Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ADRANYR ADOLYGYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADRANYR ADOLYGYDD. "Y GE NTISTEN," Hydref 1890: W. Gwenlyn Evans, Caernarfon.—Dyma y rhifyn olaf am y flwyddyn hon o'r cylchgrawn cyfoethog uchod, a diwedda yr wyfchfed gyfrol o'r dech- reuad. Tybed nad ydyw erbyn hyn wedi gosod iddo ei hun sail i ddyfodol maith a llwyddian- us yn mhhth cyfnodolion Cymreig ein cenedl ? Gwelsom rai cylchgronau yn casglu digon o adnoddau i wneud arddangosiad golygus o honynt eu hunain am dro neu ddau, ond o ddi- ffyg parhad o'r unrhyw yn gwanychu, ac yn diflanu. Ond mae y ffaith fod y Geninen wedi parhaua gwella am ystod wyth mlynedd yn brawf lied gryf fod "nerthoedd yn gweithio ynddi," ei bod yn tyfu o galon wladgarol a llenyddol y genedl, ac nid yn dibynu ar gyfir- roadau damweiniol o unrhyw fath. Mae y Geninen wedi llwyddo yn rhinwedd ei theilyng- dod gwirioneddol, onide nis gallasai ddal a goroesi rhai ymosodiadau mileinig awnaed arni gan rai" Ysgrif enyddion a Phariseaid." Mae cynwysiad y rhifyn sydd ger ein bron yn hynod o amrywiol a dyddorol, a'u hawdwyr yn gyn- rychiolaeth deg o'r genedl yn gyifredinol. Yr -erthygl gyntaf yn y rhifyn yw eiddo Deon Bangor ar Dygiad yr Efengyl i Bry- dain." Mae testyn yr yegrif ynfyth-ddyddorol, ac olrheinir rhai pwyntiau hanesyddol ynddo gyda llawer o ddeheurwydd. Yr hyn sydd flinder ysbryd i Ymneillduwr wrth ei darllen yw, nad yw yr awdwr yn gweled dim na neb gwerth i ymffrostio ynddynt fel canlyniad dy- -fodiad yr efengyl i Brydain, ond clerigwyr ac Eglwys Lloegr Mae yn hen bryd i glerigwyr yr Eglwys Sefydledig i dd'od allan o'u myfiaeth fEol, a cbydnabod fod yr Eglwys Gristionogol yn eangach nag Eglwys Lloegr. Mae y fraw- -ddeg ddiweddaf yn yr erthygl y peth goren ynddi; ac os anghofir yr ystyr cyfyng a ddyry yr awdwr i "Eglwys," gan gymhwyso y geir- iau at yr Eglwys Gristionogol yn gyffredinol, byddai yn anhawdd ini feddwl am gryfach brawddeg na hon,—" Sefydlwyd yr Eglwys ar ddioddefaint, ac ar ddioddefaint y mae yn byw, merthyron yn marw dros y gwirionedd, cyffes- wyr yn dwyn eu tystiolaeth dros eu Duw,! mewn byd a'u dirmygai, er gwaethaf bygyth- ion ac arteithiau, fel y byddai i Eglwys Dduw harhau i gyflawni y gwaith pwysig a ymddir- iedwyd iddi yn y byd." Ymddengys Cym- raeg Rbydychen," yn ysgrif y Proff. J. M. Jones, yn y rhifyn hwn, yn fwy golygus nag yn y rhifynau blaenorol. Y brywes mwyaf cymysglyd fu yn nghrochan y genedl Gymr-eig -er ys tro yw '• Pwnc yr Orgraph presenol, ac ymddengys fod llu mawr yn mynu taro eu bys ynddo. Mae y mater yn werth i'w drafod, oblegid mae yn hen bryd ini gael rhyw orgraph unffurf a saionol, yn lie yr amrywiaeth sydd genym yn awr. Mae ysgrif y Parch. J. Pules- ton Jones, B.A., ar "GymraegOymreig," yn dwyn perthynas agos ag eiddo y Proff. Jones, ac mae hono hefyd yn wir alluog a synwyrol. Mae y gwyr talentog hyn i'w canmol, nid yn unig am drafod y mater sydd ganddynt mewn Haw yn ddysgedig, eithr befyd am wneud hyny mor ddyddorol ac eglur. Ond tybed fod Dr. W. O. Pughe yn haeddu y fflengyll a osodir arno gan y Proff. Jones ? Onid oes neb a ddaw i'r maes i gadw