Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL O'R DE.[,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL O'R DE. [, [GAN AP T FRENI FACH.] Gwnaeth Annibyniaeth arddangosiad rhagorol o'i nerth a'i ieuengrwydd yn Aber- tawe yr wythnos ddiweddaf-eystal ag a ellid ddisgwyl yn gyffredin oddiwrth gyfar- fodydd o'r fath. Yma y cynaliodd Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr ei gyfarfod- ydd Hydrefol—y padwerydd tro iddynt eu cynal yn Nghymru. Yr oedd yn eglur i bawb a wyddant rywbeth am gychwyniad yr Undeb yn 1831 y cynydd y mae wedi wneuthur mewn poblogrwydd er yr adeg hono. Ymwelodd ag A berdar yn 1859, ag Abertawe yn 1871, aeâ Chaerdydd yn 1879. Henadur Freeman, Maer Abertawe, yr hwn sydd ei hun yn Annibynwr, a roddodd dder- byniad cyhoeddus, croesawus i aelodau yr Undeb prydnawn dydd Llun. Nos Lun cy- naliwyd cyfarfod dirwestol, a thraddodwyd pregeth yr Undeb gan y Parch C A Berry, Wolverhampton, yr hwn a anfarwolwyd gan y gwahoddiad a gafodd oddiwrth eg- lwys Plymouth, Brooklyn, i ddyfod yn ol- ynydd i Henry Ward Beecher. Nid wyf wrth hyn yn meddwl awgrymu nad yw yn- ddo ei hun yn meddu ar elfenau poblog. rwydd, ond dichon fod yna amryw a fuasant mor enwog ag yntau pe cawsai alwad daer oddiwrth Eglwys Beecher. Traddododd Mr Berry bregeth hyawdl a grymus ar 11 Nerth ysbrydol," gan gymeryd yn destyn Luc xxiv. 48 a 49. Sylwai fod nerth ysbrydol yn tybio rhywbeth beblaw gwybodaeth a chred- iniaeth. Gwyddai yr apostolion yr hanes am Iesu, a chredant ynddo; ond eto nid oeddent gymhwys i fyned allan i bregethu yr efengvl, rhaid oedd iddynt aros yn Jeru- salem hyd oni thywalltid y nerth o'r uchel- der. Cafodd Mr Berry fwy na llon'd capel Walter's Road i'w wrando. Pregethodd y Parch J Guiness Rogers i'r rhai na allent gael lie, yny Capel Coffadwriaethol. :JI: >II: :JI: Y Cadeirydd, y Parck Thomas Green, M.A., a draddododd,anerchiad rhagorol ar bwnc amserol, sef y duedd mewn eglwysi y dyddiau hyn i ymollwng gyda rhediad yr nes at ymarferiadau corphorol a difyrion ysgeifn o wahanol fathau, yr hyn aalwai Mr Green yn Secular element y myn rhai ei gydnabod fel rhan gyfreithlon yn mywyd yr eglwys. Yr oedd anerchiad Mr Green yn wesrthfawr a phwrpasol fel gwrthdystiad clir, yn tarddu oddiar argyhoeddiad dwfn, yn erbyn y gormod llacrwydd a ffyna yn y cyfeiriad yma yn marn ac ymarferiad llawer o grefyddwyr. Ond gyda golwg ar unrhyw chwareuon, nad ydynt ynddy'nt eu hunain, nag o angenrheidrwydd yn eu cysylltladau yn ddrwg i gorff nac yn niweidiol i foes, fy marn i yw nad yw crefyddwyr yn enill dim drwy siarad yn eu herbyn fel y cy'fryw. Ai nid gyda'r graddau, a'r moddau, a'r prydiau y mae dynion ieuainc yn colli. Y dyn ieuanc a ddewisa faes y bel droed o flaen y gyfeill- ach, y mae mewn perygl. Ond pe elywn i ddyn ieuanc crefyddol yn ateb un a'i gwa- hoddai i ymuno a Chlwb o chwareuwyr pel a chricket, gan ddyweyd,, "as