Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
TAITH I MOROCCO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TAITH I MOROCCO. GAN DR. GRIFFITHS, PRESTATYN. Y diwrnod wed'yn aeth fy nghyfaill a minau yn nghyda'n harweinyddion Ysbaen- aidd a Mwraidd i weled pentref oddeulu deng milltir o Tangiers, a rhaid oedd i ni fyned a gosgorddlu o'r milwyr Mwraidd, y soniais am danynt o'rblaen, gyda ni, oblegidl ni chaem fyned ragor na milltir y tu allan i gaerau Tangiers heb rai o'r milwyr hyn itn gwarehod. Wedi cyrhaedd y pentref, aeth- om i weled yr byn a elwir yn Morocco yn Cuba, neu Cupola, math o gapel bychan gyda phen isel yn yr hwn y gorwedd gwedd. illion marwol sant hynod. Codir y lleoedd hyn, yn enwedig yn y De, yn ymyl ffynon a phalmwydden, a gwelir hwy o bellder mawr, oherwydd eu bod mor wynion. Ymwelira'r lleoedd hyn gan y ffyddloniaid a'r rhan fyn- ychaf byddant yn ngofa! un o ddisgynyddion y sant as aer ei santeiddrwydd yr hwn a drig yn gyffredin mewn bwthyn yn ymyl gan dderbyn elusenau gan y pererinion a fynychant y fan. Saif Cuba Sidi-Leamani, neu sant y pentref yr ymwelsom ag ef ar ychydig godiad tir oddeutu dau cant o latheni oddiwrth y pentref. Eisteddai nifer o Arabiaid o flaen y drws pan gyrhaeddasom ni i'r lie a'r tu oliddynt gwelem ben hen ddyn, sef disgynydd y sant,yr hwn a lygad. rythai arnom yn synedig. Yn mhen peth amser dodwydein pebyll i fyny a chyneuwyd t&n, a thra y cymerem luniaeth taflwyd blwcb gwag a ddefnyddid i gario sai dines, i ftwrdd gan ein harweinydd. Cipiwyd ef yn union gan yr Arabiaid ac aethant ag ef i'r Cuba i'w archwilio, a buwyd yn siarad yn hir ac yn hyawdl, gallwn feddwl, uwch ei ben. Wedi i'n lab-el-baroda neu ein swper gael ei le ei hun aethom allan i weled y wlad a cherddem o amgylch gyda'n harweinydd- ion, ond ni chaem fyned yn mhell heb fod- y milwyr gyda ni, ac yr oeddynt fel pe yn ofni ein gollwng o'u golwg. Y pryd hwn y gwelais geffyl Mwraidd gyntaf. CefEylau byebain ydynt, a phan ddaethum yn ol i i Ewrop yr oeddwn yn gweled ceffylau at uchder canolig yn fawrion wedi arfer a'r ceffylau Mwraidd. Y mae ganddynt lygaid mawrion tanbaid; y talcen braidd yn fflat, ffroenau llydain iawn, a bochgernau amlwg pen prydferth iawn, y goss vn dlos ei flPurf! yr hyn a bair i'w symudiadau edrych yn es- mwyth neillduol. Ymddangosant yn fwy tueddol i garlamu nac i ditbio, ac yn wir nid ydwyfyn cofio i mi weled ceffyl yn tithio tra y bum yn Morocco. Pe gwelech hwy yn gorphwyso neu yn oerdded yn araf heibio nidyw r goreu o honynt yn ymddangos yn nodedig o hardd. Er nad ydynt yn cael vn agos gymaint o fwyd a'n ceffylau ni ac er eu bod yn cael eu gweithio yn llawer calet- ach, daliant eu gorweithio yn well na'n heiddo ni. Mae'r dull o farchogaetli yn wahanol hefyd yn Morocco. Eistedda'r marchogwr a'i benliniau bron yn gyd-wastad a phen ei glun, a chan fod y cyfrwy vn uchel iawn o'i flaen ac o'i ol fe'i deil mor ddi- berygl fel mal anmhosibl braidd ydywiddo gasl ei daflu. Gwisg&'r marchogwyr esgid- iau disodlau o ledr melyn, ac nid oes gan- ddynt gan amla ddim yspardynau, ond defnyddiant gongl finiog y gwrthaflau yn lie yspardyn. Gwisga rhai ddarn o haiarn miniog ar ffurf dagr wedi ei sicrhau wrth y sawdl gyda chadwen. Traethir