Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Y PEIRIANT BARDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PEIRIANT BARDDOL. I. Ar Briodas y Parch. J. H., B,DoniOI a chy- meradwy. Beth a Wnawn ?—Pur dda. t Y Gwaredwr.-Da iawn. Bydd raid i'r gwr ed- r rycb ati, onide bydd mewn perygl oddiwrth awea ei wraig. Cymeradwy iawn. Hiraeth.—-Lied faith trwodd. ¥ Llenleidr.r—Llymgnoawl iawn, acyn gweddu i'r testyn. Beth yw siomiant P-Cryf ond drwy ddiffyg gofal, maeawbell i syniad yn aneglur. Trwodd. HEN Law.
TRWYDBEDAU TAFARNAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRWYDBEDAU TAFARNAU. GAN MB. D. FF. DAFIS. Nesa yr amser i adnewyddu trwyddedau tafarnau ein gwlad, a dyiai dirwestwyr a chvmdeithatsau dirwestol o hob math fod ar ddibun i ymdrechu lleihau nifer y tai dinystriol hyn. Medda yr ynadon berffaith bawl yn awr i wrthod adnewyddu trwydded, yu ogystal a gwrthod rhoddi trwyddedau newyddion, panys gwnawd hyn yn etrlur yn achos Sharpe yn erbyn Wakefield. Am hyny gorphwys arnom ni fel dirwestwyr i gvnorthwyo ac attegu yr ynadon i gario hyn aifan, ac os ceir bwynt yn bleidiol i'r fasnacb, ymdrechu eu gorfodi a'u gyru i wneud eu dyledswydd dros y cyhoedd; anffortunus iawn ydyw fod cynifer o'n hynadon yn bercben ar dafarndai, ac er na aHant hwy gymeryd rhan yn ngwaitb y trwyddedau o herwvdd hyny, eto sicr fod eu brodyr-ynadon yn fwy tyner o'r fasnach feddwoloblegid y ffaith* fod eu brodyr sydd ar y fainc a meddiant yh y cyfryw fasnach. Gan fod difrod y fasnach feddwol mor ddychrynllyd, dylid cael cyfraitb nad oes yr un dyn i gael eistedd ar y faine farnel, os Ip; dd a medd- ianau yn y fasnach hon, pa, reswm sydd fod dyn sydd yn y salf,e gyfrifol o farnwr ar ei gyd-ddynion, yn gwneuthur ei oreu yn ei fywyl anghyoedd i wneud dynion yn ddyhirod ac yn;droseddwyr y gyfraith, drwy ei fod yn byw ac yn ymgyfoethogi yn ninystr a tbio'ii eraiH anmbosibi i unrhyw un wariu nad yw y fasnach bon yn gwneud difrod a dinvstr alaethus ar feddianau, ar gvrph, ar feddyliau, ar gymeriadau, ac ar eneidiau dynion, gan hyny pwy by nag svdd yn cario allan y fasnacb hon rhaid ei ddos- bartbu fel un o ddinystrwyr ei ryw, ni wna y bwystfildd ysglyfaethus ddim ond dinystrio rhywiau eraill o greaduriaid, parchant fywydau eu rbyw ei hun, eithr gwelir "yma ddynion yn byw ae yn ymloddesta ar ddinysr eu rbyw eu hun, gwna dyn gyda ei reswm a'i boll allu'oedd aruchel ddisgyn yn is na'r anifail direswm ysglyfaethus. Yma gwelir geirwiredd yr Apostol Paul, gwreiddvn pob drwg ydyw ariangarwch." Peth anweddus iawn ar y fainc farnol ydyw gweled dyn sydd yn sicr ladd ei hun drwy ddiodydd meddwol, gofyna anrbydedd y gyfraith fod yrhwl1 a'i gweinydda yn meddu cymeriad cyson, fel y byddo yna allu moesol yn eydfyned a'r gallu corpbol sydd ynddi; aid ddylai y ffaith fod dyn yn offeiriad, neu yn berchen tiroedd, neu yn ddyn o safle fydol fod yn ddigon o gymhwysder iddo i fod yn ynad, ond dylai fod ganddo gymeriad dilychwin yn ngwyneb Duw a dynion. Cofiaf un o'r dosbarth cyntaf a fyrhaodd ei ddyddiau drwy anghymedroldeb, ac un o'r ail a laddodd el. bun yn ddyn ieuanc ag alcohol, pa barch ellid roddi i'r cyfryw rai gan garcharorion ? Os oeddent bwy wedi troseddu y gyfraith, yr oedd eu barnwyr yn euog o lawer gwaeth trosedd—yn euog o huuanladdiad—mentraf duweud y dyLi ein Hynadon a'u Barnwyr fod yn 11 wyrym wrth- odwyr oddieithr iddyntallu cadw yn drwyadl o fewn terfynau cymedroldeb, heb hyny nis gallant gadw i fyny urddas y swydd, a chan eu bod, n pregethu yn fynych yn erbyn