Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMWELIAD CYNGOR Y T- S., COLLEGE…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWELIAD CYNGOR Y T- S., COLLEGE A MANCEINION. Cyferfydd Cyngor y coleg dair gwaithjy flwyddyn yn misoedd Iouawr, Mai, a Medi, ae yn y blvnyddau diwp.ddaf, cynhelir un o'r tri yn y Brif Ddinas, a'r Hall tu allan ar ei dro. Medi yr 20fed, buwyd yn Hulme, Town Hall, Manchester, pryd y cafwyd dau gyfarfed hwylus iawn o rydd ymchwiliadau ar faterion perthynol i'r coleg. Yr hyn darawa yr ymwelydd wrth fyned i'rdref am y tro cyntaf ydyw y .trefnusrwydd gyda pha un y gwna Tramcars redeg trwy bob rhan o hoai, nid oes modd colli y ffordd os defnyddir ychydig o ofal i gadw at gyfeir- iad priodol. Saif yr Hall uchod i lawr yn isel yn Srettford Road, ap-ryw 200 troedfedd 0 dir Mae yn yr adeilad amryw ystafelloedd. tuag at wasan- aeth y rhan hono o'r dref. Yn y pen isaf iddo, ceir darllenfa rad, hollolrydd. i bawb. Dyma fantais miloedd o gyfrolau o lyfrau, a phapurau heb rif dim ond myned yno i yfed o honynt, beth pe bai bechgyn Cymru yn cael manteision fel yna? tybed na fyddant yn hir cyn gadael y Seison ar ol. Yn y Cyngor, daeth llawer o'r hyn fu o'r blaen mewn trafodaeth, megys, cymeryd ty yn Llundain at wasanaeth y coleg, gan fod Forest Gate yn anghyf- leus. liellach mae adeilad wediei sicrhau yn —w——1 n- Finsbury Square, a bydd yn barod ar fyr atrser i fyned iddo. Yn sicr, bydd yn gaffaeliad gwerth- fowr i gyfeillion y gyfundrefn, pan yn ymweled a'r Brif Ddinas, ac heb amser i fyned i lawr i Forest Gate. Cafwyd llawer o ymchwiliadau ar y tystys- grifau yn nglyn a'r cyfnewidiad presenol sydd i fod ynddynt. Gwneir i ffwrdd a'r RHYTHMS presenol it Elementary a'r Intermediate, a rhoddir llai o nifer o rai newydd ar y daflen y gofynion er yrnar- feriad yn unig. Bydd yr arholwyr yn cael lists i arholi, felly bydd y prawf mewn darllen ac amser yn hollol newydd i'r ymgeisydd. Rhwng y cyfnew- idiad hwn a sefydlu byrddau Ueol i arholi, bydd yna. dir holloi newydd i weithio arno, yn nglyn a'r gyfundrefn ddechrea y flwyddyn, Jubili y gyfun- drefn, pa un ddaw yn mlaen yn ystod yr haf nesaf. Bwriedir cael y cyntaf yn y Palas Grisial ar raddfa eang iawn, yna pob pentref a chwmwd i gynal eu jubili gartref; bwriedir felly roddi cymhelliad i holl gefnogwyr y gyfundrefn wneyd rhywbeth er cof am ei chychwyniad. Penderfynwyd gwneyd nifer o ffyddloniaid hynaf y gyfundrefn yn gynghorwyr dros eu bywyd (life Councillors) fel arwydd o barch iddynt yn flwyddyn y jubili. Nid oes neb yn fyw yn bresenol, ac sydd yn teilyngu mwy o barch na Robert Griffiths, rhyw fis sydd ganddo cyn treulio deugain mlynedd o'i oes yn ngwasanaeth y gyfun- drefn. Dyddorol iawn oedd ei glywed yn myned dros ychydig o'i hanes yn cychwyn dosbarthiadau yn Manchester, ddeugain mlynedd yn ol, heb yr un tal, ond o gariad at y gwaith. Mae'n wir mai Curwen ydyw sylfaenydd y gyfundrefn; ond y mae yn amheus a wnaeth gymaint dros ledaeniad y gyfundrefn ag y mae Griffiths wedi wneyd. Cymro genedigol o Gaerfyrddin ydyw, er iddo ymadael pan yn ieuanc