Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
TAITH I MOROCCO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TAITH I MOROCCO. Q-AN DR. GRIFFITHS, PRESTATYN. Bu Tangiers, neu Tingis yr hynafiaid, yn meddiant y Phoeniciaid, y Carthageniaid, Rhufeiniaid, Vandaliaid a'r Mahometiaid y rhai ar gyfrif ei hysblander a'i galwasantyn. ail Tecca. Cymerwyd hi oddiar y Mwriaid gan y Portugeaid yn 1473 ac'yn 1652 yr oedd Prifysgol enwog yno. Meddai hefyd adeiladau gwycbion yn nghyda phalasdai heirdd, chadarnbawyd ei hamddiffynfeuydd yn ddirfawr gan y Portugeaidd er troi yn ol ymosodiadau y Mwriaid, ond gan iddynt deimlo fod y gost o gadw y lie yn llaiver mwy na'r elw, yn herwydd fod y canol-dir wedi ei gau iddynt, rhoddasant y lie ifyny i'r Seision yn 1662 fel rhan o gynysgaeth Catrin o Fraganza, yr Infanta o Bortugal, ar ei phriodas a Siarl yr ail Brenhin Lloegr. Daeth y Seison i deimlo yr un anhawsdra gyda'r lie a'r Portugeaid, ac yr oedd mynych ymosod:adau y Mwriaidyn flinderus ryfeddol felly anfonwyd Arglwydd Dartmouth yn y flwyddyn 1684 gyda llynges i ddinystrio y gaerfa a'r lanfa ac i gario'r gwarchodlu I' oddiyno. Lie cysgodol yw'r bau, ac y mael"" man angori yn rhagorol, oblegid nid yw r traeth yn cael ei wneud yn beryglus gan brisdonau trymion fel rhanau eraill o'r porthladdoedd deheuol. Nid yw'r llanw yn codi yn Tangiers yn uwch na' chwe" troedfedd. Wedi cip-drem frysiog fel hon ar hanes y lie, yr hyn fe hyderaf fydd yn iddyddorol i'm darllenwyr, gadewch i mL
HYN A'R LLALL O'R DE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL O'R DE. [GAN AP Y FRENl FACH.] Yn ol ei addewid talodd y Due Clarence ac Avondale ymweliad a'n Jwlad, y wlad y cymer ei dad ei deitl oddiwrtbi, ac y bwriada yntau wneuthur mor fuan ag y symudir ei famgu. Cyrhaeddodd Abergyfeni nos Lun, gyrodd oddiyno mewn cwmni pendefigaidd i drigfan Syr Joseph Bailey. Talodd ymwel- iad ag Aberhonddu dydd Mawrth, ac a Chaerdydd dydd Mercher. Gwnaed dar- pariadau helaeth yn mbob lie i'w dderbyn. Arddunid yrheolydd, cvhwfanid banerau, a chodid amryw fwaau costfawr. Gwariwyd miloedd o bunau i groesawu y Due. Go- fyna canoedd o bobl synwyrbwyU "I ba beth y bu y golled hon ? Ai ni wastreffir digon o arian ar y teulu brenhinol heb wahodd ei aelodau i wahanol gyrau o'r wlad i ddim pwrpas ond i'w gwneuthur yn ffolach trwy draethu yn eu elyw swm enfawr o wen- iaith wag ? Nid oes genyf yr awydd lleiaf i yngan gair yn erbyn wyr y frenhines fel gwr leuanc dieithr. Nid efe sydd gyfrifol am ei fod yn wyr i'r foneddwraig a wisga y goron. Ond y mae cyfrifoldeb ar rywrai am wastraffu yn ddiwrid symiau mawrion o arian y trethdalwyr ar y dyn ieuanc, heb unrhyw rith rheswm ond fod y gwr ienanc yn digwydd perthyn i deulu neillduol. # # Oredaf mewn parchu pawb y mae parch iddynt yn ddyledus. Ond pa beth y mae y Due wedi ei wneud neu ei ddyweud, wedi ei ysgrifenu neu ei ddyfeisio a eilw am ei anrhydeddu gyda rhwysg a brwdfrydedd r Tosturiwn yn fawr wrth y personau a ym- gymerent a'r caledwaith o ysgrifenu allan yr amryw anerchiadau a gyflwynwyd iddo. Ni fu erioed y fath dlodi, y 'fath cbwilio a phendroniamrywbeth i'w ddyweud yn yr anerchiadau hyn. Tosturiwn wrth y tywys- og yntau druan am fod ganddo mor ychydig