Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. BIRMINGHAM—G-wyl Lenyddol a Cherddoroly Cvmru.—Cynhaliwyd yr uchod yn y neuadd Ddir- westol Temple street, Llun, \tedi 29am. Llywydd- wyd gan Thomas Jones, Ysw.. a Dr D C Lloyd- Owen arweiniwyd gan Llew Llwyfo, yr hwn hefyd a wasanaethodd ya feirniad y dadganu. Gwnaeth yr hen wron ei waith yn foddhaol dros ben. Datganodd hefyd amryw weithiau yn > stod v cyfarfod. Datganwyd hefyd gan Mr W. Evans {Eos Teifl), Miss Nellie Pritchard, a'r Cor Undebol Cymreig, o dan arweiniad Eos Tèifi; gwasanaeth- wyd ar y berdoneg gan Misses Edmunds, o Gaernar- f on; Jennie Pritchard a Nellie Pritchard. Beirniad- wyd y cyfansoddiadau gan y Parchedigion Ben Davies, Bwlchgwyn; Hywel Edwards. Wheeler- street J Pritchard, Hockley Hill; a W Williams, Glyndyfrdwy. Ychwanegwyd llawer at ddyddor- deb y cyfarfodydd trwy i Begw Jones, Plas engan, wneud arddangosiad o nyddu yr hen droell Gym- reig, yr hyn yn ddiau fu yn foddion i dynu llawer i'r cyfarfodydd. Enillwyd y gwobrwyon fel y can- lyn :-Traetbodau, Hunanadnabyddiaeth," Miss Jennie Pritchard; "Anhebgorion Canu Corawl llwyddianus," Mr J Davies; "Pwysigrwydd o feithrin chwaeth at lenyddiaeth bur; englyn, y Cable Tram," Mr Robert Jervis (Gwynonwy; •cerddoriaetb, y cor am ddadganu "Gloria a Sanc- i ius," cor Soho, o dan arweiniad Mr W 0 Roberts, eynt o'r Borth, ger Aberystwyth; y pedwarawd, W O Roberts a'i barti deuawd, Mr E Jenkins ac Y, J Morgan unawd (baritone), Mr John Edwards; unawd (tenore), cydfuddugol, Mri J Morris a W Morris; am ddatganu "DyddiauHyfryd," rhan- wyd y wobr cydrhwng cor plant Wheeler-street, o dan arweiniad Lewis LI Davies a chor Granville street; unawd, "Can yr Eos," Miss Laura James a Mr Johnny Pritchard chwareu ar y berdoneg, Miss Nellie Murphy am y prif adroddiad, « Ym- son y Gwron "(Llew Llwyfo) a rhan 0 "Alun Mabon" (Ceiriog), Mri Alfred Watkin a John Hughes yn gydfuddugol; adrodd, Cofia Gymro actio'r dyn," Miss Laura James a Mr J Rhys Wil- liams Llythyrau at Rhieni, &c, Mr J Davies a Miss Lizzie Lloyd; am yr Hosapau a'r Slippers, Miss Lizzie Lloyd. Cafwyd cyfarfodydd llwydd- ianus.Y Brythoniaid.-Bydd y Proffeswr Owen M Edwards, Rhydyehain, yn anerch y gymdeithas uched ar y 14eg o Hydref, yn y Mason's College.— •Gohebydd. BRYN IWAN.—-Prydnawn Sul, Medi 28ain, talodd Ysgol Sabbothol Capel Iwan ymweliad a'i chwaer eglwys yn y He uchod. Saif Bryn Iwan ar fan uchel fel yr awgryma ei enw, mewn rhan orllewin- ol o sir Gaerfyrddin. Nid oes na rhamantusrwydd na thegweh o gylch y lie, ond nodweddir ef yn fwyaf neillduol gan olion dwylaw ein bynafiaid ar flurf hen grugian neu dyrau pridd yma thraw fel math o gofgolofnau i Frythoniaid dewrion y cyn- oesoedd. Llawer o ymholi a wnaed gan yr