Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CkOESGAD Y VAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CkOESGAD Y VAN. [GAN DR. E. PAN JONES, MOSTYN.] Cymerasom ein safle ya Llandilo o dan gysgod cauadfrig coed y fynwent a chawsom yno gyfarfod dymunol, er nad mor Uuosog a'r rhai blaenorol. Afionyddwyd yn siriol iawn ar ein heddwch gan ryw ddyn llawn o joacurdda, ond ei fod o dan ddylanwad y I 4diod feddwol, a sicrhai un ,o'r cyfeillion Seisnig ycaem heddwch ganddo os rhoddwn iddo fwy o ddiod na'r blaid arall. Yr oeddem yn ei gymeryd yn esgusodol am aflonyddu arnom, ond nid oedd esgusawd am feddwi. Yr oedd yn arddel perthynas a theuluoedd y mae genyf barch iddynt. Yr oedd yno, meddir, ar ddymuniad y Toriaid y rhai sydd yn lleng yn Llandilo, felly fwelwydadeg dewisiad aelod ar y Cyngor irol. Yr banes diweddaf a gawsom am dano oedd ei fod dan glo. Nid gwaith hawdd fu cael yno le i lechu dros y nos, a digon tebyg y cawsem aros ar yr heol fel hwnw gynt yn Gibea, oni buasai am gyf- ryngiad caredig ben Gristion cynefin a thywydd garw, a chafodd i ni le nacl allem gael ei ddymunolach yn yr oes hon. Troisom eingwyneb dranoeth am Nantgaredig, pen. tref bychan haner y ffordd rhwng Llandilo a Chaerfyrddin, ardal arferol o fod yn deil- ,wag olr enw. Deallasom wedicyrhaedd y lie nad oedd ein hyspysleni wedi eu gwas- garu, na'n dyfodiad wedi ei gyhoeddi, a than mai ardal amaetbyddol ydoedd ni oherddodd swn ein cloclt ond i gylch bychan. Ychvdig ddaeth yn nghyd, ond yr oedd yn 4mlwg eu bod yn deall fod byw dan law tir Jfeistri yn gaethiwed tost, ae ymddangosai fod llawer o bonynt heb glywed o'r blaen fod y fath beth yn bod a'r Ddaear i'r Bobl," yn cael ei sisial yn y byd. Tra nad yw y ffordd o Gwm yr Aman i Gwm y Towy ond ychydig fwy na tbaitli diwrnod Sabbath, mae yn syn y gwahaniaeth sydd yn nod- weddion meddyliol y bobl#1 Mae preswyl— wyr yr Aman yn fyw, yn myned, heb arn'yot ofn rhag na gofal am neb; mae preswylwyr glanau y Towy yn cysgu, yn breuddwydio acyn ofoi. "Talu y rhent i mistir," yw nod uchaf eu bywyd. Priodolir y cysgad- rwydd hwn i'r ffaith maiamaethwyr ydynt, nad ydynt yn darllen fawr ac yn meddwl llai, ond rhaid fod yna rywbeth heblaw eu bod yn anaaetbu, pe amgen pa fodd na fyddaipobt Whit!and, Penbryn, Llandyssyl, Llanbrynmair, Meifod, Pentrefoelas, yn symud yn falwodaidd dan freuddwydio ? Ond hwyrach fod a fyno cysgod Castell y Gelli aur, clychau yr esgob, a chwrw Llan- ymddyfri rywbeth a chysgadrwydd Cwm Towy. Mae pob bywyd yn diflanu yr un fath drwy Ddyffryn Clwyd 5 n y Gogledd yma, o gysgod :Castell Ruthin i gysgod Castell Mostyn a chlochdy Llunelwy. Y gwir ywmae hoen a bywyd cymdeithasol ynffoi rhag esgob phendefig fel y cilia y gwrid olr ruda o flaen y darfodedigaetb, nen fel y gwywa y rhos rhag awelon Hydref, ac nid dynion bychain cul crebychlyd gyda menyg kid amen dwylawfedr droi y llanw marwol yn ei ol, rhaid cael dynion garw fel Elias cyn gwneud y gwaith. Cyrbaeddasom i Gaerfyrddin fore Sadwrn yr oeddym yn awyddus am gael anerch y boblyn y farchnad. Cymerasotn ein safle y faji y gorchymynodd y tollwr i ni, a thalas- om y deyrnged, ond yn fuan daeth rhyw ysgerbwd