Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
AGORIAD COLEG DUWINYDDOL .Y…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AGORIAD COLEG DUWINYDDOL Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN Y BALA. Cynbaliwydy cyfarfodydd hyn nos Lun a dydd Mawrth, Medi 28ain a'r 29ain. Yr oedd dau wedi eu penodi i bregethu y noson gyntaf, sef Dr Fairbairn, Prifathraw Coleg Mansfield, a Dr Saunders, Abertawe. Pregethodd Dr Fairbairn am awr a haner, oddi ar y geiriau, By w i mi yw Crist, a marw sydd elw." Pe addefa pawb ag oedd yn gallu ei mwynhau, ei bod yn bregeth rhagorol, yn Ilawn o dduwin- yddiaeth bur, iaith dda, traddodiad grymus, ac ambell i darawiad yma a thraw ag oedd yn "anorcbfygol. Feaeth yr awr a haner heibio megys haner awr. Clywais rai o'r prif ddyn- ion ag oedd yno yn dweud fod y bregeth y igampwaith mwyaf gorchestol a glywsant erioed, aid yn unig mewn cyfansoddiad, ond mewn traddodiad hefyd. Ar ei ol daeth Dr Saunders, yn Gymraeg, ond fe addefa pawb diduedd, nad oedd y Dr y tro hwn yn ddim o'i gydmaru a'r hyn y clywyd ef. Pregeth gyff- redin, aehab fod yn meddn ar yr ynjhwnw oedd unwaith mor nodweddiadol o hono. Y mae ei gystudd maith wedi dweud arno yn fawr. Dyn anwyl yw Dr Sannders, ac i ni oedd heb ei glywed er ys blynyddau, teimlem yn fawr iawn wrth ei weled. Dymunwn itldo o galon, adferiad buan i'w nerth cyntefig, fel y byddo iddo etc fod yn gwmwl mor ddyfr- adwy ag oedd yn y blynyddoedd a fu. Am naw o'r gloch, boreu Mawrth, yr oedd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd i gael ei gweinyddu. Yr oedd y capel yn orlawn erbyn yr adeg, a chauwyd y drysau ddeg mynud wedi naw. Deehreuwyd trwy ddarlien a. gweddio yn Saesneg, gan y Parch. Elfet Lewis, Llanelli. Darlleniad rlir, y llais i'w glowed yn eglur yn mhob congi o'r eapel mawr, ac O! weddi dfeithiol, mor syml, mor dyner, mor briodol, mor nef eneiniedig, fe'n harweiniwyd yn syth -at y Groes, a gorchwyl nid anhawdd oedd cofio angau y G-wr a groesboeliwyd yno. Fe siar- adwyd ar yr ordinhad gan henafgwr penwyn o'r enw Mr Powell, Pembroke, a phwy mor addas, mor briodol i'r amgylchiad, gyda theimladau mor dyner, mor gysegredig wrth f :» :I' arwain ein meddyliau at y sanctaidd fan-y Groes. Cyfranogwyd o'r ordinhad mewn distawrwydd oedd yn gwbl gydweddu a'r amgylchiad. Gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. James Donne, Llangefni, a hyny mewn ysbryd rhagorol. Gresyn iddo ddyweud Nid Duw Abraham, Isaac a Jacob mwyach, ond Duw Thdmas Charles, aDuw Lewis Edwards." Yna gwahanwyd am ychydig fynudau, er cael mantais i awyru y capel. Teimlem wrth, fyned allan, ein bod wedi dechreu y dydd yn yr ysbryd mwyaf priodol Dechreuwyd y cyfarfod nesaf ychydig wedi deg. Richard Davies, Ysw, Treborth, oedd yn y gadair. Darllenodd anerchiad byr a phriodol iawn mewn ysbryd gwir ddymunol. Hwn eto yn Saesneg. Cyfeiriodd