pethau rhyfedd am gariad mawr yr Arab at ei geffyl. Dywedir ei fod yn ystyried yn fod cysegredig; ei fod bob boreu ar doriad gwawr yn dodi ei law ar ben ei geffyl ac yn sibrwd Btsmillcih (Yn enw Duw)! ac yna yn cusanu*y llaw a sancteiddiwyd gan y cyffryddiad. Gall hyn fod yn wir, ond mor bell ag y gwelais i, nid yw cariad yr Arab at ei farch yn ei rwystro i dori ei ochrau yn y ffordd greulonaf; neu ei adael allan pan y gallai ei ddodi i fewn, neu ei gymeryd bellder mawr i gael dwr pan yn gloff a lluddedig. 0 Yr oedd v gwres fn dra anghysurus drwy y nos oherwydd i'r arweinydd ddodi tan yn ein pabell. Gorchuddid. y lIawrag ymlusg. iaid, pryfaid copyn, morgrug anferth, chwilod a cheiliogod-yr-hedyn nes peri fod gor- phwyso yn ail i anmhosibl, ac nid wyf yn meddwl 1 lb mi gysgu pum' munud drwy'r nos, a llawenheais yn ddirfawrweled goleuni dydd. Dyma'r profiad cyntaf a gefais o gysgu ar lawr mewn pabell. 9
HYN A'R LLALL O'R DE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL O'R DE. [GAN AP Y FRENI FACH.] Ar y cyfan y mae gwrthwynebwyr tafarn- yddiaeth a charwyr sobrwydd i'w llongyfarcb yn wyneb gweithrediadau llysoedd y trwy- ddedau y flwyddyn hon. Gwir ei bod yn anhawdd cael engrefftiau o ystranciau yn- fytach yn hanes ustusiaid talgryfion a chaled-galon nag a gafwyd yn Nghaerphili a Phenybont-ar-Ogwy. Ond, eithriadau yd- oedd y rhai hyn eleui. Ary cyfan safodd yr ustusiaid yn bur ysgog yn erbyn lluosogi tafarnau. A rhan fechan iawn o'r rhai a ofynasant am drwyddedau newyddion a'u cawsant. # Crybwyllais ychydig amser yn ol fod amryw o'r ustusiaid sydd ag awdurdod dros y trwyddedau a llaw yn y fasnach eu hun- ain. Da genyf i sylw gael ei wneuthur o'r ffaith hon mewn rhai llysoedd eleni. Cod- wyd y mater i sylw yn Mhontypridd, ond nid wyf yn deall i neb yno adael y fairc. Ond yn Merthyr gorfu i haner yr ynadon adael eu seddau. Digrif oedd gweled yn eu plith ddirwestwr mor selog a Mr Thomas Williams, Gwaelodygartb. Y mae Mr Wil- liams yn un o gwmni gwaith haiarn Rhymni, ac y mae darllawdy yn rhan o'r eiddo. Ni raid dyweud y byddai yn dda gan Mr Wil- liams o ran ei hun wneuthur i ffwrdd a'r gyfran yma yn yr ystad. :If: + Mewn achos neu ddau eleni yn y De dygid heddgeidwad yn mlaen i ddwyn tystiolaeth o angen tafarnau ychwanegol am fod y lleill mor Ilawn. Y sawl a'u dygent yn mlaen oeddent briuach mewn synwyr nag oeddent mewn beiddgarwea. Drwgdybir llu mawr o heddgeidwaid eisoes o fod mewn cyfathrach rhy agos a thafarnwyr, a choleddir y syniad yn bur gyff redinol nad yw y blaenaf vn ed- rych mor ofalus ar ol yr olaf ag yw yr olaf ar ol y blaenaf. Nid oes arnaf fawr ofn y gelwir heddgeidwaid yn mlaen i ddwyn cyffelyb dystiolaeth yn ami eto. Mawr yr ymdrech a wnaethai rhai o'r rhai a geisient am drwyddeda,u newyddion eleni i brofi o gymaint gaffaeliad yn mbob ystyr a fyddai eu tai. Yr oedd ganddynt le i bawb a phob peth. Ystafelloedd* coffi i'r dirwestwyr, ac ystablau a cherbyttai i deith- wyr. Ond pwy erioed a gafodd gwpanaid o goffi gyda sirioldeb mewn tafarndy, ac mor anhawdd y caed lie i droi ceffyl i fewa am ychydig oriau yn yr adeiladau melldithfawr hyn! Nid yw naw o bob deg o honynt, a siarad yn rhesymol, yn ddim ond conglau i yfwyr ac ogofeydd j