Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
"PARCH PR HWN Y MAE PARCH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"PARCH PR HWN Y MAE PARCH YN DDYLEDUS." MR GoL.,—Hysbys i Gymru i gyd fod ein gweinidoganwyl a ffyddlon, Dr Pan Jones, wedi llwyddo, trwy ymdrech galed a diflino, i ddileu y ddyled oedd ar yr eglwys hon ac yn ymddangos un adeg yn anileadwy. Prin y mae yn rhaid i ni ddywedyd fod yr amgylchiadau a'n hanalluogodd i dalu am ein haddoldy wedi ei wneud yn anmhosilbl i ni. roddi i'n gweinidog y gydnabyddiaeth y gall- asai efe ei hawlio ac y buasai yn' hyfrydwch genym ninau ei rhoddi; ac nis gwyddom i ba fesur y mae, oherwydd hyny,wedi ymwadu er's llawer o flynyddoedd bellach. Y mae yr eglwys a'r gynulleidfa yn awyddus iawn i gydnabod mewn modd ymarferol eu rhwymedigaetli iddo am ei ymwadiad a'i ym- roddiad mawr a Ilwyddianus; ac yn wir, pe na buasai yr awydd hon ynom, anhawdd fuasai i ni beidio gwneud hyn, oblegid y mae llawer iawn o bob rhan o'r wlad wedi ysgrifenu atom yn gwasgu arnom i roddi cyfleusdra iddynt hwy ac eraill roddi mynegiad sylweddol i'w hedmygedd o Dr. Pan Jones ac o'r gwaith rhagoro^y mae wedi ei wneuthur. Yn ngwyneb y cymhellion hyn yr vdym yn fwy ealonog yn anfon allan ac yncyhoeddi y cylchlythyr hwn, fel y gwypo pawb ar y sydd yn ewyllysio cyfranu tuag at dysteb iddo i bwy i anfon eu rboddion. Anfonir llyfrau casglu i bawb a ewyllysio eu cael; derbynir tanysgrifiadau genym ni sydd a'n henwau isod a cbydnabyddir bwy yn y Celt ac yn Tarian y i ir, Gweithiwr.—Yr eiddoch yn gywir, THOMAS ELLIS, Trysorydd, JOHN YAUGHAN, Chapel Walks, Mostyn, Ysgrifenydd Y Cysegr, Mostyn, Gorphenaf 25ain, 1890.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB DWYREINIOL MORGANWG- J GYNHELIR Cyfarfod Chwarterol y. Cyfundeb uchod y tro nesaf yn Sardis, Pontypridd, dydd Mercher a dydd Iau, Hydref 22ain a'r 23ain, 1890. Bydd pregethu am saith o'r gloch y noson gyntaf. Bydd yu dda genym weled y frawdoliaeth ynnghyd yn gryno. W. 1. MORRIS. CYFUNDEB GORLLEWINOL CAER- FYRDDIN. CYNHELIR, Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb C uchod Mawrth a Mercher, Tach. 4ydd a'r 5ed, yn Penygraig. Cynadledd am ddau, a chyfeillach am dri o'r gloch y dydd cyntaf. Pwnc y gyfeillach, Y Sabboth yn y wlad." Disgwylir pregstbau yn ystod y cyfarfodydd ar "Ddyledswyddyr Eglwys at y byd," ac ar Onestrwydd Crefyddol." Preg- ethir nos Fawrth am saith, a dydd Mercher am ddeg, dau a 6-30. Taer wahoddir gweinidogion, diaconiaid ac eraill perthynol i'r cyfundeb a'r cylch. E, POWELL. CYFUNDEB DWYREINIOL CAER- FYRDDIN. YNHELIR Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb C uchod yn Soar, Llanelli, ar y dyddiau Llun a Mawrth, Hydref yr 20fed a'r 2lain. Y gynadledd i ddechreu am 10-30 bore dydd Mawrth, pryd y darllenir papur gan y Parch. W. Thomas, Gwynf e, ar "Ddyledswydd yr Eglwys tuag at y plant." Pregethir dydd Mawrth am ddau a saith o'r gloch. Bydd Mr Williams, Llanddyfri, yn pregethu ar Brynedigaeth," a Mr Evans, Amanford, ar "Ddyledswydd yr Eglwys tuag at y weinidogaeth." Hyderwn y ceir gweled y frawdoliaeth yma yn gryno ar hyn o wahoddiad. W. T. DAVIES. ONE BOX OF OLAKKE'S B 41 FINS is warranted to cure all charges from the Urinary Organs, in either