iawn, mae ganddo ychydig o'r hen iaith yn parhau o hyd. Clywais ef yn adrodd yr hen benill Dechreu canu, dechreu canmol," &c., yn eglur iawn rai blynyddau yn ol. Wedi terfynu gwaith y coleg, eyfarfyddodd nifer o gyfeillion Mr Griffith, er penderfynu pa fodd i ddangos eu parch iddo. Penderfynwyd gosod Oil Painting 0 hono i fyny yn y coleg. Mae darluc o'r diweddar John Curwen yn y coleg yn barod. Heblaw yr Oil paint- ing, bwriedir rhoddi rhywbeth iddo ei hun fydd ar gael gan y teulu, er cof am ei lafur gwerthfawr. Derbynir cyfraniadau gan Mr George Merritt, 282, Commercial Road, London,E.—Sabboth yn y Ddinas —Y Cathedral yn y boreu, adeilad hardd, a chyn- ulleidfa luosog, rhai rhanau o'r gwasanaeth yn ddyddorol; ond ar y cyfan nid oedd y canu i fyny a safon y canu mewn lleoedd o fath y Cathedral, ac ystyried mai canwyr cyflogedig oedd yn gwneyd y gwaith. Ychydig iawn o'r gynulleidfa oedd yn cymeryd rhan yn y canu. Y prydnawn, yn y Central Hall, Cenhadaeth y Wesleyaid, adeilad yn Oldham Street, wna gynwys ryw 1,500 o eistedd- leoedd, ac a alwant yn Mission Hall. Gwnant gynal y gwasanaeth bron ar yr un dull a St. James' Hall Llundain, gan H. P. Hughes. Mae gan y gym- deithas hon Brass Band, a dau String Band, ac yn cynal eu cyfarfodydd nos Sabbothau, yn y Free Trade Hall. Yr oedd yr emynau wedi eu hargraffu a chael eu rhoddi yn rhad 1 bawb. Ar y llwyfan yr oedd String Band bychaD, 0 ryw ddwsin neu ychwaneg, gyda'r siaradwyr, pa rai chwareuent y tonau yn wir dda, y darnau eraill ddim cystaL Pawb yn uno yn y tonau, ac yn caou yn iawn befyd. Canodd merch yno ddwy gan, yn nghyd ag anerch- iad o ryw ugain mynyd, gan un Richard Johnson, yr hyn oedd yn amrywiaeth hapus iawn, pob peth yn gysegrediy. Wedi terfynu un o'r emynau, pa. un oedd yn cael ei chanu yn debyg fel ceir mewn ambell i gapel Cymraeg yn llawn a grymus, a string band yn gofalu am harmony, trodd fy nghyfaill ataf, pa un fu gyda'mi yn y Cathedral, ac sydd yn Eglwyswr o'i febyd, a dywedai This beats the Cathedral," eithaf gwir, ac yr unig reswm fod y bobl yn cymeryd mwy o ran yn y gwasanaeth, ae yn teimlo wrth ei wneud. Mae gan y gymdeithas hon 500 0 ddynion ieuane yn gweithio drosti yn eu cylch, er ceisio gwella pobl. Yn yr hwyr, aethum 1 gapel Cymreig, Booth Street. Yr oedd eu cyfar- fodydd blynyddol ar y Sul hwnw, pryd y gwasan- aethau y Parch. H. Rees, Sir Fon, a Miles, Aber- ystwyth. Nid oes genym a wgrym nad oedd yno siaradwyr iawn. Fe ddichen y buasai mesur mwy byr o dan yr amgylchiadau yh gwneyd yn well, gan fod y capel mor llawn o bobl. Ceir yno ganu cryf mewn ton wir dda, a phawb i weled yn uno yn y gan ond yn sicr, gallai fod mewn gwell amser. Pe gwnai yr hen frawd fydd yn blaenon y gan, fyned un sedd ries yn mlaeh, a throi ei wyneb tuag at y gynulleidfa, a chwareu amser ambell i don, pan deimlai gymysgedd amser, gorehfygai yr anhawader yn ddigon rhwydd. Yr oedd yr holl emynau wedi eu hargraffu, ac ar y seddau, felly gyda'r fath gyf- leusderau, gresya na fai y mwynhad uchaf yn cael ei gyraedd trwy y gan. Brynaman, D. W. LEWIS, F.T.S.C.

HEN GAPEL PENYSTRYT.