mai y rheswm paham yr oedd ef yn y gadair oedd am ei fod yn hen, un o'r rhai olaf o'r hen do ag oedd yn nglyn a'r coleg yn y sefydliad cynfcaf Gwnaeth gyfeiriad tyner at farwolaeth y Parch. D. Charles Davies, ac yr oedd yn amiwg ei fod yn milwrio o dan anhawsderau i siarad gan fod ei deimladau bron a'i orchfygu. Yna cyflwyn- wyd i Dr Charles Edwards ddau anerchiad, un ar ran bwrdd 11eoly Bala, a'r llall gan ei hen fyfyrwyr a fu o dan ei addysg yn Aberystwyth. Ar ol iddo ddiolch am yr anerchiadau, esgyn- odd i'r areithfa, yno darllenodd ei manifesto, pa un oedd wedi ei ddarparu yn ofalus. Saes- neg oedd hwn eto. Nid ydym am ysgrifenu dim yn awr ar y traethawd, ond yn unig hyn -Amhvg yw fod Dr Charles Edwards yn penderfynu tori tir newydd. Yna galwyd ar Dr Fairbairn i draddodi anerchiad. Siaradodd ar yr achlysur hwn fel y gwna bob amser, yn deilwng o hono ei hun. Canmolai y symudiad o wneud coleg y BaU jm un dduwinyddol yn fawr iawn. Canmolai y Prifathraw fel un addas i fod yn ben ar y cyfryw sefydliad. Dangosai y pwysigrwydd oedd am fod un wedi ei drwytho mewn addysg, ac yna cael nifer o flynyddoedd i astudio duwinyddiaeth, er ei addasu i fodyn arweinydd y bobl, ao i'w dysgu hwynt. Teimlwn ei fod ynymdrinyn glir â gorphenol bob pwynt a gymerai mawn 11aw. Ar ol iddo ef orphen, gorfu i'r Cadeirydd R. Davies, Ysw., i ymadael oherwydd ei lechyd, ac fe gymerodd Thomas Gee, Yaw., Dinbych, ei le Pan y gwelsom Thomas Gee mewn cynulliad o'r fath yma, gofynem yn ddistaw, heb allu creda ein llygaid ar unwaith: "A ydyw Saul hefyd yn mysg y proffwydi." Bhoddodd anerchiad da yn Gymraeg. Yr oedd hyny yn iechyd i'n hysbryd ar ol yr boll Saesneg. Sylwodd mai tri anhebgor awen yw llygad i weled anian, calon i gydymdeimlo ag anian, a dewrder a faidd gydfyned ag anian. Yr oedd ef am newid ycbydig ar y geiriau, a'u dwyri i arweddu ar yr amgylchiad pre&enol. Tri anhebgor dyn yw Ilygad i weled angen, calon I gydymdeimlo ig, angen, a dewrder a faidd gydfyned ag angen. Dyna, ebe fe, oedd ynamlwg- yn yr hen Thomas Charles, o'r Bala, Beibl i bawb o bobl jr byd.' Dyna oedd yn amlwg yn Hugh Pugh, Llandrillo, a Gwilym Hiraethog, a chredai fod y tri peth yna yn nodweddiadol o Dr Thomas Charles Edwards. Y nesaf i siarad oedd Mr Lewis Morris, y bardd. Siaradodd ar yr anghenrheidrwydd i gael prif athrofa i Gymru. Ac y dylai fod duwinyddiaeth yn gangen arbenig o'r athrofa hono, fel y gallai duwinyddion Cymru fyned dan arholiad, ac enill ea gradd o B.D. a D.D., nid fel y maent yn awr, yn anfon 95 i America, i brynu y teitl o D.D, ac ycbwanegai, 'rwy'n ofni fod yma rai yn breseool," ac yr oedd rhai felly yno. Dywedodd amryw o bethdu buddiol iawn. Humphreys Owen. Ysw., Glansevern, oedd y nesaf i ddweud gair ar addysg ganol- raddol. Yna cafwyd gair gan y Parch. George Williams, o'r Deheudir, un o fyfyrwyr eyntaf yr athrofa. Adroddodd