Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Quinine Bitters GWILYM EVANS. I™ ™: pARGANFYDDIAD MEDDYGOL PENAF YR OES. TYSTIOLAETH Y BEIRDD I'W RHINWEDDAU. MEDDYGINAETH OREU CYMRU. Quinine Bitters Qwilym Evans. Enwog ydynt trwy ein gwlad; Dwyn tystiolneth 'nawr wna miloedd I'w rhinweddau er iaehacl. Buan cilia anhwylderau Dan eu beffaith mewn modd syn, Cleifion gollant eu clefydau, Wrth ddefnyddio'r Bitters hyn. Symud wnant achosion gofid, Gwneyd y bywyd trist yn lion, Puro'r gwaed, bywiogi'r yspryd, Gyru pob rhyw loes o'r fron. Poenau mewnol ac allanol, Poenau mawrnion, poenau bach, Gwendid corff, a gwendid meddwl, Giliant ffwrdd-daw"r dyn yu iach. Meddyginiaetb naturydyw, Meddyginiaeth berffaith yw; Meddyginiaetb sydd yn gwella Pob anhwylder dynolrhyw, Ceir, tra dyfroedd Gymru'n llifo Drwy ddyffrynoedd tlws ein gwlad, Gleifion wedi gwella'n canmol Evans' Quinine Bitters mad. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. 'Nol nychdod blin dros amser maith Poen yn y ty, a phoen ar y daith, Poen yn y Uys, poea yn y Han, A meth ar fwyniant yn mhob man: Neillduo'r nos i'm gwely'n flin, Y cwsg fel haner ar ddihun, Cyffrous freuddwydion yn ymwa^, Trwy'r meddwl prudd oedd yn lleSgau. Nes im' ar ddamwain ryw brydnawn Gael byd i gyfaill cywir iawn, Cyfeiriodd fi yn ddinacad At Gwilym Evans am iacbad. Mae ganddo," meddai, "'n rhad o hyd Y feddyginiaeth oreu'r byd Os am gael iechydwriaeth lawn, Gwnewch brawf o'r Bitters fore a nawn." 'Nol gwneuthur prawf, rwy'n gwella'n dda Oddiwrth effeithiau yr hen bla; Rwy'n myn'd a dyfod ar fy hynt,— A'm cwsg yn felus megys cynt, Rwy'n ddedwydd iawn mewn llys a ilan, Yn yfed bywyd yn mhob man. A'm gwaedd ar bawb ar for a thir Sy'n dyoddef nychdod, poen, a chur, Gwnewch'brawf o'r feddyginiaeth hon; Hi dyn y briw o dan y fron Daw'r gwan yn gryf o radd i radd, Bydd hadau'r dolur wedi 'u lladd Cewch rodio'n rhydd mewn hoen a hedd, A iechyd llawn yn lloni'r wedd. GWILYM GLAN LLIEDI. QUININE BITTERS -G WIL YM EVANS. MEDDYGINIAETH OREU YR OES. QUININE dd'o i ni'n foddion iach-o ras, Na fn 'rioed ei burach; r Ac i'w bwynt mae 'chydig bach—o'i rinwedd, Yn allu rhyfedd i wella'r afiach. Iolo Trefaldwyn. "Pris poteli, 2s 9c ete, dwbl faint, 4s 6c; blwch yn CYnwys tair potel ddwbl, 12s 6c. I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob Plrth o'r bSd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gaeij danfonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyagel drwy y Post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion— QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY Limited, LLANELLY, SOUTH WALES. D. S.-Gellir cael Quinine Bitters Gwilym EvanS yn America oddiwrth y prif oruchwiliwr—R. D. Wiliamp, Medical Hall, Plymouth, Pa. Y N BERFFAITH W I R FDD Y COLTSFOOT CHEST PROTECTOR (COFRESTREDIG) wedi rhoddi gwellhad mewn canoedd o achosion o Beswch Tost. Anwyd Trwm, Diffyg Anadl (Asthma), Llid |yr Ysgyfaint (Bronchitis), Brest Gwan, &c. Mae yn Feddyginiaeth adgryfhsol i'r Ysgyfaint a'r Gvvddf, yn ddiogel ae un y gellir ymddibynu arni i rai o bob oed, o'r baban i'r hynafgwr mewn poteli Is lie, 2s 9c a 4s 6c yr un. Parotoirgan. MORGAN W. JAMES, MANUFACTURING CHEMIST. L LANE L L Y, Ac ar werth gan bob FFERYLLYDD.
OYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OYFRANIADAU AT DDIRWY Y DR. WILLIAMS, BETHESDA, AR Y CELT. Dymunwn yn awr ilw sylw ein cyfeillion caredig at ein sefyllfa. Yr oedd yr har arnom pan dalwyd y ddirwy uchod drwy i nifer o honom godi arian ar 16g yn y Bane yn Mangor. Talwyd i'r erlynydd £ 140 fel y gwyddoch. Y mae eto beutu X100 yn aros. Nid oedd modd i ni wneud llawer o gasgliad yn misoedd yr haf. Y mae gwyliau yr haf dros- odd erbyn hyn. Bellach gadewch i ni wneud yr hwb diweddaf gyda'r ddirwy hon. Dim un seib- iant bellach nes symud y £ 100 hyn oddiar ein hys- gwyddau. Wedi treulio cymainti sefydlu Y Celt nis gallwn fforddio gadael i ddamwain fel hon ei lethu i'r ddaear. Rhaid i ni ei gynal bellach hyd nes delo y Dadsefydliad a'r Dadwaddoliad o'r hyn lleiaf. Ac y mae llawer o resymau ereill yn galw am i ni fod yn flyddlon iddo. Dyolchwn yn gynes i'r cyfeillion hunanymwadol a'r sy wedi llafurio mewn casglu cyfraniadau. Haeddant fwy na hyn o sylw ac o anrhydedd. Bydd yn dda genym glywed oddiwrth ereill a garent gaeIllyfrau casglu. Dyma yr adeg i'n cynorthwyo. A pbwy bynag a'r nas gall neb alw gyda hwynt dyolchwn iddynt am anfon eu cyfran yn syth i mi, fel y mae llawer wedi gwneud eisoes. Gore po cyntaf bellach i dwyn hyn i'r pen. Yr eiddoch yn ffyddlon, Heol Undeb, Caerfyrddin, D. S. Davies, Hydref 13, 1890. £ s c. Cydnabyddwyd o'r blaen 56 12 lOt Derbyniwyd o Drewyddel. Parch W. Jones, 0 5 0 Parch D. Glyn Jones, 0 2 0 Mr E. R. Jones, Abertawe, 0 1 0 Mr F. Thomas, 0 10 Mr James Williams, 0 1 0 Oeinewydd- Thomas Thomas, Llwynon. 0 1 0 Cyfanswm hyd yn hyn 57 3 lot Yr wyf yn dal i ddysgwyl yn amyneddgar a gobeithiol wrth y cyfeillion a fuont mor garedig a derbyn llyfrau casglu at y Ddirwy hon. Gyda thipyn o ymdrech hunan-ymwadol gallem orphen y dasg hon yn fuan. Y mae llawer o waith arall yn dysgwyl wrthym, nas gallwn ei gyflawni cyn cael rhyddhad oddiwrth y baich hwn. Caerfyrddin, Rhagfyr tfed, 1890. D. S. D.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
-'Y GWENYNYDD," GAN LL. Ptrw J ONES, Dinas Mawddwy, a MICHAEL D. JONES, Bala, sef llyfr ymarferol ar drin gwenyo. Pris la, a Is 6c mewn llian. Anfoner am dano at M. D. Jones, Bala. Gyda'r Post, Ie yn rhagor. HOREB, TREFORRIS. DYMUN A yr eglwys uchod hyspysu nad ydyw JU yn derbyn cyhoeddiad neb i bregethu heb yn gyntaf ohebu a'i Hysgrifenydd- JOSEPH REES, Edward Street, Morriston. AT GYFEILLION Y CRONICL. Deallwn fod rhai o ddosbarthwyr y Cronicl yn tynu'r hysbysleni oddiar y muriau gan feddwl wrth weled cylchlytbyr a anfonodd Dr. Pan Jones, Mostyn, iddynt nad yw'r Cronicl mwyach i gael ei gyhoeddi. Gwnaed cais i uno'r Cronicl a'r cyhoeddiad newydd sydd i dd'od allan o Ystalyfera, ond; syrthiodd y cynyg drwodd. Felly dymunwn ar eincyfeillion gofio nad oes dim eyfnew- idiad o gwbl yn nglyn a ehyhoeddiad y Cronicl, ac yr ymddengys yn 1891 fel cyntr o dan olygiaeth y Parch. W. KEINION THOMAS, Llanfairfechan; a'r Prifathraw M. D. JONES, Bala; a daw allan o swyddfa'r Celt fel y flwyddyn hon. AT EIN GOHEBWYR. D. N., un o'n dosbarthwyr ffyddlonaf, a rydd y wialen ar gefn y cyhoeddwr am na rydd rybudd yn y Celt fod pen y chwarter er diwedd mis Tachwedd. Diolchwn i'n cyfaill ffyddlon am yr awgrym. Mewn Llaw-Priodas y Parch D Jones, Hyde- Park; Ofergoeledd Cenedlaethol, gan Dr Pan Jones; Hyn a'r Llall o'r De, ac amryw ysgrifau eraill a dderbyniwyd yn rhy ddiweddar i'r rhifya hwn.
_______ NODIADA U.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODIADA U. IWERDDON GYTHRYBLUS. Beth bynag ddaw o'r cyffro presenol yn yr Iwerddon, rhaid i bob dyn sydd ganddo rywfaint o chwaeth at foesau da ac o barch i burdeb fydj nabod fod y dull y cerir ymlaen y gwrtbym. gyrchoedd presenol rhwng Parnell a'i wrthwyn. ebwyr yn warthnod ar hanes cenedl, ac yn debyg i fel pe y mynai rhai o'r dynion a lafuriasant ac a ddioddefasant lawer dros achos teilwng Ym- reolaeth i'r Iwerddon daraw yr achos hwnw ya ei ben yn farw, a gwnend y diwedd yn waeth na'r dechreuad, a hyny pan y credid fod uchelbwjnfc Uwyddiant gerllaw. Mae yr iaith a lefarir a'r triciau a gyflawnir gan—wel, gan y ddwy blaid, i raddau gormodol, yn ddirmygus i'r eithaf. PWY SYDD I'W FEIO YN BENAF? Mae yn syndod fod neb heb gydnabod mai Parnell sydd yn wreiddyn chwerwedd" yn yr achoa truenus hwn. Gallwn ddeall paham y r\ ■