sex (acquired sorstitutional), Gravel and Pains in the Back. Guaranteed from Mercury. Sold in Boxes 4s 6d each, by all Chemists and Patent Medicine Vendors or sent for sixty stamps by the M akers. HE LINCOLN AND MIDI COUNTIES DRUG Co. Lincoln. Wholesale, Barclay & i. jiis, Farringdou St. and at the Wholesale Sftmses, ARWYD-DIONI PRESENOLDEB Y DROPSY Yn'y Cyfansoddiad ydyw y rhai canlynol Diffyg Dwfr, Grafel j^Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Liawnder yn y Bol, Poen yn y cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yu y Corff, &c. Y rhai ydynt yn brawf sicr o bresenoldeb y DROPSY yn y cyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio esgeuluso defnyddio Meddyg- iniaeth ar ol teimlo un o'r nodau uchod. Trwy anwybodaeth a diffyg gofal goddefir i'r clefyd marwol hwn i sefydlu a' gwreiddio yn y cyfansoddiad cyn sicrhau y Feddygip- aeth Briodol, ac felly terfyna. yn angeuoi i filoedd yn flynyddol. YR UNIG FEDDYGINIAETH SICR A YOGEL; YW !>' w CQ a S o S PS (Z) Y mae GWYR, GWRAGEDD, a-PHLANT yn mhob gwlad wedi derbyn budd anhraeth- adwy o'u defyddio. BHYBUDD Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofale cael y Trade Mark (stfllun Diamond) a'r geiriau DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch, a'r enw JACOB HUGHES q,r Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is lie, 2s 9c, a 4s 9c trwy y Post, Is 3c, 2s lie, a 4s 9c oddiwrth y Perchenog— JACOB HUGHES, D.S., A.PH.S., Manufacturing Chemist, PENARTH, CARDIFF. GORUCHWYLIWR YN AMERICA— x Mr. R. D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymouth, Pa., Gan yr hwn y gellir cael hefyd GOMER'S BALM a. HUGHES'S DROPSY PILLS.
NEWYDDION CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MAKSQLAS.—Cyfarfod Tmadawol.—Fel y mae yn wybyddus i'r Celtiaid fod y Parch. J. Morlais Richards yn gadael ein gwlad am yr America. Sabboth, Medi 21ain, traddododd Mr Richards ei bregeth ymadawol i'r eglwys a'r gynulleidfa. Yr oedd y capel wedi ei lanw a thyrfa hardd, pawb yn teimlo yn ddwys wrth feddwi fern golli un sydd yn anwyl ganddynt. Nid oedd arosiad Mr Richards ond byr yn ein plitb, Daeth atom o'r coleg yn ieuanc a clibrofiad i ddechreu ei weinidogaeth, ond gallwn o galon ddyweud ei fod wedi gweithio yn ardderchog a chadw ei gymeriad yn lan a disglaer. Yr oedd yn weithiwr dyfal a chyson yn ac allan o'i eglwys. Cawsom efyn weinidog da i Iesu Grist. Pregetbai gyda nerth a dylanwad holl gynghor Duw. Yr oedd Mr Richards yn ddyn i bawb, ac wedi dringo yn uchel iawn yn serchiadau ei gym- ydogion. Fe erys ei enw a'i waith yn fyw ar ol yn eiu plith ac ar ein haelwydydd gartref. Blin iawn genym ei golli. Teimlwn hiraeth mawr ar ei ol, ond hyderwn y dyga'r Arglwydd ef yn ei ol eto yn fuan. Mae efe wedi ein gadael ynnghanol y parch mwyáf a chyda'r dymuniadau goreu. Ar ol y bregeth ymadawol cyflwynwyd anrheg fechan i Mr Richards fel arwydd o'n han- wyldeb tuag ato. Derbyniodd y rhodd o bwrs ac 8p ynddo o law Mr Richard HoweIL, un o'r diaconiaid—yr hwn a ddywedai ar ran yr eglwys, y gynulleidfa a'r ardal—fod yn tlin ganddynt golli Mr Richards, buasai yn dda ganddynt pe b'ai yn aros, ond gobeithiant ei weled yn ol ar fyrder. Teimlai y bydd yn enill mawr i'r brodyr yn America ei