Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB ANNIBYNWYR LLEYN AC…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB ANNIBYNWYR LLEYN AC EIFIONYDD. Dydd Llun a dydd Mawrth y cynhaliwyd cyfarfodydd chwa-rterol yr undeb uchod yn Nrwsycoed. Llywyddwyd gan Faer Pwllheli (Mr. Anthony). Cymeradwywyd adroddiad pwyllgor a anogent sefydlu eymdeithasau yn nglyn a'r undeb ar linellau Cymdeithas Christian Endearour. Dygwyd cynllun ger bron a chyflwynwyd ef i sylw'r eglwysi. Parch. H. Ivor Jones, Porthfnadog, a roddodd yr ystadegau canlynol ger bron o berthynas i safle yr enwad yn y Dywysog- ae€h Eglwysi, 1000; cymunwyr, 135,725; ysgolheigion, yn yr Ysgol Sul, 138,807; gwrandawyr a phlant, 143,122 lleoedd yn y capelau, 369,159; casgliadau, 140,817p. 6!e; dyledion ar gapelau, 196,719p 15s 1ic; dyledion a dalwyd y flwyddyn ddiweddaf, 32,533p 7s 3ic; eyfanswm casgliadau, 152,060p 8s; eyfanrif y cynulleidfaoe,dd, 278,847. Hysbysid fod y ffigyrau a gyhoedd- wyd yn Pwllheli yn anghyflawnj ae nid oedd y rhai hyn ychwaith yn gyflawn o herwydd fod rhai o eglwysi Oymreig Gogledd Lloegr allan o'r cyfrif. Traddodwyd anerchiadauj ar y Mudiad Ymosodol a chanmlwyddiant Cymdeitbas Genhadol Llundain. Pasiwyd hefyd benderfyniad yn cydymdeimlo a'r cenhadon yn China, ac a chymdeithasau cenhadol eraill oedd ar yr un maes, yn eu colledion diweddar. Yr Oedd yn bresenol ddir- prwyaeth od'di wrth Gymdeithas Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd, ac argymhellwyd yr eglwysi i wneud casgliadau at y gymdeithas. Cydymdeimlwyd a pherthynasau y ddiweddar Mr. R. Williams, Abererch. Yn Llanllyfai, yn Rhagfyr, y eynhelir y cyfarfodydd nesaf.
CAERLLEON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERLLEON. Cynhaliodd yr Eglwys Annibynol, Penri Memorial,' eu gwyl bregethu nos Sadwrn a Sabboth, Medi 7fed a'r 8fed. Cyhoeddwyi ar yr hysbysleni y byddai y Parch. D. S. Davies, Caerfyrddin, yn cymeryd rban yn yr wyl, a daeth llawer o bell fFordd er mwyn cael clywed y ffraeth, y doniol a'r enwog Davies, Bangor fel yr adnabyddid ef yn y parthau hyn. ond eafodd pawb eu siomi, oblegid ni ddaeth Mr. Davies Gwnaed ami i ymgais gan bersonau anheilwng yn y gorphenql i berswadio gweini- dogion i dori eu cyhoeddiadau a siomi yr eglwys, Gwnaed felly gada'r Parch. Pandy Williams, Derby, a Dr. Herber Evans, ond i ddim, dyben, gan fod y cyfryw uwchlaw talu sylw i lythyrau di-enw. Ac yr ydym yn hollol sicr mai fiid dim dylanwad o'r fath yna a ataliodd y Parch. D. S. Davies fod yn bresenol gydani; a rhaid mai rhwystrau anorfod a'i goddiweddodd ef, oblegid nid gwr a gymer ei ddychrynu na'i ddenu i dori adduned gysegr- edig ydyw ef. Rhaid addef fod yr eglwys yn 1 Penri' yn siomedig, a braidd yn yswil yn herwydd ei bod wedi cam-arwain Cymry y ddinas, a dim amser i gywiro yr hysbysiad cyn y cyfarfod. Fodd bynag, cafwyd cyfarfodydd rhagorol a ehynulliadau lluosog, ar hyd yr oedfaon. Y Parch. W. R. Roberts, Abersoch, fu mor garedig a dyfod i lanw y bwlch (a hyny ar fyr rybudd a thrwy auhawsder fuasai yn ddigonol reswm iddo wrthod); a'r Parch. T. Roberts, yr hwn sydd wedi dyfod yn ddiweddar o'r America ac yn aros yn bresenol yn y ddinas hon. Cafwyd pregethau grymus iawn. Ni wrandawyd gwell efengyl erioed. Yr oedd y ddau ar eu goreu, ac am y goreu yn gosod goludoedd ei ras -ef ar, gyfer angen dyfnaf pechadur ao yr oedd y gynulleidfa fel yn mwynhau rhan o ysbryd yrhen ddiwygiadau gynt. Bydd y cyfarfod yn fendith i'r eglwys nad anghofir mo hono yn fuan. 17, White Friar*, Chester i D* J ONES,