ym- welwyr mewn perthynas i'r tyrau hyn. I ba ddyben y codwyd hwy ?" meddent, "Ai i dros- glwyddo newyddion drwy osod arwyddion ar eu corynau ?" "Dichon fod gweddillion rhai o'r cewri yn gorphwys odditanynt," meddai arall. Gofyniad arall sydd heb ei ateb hefyd, H Pa fodd y daeth yr enw Iwan i gael ei gysylltu a chynifer oleoeddynycylchhwn?" Dichon y gwnai Mr Davies, C.C., Crug Iwan, ei ateb i foddlonrwydd. Wel, i fyned rhagom. Gwneid yr ysgol i fyny o ysgol Capel Iwan. yn nghyd a'r ddwy gangen, 'Tanglwst a Llwyndrain. Dechreuwyd drwy gana Flint (Dr. Parry). Yna adroddwyd Esaiah xxxiii. gan Misses M. A. Williams ac S. Davies yn rhag- orol. Nesaf canu Y pererin colledig (Mendels- sohn), ac ar ol i'r Parch. B. Davies ein gweinidog parchus, weddio, canwyd Coroniad (H. Davies, A.C.), gan y plant. Nesaf, adrodAodd y plant ran o'r bedwaredd benod o Matthew, ac holwyd hwynt gan y Parch. B. Davies. Yna. canwyd yr Hale- liwia Chorus (Handel). Penod pwnc yr ysgol •oedd 1 Cor., xii., sef penod y Cariad fel ei gelwir. Y chwe' adnod gyntaf gan y menywod a'r gweddill gan y gwrywod. Holwyd yn fedrus gan Dr. Jones, Trovidence, Pa., America. Cawsom y pleser o fwynhan gwasanaeth Mr Jones, o'r blaes, rai wythnosau yn ol, yn Capel Iwan, a da gan yr ysgol yn ddiau gyfarfod ag ef eilwaith, ar y Sul olaf iddo ef yn y wlad hon. Gwnaeth rai cyfeiriadau tyner cyn decbreu holi mewn perthynas i Bryn Iwan, fel y lie y dygwyd ef i fyny ynddo. Gan gyfeirio at fan neillduol yn y capel dywedai ei fod yn anwyl a chysegredig-lknddo fel y lie y teimlodd gyntaf dueddiad at gtifydd. Siaradai yn barchus am ei hen .athraw yn yr ysgol Sul, y diweddar Mr George Bowen, Nantglas, a phriodolai yr hyn a fu ef oddiar hyny hyd heddyw i'r cychwyniad da a gafodd 4rwy offerynoliaeth y gwr da hwnw. Ar y di- wedd canwyd yr anthem, Arglwydd chwiliaist ac adnabuaist fl." Yna diolchodd Mr Davies ar ran yr ysgol i eglwys y lie am ei derbyniad croesawgar o honom. Diolchodd hefyd i Dr. Jones am gymeryd ei Ie, am yr hwn y dywedodd nad oedd gan ein henwad neb mwy caredig a pharchus ar gyfandir mawr America. Amddiffyn y nefoedd fyddo drosto i'w ddychwel drachefn at ei deulu a'i bobl. Di- olchwyd i'r ysgol am ei hymweliad, ar ran eglwys y lie, gan Mr John Davies, stone cutter. Aeth yr ymwelwyr drwy y gwaith yn hwylus dros ben, a'r cariad hwnw y buom yn son cymaint am dano a gynyddo yn ein plith fel eglwysi fel y byddo ein gwaith yn gymeradwy yn ngolwg y nefoedd.-Ioan o Gilweunydd. CAERFYRDDIN — Ysgol Rammadegol Park-y- Velvet.