Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL O'R DE,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL O'R DE, [GAN AP Y IFBENI FACH.] Dyddorol iawn oedd darllen adroddiad o weithrediadau cyfarfodydd blynyddol y gwahanol Gynghorau Sirol a gynhelid dydd Gwener diweddaf. Rhoddai hyn i ni drem gryno ar yr haner Ymreolaeth y mae y wlad eisoes wedi gael a'r gwelliantau lluosog y mae hyny wedi eu ddwyn oddiamgylch fel y mae yr awenau yn dyfod yn raddol i law y werin! Yn y Cynghor Sirol v mae yr ar. glwydd a'r gweithiwr yn union ar yr un tir, a gwel y gwahanol urddasolion ydynt wedi arfer hyd yma ddal yr holl swyddi breision, fod yn rhaid iddynt hwy brofi bellach y meddant ryw gymhwysderau heblaw cyfoeth a safle ar gyfer y swyddi hyn. Y mae mawrion y tir hyd yma wedi bod yn bur hael ar bwrs y wlad pan yn penderfynu cyflogau eu gilydd. Gwelwyd yn Nghynghor Mor- ganwg na cha pob swyddog godiad yn ei gyflog o byn allan heb reswm da paham. Yr oedd yno ddau swyddog a dderbyniant ganoedd lawer o bunau yn y flwyddyn yn gofyn am godiad. Ond nld heb gryn ddad- leu y cawsant eu ffordd. Y Cynghorvdd David Davies, o Ferthyr, a darawodd yr hoel ar ei chopa pan ddywedodd, os nad oedd y swyddogion hyn yn cael digon o dal mai gwell fuasai iddynt ymddiswyddo ar unwaitb. Tybed fod yna neb bellacb a feiddia aw- grymu nad oes gan Wleidiadaeth ddim i'w wneuthur a'r Cynghorau Sirol. Felly y dy- wedai llawer o Doriaid, ac ambell Rydd- frydwr mewn enw yn adeg yr ethoJiad. Y mae yna rai pynciau, er nad oes ganddynt ddim i'w wneuthur a gwleidiadaeth yn un- iongyrehol, a beoderfynir yn union yr un modd yn mhob lie y mae Toriaid yn y ttiwy- afrif, a hyny yn groes i'r modd y pender- fynir hwy gan Ryddfrydwyr. Cymerer er engraifft yr arian a dd'ont i fewn oddiwrth y diodydd meddwol yn ol darpariaetb deddf ddiweddar y trethiad lleol- Y nM rycneiniog 109 a Maesyfed y Toriaid sydd yn y mwyafrif. Penderfynasant hwy mai pwysicach oedd defnyddio yr arian i ostwng y dreth nag i addysgu y tlawd. Yr holl gynhorau eraill yn y De a droisant yr arian i gynorthwyo achos addysg. # :II: :If: Cafodd Cynghor Sirol Ceredigion brawf ymarferol dydd Gwener, fod Cynghor Sirol Morganwg mewn perffaith gydymdeimlad a hwy yn eu penderfyniad Rhyddfrydig a'u dygasant i wrthdarawiad pendant ag ewyllys gaeth yr Ysgrifenydd Cartrefol. Pasiodd Cynghor Morganwg benderfyniad yn con- demnio gwaith yr Ysgrifenydd Cartrefol yn gwrthod cadarnbau apwyntiad y cynghor o'r diweddar (erbyn hyn) Sergeant Evans yn brif gwnstabl y sir. Yn uniongyrchol nid oes a fyno y naill gynghor a'r Hall, ond yn anuniongyrchol y mae. 1 mae o bwys i'r awdurdodau goruchel ddeall ar unwaith fod Cymru yn benderfynol o fynu Ymreolaeth rinweddol, pa beth bynag a ddewiso y Lly- wodraeth ei galw. A da y gwna Cynghor Morganwg arloesi y ffordd ar gyfer yr adeg y byddont hwy eu hunain mewn cyffelyb amgylchiadau. Myn Cynghor Sirol Ceredigion fod yn wreiddiol yn mhob peth bron. Newidiasant hwy eu cadeirydd y flwyddyn hon yn wa- hanol i'r holl gynghorau ereill. Dewiswyd 0 y Mr Levi James, Aberteifi, yn lie Mr Peter Jones. Cafodd y blaenaf fwyafrif o un ar yr olaf. Rhyddfrydwyr yw y ddau. # # Dewisodd Cynghor Sirol Caerfyrddin, Mr D Rixon Morgan yn drengholydd yn lie y diweddar Mr George Thomas. Mab i'r di- weddar