Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL O'fi DI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL O'fi DI. [aA.N AP I PSENI FACH.] Cafodd Cymdeitbas Ddirwestol y Debeu barth gyfarfodydd blynyddol llwyddianus yn Llatidilo Fawr, dydd Mercher a dydd lau diweddaf. Daeth y gwyddfodolion lawr dipyn yn drwm—ond nidyn rby drwm-ar yr aelodau Seneddol Oymreig oeddent ab- senol o'r Ty adeg yr ytnraniad ar Fesur Rheoleiddiad Sirol Mr Bowen Rowlands. Yr absenolion hyn oeddynt y Llyngesydd Mayne, Mri Abel Thomas, Kenyon, a Rath- bone. Gan rai nodid allan yn arbenillMr Abel Thomas. Ymddengys mai dyled- swyddau yn nglyn a'i alwedigaeth fel bar- gyfreithiwr a'i cadwodd yn Nghaerdydd y diwrnod hwnw. Eglurodd Mr Abel Thomas jn ol llaw ei fod yn credu yn y mesur ac yn barod i?w bleidio. Ond achwynai rhai ei £ od yn y tafarnwyr yn ein llysoedd ewladol. Ond nid efe yn unig o'n haelodau Jeuainc. Rhyddfrydol a'wnahyn. Nid dy- munol i deimlad Rhyddfrydwr selog yw gweled aelodau Seneddol wedi eu dychwelyd gan withwynebwyr y dafarn yn amddiffyn tafarnwyr yn llysoedd ein gwlad. Un o ddrygau angenrhaid a osodir arnom weith- iau i ddychwelyd bargyfrei+hwyr, )dyw hyn. Un o'r galwedigaethau rhyfeddaf yw eiddo bargyfreithiwr. Braidd y" gall, dyn o gyd- wybod effro ei chyflawai yn llwyddianus. Dadleua y bargyfreithiwr achos y gwr a'i cyfloga, bydded gjthraul bydded sant. # # # Cafwyd prawf pellach, pe bai ei angen, oddiwrth adroddiad ysgrifenydd y Gymanfa, fod llais y wlad, nil yn unig yn mhlaid rheoleiddiad lleol, ond difodiad y fasnach- wel, y fasnach uffernol. Yo y lleoedd y gwnaed pra\l\f y flwyiidyn ddiweddaf y mae mwv na thriugain a deg y cant yn mhiaid yagubo ymaith bob tafarndy. Y mae hyn yn fwydrif. digonol i gyfarfod a gofynion meSur Mr Rowlands. Bwriedir yn awr gael Cyngor Dirwestol Cenedlaethol i uno y gwa- hanol Gymdeithasau yn Ngogledd a Deheu- barth Cymru. o' Ar y cyfan lie i longyfarch ein bunain. sydd genym yr wythnos hon eto yn wyneb gweithrediadau y fainc drwyddedol mewn amrywiol ranau o'r wlad. Dylai pethau fod lawer yn well, ond y raaent lawer yn well nag y buont. Y mae yr achosion yn rhy luosog i gyfeirio atynt bob yn un ac un. Ond dichon na lefarwyd geiriau mewn un- rhyw lys a wna i waed dirwestwyr cydwy- bodol ferwi yn fwy nag eiddo un Mr Rhys a ddadleuai dros dafarnwyr yn Mhontypridd Mewn cyfeiriad at benderfyniadau eglwysi .yn.. erbyn y dafarn dywedai yr edrychai ar waith gweinidogion yn gwrthwynebu y daf- arn fel peth ffiaidd, dros ben. Beth, tvbed, yw gwaith gvieimdogion a chrefydd.wyr ? Cynorthwyo y tafarawr yn mhob ryw foddn ddamnio eneidiau, ai ie ? Ond yn erbyn Mr Rhys a'i feiddgarwch yr aeth y Fainc. Campus. Yn amser yr ymdrech rhwng Mr Abel Thomas a Mr Gwilym Evans yn etholaeth Ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin, un o'r saethau a deflid at Mr Gwilym Evans ydoedd ei fod yn dal perthynas a'r fasnach feddwol. Dyma Mr Abel Thomas, yntau erbyn hyn yn mron a gwneud ei hun yn wrthodedig gan ddir- westwyr. Pa Ie tybed y