—Da genym weled f od yr ysgol hon yn par- hau i fyned rhagddi flwyddyfr ar ol blwyddyn mewn llwyddiant ac enwogrwydd. Elenisaif yn dra uchel yn yr holl arholiadau yr anfonwyd ym- geiswyr iddynt. Er engraifft, yn arholiadau y Llywodraeth mewn Gwyddoniaeth a Chelfyddyd (Science and Art), gwelwn fod 76 wedi enill tyst- ysgrifau, a bod 44 o'r cyfryw yu ydosbarth cyntaf (first-class). Mewn Physies pasiodd 19, ac yr oedd 14 o honynt yn y dosbarth cyntaf. Mewn Physio- graphy pasiodd 23, ac yr oedd 16 o honynt yn y dosbarth cyntaf. Yn arholiadau y College of Pre- ceptors parotowyd ymgeiswyr ar gyfer y 3ydd, yr 2il, a'r dosbarth cyntaf i gyd. Pasiodd 17, 50 per cent, yn y dosbarth cyntaf; 35 per cent. ya yr ail ddosbarth a dim ond tri yn y trydydd dosbarth. Yn larholiadau Ileol Cambridge eisteddodd un o'r ysgol hon, a daeth allan yn llwyddianus gyda senior honours. Hefyd pasiodd 2 arholiad jPharma- ceuticalSociety ar y cynyg cyntaf,ac y maent ynawr ar eu ffordd i dd'od yn chemists—un i Brifysgol Edinburgh i ddechren ei yrfa fel myfyriwr medd- ygol, ac un arall drwy ddrws cyfyng y Bane, ar ei ffordd i gyfoeth a safle gymdeithasol. Wrth gyfrif yr oil, cawn fod CANT namyn dau o ymgeiswyr wedi eu parotoi ymllwyddianua gan Mr Cerridfryn Thomas yn ystod Xflwyddyn ddiweddaf; ac y mae hyn yn ddiameu yn teilyngu sylw ac ystyriaeth hyn yn ddiameu yn teilyngu sylw ac ystyriaeth rhieni ac eraill sydd a gofal addysg bechgyn yn eu dwylaw. Dymunwn bob llwydd i Cerridfryn yn ei yni a'i ymdrech i gael bechgyn yn mla.en yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth.-Goh CAEESYBI.— Y Tabernacl Newydd.—T)iwg fydd gan garedigion crefydd ddeall am y sefyllfa adfydus y mae yr achos mawr ynddo ar hyn o bryd yn yr eglwys uchod. Ers tro bellach dechreuodd an- nghydwelediad poeuus rhwng y gweinidog a.'r eglwys, aeth amryw o'r aelodau i ffwrdd, a chre- wyd teimladau digofus rhwng gwahanol deuluoedd a'n gilydd. Nos Sabboth cyn y diweddaf, ar der- fyn y cyfarfod gweddi oedd wedi ei gynal i erfyn am dywalltiad o'r Ysbryd Glan, cafwyd ymdrafod- aeth faith parthed costau brawd oedd wedi ei an- fon ar neges arbenig i Lundain. Arddanghosid ysbryd annheilwng. Siaradwyd geiriau bryntion am gymeriadau pur a dilychwin. Gao mwyaf oymerwyd rhan gan y rhai hynynachlywydeu llais erioed wrth oisedd gras, ac na chafwyd gair o broflad crefyddol o'u genau. Wedi ymladdfa ffyrnig torwyd Mr Thomas Williams o fod yn drysorydd yr eglwys. Un o ffyddloniaid yr achos o'i ddechreuad ydoedd ef, ac wedi sefyll yn gadarn dros ei Waredwr. Y mae y dref yn cydymdeimlo a Mr Williams. Diau y clywir rhagor eto am yr helynt hwn.—Anibynwr. I CAPEL SEION, CWMAFON.—Darlithiwyd yma noa Iau gan Cynonfardd ar "Araethyddiaeth ac Hyawdledd." Yr oedd ty ddarlith yn mhob ystyr yn deilwng o'r testyn a'r darlithydd. Cadeiriwyd gan E Phillips, Yaw., Maer Aberafon, yr hwn a draddododd anercbiad cryno a phwrpasol ar yr achlysur. Teilwng yw nodi hefyd ddarfod iddo gyfranu haner giai at dreuliau y ddarlith. CEiNEWYDD.