Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 ABERAERON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 ABERAERON. GAN T. R., LLANBEDR. Y dydd o'r blaen, pan ar ymweliad ag Aber- aeron, aethum i fewn i Dy'rffynon, i gymeryd o'r dwfr iachusol; ac fel y mae yn hysbys i bawb fu yno, y mae yno lyfr, er rhoddi cyfleusdra i'r ymwelwyr i ysgrifenu eu henwau a'u cyfeiriadau ynddo yn nghyd a lie ar ymyl y ddalen i roddi sylwadau am rinweddau a rhagoriaethau'r dwfr. Pan aethum i fewn yr oedd yno ddau frawd n Cefn, Merthyr, yn brysur ysgrifenu eu henwau, ac wrth y gorcbwyl o osod eu sylwadau ar rin- weddau'r dwfr. IJn yn ysgrifenu, a'r Hall yn adrodd pa beth i'w ysgrifenu. Ac fel hyn yr ymfflamychws yr awenog barfog:— Yma mae He i gael pryd o de, A hara chaws a'menyn, Aelwyd lan yu liawn o dan, A mM. oddiwrth y gwenyn. Ar ol adrodd o hono y rhigwrri uchod, tybiwn wrth ei olwg ei fed yn credu iddo wneud gwr- hydri. Yr oedd fel pe yn ymchwyddo ac yn trymbau gan fawredd meddylddrychau ei benill, ac nid wyf yn siwr chwaith nad englyn y galwai efe ef. Gan feddwl ei fod yn tybied ei hun yn fardd, gofyaais iddo mor sobr ag y medrwn, pa beth ydoedd ei enw barddol? Yr unig ateb gefais ganddo oedd, owyn ei lygad." Ar hyn meddyliais ei bod yn llawn bryd imigycbwyn a chanu'n iach i'r ffynon. Gwelais yno y cerddor talentog D. W. Lewis (G), Brynaman, yn edrych yn siriol a heinyf a'i ffraeth arabedd yn ddiarosv Er cymaint yr er- gyd 's Haw chwaith gafodd gan D. Wylor ..11 Owen, Llanwrtyd. drwy'r Cerddor," yr oedd ei resymau yn ddigon cadarn i ddadymchwel y cyfan gyda liog am ben Wylor" ei hun. Gweiais yno hefyd y cerddor llwyddianus J. T. Rees (M as. Bach.), Pangarn, ar ymweliad a'm hanwyl gyfaill L. J. Roberts (G), y ddau ar gychwyn efo'i gilydd iir Eisteddfod i Fangor, y blaenaf a golwgllwythog arno wrth deimlo baich ei ddyledswydd i ddarilen papyr ar gerdd- oriaeth gyntéfigyn un o'r cyfarfodydd cysyllt- iedig a'r Eisteddfod, yr hon erbyn hyn sydd wedi cymeryd lie. Y tnae pobl bwysig Aberaeron erbyn hyn ar eu huchelfanau, gyda golwg ar yr Ysgol Dweh- raddol-y maent wedi cael addewid am dir yn rhydd-daliad er adeiladu mewn lie cyfleus yn ymyl y Feathers-meddant .ar ganoedd o bunau o addewidion ac y maent yn lied hyderus y llwyddant, Ymwelais a Derwen-gam (Oakford), cartref- le'r dewr Ryddfrydwr a'r gwrthddegymwr di- guro Morgan Evans, Ysw., Y.H. Gwelais yn ei ysgubor y peiriant nithio hynod hwnw a gafodd ei atafaelu am ddegwm, Y mae yna ryw lane- iau anhysbys wedi cerfio ar y peiriant & min y gyllell a ganlyn :H Atafaelwyd hwn am ddeg- wm yn Oakford, Gorphenaf laf, 1889." Ac nid yw yn debyg y cyffyrddir ag ef byth ond hyny. Y mae ymladd a dewrion Ryddfrydwyr Cered. igion yn waeth nag ymladd bwystfilod rheibus yr anialwch. Yma yr ymwelodd cyfreithiwr Llanbedr gan obeithio Uwyddo casglu'r