saif Mr Gwilym Evans yn awr ? Gwadai y pryd hwnw ei fod,, ef yn derbyn dim budd oddiwrth y fasnach feddwol. Oddiar hyny y mae cyf- newidiadrtu wedi cymeryd lie. Y mae dar- ilawdy St. Clears wedi ei werthu i Norton a'i Gwmni, "ac!y mae Mr GwilymEvans wedi ei ddewts yn un o reolwyr (directors) y cwmoi ma<e'a deby g. Ai nid am fed ganddo fudd yn y cwmniydewiswydeffelly ? Ie, medd rhyw aderyn bach wrthyf fi, ac am y bydd o gymhorth gwerthfawr i'r cwmni Cadeirydd y cwmni yw awdurdod yr aderyn. Byddir yn dewis yn fuan olynydd i Syr Arthur Stepney. Tebyg y ceir y pryd hwnw oIenni pellach ar y. mater. # Ergyd trwm i'r Methodistiaid yw colli y Parch D. Charles Davies mor fuan ar olyr Hybarch Ddoctor Owen Thomas. Ei enaid mawr a adawodd ei babell o glai ddydd Sadwrn diweddaf. Mawr oedd y llawenydd ych^g amser yn ol pan lwyddwyd i gael gan Mr Davies gymeryd cadair y prifathraw yn Nghofeg Trevecca. Ond cyn ei fod braidd wedi dechreu gwneud ei ol yno cymerwyd ef ymaith. Cydnabyddai pawb MrDavies yn gawr o feddyliwr.. Dichon ei II fod mewn rbai ystyron yn fwy felly na Doctor Charles Edwards ei hun. Ond nid rby aehel oedd ei ben ef i augau gael gafael arno. Llawenyeba pob Cymro yn nyrchafiad y Proff. Witton Davies, B.A., HwllTordd, i brif f-adair Athrofa Nottingham,—yr hwn a elwiro hyn allan yn Athrofa Bedyddwyr y Canoldir. Y mae Proff. Davies yn un o'r dynion mwyaf dysgedig yn y deyrnas yn yr ieithoedd dwyreiniol, ac fel athraw yn ieith- oedd y Beibl ca barhau yn y meusydd a hoffa. yn ei gadair newydd. 1«0.. Anffawd dost a ddigwyddodd yn Aber- gwynfi, Morganwg, nos Fercher diweddaf. Collodd wyth eu bywyd drwy i'r "bowk" gael ei ddirwyn yn rhy uchel. Pwll yn cael ei suddo yn bresenol yw y pwll hwn. Naw sydd lawr yn gweithio gyda'u gilydd. Nos Fercher, ycbydig cyn i'r nawoedd newid, daeth arolygwr y cwm ni oedd ar orphen eu dydd gwaith fyny o flaen y Ueill er mwyn chwilio am weithiwr i wneuthur fyny y diffyg yn y cwmni nesaf, ac felly diogelodd ei fywyd. Ond y lleill druain a hyrddiwyd i'r llawr gyda grym dirfawr y peiriant. Amryw o honynt a adawant weddwon ac amddifaid ar ol. Ymddengys mai y peiriant sydd hyd ymk yn cael y bai yn gyflawn. # «0 «0 Yr ynadon yn Aberdar fel yn Merthyr a wrthodasant dderbyn y ddirprwyaeth ddir- westol ar fater y trwyddedau. Heno cyn- helir yn A berdar gyfarfod cyhoeddus i ystyried y weithred. Byddaf yn bur siomedig oni phair dirwestwyr Merthyr ac Aberdar i'r ynadon anffaeledig deimlo cyn hir mai gwell fyddai iddynt beidio a'u sarhau fel y gwnaetbant. Daw dydd gofwy yr ynadon cyr^jt'o hir m gwir yw fod lefain gwerin lywodraeth yn*lefeiriio yr holl does.* # Y Parch. D. Tyssil Evans, M.A., gweini- dog gyda'r Anibynwyr yn Hornsey, ger Hull, sydd wedi ei ddewis yn ddarlithiwr mewn Hebraeg yp Mhrifysgol Caerdydd. Hen fyfyriwi o Athrofa Caerfyrddin ydyw Mr Evans, a brodor o Ogledd Penfro. Gwr sydd wedi dringo ysgol addysg heb golli troed ar yr un ffon yw Mr Evans. Diau y llanwa ei le i foddlonrwydd cyffredinol.

Advertising

UNDEB YR ANGHYDFFURFWYR.