feddwon, a Ilawer o honynt ydynt breswylfeydd i buteiniaid. Da genyf weled rhai arwyddion fod dydd gofwy tafarnwyr gwaed-sychedig ar' wawrio. Nid dros byth y cant hwy eu ffordd fel y maent wedi arfer gael am gynifer o flynyddau. :If: Cyn y gweithreda yr ynadon yn ol dymun- iad y bobI angenrhaid yw diwygio y fainc ei hun. Toriaid yw Lord-Lieutenants ein sir- oedd, ac ni wna neb y tro i fod yn ynadon yn eu tyb hwy ond Toriaid neu Eglwyswyr. Gwelais yr wythnos ddiweddaf lechres ynadon un rhanbartb o Sir Fynwy. Nid oes yn eu plith ond un ynad nad yw yn Dori neu vn Egiwyswr. Yr eithriad hwnw ydyw Mr E. Grove, Casnewydd, yr hwn sydd ynad hedd- wch yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd y Cynghor Sirol heb ddiolch i Arglwydd Beau- fort. Y mae efe yn Anibynwr ac yn Rbydd- frydwr. Y mae yn tnhlith yr vnadon ddau Anghydffurfiwr arall, sef un Methodist ac un Bedyddiwr, ond Toriaid yw y ddau. Y mae yna ryw bump o'r lleill yn Rhyddfrydwyr, ond Eglwyswyr ydynt oil Ac y mae mwy nag un o bob pump o honynt yn Doriaid ac yn Eglwyswyr. Maine Doriaidd ac Eglwysig mewn rhanbarth boblog sydd eithafol o Ryddfrydol ac Anghydfturfiol. Pa hyd y goddefir i un dyn ddewis yn ol ei fympwyon personol ? # # Yr wythnos ddiweddaf cyffyrddodd blaen gwenwynig gwialen haiarn Balfour a'n Ty- wysogaeth ni. Yn Nghaerdydd y daliwyd Mr Patrick O'Brien hwyrddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd y noson hono i gymeryd rhan mewn cvfarfod a gynhelid yn Aberfan, ger Merthyr Tydfil. Ond yn ngorsaf Caer- dydd daliwyd ef gan heddgeidwad o Werddon. Ymddengys iddo gael ei ddal mewn modd hollol anghyfreithlon, gan mai y gyfraith a ofyna i'r warant gael ei harwyddo gan ynad heddwch o'r wlad hon cyn y gellir cymeryd i'r ddalfa neb o'r Iwerddon. Paham na wnaed hyn ? Y mae yma ddigon o ynadon mewn cydymdeimlad calon a thrais y Llyw. odraeth. Ond felly y gwnaed, a chymerwyd y carcharor boreu dranoeth yn gaeth i'w wlad ei hun.
NODIADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
heddgeidwaid a Daly y dynameiter. Gwth- I iasant dynameit ar y dyn truan hwnw, ac yna cymerasant ef i'r ddalfa a thraddodwyd ef i benyd-wasanaeth. Mae gan Balfour arfau digon isel at ei wasanaeth i wneud y budrwaith aflanaf, ac nid ydym yn synu gweledj eithaf ei ddigofaint yn achos O'Brien a Dillon. MR MORLEY YN ST. HELENS. Cafodd .Cymru roi ei llais yn nghyrddau mawrion y Rhyddfrydwyr yn St. Helen, trwy un o'i chynrychiolwyr ieuanc mwyaf addawol, Mr Lloyd George, A.S. Dangosodd fod Cymru yn dyoddef fel yr Iwerddon oddiwrthy Toriaid, ac nad oes dim a union a'r camwri ond Ymreolaeth. Yn ei 'araeth odidog, dywedai Mr John Morley, A.S., ei fod ef wedi gobeithio y gallesid ddod i ryw ddealltwriaetb gyda'r Llywodraeth yn nghylch yr Iwerddon, hyd nes y bu i Mr Balfour gymeryd y camrau a gymerodd. a bellacb bydd yn rhaid iddo pan gyferfydd y senedd rol eyfrif manwl o-i weithredoedd. Dywedodd Mr Morley, fod yr hyn a welodd yn Tipper- ary, yn ddigon i gyffroi gwaed unrhyw ddyn —pobi yn cael eu euro yn giaidd, a hwythau heb fod yn tori y gyfraitb. Bu efe ei hun yn offeryn i rwystro un arweinydd hedd- geidwa-id drwy ymresymu ag ef, a'i'gynghori. Felly bydd yn y senedd le brwd iawn pan gyferfydd yn mis Tachwedd.