Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
- ENGLYNION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENGLYNION ANERCHIADOL I IKENHINES BOUMANIA, Barddones ebrwydd wena-yn enw Brenhihes Roumania A mawl hon a amlha, I Gwir reddfol gor y Wyddfa. Mynwes eilfydd Carmen Sylva,-feithrin Gyfathrach a Gwalia; Dynoliaeth gyd-anwyla, p'r uo ddysg a'r awen dda. Ei hymweliad a'n hymylau,-hyglyw Siglodd ein mynyddau; Do'i breiniol wlad y bryniau t A m6r o hwyl i'w mawrhau. Daw adnerth i Landudno-o ddawn sydd Yn sedd ar ei chroeso A'n plant a gadwant ar go Eneiniad y dewin bono. GWALCHMAI.
UNDEB CYNULLEIDFAOL LLOEGR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB CYNULLEIDFAOL LLOEGR A CHYMRU. GAN D. S. D. i Bernais y byddai yn dda gan dderbynwyr y Celt gael adroddiad neu sylwadau gan uno honynt eu hunain am yr wyl fawe hon. Yr oeddwn yn bwriadu bod yroa yn gynar dyddLlun i dderbyn" y Saeson i mewn ilr dref. Ond daethai y Dr. Gwynn I Jones o Lacharn ataf i erfyn arnaf ddyfod yno i draddodi pregeth mewn cysylltiad a sylfaeniad eu capel newydd dydd Llun di- weddaf. Aetbum yno, a da genvf hyny yn awr. Maent yn adeiladu eu capel newydd yn y He hard^af yn y dref, a daethant i feddiant o'r lie mewn dull na ellir ei alw yn ddim ond yn rhagluniaethol. Bydd eu capel newydd, pan orpbener, yn werth beutu mil o bunoedd. Anturiaeth fawr mewn lle mor fychan. Ac wrth wasanaethu y frawdoliaeth yn Lacharn nos Lun, nis gallwn ddyfod i Abertawe mewn pryd i wrando anerchind y Cadeirydd bore dydd Mawrth. Cefais yr hyfrydwch o'i darllen yn yr Independent, ac wrth reswm cefais fwy o amser i'w myfyrio. Ei thestyn yw, "Yr elfen fydol yn ein bywyd Eglwysig." Y mae yr awdwr yn ddoniol iawn.. Mae yn fwy nacaol nag o gadarnhaol. Ei ystyr wedi ei ferwi i lawr yw na ddylid disgwyl i JEglwys Crist lymodraethu yn holl bynciau a dadleuon cymdeithas. Nad oes eisieu i Eglwys Grist, fel y cyfryw, draethu ei barn ar bob petb ag sy yn cyffroi cymdeith- as. Mae yn addysg gyffredin yn awr na ddylid dysgwyl pob peth oddiwrth y Sen- edd. Felly hefyd yr oedd ein Cadeirydd yn dysgu na ddylid dysgwyl i'r Eglwys ym- gymeryd a threfnu pob symudiad angen- rheidiol mewn cymdeithas. Geryddol a gochelgar oedd yr anerchiad—a dichon fod gwir angen am y fath driniaeth. Nos Lun am haner awr wedi chwech yr oedd Mr Berry, Wolverhampton, yn pre- gethu yn ngbapel Walter's Road, ac am wyth cyfarfoddirwestol yn neuadd Aloert. Mae son mawr am y cyfarfod dirwestol, yn enwedig araeth James Cregan, Belfast. Am y bregetla gan Mr Berry yr oedd cryn am. rywiaeth barn. Addefent 011 ei fod yn dda o ran mater ond ei fod yn rhy Seisnig ei ddull, a bod y diwedd yn lied ddifywyd. Cefais inau gyfleusdra i weled a chlvwed Mr Berry ddwy neu dair gwaith ond nid mewn cysylltiadau a roddent i mi ddefnydd. iau i ffurfio barn am dano. Rhaid aros am hyny hyd ryw dro arall. Ar ei olwg allanoi ni fuaswn i byth yn disgwyl rhyw lawer oddiwrtho. Nid oes dim yn ei ymddangos. iad na'i symudiadau i arwyddo y carai nac y gallai osod y byd ar dan. Dydd Mawrth. Ar 01 anerchiad y Cad- eirydd darllenwyd papyrau ar "North a chynydd Cynulleidfaoliaeth yn dibynu ar ffyddlondeb ymarferol i'r egwyddor Gyn- ulleidfaol (a) yn yr eglwys amiibynol, gan Mr Simon, Leicester ac (b) yn mherthynas yr eglwysi a'u gilydd