Proffeswr Morgan yw Mr Rixon Morgan. Nid yw mor llithrig ei dafod a'i frawd Mr Lloyd Morgan, A.S., ond gwna drengholydd rhagorol. Wele Ryddfrydwr ac Ymneillduwr arall mewn swydd sydd wedi ei dal yn gyffredin gan Doriaid ac Eg- lwyswyr. Dyn yn y Rbondda yr wythnos ddiweddaf a yfodd ei hun i farwolaeth. Gwna miloedd hyn bob blwyddyn ond yn yr achos hwn daeth y terfyn yn sydyn, ac mewn modd nad oedd dadl nad pethau meddwol ai lladdodd. Cafwyd ef yn farw'yn y dafarn. Mawr obeithiaf y gwneir y defnydd eithaf o'r di- gwyddiad i ddadienu yr arferiad a ffyna mor gyffredinol o roddi faint fyd a fyno o wirodydd meddwol i un gan nad pa mor feddw bynag y byddo ar y pryd.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Pontypool.—Eglwys Gymraeg.—Owyl Do.- Mwynhaodd deiliaid yr eglwys hon yn nghyd a'i chyfeillion wledd iawn o de a bara brith dydd Llun, Tachwedd 3ydd. Bu y boneddigesau can- lynol yn brysur yn gweini ar y llu vfwyr a bwyta- wyr am bedair awr o amser-Misses L M a C Evans, A Thomas, R Davies, Williams, Evans, M a Ph. Cunningham, a llu ereill. Am haner awr wedi saith, cafwyd cyfarfod adloniadol. Tystiolaeth pawb a fu yn arcbwaethu y danteithion corphorol a meddyliol oedd eu bod yn rhagorol. Melus, moes eto meddent.-Un o'r mwynhawyr. St. Jacobs Oil Is the grandest remedy in the world. It conquers pain always quickly and sorely, it penetrates deep. It acts like magic. It relieves pain at once. No waiting. No dosing with quantities of medicine. It is an outward application, harmless and sure. Endorsed by Lady Florence Dixie, Right Bev. Bishop Richardson, Henry Tollemache, M.P., the Rev. W. J. Caulfield Brown, M.A., the Bev. Edward Singleton, M.A., D.D., and thousands of others equally prominent. No other medical discovery since the world began has ever received such strong endorsement as St. Jacobs Oil, 1 No person hereafter need suffer from Bheomatio 01 Heiuralfiio pains. lor St. Jacobs Oil conqaers paia.
GWIN Y CYMUNDEB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWIN Y CYMUNDEB. GAN MR D. TF. DAVIS. Gan fod dirwest ac yn enwedig cwestiwn, y fasnach feddwol yn dyfod yn bwnc pwysig iawn yn y whdwriaeth yn y dyddiau presen- ol hyn, oni fyddai yn ddoeth i eglwys Dduw o bob enwad ynNghymru i ymwrthoda'r gwin meddwol yn y Cymun? Mae yr arferiad yma wedi bod yn graig rhwystr i lawer meddwyn dychweledig, ac wedi bod yn achlysur i ddi- huno ei hen chwant llewaidd, yr hwn a ysgubodd yr hoik ragfuriau ydoedd wedi godi o'i ddeutu, gan ysgubo y dyn truenus, drachefn i drobyllau meddwdod yn y byd hwn, ac i gartref y meddwon yn y byd mawr tragywyddol. Yr oedd chwant dilywodr- aeth y dyn wedi ei ddofi a'i gaethiwo drwy arfer dirwest, a thrwy allu cadwol yr efengyl, ond wedi iddo gael bias drachefn yn y Cymun ar yr hylif a arferai ei gaetbiwo dan gaethiwed pechod a drygioni, torodd byny argaeau ei benderfyniad, tebyg i anifeiliddd ysglyfaethus yr anialwch a ddofwyd gan rai dynion, ac a fuont yn ddiniwed am flynydd- oedd, ond pan gawsant flas gwaed daeth yr hen natur ysglyfaethus yn ol iddynt. Darfu i wr bonhecfdig ddwyn i fyny ddau lewpard y rhai a'i dilynent fel cwn, ond ryw ddiwrnod dechreuasant lyfu cefn ei law, a llyfasant hi nes iddynt gael bias gwaed, ar unwaith ym- afaelodd eu hen natur ffyrnig ynddynt, a galwodd