—Nos Si), Hydref 5ed, gwnaeth y Parch. D. Jones yn hysbys ei fwriad o roddi gofal gweinidogaethel y Towyn i fyny. Hysbys i holl ddarllenwyr y Celt fod Mr Jones wedi bod ar ym- weliad ag America yn ddiweddar, fel y profa ei ysgrifau doniol yn y Celt wythnos ar ol wythnos. Tra yno cafodd gymhollion taer i ymsefydlu mewn tair eglwys, ac mae wedi penderfynu bwrw ei goel. bren yn eglwys fawr a dylanwadol Hyde Park, Scranton. Yn ystod saith mlynedd ei arosiad yn Ceinewydd, mae Mr Jones wedi profi ei hun yn bregethwr cymeradwy, yn weithiwr difefl, ac yn fcgail hynod o ofalus, bob amser yn bresenol yn nghyfarfodydd wythnosol yr eglwys, yr ysgol Sul, &c. Bwriada Mr Jones ymadael rywbryd yn mis Rhagfyr, a gobeitbio ybydd yn ddedwydd a der- byniol yn ei gylch newydd a phwysig yn ngwlad eang y Gorllewin.—Shon Quilt. COLWYN BAY.—Nos Lun, y 29ain cynfisol, yn addoldy yr Anibynwyr Cymreig, bu y Parch. J. r p, Evans, Henryd, yn traddodi ei ddarlith ar Ap Vychan." Nid yw darlith fel rheol yn boblogaidd iawn yma, ond erhyny cafodd Mr Evans gapelaid o b6bl i'w wrando, a'u tystiolaeth unol ydoedd fod hon y ddarlith oreu a wrandawsant er's llawer o amser. Mae efelychiad y darlithydd o'r diweddar Barch. R. Thomas yn ei ddwyn yn fyw ger eich bron. Os am gael syniad byw o'r marwol anfarwol Ap Vychan, myner clywed Evans, Henryd, yn darlithio arne. Y Parch. John Edwards, gweini- dog y M.C. Seisnig oedd y cadeirydd. Cafwyd swm sylweddol o elw oddiwrth y ddarlith tuag at ddyled y capel.—Colwynison. GLYN EBBW.-Dydd Sadwrn, y 27ain cynflsol, claddwyd Mr Pope, Waenlwyd. Cadd ei ddiwedd yn y Graigfawr. Pan oedd ef yn gweithio ar waelod, y pwll, syrthiodd carreg ar ei ben, a lladdwyd ef yn y fan. Yr oedd yn fachgen da a duwiol yn ddiddadl, yn aelod selog iawn gyda'r Salvation Army. Yr wyf yn credu na welwyd y fath dorf o bobl mewn angladd erioed o'rblaen yn y lie. Am ei weddeidd-dra a symlrwydd wrth gerdded yr oedd yn eithriadol-dynion annuwiol fel pe wedi eu syfrdanu, oblegid yr oedd bywyd a bucheddMr Pope mor hynod. Y mae yn golled anrhaethol i'w anwyl fam, yr hon sydd yn weddw.Dydd Sul, yr 28ain cynflsol yr oedd yn ddydd o weddio trwy lawer iawn o'r wlad am i'r Arglwydd dywallt yr Ysbryd Glan ar yr holl eglwysi, ac yn ddiamheu eawsom bedwar cwrdd, a rbanwyd hwy fel y can- lyn :-Am 9 y brawd T. Jones yn dyweyd gair ar bwnc y cyfarfod, sef, Ymostyngiad am 10 y brawd D Jones yn egluro pwnc y cyfarfod, sef gweddio am Dywalltiad yr Ysbryd Glan ar yr Eg- lwys am 2 y brawd T A Davies yn egluro testyn y prydnawn, sef gweddio am lwyddiant ar yr Ya. gol Sul; ac am 6 yr hen dad David Thomas yu agor y cyfarfod trwy ddyweyd maey pwnc pwysig o weddio dros y gwrandawyr a'r gwrthgilwyr oedd i fod, ac yr oedd yn amlwg iawn fod yr Ysbryd Glan yn disgyn yn ein plith. Gobeithiaf y cawn weled cynhauaf toreithiog trwy y wlad yn gy- ffrediuol ar ol y fath weddio taer.