i'w ddyweud mewn ateb i'r anerchiadau hyn. Darllenai, mae'n wir ychydig frawddegau syml mewn ateb i bob adran o'r anerchiadau. A dichon mai efe a gyfansoddodd yr atebion byrion a thlodion hyny ei hun. Dyna'r oil a wnai. Ond' derbynid ei ateb gyda ban- llefau byddarql Methaf a cbael allan yn v brawddegau a draethodd yr un arwydd o athrylith, na thalent, na chraffder y gallaf yn rhwydd ew hedmygu. Pe cariai rbywun mewn rhwysg hen fonet i'r frenhin- es drwy yr ystryd byddai yn orchwyl llawn mor rwydd i mi i guro dwvlaw a bloeddio. Ond daliodd miloedd o Gymry ar y cyfleus- dra auraidd i brofi i foddlonrwydd nad ydynt hwy yn fawr ddoethach na phobl yn gyffredin. # # Nid yw ymweliadau fel yma, mae'n eglur i mi, ond yn eydweithio yn hwylus a'r bobl a'r amgylchiadau a dueddant i gamarwain 7 teulu brenhinol a'u cadw mewn dallineb. Yn ddiweddar mynodd Arglwydd Penrhyn gam- arwain Tywysog Cymru mewn perthynas a'r Eisteddfod genedlaethol. Credodd y Ty- wysog ef mai plaid annheyrngarol y Cymra Fydd, a dilynwyr difoes yr Hybarch Michael D. Jones oedd yn cynal yr Eisteddfod, a chadwodd draw. A mab y Tywysog yn ol a, dywed Nad oes enaid annheyrngar yn trig- ianu y Deheubarth, ond fod pawb o'r bron, yn bared i lamu o orfoledd wrth weled rhyw- un a berthyn o'r filfed, ach i'r penadur! Dyna'r casgliad yn ddiau a dynai. A'r bob! o'i gylch a'i cadarnhaent yn ei dywyllweh. ch. Ni chai neb sibrwd gair o wir deimlad y bobl. Pob parch a Ilwyddiant i.'r Tywysog, fel dyn ieuanc o safle yn ol ordeiniad ffawd. Dymunaf iddo bob bendith a gtas i'w gadw rhag gwneud mwy o ddrwg nag a wna ei oedranus famgu. Ond gweled ynddo byd yma ddim yn haeddu y miloedd a wastraff- wyd ar fwgwd i'w ddallu nis gallaf fi. MANION.—Oynhaliodd Cymdeithas Ddir- westol y De ei chyfarfodydd blvnyddol yn Rbymni, dydd Mercher diweddaf. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol. Y mae gwraig yn mhlith yr ymgeiswyr am seddau ar Fwrddl Ysgol Ystradyfodwg Bu farw dwy h!ti chwaer yn Mhenybont-ar-Ogwy yr wythnos ddiweddaf, a welsant bob un o honynt ar y ddaear fwy na chan' gauaf. Mary Praricis,. Carnelau, ydoedd gamt a deg oed. A'r hen chwaer arall, yrhon a drigai yn y gwallgof- dy ydoedd gant lac un.
Y DEON A'R DEGWM.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Eto, dywedodd Mr Ellis bethau rhyfedd, sicrhai y gwyddfodolion fod Welsh Party wedi ei ffurfio yn y Senedd (?) Tybed fod hyny yn wir? Plaid Gymreig yn y Senedd, ar waethaf cyfarfod enwog Hope Hall. Plaid Gymreig yn y Senedd er yr holl ym. osod fu ar Mr H. Edwards, Huyton ? Plaid Gymreig wedi ei ffurfio yn y Senedd ar waethaf bygythion Osborne Morgan i roddi ei le i fyny ? wrth reswm nid yw Osborne Morgan yn aelod o'r blaid hono, os ydy w, tybed nad yw aelod o honi er cael eyfle i'w Ilethu ? Dywedai cymydog wrthyf yr wyth- nos hon am ddau ddyn yn cymeryd gwerth arian lawer o raneion mewn cwmni fwriedid gychwyn yn yr ochr hon i'r wlad yn unig er mwyn cael digon o bleidleisiau i lethu yr anturiaeth; tybed nad oes pobl fel hyn yn ymwthio i gylchoedd politicaidd, yn rhoddi tanysgrifladau mawrion yn unig er troi y cymdeithasau hyny i'w mantais eu hunain ? Plaid Gymreig wedi ei ffurfio yn y Senedd, eto, pan oedd aelod o'r blaid hono yn cael ei