eu meistr am law-ddryll i'w saethu, ac ar yr un pryd yn goddef iddynt lyfu ei law, er mwyn achub ei fywyd felly y mae rhoddi gwin meddwol i feddwyn dychweledig yn y Cymun yn naturiol iawn yn codi ei hen flys o'i wal, ac yn gwneuthur diwedd y dyn hwnw yn waeth na'i ddechreuad. Nid wyf yn dyweyd fod hyn yn canlyn bob amser, eithr y mae genym engreifEtiau o hyn, yr hyn sydd yn anfri oesol ar swyddogion eglwys Dduw, am na buasent yn rhag- flaenu digwyddiad o'r fath drwy arfer gwin anfeddwol yn y Cymun, gan fod digon o hono i'w gael; gwna ym- arfer gwin meddwol yn y Cyaiun amgylch- ynu diodydd meddwol a math o gysegredig- rwydd, yr hyn a wna ymatal oddi wrthynt yn fwy anhawdd i fechgyn a genethod ieuainc; gallant ymresymu a dyweyd, wedi holl dwrw dirwestwyr, yn ngwyneb yr holl gri a wneir yn erbyn y diodydd meddwol, nid ydynt can waethed ag y gosodir hwy allan, onide ni fyddent byth yn cael eu harfer yn yr ordinhad fwyaf sanctaidd o eiddo eglwys Dduw ni fyddent byth yn dwyn i mewn yr hyn a elwir gan ddirwest- wyr penboeth yn hylif cythreulaidd" i gofio am hunan-aberth yr Iachawdwr a'r Gwaredwr lesu Grist. Os yw meddwdod yn dinystrio mwy o eneidiau na'r holl ddryg- au ereill gyda eu gilydd, ac os mai drwy yfed y diodydd meddwol yma y gwneir dynion yn feddw, pa fodd yn enw pob rheswm a chrefydd y meiddia eglwys y Duw byw a dwyn yr hylif hwn i fwrdd y Cymundeb. Mae yn anhawdd iawn rhoddi rheswm am y fath arferiad ddinystriol, huoan-gadwr- aeth, meddent hwy, yw deddf gyntaf bod- olaeth, ond yn y peth hwn, yn sicr i chwi nid yw eglwys Dduw yn cadw at y ddeddf hon; clwyfir a sarnir, gwarthruddir a thry- baeddir Eglwys Dduw yn y llaid yn fwy gan feddwdod na dim arall, hwn yw y dinystrydd mawr yn y pwlpud ac yn y seti, dinystria yn berffaith ddiwahaniaeth bob gradd, rhyw, ac oedran ac eto ca achosydd hyn oil ei groesawu i fwrdd y Cymundeb, a glywyd am ymddygiad mwy hunan-ddi. nystriol mewn unrhyw fan na lie, nag ym- ddygiad eglwys Dduw yn croesawu y
DICSIONA.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ant yn debycach yn eu canolau i gacwn geifr nag i unrhyw fodau dynol, a thaerant yn y diwedd nad ydynt yn tynhau dim arnynt eu hunain, a'u bod yn gallu troi yn eu dillad. Rheswm a roddodd merch unwaith am wisgo cadwen aur am ei gwddf oedd, ei bod yn bur gynes! Yr oedd un arall mewn sel danllyd fel Die Siones yn gobeithio y caffai hi fyw i weled yr amser, pan na fyddai yr iaith Seisonaeg byth wedi darfod o Gymru Mae llawer o'n marched ieuainc mewn ys- golion wedi cael eu IIenwi a rhyw yspryd di- reswm o'r fath, a'u diddyfnu oddiwrth waith pwrpasol, fel y maent wedi eu melldithio, a'u gwneud yn ddiddefnydd am eu hoes. Nid yspryd gwybodaeth na rhinwedd sydd yn eu meddianu, ond aidd angerddol i Ddic Siona, a hwdwcha, penhwdwch, cop hwdwcha, a chrwp hwdwcha, ae y mae Die Siona a hwdweha yn ddwy elfen gynhaliol dlotaf a salaf i fyw arnynt ag a ellir eu canfod. Fodd bynag, wedi i'r merched gael eu meddianu a'r meddwdod yma, bydd y llanciau i gael eu bafr wedi ynfydu wrth ddysgu capio idd- ynt, a gwneud ystumiau boneddigaidd i'w boddhau. Wedi hyny, rhaid cael capel Seis- onaeg, ac ond odid nad y diwedd fydd gad- ael y capel, ac ymuno ag Eglwys Loegr, er mwyn bod yn berffaith mewn boneddigeidd- rwydd, gan nad beth arall a fydd ar ol.