-Bethel, Victoria.-Yr oedd yn hyuod dda genyf weled fod yr eglwys hon wedi cael gweinidog—dyn ieuanc gobeithiol iawn, sef Thomas Price. Credaf mae o'r Nelson y mae, oblegid gwelais eu bod hwy wedi cynal cyfarfod gyda'r Band of Hope er dymuno yn dda iddo yn ei le newydd. Bendith ar eich pen, yr oeddwn bron tori fy nghalon wrth feddwl fod Cwm Ebbw heb yr un gweinidog, ond dyma dde- ehreu, sylwaf eto ar Bethel. Caersalem, Vic- toria.-Y mae yn llawenydd mawr genyf gofnodi lam y wedd fendigedig sydd ar yr eglwys hon. Y mae dyfodiad Mr Hughes i'r lie yn achos o fywyd newydd—Ysbryd Duw yn amlwg yn eu plith. Dydd Sul nesaf, os deallais yn iawn, y mae tua 16 i gael eu bedyddio gan Mr Hughes. Diolch am new- yddion mor dda. 0! mae yn gysur i eglwys fod o dan y fath ddylanwad a hwnyua-dynion yn d) fod i waeddi am le yn y ty. Ysbryd Duw ymwelo yn fwy amlwg yn eich plith, hyd nes bod eich cysegr yn myned yn rhy fach. Y mae yn ofldus genym glywed am ofid a galar y Parch R E Jones, gweinidog y Bethgar. Y mae ei aawyl dad wedi marw. Mae yn debyg mae yn Fflint yr oedd tad Mr Jones yn aros. Yr oedd wedi ei gystuddio er's cryn tipyn; ond ei le nid edwyn mo hono mwy. Yr wyf yn sicr fod llu yn cydymdeimlo a Mr Jones, oblegid y mae yn ddyn mor gariadus, mor hynaws, ac mor barod I wneud daioni, Yn sier i chwi, nid anghofia yr ysgrifeaydd am garedig- rwydd y gwr da hwn. Ailagoriad Capel Wes- leyaidd Seisnig James Street.-Dydd Sul, yr 28ain cynflsol,os oes unrhyw le a ddylai gael ei wneud yn ogoneddus, Ty yr Arglwydd yw y ty hwnw. Yr wyf yn hoffi yn fy nghalou gael capel hardd, felly hwn-y mae wedi ail wneud yn arddercbog. Pre- gethwyd trwy y dydd gan y Parch J H Morgans, Birmingham, yn nerthol a dylanwadol iawn, a chasglwyd dros 6lp. Rhai iawn am gasglu yw pobl James-street. Eisteddfod Fawr Bethgar, Dydd Llun 29 cynfisol.-Cynaliwyd hon eleca eto gyda rhwysg mawr a llwyddiant mawr hefyd, dyna sydd yn dda. Llywydd y dydd Mr D Evans; beirniaid y canu Tom Price, G.T.S.C., Merthyr; y Parch T Mydyr Evans, Brynmawr; yr adrodd- iadau a'r cyfansoddiadau (Peronydd), W J Evans; Cadeirydd y pwyllgor, Parch R Emrys Jones, gweinidog trysorydd, John Evans; ysgrifenydd, J E Williams, Willow Town. Cafwyd cystadl- euaeth rhagorol. Enillwydygwobraufelycan- lyn :-Cor Brynhyfryd y goreu ar Hanes Joseph, Miss Daughton; adroddiad y 23 Psalm, J R Davies; Win and Wear," rhanwyd rhwng J R Davies a Miss Hhydderch, Blainau ar "The Blood of the Lamb," Miss Walters ar Come," o Sankey s, Frauds James; Y Golomeu Wen," Polly Davies, Cendl; •« The Lost Chord," M E Jones, Clydach