anrhydeddu gan ei etbolwyr, nid oedd un o honynt yn ddigon cenedlgarol i fyned yoo i gydlawenhau ag ef; na, nid oedd yno un aelod Cymreig, Seisnig, na Gwyddelig. Gwyddom oil fod Mr Ellis yn sefyll yn uchel yn mhlith ei gydaelodau, a sicr yw nad ynddo ef yr oedd y bai na fuasai rhai o'r aelodau yn bresenol. Tybed fod rhywrai yn awyddus i gadw y ffair i gyd iddynt eu hunain ? Yr unig reswUl dros grebychrwydd y cyfarfod sydd yn ymgynyg i mi yw yr hyn a geir yn ngoleuni y penderfyniad a gynygiwyd yno gan Dr. Jones, Dolgellau; penderfyniad i wyngalchu tipyn ar y Parch. E. Jones, a chymalau afrosgo penderfyniad y Rbyl, gwyddent y bua-sai pasio y fath benderfyniad aflunaidd ac anhymig yn mhresenoldeb Aelodau Seneddol Rhyddfrydig, ie, yn mhresenoldeb pob Rhyddfrydwr, oddigerth plaid fecbaii y gwyngalch, yn drosedd ar foesgarwcb, ac felly doetb oedd eu cadw draw. Sonia Mr Ellis am newid cyfreithiau y tir, am brynu y prydlesi, ac y mae yn amlwg ei fod yn teimlo mai o gylch y tir y mae yr Armagedon i gael ei hymladd! Wel,paham na floeddiai efe i'r gad yn He chwareu ar hen dant y medr pawb ei diwnio. Os unwaith y gwelir pobl yn cael prynu prydlesi eu tai, bydd yn haner canrif o estyniad oes i land- lordiaeth. Na, rbaid dymchwelyd landlords, ac yna ceir penderfynu ar ba amodau y ceir tir adeiladu. Yr oedd yn y Montgomeryshire Express am yr wythnos ddiweddaf erthygl ragorol yn dangos mai y landlords yw cyn- halwyr yr eglwys. Dywed, "If we may judge by recent events in this country, there is no likelihood of this union being severed, but every prospect that the clergyman will never want for succour while the landowner has it to bestow." Os y landlords yw perchenogion y tir, y mae ganddynt hawl yn ol pob rheol arheswm i'w osod fel y mynont; i'r neb y mynont, ac at y gwasanaeth y mynont, a doethineb i ninau yw bod yn ddistaw. ETO. Dangosodd Brenin Caerdydd ei ddanedd yn ddiweddar, a rhoddodd awgrym eglur, iach dros ben, i ryw ymyrwyr feiddiodd ofyn iddo enwi rhyw bersonau neillduol i'r fainc ynadol. Dywedodd am iddynt beidio meddwl y caent ei ddysgu ef. Meddylier am y gwr hwn, mae yn teyrnasu dros oddeutu dau can mil o erwau odir, ac wrth reswm dros y bo.bl sydd yn preswylio ar y tir, a phan elo y bobl hyn i ofyn i'r Ilys gwladol gadw chwareu teg iddynt ceir gweled mai ei ffafrynod ef fydd yao yn gweinyddu cyfiawnder, fel mewn rhyw ystyr bydd (tyn yn myned o ddrwg i waeth gwell fyddtti iddo syrthio ar drugaredd yr ardalyd'l nag ar drugaredd ei gynffonwyr, ond cyhyd ag y caniateir yr awdurdod hon iddo ef a'i fath ofer yw gwingo yn erbyn y symbylau. Willi, dyna Arglwydd Penrhyn drachefn yn dangos ei ddanedd mewn ffordd arall, yn cymeryd iddo ei hun y cyfrifoldeb o gadw holl aelodau y teulu brenhinol rhag dyfodFr eisteddfod, ond y eebyst am dani yw fod yr eisteddfod yn dal ei thir er holl foycotiaeth yr arglwyddi a'r tywysogion, a dyna sydd yn rhyfedd er cael o honom weled fel y dymuna y lords frathu fel y gallent, yr ydym yn colli ein penau pan unwaith y gwenant arnorn. 0 fel mae Gwalia Wen Yn earn arglwydd, Gostynga pawb eu pen Fel wyn yn ufudd Ymgrymant wrth ei draed, O'r ystryw ganddynt wnaed,- O'u bodd cydgolli gwaed, Wna pawb dros arglwydd. Byddwch wych am rai wythnosau.