Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

OYFABFOD CHWARTEROL ANMBYN.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

OYFABFOD CHWARTEROL ANMBYN. WYE DINBYCH A FFLINT, Cynaliwyd y diweddaf yn Mostyn, ar y dydd- iau Mawrth a Mereher, Medi 16eg a'r 17eg, 1890. Nos Fawrth, pregethwyd gan Mr Cadwaladr, Nebo a Mr Evans, Caer. Cafwyd t cynadledd am haner awr wedi deg, boreu ddydd Mercher, o dan lywyddiaeth y Parch. W. James, JSarn, y cadeirydd am y flwyddyn. Wedi-dech- reu trwy ddarllen a gweddio, gan Mr Michael, r Caergwrle, darllenwyda chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol, a phenclerfynwyd i- 1. ,Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Abergele, ddechreu Ionawr, 1891. 2. Fod y Parch. T. E Thomas, Coedpoetb, i ddarlleu papur yn y cyfarfod nesaf, ar y Modd- ion goreu,i godi achosion gweiniaid.' 3. Gan fod tymor swyddogion y cyfarfod chwatterol ar hen, ethol-wyd Dr Pan Jones, Mostyn, yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. 4. Penderfynwyd ar i'r ysgrifenydd, y Parch. T. Roberts, Wyddgrng, a'r trysorydd, Mr Michael, Caergwrle, aros yn eu swyddi am flwyddyn eto. 5. Nodwyd y personau canlynol i weithredu fel pwyllgor i ymgyDghori â hwy gyda golwg ar weithredoedd eapelydd yn y ddwy fir :-Mr Roberts, Rhos; Dr Pan Jones Mr Oliver, Tre- ffyaon; yr Henadur Jones, Rhuthyn Mr Jones, Rhesycae; a Mr Johnson, Caer. Cafwyd ymddiddan ar y pwysigrwydd fod yr holl eglwysi yn taiu sylw Pw gweithredoedd, ac yn gofalu ya briodol am danynt. 6. Derbymwyd yr eglwys ieuaDC yn Bethel, Gwersyllt, i'r undeb, a theimlai y frawdoliaeth yo llawen wrth glywed hanea am lwyddiant yr achos goreu yn y lie cynyddol hwn. 7. Penderfynwyd rhoddi llythyrau cymerad- wyaeth i'r brodyr, y Parch. Morlais Richards, Maesglas, a'r Parch. J. Evans, Caer, ar eu hym- adawiad o'n plith-y uaill i'r America, a'r llall i gymeryd gofal eglwys Seisnig yn y Trallwm. Teinalid chwithdod wrth feddwl eu colli o'n mysg; a dymuniad y gynadledd ydoedd ar iddynt fod yn ddedwydd a Ilwyddianus iawn yn ngwinllan eu Harglwydd am lawer blwyddyn eto. 8. Dygwyd ger bron achos dyled y capel yn Abergele; a phenderfynwyd gofyn i'r holl eglwysi yn y cylch roddi pob croesaw a phob cefnogaeth i Mr Davies, y gweinidog ieuanc sydd yn llafurio yno yn bresenol, i symud y baich o ddyjed sydd yn aros. 9. Darllenwyd papur gan y Parch. W. M. Davies, Abergele, ar 'Anfanteision Ymueilldu- aeth yr oes hon.' Cymerodd olwg ar anfanteis- ion allanol a mewnol Ymneillduaeth yn y dyddiau presenol, a thraddododd yn rhagorol arcynt. Siaradwyd yn mhellach ar bwnc y papur gan Dr Pan Jones, Mostyn; Mr Oliver; Mr Davies, Rhyl; Mr Roberts, Rhos; Mr Johnson, Caer; a Mr Williams, o Patagonia. Cafwyd amryw sylwadau miniog a phwrpasol iawn; a chondemnid rhai o'r ffyrdd a gyuierir gan rai o swyddogion yr Eglwys Sefydledig- yn Nghymrn yn y dyddiaa hyn i broselytio er mwyn chwanegu at rif eu haelodau. Pasiwyd fod diolchgarwch y gynad- ledd yn cael ei roddi i Mr Davies am ei bapur. rhagorol. 10. Galwodd Mr Oliver sylw y gynadledd at y Sabbath olaf o'r mis, yr hwn sydd wedi ei nodi i fod yn Sabboth i gydweddio am dywalltiad o'r Ysbryd Gl&n ar ein heglwysi. Mawr hyderid y buasai yr eglwysi yn gyffredinol yn y cylch yn neillduo y Sabbath hwn i gynal eyfarfodydd gweddio ar ei hyd, gan ddysgwyl yn ffyddiog bethau mawrion gan yr Arglwydd. 11. Ar gais yr eglwys yn Nantglyn, nodwyd y pelsonau canlynol i weithredu fel ymddiriedol- wyr ar y capel yno-y Parch. D. D. Richards; Mr H. Jones, Foel; Mr Rice Jones, watchmaker. Nantglyn Mr Joseph Evans, Aber, Nantglyn Henadur J. Jones, Rhuthyn; Mr D. Davies, Rhyl, Parch. O. Davies, Graigfechan; Mr J. M. Davies, Love Lane, Dinbych; a'r Parch. W. M. Davies, Abergele. 12. Ar gynygiad y Parch. J. M. Jones, Caer- gwrle, ac eiliad Dr Jones, Mostyn, pasiwyd fod y gynadledd hon yn dymuno ar holl Ymneilldu- wyr y wlad i gymeryd mantais ar holl fanteisiou dfddfcladdu a phriodi yn mhob ardal, ac yn dymuno ar i'r pwngc gael ei ddwyn i sylw yn mhob eglwys.' Sylwyd fod rhai swyddogion perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn gwneuthur defnydd mawr o'r ffaith fod cynifer o Ymneillduwyr yn priodi yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn cael eucladdu dan yr hen ddeddf. Terfynwyd y gynadledd trwy weddi gan y cadeirydd. Pregethwyd am ddau o'r gloch, gan Mr Thomas, Brynteg, a Mr Oliver, Tieffynon; ac am haner awr wedi chwech, gan Mr Daviep, Graigfechan ar y pwngc, sef, Haelioni gwir- foddol gyda chrefydd,' a Mr Johnson, Caer. Cafwyd cyfarfodydd dymunol a chroesaw mawr gan y cyfeillion yn Mostyn. Mawr ganmolir y bregeth ar y pwngc.

Family Notices

OYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR…

Advertising

TAITH I MOROCCO.