MA' RWOLAETH MR. PETER HUGHES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MA' RWOLAETH MR. PETER HUGHES, ANEDD-Y-BWLCH, GFP. Y WYDDGRUG. Drwg genym orfod. cofnodi marwolaeth y gwr da uchod, yr hyn a gymeradd le am dri o'r gloch foreu Sabboth, Medi 8fed, yn ei Anedd' brydferth a chysurus. Dyoddefodd gryn lawer o gystudd yn ystod y tair blynedd olaf o'i oes, a hyny gydag amynedd a thawelwch dirwgnaoh. Cafodd ei daraw yn ami gan y parlys, a daliodd yn rhyfeddol i ymiawnu y naill dro ar ol y Hall, ond daeth y diwedd er ymdrech meddygon a gofal mwyaf pryderus priod anwyl, yrhon sydd yn nyfnder galar bellach, gyda ei unig blentyn a'i briod Mr. a Mrs. Peter Lloyd Hughes, yr hwn sydd yn llenwi swydd barehus yn Lerpwl. Gwnaethant a allent i gadw y gelyn draw, ond y mae y frwydr bellach wedi troi yn hiraeth, a Peter Hughes wedi myned i dderbyn gwobr y ffyddlon. Yr oedd yr ymadawedig wedi gwasftonaethu swydd diacon am flynyddoedd lawer yn Eglwys Annibynol Soar, a hyny gyda medr, pwyll, doethineb a ffyddlondeb didor. Anhawdd cael dyn mwy ffyddlon gyda gwaith yr Arglwydd. Yr oedd ei ysgwydd yn dyn bob amser o dan yr arch, a'i dy bob amser yn agored i dderbyn cenhadon hedd. Bydd y golled yn Soar yn fawr, gan ei fod nid yn unig yn ddiacon, ond yr oedd wedi tyfu yn naturiol yn flaenor, ac edrychid arno fel y cyfryw. Blaenorai yn ddoeth, gan fod yn esiampl mewn ymarweddiad sanctaidd, diwydrwydd ac haelioni crefyddol, a ffyddlondeb*. Teimlwn ei bod yn anhawdd i eglwys fechan fel Soar fforddio colli ei blaenor da, a hwyrach fod ambell un yn barod i ofyn beth ddaw o'r achos yno bellach ? Ond dylem gofio fod y Meistr yn aros yn ei eglwys, ac mai efe syddyn rhoddi hun i'w anwyliaid, a gofala am godi eraill i lenwi lie y rhai y mae yn alw ato ei hun. Dydd Meroher canlynol daeth torf luosog a pharchus yn nghyd i dalii y gy mwyn as olaf i'r hyn oedd farwol o hono, Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch. W. Gwenffrwd Thomas, Wyddgrug, ac aed i Gwernfield i gladdu. Gwelsom, yn mhlith eraill, y Parchedigion W. •James, Sarn; Arfon Davies, Llanfairfechan; W. Meredydd" Jones, Llanelwy; Edwin Roberts, Dinbych; W. R. Jones, Fflint; Thomas Jones, Rhesycae; Evan Roberts, Brynteg D. Jones ac Ellis Roberts, Caer. Gwasanaethwyd yn yr eglwys gan y Ficer, a chafwyd anerchiadau pwrpasol gan Mri. Gwenffrwd Thomas, Arfon Davies, Ellis Roberts ae Edwin Roberts ar lan y bedd Felly daearwyd yr hyn oedd farwol o un o I heddychql ffyddloniaid Israel' yn mhresenoldelb torf alarus, ond mewn gwir ddyogel obaith o adgytfodiad gwell;' a bydded i nawdd Duw fod dros y weddw a'r amddifad a'r perthynasau oil ydyw dymuniad— CYTAILL.