gael, ond mawr hyderai na byddent yn ei gylymu yno, oblesid eu bod hwy yn Maesglas yn disgwyl ei weled eto wedi iddo orphen ei amcan. Diolchodd Mr Richards yn gynes iddynt, am eu parch, ac na allai ddyweud ond ychydig eiriau, fod yr amgylchiad yn gorchfpg'a ei deimiadau. Dywedai wrth y gynulleidfa nad elai eu caredigrwydd a'u cydymdeimlad iduo er y dydd y daeth i'w plith*byth yn anghof ganddo. Yr oedd yn gyfarfod nad byth anghoflr naohono gan yr eglwys yn Ebenezer. Nid oedd neb yn gwybod am fwriad Mr iiiohards tan y Sul cyntaf yn Medi, a phan y dywedodd, tarawyd pawb a syndod., Ni chawsom ond ychydig ddyddiau i baratoi ar gyfer dangos ein parch iddo. DyddMercher mae Mr Richards yn hwylio yn y "City of New York." Anwyl frawd, Duw fyddo gyda ehwi.-E. T. Jones. PONTYGYMER.—Galwad,— Y mae yr eglwys Ani- bynol yn y lie uchod wedi rhoddi galwad daer ac unfrydol i Mr J H Davies, Milo, o Go I eg Anibynol y Bala, i ddyfod yno i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac y mae yntau wedi ateb yn gadarnhaol. Y mae Mr Davies wedi enill iddo ei hunan safte uchel fel pregethwr hyuod o dderbyniol a chymeradwy, ac hefyd y mae wedi ei freintio yn helaeth a'r elfen gymdeithasgar, yr hon sydd nodwedd bwysig mewn gweinidog llwyddianus. Bydded i fendith Duw fodar yr undeb hwn, a'i amddiffyn dwyföl fyddo dros yr eglwys a'r gweinidog yw dymuniad .Goh. PANTTBG, YSTALYFERA.—Nos Lun, yr wythnos di- Tpeddaf, traddododd y Parch. D S Davies, Caer- f yrddin, ddarlith odidog ar ei hoff destyn, "Dir- west," i gapelaid o wrandawyr astud. Wedi cael ychydig nodiadau pwrpasol gan y cadeirydd—y Parch. John Davies, Wern, cydiodd y darlithydd yn ei waith fel gwr cadarn, a phastwynodd yr hen fasnach yn ddidrugaredd nes oedd ei hagrwch heintus mor ganfyddadwy ag ydyw hen Darren- wyddon i breswylwyr y dyffryn ar ganol-ddydd haf. Diolch calon i'r hen dadau, a dau ddiacon yr eglwys-Meistri D G Thomas a John Thomas, am eu presenoldeb er dangos eu hochr fel arfer dichon nad hysbys i bawb o honom fod yr hen dad blaenaf yn-Jlwyrymwrthodwr er ys llawer iawn o flwyddi, felly gallasai hawlio rboicynllun ilawr ercychwyn Band of Hope lawn cystal a neb o honom, ac am yr hen dad John Thomas, gwyddom bawb am dano ef ei fod beunydd mewn gwaith cyson o blaid yr egwyddorxon llwyrymwrthodol, a'i ddy- lanwad fel dirwestwr yn ganfyddadwy, nid yn unig yn nglyn a'i deulu ei hun ond hefyd yn nglyn ac amryw o leuenctyd yr ardal. O na chaeni ddi- aeomaia ein heglwysi i'n blaenori yn y cyfeiriad hwn, abuan y gwelem wedd newydd ar gym'deithas, Blm yoyw nodi mai y ddau berson a enwyd yn unig fel diaconiaid sydd yn llwyrymwrthodwyr a diodydd meddwol yn ein heglwys. Yr oedd yn dda genym glywed i un arall o'r frawdoliaeth roddi ei bresenoldeb mewn He digon cyfleus i wrando y genadwri—yn nghesail y grisiau, canys tarawai llais cryf y siaradwr fel taran drwy bob congl, a gobeithio y gwna y brawd droedio yn mhellachar frys. Arferwn hoffi douiau D S D, a chefais fy moddio droion, ond yn'sicrymae yn myned ar gynydd yn barhaus, a gellir dywedyd yn ddifioesgni mai ychydig sydd o'r cloth yn y dyddiau hyn, r yn ga.Uu fforddio rhoi y gwirionedd fel y gwna efe. Argyhoeddwyd pedwar o'r newydd y noson yna, a chadarnbawyd llawer.—Dirwettwr.