Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

TlPYN 0 BOBPETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TlPYN 0 BOBPETH. UN o'r pethau mwyaf ynfyd yn fy ngolwg yw yr. adroddiadau am y gwyrthiau sydd yn cael eu cyflawnu tua Threffynon. Mae y Pabyddion yn honi fod rhyw santes wedi bendithio y ffynon yno, a bod pawb a iblont i'r ffynon i ymdrochi yn cael en gwneud yn holliach ar unwaith, Cyhoeddir hanesion am rai yn cael eu gwella bron bob wythnos, a gwrieir masnach go dda o'r fusnes. Yr wythnos o'r blaen daetb 'yno filwr ar ffynbaglau i ymdrochi. Honai fod ei boenau yn y dwfr yn arteithiol, ond wedi dod i fyny yr oedd yn gallu cerdded heb ei ffyn ac yn eithaf iacb a gadawodd ei ffyn ar ol. Mae yn syndod fod neb yn ddigon ffol i gredu pethau mor ynfyd. Dichon y ceir gwybod ryw ddiwrnod pa faint dalwyd iddo am gymeryd arno ei fod yn gloff cyn myned i'r JCynon. Pe cyhoeddid fod y ffynbaglau wedi cael eu trochi yn y ffynon ac yn cerdded eu hunain ar ol hyny, digon tebyg y ceid rhywrai yn ddigoii ffol i gredu hyny hefyd. Ar ol i'r Toriaid rwystro scheme Addysg Uwchraddol Morganwg yn y Senedd, con- demniwyd eu gwaith gan y Wasg Gymreig yn gyflredinol, gydax eithrio rhyw bapyryn gyhoeddir tua Chaerfyrddin. Wedi gweled hyny dyma y Western Mail allan i regu y Waag Gymreig a'i holl ddatllenwyr. Haera fod y papyrau Cymreig yn cyhoeddi pethau hollol ddi-sail, a bod y darllenwyr mor eithafol o anwybodus fel y credant bob peth a ddywedir wrthynt. Pan gofiom mai y Mail sydd yn dweyd hyny, yr ydym yn gallu cymeryd ein hanadl. Os oes dosbarth o ddynion mwy ofergoelus na'u gilydd yn ein gwlad, tybiwn mai y sawl allont lyngcu ffiloreg y Mail ydyw y rhai hyny. Dyma rai o'r ffeithiau gyhoeddwyd yn y papyrau Cymreig, ag y mae y Mail druan am eu gwadu:— 1. Fod y Toriaid yn wrthwynebol i roddi addysg gyfiredinol i'r werin. 2. Pan orfodir y Toriaid gan lais y cyhoedd i ganiatau addysg gyffredinol i'r werin, y rhaid ei rhoddi drwy gyfryngau Eglwysig neu -fod hebddi. 3. Fod pwyllgor Addysg Morganwg wedi 0 cytuno ar compromise er mwyn agor yr ysgolion ne^yyddion. 4. Fod Syr J. T. D. Llewelyn wedi gwrth- wynebu yn y Senedd y scheme y cytunwyd ganddo arni yn Morganwg. 5. Mai y pwnc yw, Nid pa un a yw ysgolion Pontfaen a Pengam yn ysgolion Eglwysig, ond pa un a dorodd y Toriaid yn y Senedd y cytundeb y daethpwyd iddo ganddynt yn Morganwg; ac yn eu plith Syr J. T. D. Llewelyn. Mae y Mail yn alluog i wneud gwyrthiau fel rhai Treffynon, ond, nis gall wrthbrofi y gosodiadau uchod, Wrth daflu golwg dros Gwrs y Byd am y mis presenol, gwelir yno fod dau gynrychiol- ydd y Feibl Gymdeithas yn Nghymruyn llyngcu mil o bunaa o'r casgliadau rhyngddynt am helpueu gilydd i wreud dim. Ganmai dau weinidogMethodistiaid ydynt y maentyn dilyn eu cyhoeddiadau ar draws y fylad ac yn dweyd ambell air am y gymdeithas yma ac acw, cud nid ydynt yn casglu dim: y bobl gartref sydd yn gwneud y gwaith i gyd yn rhad, a hwythau yn cael eu talu. Yr oedd tipyn o gwyno yn y wlad pan benodwyd Dr. Cynddylan Jones i'r swydd. Yn awr weie y Dr. Dickens Lewis yn rhoddi ei swydd i fyny o herwydd afiechyd, a'i frawd- yn-nghyfraith—y Parch. D. C. Edwards, o Fertbyr-yn. cael ei ddewis yn ej Ie! Y ffordd am reform yw Cau y G6d medd Owrs y Byd. ANDREAS.

DE A GOGLEDD.

UNDEB PONTYPRIDD A'R RHONDDA.

PENYGROES AC ANTIOCH.