Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL O'R DE.

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL MON. Cynhaliwyd yr uchod yn Beaumaris, Hydref 13e<* a'r 14eg. Yn absenoldeb y Parch H. Rees, y cadeirydd am y flwyddyn, llywyddwyd gan Mr Hugh Thomas, Y. H. Beaumaris. 1. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y gynadleddo'r blaen. 2. Cafwyd sylwadau ar y gymanfa ganu. Cadarnhawyd gweithrediadau y pwyllgor dewisol. 3. Daeth y rhan fwyaf o'r addewidipn at gapel Bqdedern i law, gan ddymuno ar i'r cyfeillioa eraill sydd wedi bod mor garedig ag addaw, gyflawni eu haddewidiou mor fuan a& y byddo modd, fel y gallo yr arian gael eu talu i fyny yn fuan. 4. Ar ol ymgyng- horiad am beth amser a'r eyfeillion cerddorol ynyr Ynyo, yn wyneb y ffaith fod ein Llyfr Tonati mor ddrud, a'r rhan gyntaf ohono yn colli ei flas, yr ydym yn penderfyna yn unfrydol fod ein hysgrifenydd i anfon at bob Cyfundeb Cymreig yn y Dywysogaeth, i ofyn iddynt gydsynio i benodi dau gynrychiolydd o bob cyfundeb i gyfarfod yn yr addoldy Cymreig yn yr Amwythig i ystyried y mater, ar y lOfed o Dachwedd, 1891. Yr oedd yn lIon genym dderbyn penderfyniad oddi wrth ysgrifenydd Cyfarfod Chwarterol Meirion yn cadarnhau ein cynllun. Cynygiwd aceiliwyd yr uchod, gan y Parch E. C. Davies, B. A., a W. Williams, Tyddyullywarch, Cana. 5. Cynygiwyd gan y Parch O. M. Jenkins, B. D., ac eiliwyd gan y Parch H. S. Jones, Bodffordd, I- Ein bod yn anog yr eglwysi mewn modd taer a difrifol i gyfranu yn flynyddol rhyw swm at Gymanfa Ddirwestol Mon; fod yr achos yn deilwng o gefnogaethyr boll eglwysi." 6. Wedi darllen llythyr ysgrifenydd Cyfarfod Chwarterol Gogledd Arfon, yn cyflwyno y Parch R. P. Williams i sylw a gofal ei Fam Ynys cynygiwyd ,eiliwyd, a chefnogwyd, gan amryw bersonau yn wresog:" Ein bod fel Cyfundeb yn rhoddi derbyniad croesawgar i'n plith y Parch R. P. Williams, ar ei ddyfodiad i ymgymeryd a gofal hen eglwys barchus y Tabernacl, Caergybi, gan ymlawenhau yn ddirfawr wrth weled ua o feibion cedymyrYnys yn dychwelyd adref, hyderwn i aros bellach, ac y bydd o dan fendith y nef i'r eglwys o dan ei ofal, ac hefyd yn gynorthwy i'r sir yn gyffredinol." 7. Cafwyd gan Mr A. Me Killop, C.S., gyfrifon boddhaus o gasgliadau yr eglwysi am y flwyddyn tuagat achosion gweiaiaidy sir, &G. 8. Ein bod fel cynhadledd wedi gwrando ar bapur galluog y Parch E. C. Davies, B.A., Ar y modd goreu i feithrin ysbryd crefyddol yn yr eglwysi," yn dymuno yn daer ar iddo ei gyhoeddi, modd y gallo eraill yn y sir nad oeddynt yn breseaol, yn gystal ag eglwysi y tu allan i'r Ynys, gael cyfleusdra i'w ddarllen. Profiad pawb oedd yn gwrando ydoedd, fod y sylwadau yn gryf, yn wirioneddol, ac yn hynod amserol. MODDION CYHOEDDUS. Am saith o'r gloch y noson gyntaf, dechreu- wyd gan y parch R. P. Williams, Caergybi. Yna cafwyd anerchiadau ar y Gensdaeth gan y Parchn J. S. Evans, Cemaes, ac 0. M. Jenkins, B.D. Llangefni, y cyntaf Ar rwymedigaeth yr eglwysi tuagat y Genadaeth Dramor," a'r olaf" Ar sicrwydd llwyddiant yr efengylyn ngoleuni arwyddionyr amserau." Am ddeg o'r gloch dranoeth, dechreuwyd gan y Parch J. Williams. Pregethwyd gau y Parchn W. Davies, Sion; ac R. Deiniol Jones, Pen- traeth. Am ddau o'r gloch dechreuwyd gan y Parch J. S. Evans. Pregethwyd gan y Parchn 0. M. Jenkins, B.D., a J. G. Jones, Caaa. Am chwech o'r gloch, pregethwyd gan y Parchn R. P. Williams, Caergybi; ac H. Rees, Bryngwran. Sirioldeb mawr i'r cyfarfod chwarteroLoedd cael talu ymweliad a Beaumaris unwaith eto yn ei dro, nid yw wedi bod yno er's llawer blwyddyn. Gresyn fod cynifer o'r frawd- oliaeth wedi tori eu calonau y tro hwn. Pellder ffordd, yn nghydag amgylchiadau eraill gadwodd amryw frawdoliaeth ffyddlonaf rhag troi i fyny, ni gredwn. Derbynied yr eglwys barchus yn Beaumaris, yn nghyda'r gweinidog y Parch D. Johns, ein diolchgarwch mwyaf diffuant am eu derbyniad deilwng. Cemaes. J. S.EVANS, Ysg.

Family Notices

[No title]