meddwdod, dylent rodH esiampl hefyd. Dylai fod cymeriad yr elfen bwysicaf yn eu penodiad, pob un yn gtrwr uioadeb, a chyliawnder, a phurdeb, yn bleidiwr cryf i degwch rhwng dyn a dyn, nid eu tynu d un dosbarfch fel y gwneir yn bresenol, nes y tnae cyfiawnder mewn llawer ardal yn ddim ond ffug, yn etfwedig os cyhuddir rhyw un o herwhela, mae yr iynadeo cyfoethog yn barod i lyncu y cyfryw; cauir llawer a wnaethant ytiadon campus allan yn bresenol oherwydd fod y Gymraeg yn cael ei hanwybyddu yn ein llysoedd barn; mae y gwyr mawr, y rhai a eisteddant ar feinciau Cymru yn bresenol wedi dwyn ein tiroedd, a gwnant eu goreu hefyd i ddifodi ein biatth., Diameu y dylai ynad fod mewn safle anibynol, fel na fyddo perygl o hyny iddo wyro barn. ond pa raid sydd iddo i gael gwerth d8100 o dir, oni wnaiff eiddo arianol yr un tro, yn y Consols, yn y Banciau, neu mewn rbyw eiddo arall ? Yr anghen ydyw cael digon of odd i'w gynal, fel y gallo fforddio cael amser i eistedd ar y fainc, ac fel na fyddo yn rhy uniongyrchol gyfrifol am ei fywioliaeth i'r rhai a ddont o'i flaen i'w barnu. Ofnaf mai ystryw ydyw y gwerth can punt o dir er cadw y fainc yn close preserves i'r cyfoethogion, a cbadw V tlodion; fel yr oedd y gyfraith am fyned- iad i Dy y Cyffredin, rhaid oedd bod yn werth 300 punt yn y flwyddyn; mae hono wedi ei difodi, a goreu i gyd po gyntaf y difodir y ddeddf o berthynas i'r ynadon; fel y mae petbau yn awr gosodir mwy o bwys ar eiddo nag ar synwyr, fel y ffermwr er's llawer dydd a arferai fod yn wr mawr yn Festri y Plwyf pan yr cedd yn ffermwr llwyddianus, ond wedi iddo fethu nid oedd ei anghen yn y Festri mwyach yn mhen amser daetb drachefn i feddiant fferm, anfonwyd ar unwaith am iddo ddod i'r Festri, ond ya lie myned yno ei hunan, anfonodd ddau fustach cefnog yn ei Ie. Nid ar wastadedd Dura yn unig yr addolwyd y ddelw aur, ad.dolir hi gan filoedd yn Nghymruj heddyw hi yw y prif ddrws i'r ynadaetb. Mae Lloegr yn fwy pwysig na phen a chymeriad. Gwnalff pob ffwl y tro, os bydd arian ganddo. Er mwyn sobrwydd dylid cadw allan o'r Fainc Ynadol bob meddwyn, a gobinebwyr a pbob un sydd yn bercben tafarndai, neu arhanau mewn dar- llawdai, am nas gallant gyflawni eu swydd, ac am yr attegant y fasnach feddwol* yr hon a ddiofrydwyd i ddinystr.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y Gwaed YW y Bywtb.—Gwarantir cymysgedd fyd- enwog Clarke at lanhau y gwaed oddiwrth bob aDmhnredd, o ba achos bynag y cyfya. At blorod, scurfl, aflechyd y croen a'r gwaed, a doluriau o bob natur, mae ei effeithiau yn rhyfeddol. Miloedd o dystiolaethau canmoliaethol. Mewn poteli 2s. 9c. ac lis yr un, gan holl fferyllwyr. Perchenogion Lincoln and Midland Counties Drug Company, Lincoln. Gofynwch am Clarke's Blood Mixture, ac na thwyller chwi i gymeryd dim arall. TO ALL MEN who wish to Marry and live a happy life full "P'T? A T\ of Health and Vigour; to those JLLJDjIjL.L' who are shadows of their former selyes, it is a boon send for it. mrrm Tbe Mibeob, free in envelope. JL Jtllo. Address.—The Secretary, 3 & 4 Fitzallan Sqoare, Sheffield. Write to-day a post-card will do. HOME CURE FOE DEAFNESS.—a book by JUL a noted Aural Surgecn, jescribing a System of Curing Deafness and Noises in the Head, by wbicb» self-eure s effected at home. The Rev D H W Hurlock, of, the Parsonage, Milton-under- Wychwood, writes :—" Try the System by all I mean^ it is first rate, and has been of the utmost service tc me." Post free 4d. De Vere & Co., publishers, 22, Warwick Lane, London E.C.