MAESYRHAF, CASTELLNEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MAESYRHAF, CASTELLNEDD. Cynhaliodd yr eglwys uchod gyfarfodydd agoriadol yr ysgoldy newydd sydd yn Marsh- field Road, Melincrythan, ar y dyddiau Sul a'r Llun, Medi yr 8fed a'r 9fed. Pregethwyd ar yr achlysur ga.n y Parchn. J. C. Evaus, Gilfach Goch; J. N. Davies, Llanfair, Aber- teifi (un o blant yr Ysgol Sul); ac E. Morgans, Gnoll Road, Castellnedd. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y Parchn. J. H. Parry (loan Dderwen o Fon); D. H. Hopkins (B.), Castellnedd; a W. Davies, Maesyrhaf. Cafwyd oedfaon cynes, cynulliadan Iluosog, a phregethau grymus ac effeithiol. Hyderwn yr erys y dylanwad yn hir ar yr eglwys a'r gynulleidfa, ac y caiff ein hanwyl frawd Mr. Roberts weled llwyddiant ar ei waith.—Ooh.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
COLEG Y GOGLEDD, BANGOR. (Un olr Colepu yn y Brifysgol Gjmreig. PHIFATHBAW :—H. R. RBICHEL, M.A, Gydag un ar ddeg o Broffeswyr, tri o Ddarlithwyr a phedwar ar Jddeg o Athrawon eraill, Dechrena: y tgmor nesaf HydreJ 8jetJ" 1895t Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymrn, ae eiddo Prifysgol Llundain. T Owrs Meddygol ym Mhrifysgolion Edinburgh a Glasgow, ar arhol. iadau eraill. Rhoddir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth ao ElectricaZ Engineering. Mao yn y Ooleg Adran Normaliadd. -1 Cynygir dros 20 o Ysgoloriaetbau, yn amrywio mewn gwertb o j640 i -610 y flwyddyn i'r rhai fyddoln ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tymor nesaf. Bydd harmer yr Tsgoloriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Dechrena yr arholiad am danynt Medi 17. Oeir pob manylion gan— JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Ohofrestrydd. SUIT At Ymfudwyr DYMTJNA T. M. JONES A'I FAB Swyddfa'r "CELT," Aberavon, Hyspysu y Cyhoedd eu bod yn Oruchwylwyr appwyntiedig dros bob un o'r Cwmpeini Llongau Ymfudol i bob rhan o'r byd. Ceir pob hyspysiaeth ganddynt yn nghyleh Ymfudiaeth, a gellir cael Tocynau ganddynt hwylio gydag agerlongau unrhyw gwmpein low WORM LOSENGES. (PONTARDAWE) W! L LIAMS'S A Mdros ddeng mlynedd ar hugain y maey fjL feddyginiaeth werthfawr hon wedi pron yn llwyddiant perffaith. Y mae yr effaith ga ar blant eiddil a gwanaidd (hyd y nod pan wedi ei rhoddi i fyny yn anwelladwy) yn wyrthiol. Y mae y plentyn teneu, gwyneb- gwelw, a difywyd, trwy gymeryd y Lozenges yn cael gwared o'i blaau poenyddol, ac yn dyfod yn hollol iach. Syr,—Yr wyf am beth amser wedi defnyddio eich Anthilmintic neu Worm Lozenges yn fy nheulu, ac yn eu cael yn feddyginiaeth gyflym ac effeithiol at ascarines neu thread worms, ac y mae ei ffurf gyfleus a dymunoJ yn eu cymerad- wyo i blant.—W. Hutchinson, Ficer,* Howden. Ar,werth mewn blychau -/9 1, 1/1i, a 2/9, gan fferyllwyr a gwerthwyr Patent Medicine, neu am 14 a 34 a Stamps oddiwrth J. DAVIES (Chemist),30, High Street, Swansea. Though you Rub 1 Rub i Rub « ilwy! AlUljoaSarttb 1 Scrub I Scrub! t«nni fiad that m m It. at ia your power §JW I« «U^uhioaad way, luL I iWiM'i ftW. A Warn FOTPM-MI PAman