trefnweh chwi i gyfarfod ar adegau nad oes genyf fi ymrwymiadau rheolaidd crefyddol, ymunaf a chwibyddai fy syniad i am dano lawer yn uwch nag am un sydd yn rhy ddiegni i gicio pel na darlien Beibl. Y dynion ieuainc a roddant fyny ymarferiadau ysbrydol am ymarferiadau corphorol ydynt yn ddiau mewn perygl. Yn sicr nid i ddim pwrpas chwaith y gwasga Mr Green at galon gwein- idogion y pwysigrwydd o bregethu duwin- yddiaeth y dyddiau hyn; ond yn sicr nid yw traethodau duwinyddol a gyfansoddir megys yn unig er mwyn eu hunain ydyw angen yr oes. Ac eto, nid oes allu yn bod i symud y byd fel athrawiaethau ein erefydd pan ddefnyddir hwynt yn ddeheuig. Symud a gwella y byd yw gwaith y pulpud, ac nid ydys yn -enill dim drwy hollti blew i foddio cywreinrwydd. Ni ddisgynodd oddiar wefusau lesu yr un frawddeg dduwinyddol nad oedd iddi ystyr, gwedd, a gwerth ym-j arferol. Efe yw ein model. Y mae llawer i'w ddywedyd yn fwy nag-a. ddywedodd Mr Green o'r gadair, ond yr oedd ei anerchiad yn gryf, teilwng o'r aehlysur. ac yn haedd- ianol o'r ganmoliaeth uchaf. Ond llanwn i dudalenau y Celt, pe awn yn mlaen fel yma. Dichon yr anfonir hanes y eyfarfodydd gan ohebydd arall. Ni raid i'r enwad Anibynol deimlo cywilydd o'r arddangosiad a wnaed o'i dalent a'i graffder, o'i yni a'i fywyd yn nghyfarfodydd hydrefol ei undeb yn Abertawe. Addewir cyfres 0 gyfarfodydd cyffelyb, gan enwad y Bedydd- wyr, yr wythnos hon eto yn nhref Caerdydd. Dydd Gwener diweddaf, bu farw Mr Charles Herbert James, Y.H., Merthyr Tydfil, yn 73 mlwydd oed. Merthyr ydoedd Ile genedigol Mr James. Yno y tyfodd i boblogrwydd a pharch mawr. Fel cyfreith- iwr, gellid ymddiried ynddo. Yr oedd uwchlaw twyll a hoced. I Gydag addysg, llafuriodd yn ddiwyd. Creaai mewn addysg ei hun, ac nid arbedai amser na nerth i wneuthur yr oil a allai, i ddwyn addysg elfenol o hyd gafael i'r werin. I'r Undod- iaid y perthynai yn grefyddol, ond ymddengys i mi ei fod o Undodwr yn bur uniongred. Ymddengys, y pregethai weithiau ei hun, flynyddau yn ol. Yr oedd yn gredwr mawr yn y Beibi. Rhyddfrydwr iach, gwrol, a phur anibynol ydoedd fel gwleidyddwr. Bu yn un o gyn- rychiolwyr Merthyr yn y senedd o 1880 hyd 1888, pryd y rhoddodd fyny ei sedd oher- wydd afiechyd yn ei deulu. Bu yn aelod ffyddlon. A pha bryd bynag y gwnai ei ymddangosiad yn y-cyhoedd o flaen ei ethol- wyr, cai dderbyniad cynes. Yr oedd yn siaradwr eglur a brwdfrydig. Traethai ei farn yn groew, pa un a fyddai dderbyniol gan y cyhoedd ai peidio. Ar ol, rhoddi fyny ei sedd, gwelid ef yn awr ac yn y man, yn cadeirio ac yn siarad mewn cyfarjfodydd cyhoeddus. Dyddan i'r ieuane bob amser oedd ei glywed yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, yn cymharu Merthyr ei febyd, a Merthyr y dyddiau hyn. Ond ei le yntau nid edwyn ddim o hono ef mwy. Gwasan- aethodd ei genhedlaeth yn ddiwyd a ffydd- Ion.

HYN A'R LLALL O'R GOGLEDD..

Advertising

TIPPERARY.