NODION 0 RACINE, U.D.A.-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 RACINE, U.D.A. GAN AP DARLE. Wedi chwe' mis o ddigtawrwydd, gyda'ch caniatad, Mr Go]., wele air neu ddau i'r Celt unwaith eto. Gair i ddechreu AM Y TYWYDD. Y mae cryn wahaniaeth rhwng y tywydd yma eleni, o'i gydmaru a'r hyn ydoedd y llynedd. Y mae yn Ilawer mwy hyfryd, hyd yn byn modd bynag, er ein bod wedi Cael rhai dyddiau pur gynea, eto nid yn agos mor booth a'r haf o'r blaen. Tywydd ffafrioliawn i dyfiant ydyw, ac y mae golwg ardderchog ar y maesydd, a phob arwyddion yn awr, y ceir cnydau toreithiog, ond ymddengys fod y rhagolygon yn well yn y rhan Drleheuol o'n talaeth, nag ydynt yn y rhan Ogleddol. Y mae cynwrf mawr yn ein dinas y dyddian hyn, yn nghylch CADWRAETH T SABBATH. Teimlai y dinasyddion mwyaf crefyddol yma, er ys amser bellacb, fod y Sabbath yn cael ei sathra dan draed mewn modd cywilyddus gan y Uuaws, ac y dylesid gwneud rhyw beth er gosod atalfa ar hyfdra y bobl hyny sydd yn ceisio gwrieudi ffwrdd a'r Sabbath yn hollol, fel dydd i'w gadw yn wahanol i ddyddiau eraill yr wythnos. Er fod tori y Sabbath yma, yn drosedd i'w gosbi yn ol deddfau y dalaeth, yn ogystal yn ol deddf y nef. Eto i gyd, yr anhawsder a deimlid yma ydoedd,cael swyddog- ion i weinyddu y ddeddH: yn nglyn A'r Sabbath, &c. Ond wedi yr etholiadyny gwanwyu diweddaf, pryd y llwyddwyd i da-flu yr hen faer dros y bwrdd, ac y cafwyd maer arall i gymeryd yr awenau, yr hwn sydd Republican, a'r hwn hefyd a wnaeth addewid, y buasai yn sicrhau gwell trefn ^yda g-otw^r ar y Sabbatb, os etholid eI. Addewid ydoedd hono, gyffelyb i lawer un arall a gafwyd gan ereill cyn yr etboliad, na fsddybd am ei cbyflawni byth, Wedi blinp disgwyl wrth y rnaer newydd a'i gyd-swyddogion, i osod y gyfraith mewn grym, fel ag i sicrhau gwell trefn yn y ddinas, aeth nifer o weinidogion ein dinas at eu gilydd i ymddiddan ac ymholi betb oedd i'w wneud; a phenderfynasatit alw cyfarfod cyhoeddus, mewn trefu i gael sylw cyffredinol at y mater. Cynhaliwyd y eyfarfod nos Sul, Gorphenaf y 5ed, yn yr Opera House. Yr oedd ynddo tua mil o bobl, a buasai ynddo lawer yn ychwaneg, pe gallasai yr adeilad eu cynwy3. Ar yr esgynlawr yr oedd cor, yn cael ei wneud i fyny o brif gantorion yr eglwys Bres- byteriaid Seisnig, ac eglwysi Cymreig yr A. a'r M. C. Cymry oedd yn gwneud i fyny y rhaa luosocaf o'r cor. Hefyd, ar yr esgynlawr, yr oedd nifer go dda o weinidogion y ddinas, a chymerodd chwech o honynt ran yn y cyfarfod. Traddodwyd areithiau grymus yn ystod y cyfar- fod, a chondemniwyd mewn geiriau cryfion ac eglur, waith y maer a'i gyd-swyddogion, yn goddef i'r fath chwareaou a'r base ball, &c., i gaet eu cario yn mlaen ar y Sabbath, heb wneud un ymdrech i'w gosod i lawr. A'r un modd, eu gwaith yn goddef i'r tafarn wyr gario eu mhasnack felldigedig vn mlaen ar ddydd yr Arglwydd, yn groes i'r gyfraith. Ar gyfer y cyfarfod, yr oedd nifer o bpnderfyniadau wedi eu tynu allan gan y gweinidogion, i'w cyflwyno i'r maer, os byddai i'r cyfarfod roddi ei lais o blaid hyny. Penderfyn- iadau yn cynwys cwynion, ac apeliadau am symud yr achlysuron o honynt. Pasiwyd hwynt ya unfrylol. Erbyn hyn, y mae y maer wedi mynegi yn ddigon digywilydd, na fydd iddo, gydymffurfio a'r apeliadau a wnaed ato Ond nid yw v diwedd eto. Dicbon y bydd genyf air yn ychwaneg i ddyweud ar hyn y tro nesaf. Unyn uDig o weinidogion Cymru, a dalodd ymweliad a ni yma eleni, sef y Parch. D. C. Davies, Cilcenin, Sir Aberteifi. Ar noson waith y bu efe yma yn rhoi pregeth, ac yn wir, pregeth. ardderchog a gafwyd ganddo hefyd,—yn cael ei thraddodi yn eglurhad yr ysbryd a nerth. Clywir canmoliaeth neillduol i Mr Davies o, Chicago hefyd, lie y bu efeyn treulio dau Sabbath. Hyderwn ni yma, y ca Mr Davies daith hapua drwy y wlad, am yr amser y bydd ynddi, ac yr enilla mewn nerth ac iechyd oddi wrthi.