ef a Dr Hughes, Oaer- narfon, adgofion difyr am yr amser gynt. Yna terfynwyd cyfarfod y boreu Ar ol ciniaw, ffurfiwyd yn orymdaith i fyned o'r Bala i fynu at y coleg, ac ar lawnt y coleg, yr oedd llwyfan wedi ei cbodi, a'r gynulleidfa o'i hamgylch. Mr Bryn Roberts, A.S., yn llywyddu. Siaradwyd yno gan y Prifathrawon Pairbairn, Roberts, Aberystwyth; Evans, Caerfyrddin; a ohan y Parchn. Dr Sannders; T. Levi, James Williams, Caer; Owen Jones, Liverpool, ac amryw eraill. Nid IJes, genyf ddim i'w ddweud am gyfarfod y prydnawn, ond mai cyfarfod i seboni Dr Charles Edwards oedd ef drwyddo. Yr oedd digon o seboni wedi bod yn y boreu, heb fod eisien cael cyfarfod arbenig yn y prydnawn at wneud hyny, a dim arall. Nis gallai Dr Edwards helpu mai yn ddiau, ond dyna oedd teimlad 11awer o'i gyfeillion goreu, ea bod wedi myned yn sal wrth wrando ar y naill ar ol y llall yn codi i fynu, a hyny yn unig, er mwyn seboni. Llawer mwy priodol fyddai dwy bregeth yn y prydnawn. Cawsem ryw fendith oddi wrth hyny, ond ni chawsom ddim wrtb edrych ar ddyn cael ei seboni ain ddwy neu dair awr. Y mae'r athrawon Ellis Edwards a Williams wedi gyvneudcanwaith mwy i goleg y Methodistiaid yn y Bala, nag a wnaeth Dr Charles Edwards, ond prin y son- iwyd gair am danynt hwy, eithr mewn gwir- ionedd eu banwybyddu. Paham na fuasid yn gofyn i'r Prifathraw M. D. Jones, y cymydog agosaf i ddwefd gair P Yr oeddwn i yn meddwl fod undeb i gael ei sefydlu, ond y mae'n debyg na fedr y Prifathraw M. D. Jones ddim seboni: nid yw wedi dysgu'r fiordd, ac wrth reswm, os nad oedd yn sebonwr, nid oedd i gael siarad. Gwelais O. M. Edwards, M.A., Rhydychen, yno, ond ni ofynwyd iddo ddweud gair, er wedi bod yn fyfyriwr o dan y Dr Lewis Edwards, yn y Bala, a'r Dr Charles Edwards, yn Aberystwyth. Beth sydd yn bod ? Sier yw fod rhyw beth. Y mae yn debyg, er yr holl helynt, nad yw athrofa dduwinyddol y Methodistiaid ddim yn cychwyn ar ei gyrfa yn ddigymylau. Athrofa dduwinyddol y Methodistiaid y gelwir hi, a dyna yw hi, a. dyna fydd Jíi. Pa athrofa undebol o fath yn y byd y medr hi fod, pan mae'r corff sydd yn berchen arni, aelodau o'r corfb" y w yr athrawon! Dywedodd y Dr Edwards, yn Llanidloes, fod yn rhaid cael athraw Hebreig o ryw en wad arall, ond erbyn eyraedd Cymdeithasfa Pwll- heli, pan oedd amryw wedi ymgeisio, ac un y gwn i am dano, a gydnabyddir gan ysgoleig* ion yn ysgolor Hebreig o radd flaenaf-oiicl nid oedd neb yn deilwng-Pwy oedd yn abl i farnu, hoffwn wybod? Pellebrwyd ar un waith i Lane Seminary, Cincinnate, i ofyn i Dr Llewelyn J. Evans i gymeryd y swydd— paham ? Onid am ei fod yn Fetbadist-Na sonier am undeb. Pe byddai i'r pedwar enwad ymuno mewn cael un athrofa dduwinyddol yn Nghymru, a hono mewn man canolog, wedi ei ckodi yn rhanol gan yr holl enwadau, aelodau l o'r pedwar enwad yn athrawon, pwyllgor o'r pedwar enwad i arolygu drosti, myfyrwyry pedwar enwad i fyned yno; yna gellid disgwyl i undeb gwirioneddol i gael ei ffurfio, ond pan y bydd enwad yn ceisio Uyngcu yr holl enwadau eraill iddo ei hun, gwel er ei siomed- igaeth, mai methiant cywilyddus fydd pob peth o'r fath. GOH.