie i dybio ei fod yn gwabaniaethu oddiwrtho ti y dual ownership, neu gyd-feddiant landlord a'r tenant. Dywedai nad oedd petrusder yn ei feddwl ef na byddai cael mesur y tair F Wyddelig, yn iechydwriaeth dirol hollol i ni yn y wiad hon. Wrth weled Mr Williams yn cefnogi Mr Griffiths, yr hwn oedd am gael dual ownership, yn dadlu dros y tair F, ac yn gadael gwelliaiit Mr Miller, yr hwn oedd am ddifodi y dual ownership yn ddi- sylw, ai nid y casgliad naturiol, mor natur- iol a dim fedr rhesyme^ dynu yw, fod Mr Williams yn bleidiol i barhau landlordiaeth yn y wlad! Byddwn yn ddiolchgar am gael gwybod pa gasgliad arall ellir dynu oddi- wrth ei eiriau a'i ymddygiad ef ei hun. Os nad yw am barhau landlordiaeth, rhaid iddo draddodi araeth yn Builth yn groes i'w feddwl a'i farn, yr hyn a dyweud y lleiaf fyddai yn ludicrous, chwedl Mr Williams ei hun. Ycbwanegaisarddiwedd y nodiad ar gyfarfod Builth, nad rhyfedd fod Mr Wil- liams yn teimlo felly gan ei fod yn landlord lied fawr ei hun. Dywed Mr Williams yn yCelt na ddy- wedodd efe ddim o blaid landlordiaeth yn Builth, a chyfeiria at yr hyn y mae wedi ddyweud ar y pwnc yn v gorphenol i brofi hyny, ond nid oes a wnelwyf a'r erthyglau hyny, canys nis gwelais hwynt, a chyfarfod Builth y mae a fynwyf, a digon i bob cyfar- fod ei ddrwg ei hun. Ni charwn ddyweud dim yn anheg am resymeg Mr Williams, ond i mi y mae yn anesboniadwy ei fod efe yn gallu cefnogi Mr Griffiths, yr hwn oedd am barhau landlordiaeth, (dual ownership), tond yn methu gweled ei ffordd i ddyweud gair o blaid Mr Miller, yr thwn oedd am ddileu y dual ownership, yr oedd am ddileu y dual ownership mewn ffordd dirion, nid oedd ynddo ddim yn chwildroadol, eithafol, na bygythiol, yr oedd yn cynyg talu y land- lords am droi eu cefnau, ond nid oedd gan Mr Williams ddim i ddyweud o'i blaid. Dywedai nad oes amheuaeth yn ei feddwl nad mesur y tair F Wyddelig wnai drefn ar amgylchiadau Cymru, ond pan ystyriom na, fu y tair F yn feddyginiaeth i amgylchiadau yr Iwerddon, ar ba dir, atolwg, yr oedd Mr Williams yn barnu y byddant yn feddygin- iaeth i Gymru ? Pe wedi Jlwyddo yn yr Iwerddon, buasai yn rheswm dros eu cym- hwyso at Gymru, ond y mae eu methiant yn yr Iwerddon yn rheswm cryf dros beidio eu sefydlu yn Nghymru. Cyfieitha Mr Williams y geiriau a ddefn- yddiais fel rheswm oedd yn ymddangos i mi yn ddigon dros ei ymddygiad, ei fod yn landlord lied fawr, ya large landlord," ond y cyfieitliiad gwir fyddai, "pretty large landlord," yr hyn sydd fel y cenfydd Mr Williams, dipyn yn wahanol, ac ychwanega, nad oes ganddo ef lawn dau can erw o dir. Nid yw byno bwys yn bresenol. Y rheswm i mi ddyweud hynyna oedd, yr hyn a glywais yn Penybont yn 1887. Yr oeddwn- yno yn nghyfarfod agoriadol y Liberal Club, pryd y gofynwyd i mi gynyg penderfyniad ar gwestiwn y tir, yr oedd y penderfyniad wedi ei drefnu gan ysgrifen- ydd y clwb, gwyddent fy ngolygiadau i ar y cwestiwn. Siaradais arno yn gymhadrol iawn, gan fwriadu cadw heb roddi tram- gwvdd i neb; dywedais, nad oedd wiw i Gymru ddisgwyl am iechyd cymdeithasol hyd lies y byddid wedi Uwyr glirio y land- lords o'r wlad, eu clirio fel landlords, dilea eu hawdurdod, a thynu eu danedd, fel nas gallent frathu yr amaethwyr os na wnaent bob beth fel y byddont yn ceisio; fod lawer