chwareu teg iddo ? Mae "Anerchiad at Gymdeithas Lenyddol Eifionydd," o eiddo y diweddar Nicander, yn werth yr hyn a ofynir am yr holl rifyn. Mor loew eiiaith, cryf ei brawddegau, a gwreiddiol a' doeth ei feddyliau oedd awdwr yr "Anerch- 3 ii' hwn! Buasai yn resyn iddo fyned ar goll "Fy meddwl am Eisteddfod Bangor," yw penawd ysgrif fer gan Meddyliwr," yr hwn a ddywed ei farn yn bur ddiofn, beth bynagam gywir, am yr Eisteddfod lwyddianus nono. Un o'i "feddyliau" ydyw hyn,—" Ys- iyriwyf adrodd awdl gan fardd cyfrifol ar y ,dechreu yn adfer i raddau yr hen drefn Eis- teddfodol." Mae yn hysby& mai y Prif-fardd Hwfa Mon a benodwyd i adrodd berawdl felly yn Mangor eleni, a da genym weled y cyfan- soddiad yn y rhifyn presenol o'r Geninen. Mae Hwfa yn gwneud ei waith i'r dim. Cyf- ansoddodd awdl agoriadol ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Gwynedd, a gynhaliwyd y llynedd yn Mhwllheli, ac yr oedd yn briodol i'r Eis- ted dfod hono yn umg." Yr un modd y gellir dyweud am ei eiddo yn Mangor. Nid hen awdl "ready-made" ydyw, eithr un wedi ei chyfansoddi yn bwrpasol i'r Eisteddfod ddi- weddaf. Mae y fer-awdl hon yn gelfydd ei saerniaeth ac yn Ilawn o geinion barddonol. Tem tir ni i ddifynu rhai engreifftiau :— Ar ruthredd ea gorseddau,-creig Arfon Yw ymerodron y mawr raiadrau Trwy dorchau'r cymylau mall—tro'n penau Y raae'r hyf dyrau amirhyw fyd arall." Amlunia'r haul melynwawr Balasdai'n y Fenai fawr. Fenai werdd chwar gerddi,-yn wastad, p Arglustiau'r clogwyni; Ar hyawdledd ei rhedli' Y llong a ddawnsiai'n y lli'. '4 »,# Clyw o gernydd clogyrnach Emynau beirdd Penmaen bach,—• Clywch dyrfau clochau dirfawr Emynau meib Peumaen Mawr. Acenau byw eu can her Ehed heibio hyd Aber; Tora, ergidia gwedyn,-o'r graig draw Lais e u holl alaw hyd Lys Llewelyn. A'r Gogartb, dros berwawg eigion,-eto Etyb y caneuon; n&iH O'r cynhwrf, clyw'r acenion Yn chwarau'n nghymydau M6n." Nid oedd hysbys i bawb fod y diweddar Dr Edwards, Bala, wedi cyfansoddi darnau bardd- ouol yn y mesurau cyughaneddol; a bydd yn dda gan filoedd gael yr hyfrydwch o ddarllen yr awdl ragorol sydd ganddo yn y Geninen hon ar Drefn Duw i gadw dyo." Ceir yn y cyfan- soddiad gynghaneddiou naturiol, iaith goeth a duwinyddiaeth gyfoethog yn llosgi gan deimlad addolgar ac awenyddol. Mae yr anfarwol Ddoethawr o'r Bala wedi gosod bri ar y Gyng- hanedd Gymreig. Gresyn na chanai Cynhaiarn ychwaneg, oblegid mae efe, fel y profa ei gy- wydd sydd ger ein bron, ar Yr Anffyddiwr,' yn fardd o'r iawn ryw. Ceir yn y rhifyn hwn luaws o fanion barddonol gan feirdd adnabyddus, megys Tafolog, Gwalchmai, Glan Llyfnwy, Alafon, G H Humphrey, Meiriadog-, Tudwal. J J., Ty'nbraich; Elfed. Athan Fardd, ac eraill. Palla gofod i fanylu ar yr ysgrifau ar "Ymreolaeth i Gymry," Sais-addoliaeth," Oynfaeo," "Peryglon Enwadaeth Gref- yddol," "Pwysigrwydd Enwadaeth," "Hythyrau ar Athroniaeth," 11 Gwyddiant a Gwyddianwyr," "Breuddwyd Emrys," t" Peryglon i Iechyd y Chwarelwr," "Dysg a Moes yr Hen Gymrr," Dyledswydd y Cymry tuag at y Seison," a lluaws o fan-ddarnau barddonol perthynol i Eisteddfod Bangor, gan Tudno, Machreth, Hawen, Dewi Ogwen, a rhes o enwogion eraill.

Advertising