Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

BU FARW. HUDSON.—Medi 6ed a'r 7fed, bu farw dau o blant i Mr a Mrs Hudson, Pantycrai, Llanwyddelan, o'r scarlet fever. Yr oedd un o honynt yn wyth, ar llall yn bedair blwydd oed. Hefyd bu farw plentyn ieuanc i Mrs Gethin, Ty'nllan, chwaer i Mr Hudson, ac yr oeddynt yn cael eu claddu yr un diwrnod yn yr un fynwent ar yr un adeg. Yr oedd yr olygfa ya dra difrifol, y rhieni yn llewygu gan faint y ddyrnod; ond gallant dynu cysur oddiwrth Dduw, ffynonell pob cysur, a chofio geiriau'r Gwaredwr, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi," &c. Y mae Mr Hudson yn fab i Mr Hudson, Ty'nycoed, gorphwysfan pregethwyr rhwng Llanfaircaereinion a Charno a bydd yn ddrwg gan lawer glywed fod Mr Hud- son, Ty'nycoed, yn wael iawn er's rhai misoedd bellach, fel y mae stormydd geirwon iawn wedi bod yn curo ar y teulu serchog a charedig hwn yn ddiweddar. Y maent fel teulu yn dymuno datgan eu diolchgarwch gwresocaf i bawb o'r cymydogion sydd wedi arddangos graddau mor helaeth o'u cydymdeimlad a hwy yn eu hadfyd. Bydded i'r goruchwyliaethau llymion fod yn foddion i'w dwyn oil i adnabod Iesu Grist yn Geidwad i'w heneidiau, ac i lefain arno am eu bywyd yn nghanol y ton au. -Oyfaill.. PRICE.—Medi 26ain, yn Min y Don, Llanfair- fechan, yn 22ain oed, Elizabeth, merch Mr John Price, Glan Aber, Corris. Yr oedd yn gweini gyda theulu o Birkenhead, ac ar dro gydwr teulu yn Llanfairfechan pan gymerwyd hi yn glaf, ae y bu farw. Daeth ei thad a'i brawd i'w hangladd, aehladdwyd hi ddydd Llun yn ochr Ymneillduol Claddfa Gyhaeddus Lianfair- fechan, pryd y gweinyddodd y Parch. Keinion Thomas. Cysured Duw ei theulu trallodus.

Advertising

GOHEBIAETHAU.