Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CODWCH Y FANER I FYNY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CODWCH Y FANER I FYNY. Gymry, os ydych yn ddewrion, A phlant i ddewrion wyr, Os ydych yn deilwng feibion I'r heu Frythoniaid pur- Codwch y faner i fyny, Daliwch hi'n uchel iawn, Baner cyfiawnder a rhyddid, Baner y cwpwrdd llawn. Gymry, lied well eich llygaid, A gwelwch eich sarhaci, Teimlwch y beichiau trymion A bwysant ar eich gwlad Unwch i godi baner, Baner y codi mawr- Drylliwch y llyffetheiriau, Taflwch bob baich i lawr. Gymry, os ydych yu ddynion, Rhowch derfyn ar y brad, Chwi bia ffrwyth eich lIarur A chwi a bia'r wlad; Gweithiwch i chwi eich hunain Ac nid i segur rai- Cadwch y ffrwyth gynyrchwch A gwnewch eu rhan yn llai. Byeban yw rhif eich treiswyr, I Er mairateu moeth a'u bri- Eiddil ynt hwy ond cryfion A llawer ydych chwi; Cofiwch yr hen ddiareb, Sudded i deimJad byw- Trecb yw gwlad nac Arglwydd," Ein nerth sydd allu Duw. R. J. DERFEL.

HANES UN DIWRNOD YN NGHAER.…