mawr heibio gyda gorchymyn manwi a miniog i ni symudein pabell, na chaniateid i ni yno, er fod y lie yn wag, ddinas barhaus, y symudid ni yn fuan drwy nerth braichos na welem -jrn ddai symud ein bunain. Gwthiwyd ni ilr farchnad uchaf y tu cefn i'r circus, a 6han y byddai y rhai kynjr yn agor am ddau o'r gloeh, a'u bod yn gallu gwneud mwy o swn na ni, barnwyd yn ddoeth i ni. newicl yr awr, a dechreaasopi am un olr gloch, ond bu hyny yn acbos i dcrysu ein cyfarfod yn mhob yityr, a braidd na. wnaedymosodiad arnom am siomi ein cyfeillion. Yn yr hwyr cawsom gynuUiad lluosog ar i y Square. Yr oeddynt yn gwrando fel rhai yn teimlo fod rhywbetb iddynt bwy yn yr athrawiaeth a bregethid. Yr oedd yn y dorf amryw o wyr urddasolyn canlyn o hir. bell. Nid oedd em cenhadaeth ynddigon poblogaidd ac anrhvdeddus iddynt hwy allu cvmeryd eu lleoedd yn y front. Cawsom gyfarfod dyddorol yn Conwyl er nad yw y Ile ond pentref bychan, daeth yno bobl lawer yn ngbyd Yr oedd yno bobl iach yn y ffydd dirol, rhai yn dyheu am weled dydd gofwy landlordiaeth ac yn barod i ofyn, "Beth a fyni di i mi wueud ?' i gdwyu hyn oddiamgylch. Dyna y tro cyn- taf i ni gael gwrthwynebiad. Yr oedd y Dr. Edwards, y gwr llawnaf o natur dda yø. y byd bach hwn wedi ein rhagrvbuddio yn garedig ei fod yn myned i'n gwrthwynebu, ond ni soniodd ar ba linell, yna wrth reswm rhaid oedd i ni gadw ein holl adnoddau yn barod, ond sicrheid ni gan y brawd gonest a,, digellwair o'r Bwlchnewyddna wnai y Doctor gam a ni, nad Oedd elfenau lladd neb yn ei natur. Cyn i ni traidd dewi dyna efe i'r llwyfan, ac yn wir yr oedd yn edrych yn brydferth gyda.'i walit auraidd cyrliog, a'i lygaid yn bwrlymu o diriondeb, ond prin yr oedd wedi dechreu siarad nad oedd y bobl yn tori allan mewn un grechwen fyddarol mwy aflywodraethus na dim welais yn ystod chwech wythnos y croesgad. ond erbyn chwalu ei wrthddadl addefodd ei fod yn cydweled a mi ar bob jpwynt, ond ei fod yn barnu ein bod yn dysgu y bobl i fyw yn an- nuwiol. Yr oeddwn i wedi dal i edrych YI1 lied ddifrifol tra f u efe yn siarad alr bobl yn. chwerthin, ond pan ddywedodd ei fod o'r un farn a fi ar y gwahanol bwyntiau, oddigerth ein bod yn dysgu y bobl i fyw yn annuwiol, mi a edrychais ar Mr Lloyd a gwnaeth arnaf yr oiwg fwvaf aw^rymiadol fel y bu yn ddigor. trech i a fi, ytnollyngais i chwerthin, a gwaith anhawdd fu ymatal, a phan ya cotio ei lygaid a chrychni ei aeliau, yr wyf yn troi allan i chwerthin yn awr. Yprawf oedd gan y Doctor ein bod yn dysgu y bobl i fyw yn annuwiol oedd dwy linell o'r pen- illion oedd ar gyfer ein hyspysleni:— "WrtbweddiQaeth eieh gruddiau'n llwyd Nid gweddi mwy ond at eich gwaith." Mewn atebiad gofynais iddo, pan fyddai pobi yn gomedd ei dalu neu yn^ei yspeilio, pa un ai troi i weddio y byddai neu yntø, myned i'r Ilys? Wel, bu yno fwy o chwer- thin nad Jlasai neb ond Dr. Edwards gyn- vrchu. Cawsem gyfarfod da yn Cwmduad ganol dydd. dranoeth oni buasai iddi fyned yn wlaw cawsom yno roesaw calonog o dan gronglwyd estron, a chawsom geffyl da i'n tynu i fyny i riwiau serth Cwmduad. Yr oedd gwehyddioa Velindre yn disgwyl am danom yn awyddus ond yn ofnus, cany.

DIOLCH AM BETH ?