Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

..---."."PARCH PR HWN Y MAE…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"PARCH PR HWN Y MAE PARCH YN DDYLEDUS." Mn GOL.Hysbys i Gymru i gyd fod ein gweinidog anwyl a ffyddlon, Dr Pan Jones, wedi llwyddo, trwy ymdrech galed a diflino, i ddileu y ddyled oedd ar yr eglwys hon ac yn ymddangos un adeg yn anileadwy. Prin y mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr amgylchiadau a'n hanalluogodd i dalu am ein haddoldy wedi ei wneud yn anmhosibl i ni roddi i'n gweinidog y gydnabyddiaeth y gall- asai efe ei hawlio ac y buasai yn hyfrydwch genym ninau ei rhoddi; ac nis gwyddom i ba fesur y mae, oherwydd hyny,wedi ymwadu er's llawer o flynyddoedd bellach. Y mae yr eglwys a'r gynulleidfa yn awyddus iawn i gydnabod mewn modd ymarferol eu rhwymedigaeth iddo am ei ymwadiad a'i ym- roddiad mawr a llwyddianus; ac yn wir, pe I na buasai yr awydd hon ynom, anhawdd fuasai L i ni beidio gwneud hyn, oblegid y mae llawer iawn o bob rhan o'r wlad wedi ysgrifenu atom yn gwasgu arnom i roddi cyfleusdra iddynt hwy ac eraill roddi mynegiad sylweddol i'w hedmygedd o Dr. Pan Jones ac o'r gwaith rhagorol y mae wedi ei wneuthur. Yn ngwyneb y cymhellion hyn yr vdym yn fwy calonog yn anion allan ac yn cyhoeddi y cylchlythyr hwn, fel y gwypo pawb ar y sydd yn ewyllysio eyfranu tuag at dysteb iddo i bwy i anfon eu rboddion. Anfonir llyfrau casglu i bawb a ewyllysio eu cael; derbynir tanysgrifiadau genym ni sydd a'n henwau isod; a chydhabyddir hwyyn y Celt ac yn Tarian y Gweithiwr.-Yr eiddoch yn gywir, THOMAS ELLIS, Trysorydd, JOHN VAUGHAN, Chapel Walks, Mostyn, Ysgrifenydd Y Cysegr, Mostyn, Gorphenaf 25ain, 1890.

TANYSGIilFIADAU AT GRONFA…

Advertising