deg- wm." Daeth yma mewn gwasgod wen ag het sidan, ond dychwelodd a'i ddwylaw bron yn wag o ran y degwm a'i frest wen gyntefig yn aflan ddigon, gan bob math o fryntni, a. theimlai yn-falch gael caniatad fyned oddiyno a'i groen yn iacb, oblegid anghenrhaid dsodwyd arno fyned dan oruchwyliaeth y Sunlight Soap mor fuan ag y cyrhaeddodd adref. Y Bristol Houde ydyw "pabell y cyfarfod" yr urad weinidogaethol yn Aberaeron. Ceir y gwr a r wraig yn Uawn ftraethineb ac-yn meddu at ystorfa ddiderfyn o wybodaetbaa—hanes- laeth, politicaidd, ac ysgrythyrol, ynte dewch ati, lie yn lawn yw y lie hwn, i ddyn deimlo yn gartrefol. Yma y eyfarfyddais a'r Parchn. Davies Evans, Cwmaman^ a Griffitbs,, Cwmdar; yr oedd hefydyn y lie Edwards, Castellnedd, ag Williams, Mint. ° s Mae'n debyg fod yr hen Batuarch Evans, Aberaeron, wedi gwneud yn hysbys i'w eglwysi ei fwriad o ymddiswyddo, oherwydd benaint; y mae ef yn frenin yn y lie ac nid gwaith hawdd i'w olynydd fydd llanw yr holl gylchoedd, y troai of ynddo. Y mae MrJones, Towyn, Ceiuewydd, newydd ddychwelyd o fod yn ymweled ag America. Gobeithio na wna ymadael a Cheredigion. Tpbyg fod yr Americaniad yn awyddus am ei sier-hau. Yr oedd "John Cloed a Park y Beily" yn nghanol eu cynbauaf, y glowyr a'r amaethwyr ynrlioddidigonewaithiddynt. Gyda phriodol- deb y gellid dyweud,— "Fod Parky Beily 'nawr yn hen," Er hyny'n wastad ar ti wen. "Teiliwr Dihewyd" yn dal atyr un maintioli, nid oes fawr gynydd wedi bod arno ef er y gwelais ef gyntaf erioed. Rhyfedd yr edrych a'r eyllu sydd arno, ond pa ryfedd er hyny pan ystyriom ei faintioli, tair troedfedd ag wyth modfedd yn unig ydoedd—ei fcriod yn ddigon tnawr i lyncu dwsin o'i fath. Gwnaeth yr ymwelwyr llenorol a cherddorol hyny ddefnydd pur dda o'r cyfleusderau gawsant i ddangos eu gwahanol dalentau yn nghyfarfod- ydd hwyrol y dref. Cynhelid eyfarfodyddam- rywiaethol bron bob hwyr yn Neuadd y Dref- pris mynediad o fewn cyrhaedd pawb-ceiniog yr un, ond dyblid y pris os meddylid fod y moddion yn uwchraddol! a threulid awr a haner yno bob h wyr yn bynod ddyddorol. Ond nid oedd pobl y lie i'w canmol (morwyr fwyaf debygwn) am y trick chwareuasant yn y cyfar- fod nos Iau—cyfarfod y beirniadai J. T. Rees (Mus. Bac.)—trick ffiaidd ydoedd hwnw. Cyf- lwynid yr elw i'r Cynghorwr J M Howell, i'w defnyddio er Ueshad y dref. Dywedir fod y glowyr yn llawer lluosocach yn Aberaeron eleni nag erioed, ac y mae o bwys i bobl y lie i drefnu ar gyfer cysur yr ymwelwyr, gofalu fod y llwybrau a'r rhodfeydd sydd o gwmpas y lleyn bleserus i'w teithio. Nidyw'r llwybrau o gylch y "ffynon" yn foddhaol o gwbl, gweddus heb son am fanteisiol fyddai gofalu fod y llwybrau fel y gellid eu cerdded heb lawer o bryder ac anhawsder. Gobeithiwn y cymer diwygiad le yn y cyfeiriad hwn erbyn yr haf nesaf.

ILLADRATA UN MIL AR DDEG 0…

Advertising