gan Mr Pearce, Sheffield. Parodd y dciau hyn dipyn 0 dramgwydd. Adolygwyd hwynt gan Mr J. Guinness Rogers a Dr-Mackennal. Cwyn- ent fod y ddau bapyr wedi dal gormod ar yr ochr dywell i'r drefn gynulleidfaol, ac y bydd rhywrai eto yn gwneud camddefnydd o'r addefiadau hyn Yna darllenwyd pabyr gan Mr Woods, Llundain ar Pa fodd i gadw yr ieuengtyd dan ddylanwad yr eg- lwysi pan e!ont oddicartref i'r trefi mawr. ion," a phapyr arall ar Cyflafareddiad rhwng-genedlaethol," gan Mr Gledstone, o Lundain. A bu cyfarfod mawr yn yr hwyr i egluro a phleidio egwyddorion Eglwysi Rhyddion. Cyfarfod ardderchog oedd hwn. Diwrnod llafurus a bywiog ydoedd o'r bore hyd yr h vvyr. Dydd Mercher. Darllenwyd papyr gan Proff. Adeney (New College) ar 11 Crist a phynciau eymdeithasol y dyddiau hyn," ac un arall gan Dr. Mackennal ar t; Ar- wyddion lledaeniad y lefain Cristionog)l yn y bywyd cenedlaethol." Parodd h wn gryn gyffro ond dim i'w gymharu a'r papyr nesaf ar Ddadgysylltiad yn ei gyfeiriadau cre- T fyddol," gan ein Dr. John. Dyma'r unig bwnc ag yr oedd yr holl gynulleidfa fawr yn llawn o'hono. Ac yr oedd y papyr a ddar- llenwyd yn un o'r rhai mwyaf trefnus a glybuwyd erioed ar y pwnc. Yr unig beth arall o wir bwys a dyddordeb a fu ar hyd dydd Mercher oedd cyfarchiad gweinidogion eglwysi rhyddion y dref Yr oedd hyn yn un o'r pethau mwyaf brawdol acanwyl a welais yn fy mywyd. Ac ni bu erioed Gadeirydd mwy hynaws a galluog a hunan- feddianol i'w derbyn. Yr oeddwn yn lla- wenhau fod yspryd Crist yr hwn oedd yn- ddynt yn en gorfodi, megis, i ddyfod at eu gilydd a chydlafurio. Nid oedd yr eglwysi sefydledig yn croesawu. Ac nid rhyfedd. Yr oedd yr Undeb Cynulleidfaol o'r dechreu i'r diwedd yn ergydio ar yr Eglwys Wladol yn ei hegwyddor a'i harferion. Aeth pawb i'w ffordd ei hun ar hyd y prydnawn. Yn yr hwyr daeth yn betrusder arnaf i ba le yr awn ? Neuadd fawr Albert, neu i gapel St. Paul ? Yn y neuadd y testyn oedd y Guilds difyrion, neu chwareuon, i bobl ieuainc dan ofal y Gweinidogion a'r Diaconiaid. Yn y capel y testyn oedd y -Genhadaeth gartrefol, a ehynorthwyo yr eglwysi gweiniaid yn y pentrefi Seisnig. Penderfynais fyned yno. Cefais gryn siom- edigaeth. Cynulliad bycban, difywyd, ac areithwyr cyffredin iawll. Dywedodd y Cenhadwr cartrefol o Yorkshire, y byddai gormod o I" yn ei araeth, gan mai ad- roddiad o'i lafur am bum mlynedd a ofyn- wyd ganddo eiroddi. Mae gan y Gymdeithas chwe' chant o'r cenhadau byn. A dywedai Mr Mearns, yr Ysgrifenydd, fod yn rhaid i'r eglwysi wneuthur defnydd mwy nag erioed o'r arfogaeth hon. Don't be back- ward in coming forward," meddai, or you will be behind as you were before." Yma, yn ddiarwybod i mi, eisteddais wrth ochr Mr T Allen Reed, yr,ysgrifenydd buan- af yn Mhrydain. Efe a fu yn offeryn i godi cyfundrefn Mr Pitman i fri. Ni ddechreu- odd Mr Pitman lwyddo nes cael gafael yn y dyn hwn. Yna wedi oes o haeru a phetruso a threulio ac ymdreulio, dechreuodd Llaw Fer Pitman gaelsylw cenedlaethol. Heed yw enw y dyn ond nid corsen ydyw. Ei fab oedd yn gwneud y gwaith caled y tro hwn. Wrth gwrs mi gefais i lawer o fwynhad yn nghymdeithas dyn mor alluog. Buom gyda'n gilydd dranoeth drachefn. Cefais ar ddeall fod cyfarfod y neuadd yn un llawn a brwdfrydig anarferol. Alfred Thomas (B.) A.S. oedd y cadeirydd. Y tri