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CYPUNDEB GORLLE WIN OL CAERFYRDDIN. j YNELIR. y Cyfarfod Chwarterol uesaf yn Elim' 'J Llanddowror, Mawrth a Mercher, Tachwedd lOfed a'r lleg. Cynadledd dydd Mawrth am ddan o'r gloch, yn yr hon y darllenir papyr gan y Parch D. R. Davies, Rbydyceisiaid. Pregethir ar y pynciaa gan y Parchn B. Davies, Trelech a D. J. Thomas, Caerfyrddin. Dymuna yr eglwys a'i gweinidog bresenoldeb holl weinidogion y cyfundeb, ac ereill a alio ei gwneud yn gyfleas i fod yno. Bydd cerbydau dydd Mawrth yn cyfarfod trains haner dydd yn station St. Clears. W. C. JENKINS, YSG. PENRHIWGALED, SIR ABERTE1FI. DYMUNA yr eglwys uchod hysbysa oad ydyw yn derbyn neb i bregethu o hya allan heb Ohebu yn gyntaf Vu Gweinidog, y Parch T. B. Davies, Talgareg, Llandysul, S. W. J. JAMES, Ysg. Y GWENYNYDD," GAN LI.. PUW JONES, Dinas Mawddwy, a MICHASX. D. JONES, Bala, sef liyfr ymarferol ar drin gwenyn. Pris Is, a Is 6c mewn Uian. Anfoner am dano at M. D. Jones, Bala. Gyda'r Post, Ic yn rhats «r.
UNDEB YR ANGHYDFFURFWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cafodd yr ysbryd annheilwng hwn ei dros- Jglwyddo i waered i'r t6 presenol oddiwrth y tadau a'r matuau pan gredai pob sect bron nad oedd neb yn gadwedig ond eu sect hwy, erbyn beddyw creda y rhan fwyaf o'r enwadauybydd sectau eraill yn gadwedig, a da iawn fnasai estyn yr un gred i'r Uodoctiaifi hefyd; mynwesiyy gred y bydd yr Undodiaid bob copa yn golledig gan y rhai hyny sydd heb ddarllen a myfyrio ond y nesaf peth i ddim am athrawiaethau dyfn- ion a dyrys y Beib); ni ddywed Crist fod yn rha-idcredu ynddo fel Daw evn c&el ein haehub, credu ynddo ydyw y pwnc mawr, a. chan fod yr Undodiaid yn credu ynddo fel dyn, mae yn boslbl iddyot i gael eu cadw, oblegyd gyda Duw pob beth sydd bosibl." Os credwn eu bod yn gwrthwynebu y gwirionedd, gan byny gwnawn ymdrech i argyhoeddi y gwrthwynebwyr 0 ddrygioni eu ffyrdd. Gallwn feddwl ei bod yn hen bryd i Anibynwyr a Bedyddwyr, i Wesley- aid a Methodistiaid fynwesu golygiadau mwy cariadus a christionogol at eu brodyr a'u chwiorvdd Undodol, pheidio agor llygaid a. phen mewn rhyfeddod syn os dywed un wrthynt y gallant fod yn gadwed- ig; gadawn ni y barnu hyny i Dduw, gallwn fentro y gwna Barnydd y ddaear gyfiawnder. Os ydyw yr Undeb Enwadol yma yn .meddwl myned yn y blaen rhaid iddo ddang. os mwy o ryddfrydigrwydd ysbryd, a gwahodd yr Undodiaid a'r Methodistiaid Cyntefig i gymeryd rhan yn ei weithrediadau a bydd hyny yn dipyn o gynorthwy i syl- wedaoli gweddi yr Arglwydd lesu, Fel y byddontolt yn un, megis yr wyt ti y Tad ynof fi, a minau ynot tithau.