Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHGARWCH CENHADOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GWEITHGARWCH CENHADOL. Yn Nghymdeithasfa Bangor y mis o'r blaen, traddododd y Parch. 0, J. Owen, M.A., Rock Ferry, anerchiad ar y pwnc uchod, ac er mwyn cynyrchu mwy o sel a gweithgarwch gyda'r genhadaeth, dywedai fod angen y pethan canlynol:— 1. LLBNYDDIAETH GKKHADOL.—Y mae prinder mawr o hvn yn yr iaith Gymraeg. Mae genym ein tladroddiadau Blynyddol yn llawn o'r ffeithiau mwyaf dyddorol, ond gwyddoin beth yw hanes adroddiadau o'r fath. Ychydig yw nifer y rhat aydd yn ddigon call a chydwybodol i'w darllen, »c i roddi y sylw dyladwy iddynt. Mae angen llaw-lenau (leaflets) i'w dpsbarthu wrth y miloedd yn ein heglwysi, wedi eu hysgrifenu a'u hargraffu mewn ffordd a fyddo yn debyg o dynu sylw. Mae arnom angen bywgraffiadau o genhadon enwog, wedi eu hysgrifenu mewn arddull fywiog, boblogaidd a dyddorol, ac wedi eu hargraffu yn llyfrau destlus, cyfaddas i'w defnyddio fel gwobrwyon i'r plant. Nid oes arwyr-addolwyr {hero-worshipers) tebyg i'r plant. 0 mor bywsig yw rboddi ideals. teilwng o'u blaen, a pbwý mwy teilwng ellir gael na chenhadon en,wog,- Williams o Erromanga, Henry Martin. Carey, Livinsr- stone, Jerman Jones, a Dr. Roberts, &c. Credwn y byddai darllen hanes bywyd dynion o'r fath yn rhwym o adael argraff ddaionas ar eu meddyliau. Ond oes le hef d i gyhoeddiad cenhadol misol, neu dyweder, un cyhoeddiad at wasanaeth y Cymdeithasau Ymdrech Grefyddol ser-, achoo conhadol, a hyny dan nawdd y Cyfundeb. Ein hargyboeddiad ydyw y dylid ei gael, a hyny yn fuan. 2. CYFARFODYDD CBMHADOL. — Dyma gyfrwng arall i wasgar gwybodaeth. Ai nidsyniaddafuasai cael Wythnos Genhadol, yn ystod pa un y cynhelid cyfarfodydd cenhadol yn mhob capel trwy v .Cyfundeb. Atebai hynddauddyben—dwyn ein gweinidog- ion, ac eraill y dysgwylid iddynt gymeryd rhan yn y cyfarfodydd, i chwilio mwy yn y maes dyddorol hwn, ac hefyd gwasgar gwybodaeth am faterion cenhadol yn ein cynulleidfaoedd. Oni. ellid gwrieud gwell 9 defnydd hefyd o'r pulpud a'r Ysgol Sabbothol? Oni fyddai anerchiad cynes gan frawd ffyddlon ar ddiwedd yr ysgol, dyweder unwaith yn y mis, mor debyg o ateb dyben daionns, a dweyd y lleiaf, a'r holwyddori di-fywyd a di.effaith a geir mown ami i ysgol ? 3. UNDEB CKNHADOL.—Cyfleusdra i'r rhai sydd ya teimlo yn fwyaf gwresog ar y mater hwn i ymuno a'u gilydd er helpa a chyf- nerthu y naill a'r Hall, a helpu yr achos cyffredinol yr un pryd. Byddai yr holl aelodau yn ymrwymo i ddarllen hanes cenhadaethau, gweddio. droB y gwaith, cyfranu (neu gasglu), dyweder, geiniog yr wythnos at y genhadaeth, a gwneud yr oil yn eu gallu er hyrwyddo anfon yr efengyl led-led y ddaear. Rhywbeth ar gynllun y I Regions Beyond Helpers Union,' sydd yn nglyn a Chymdeithas Genhadol Dr. Grattan Guiness, neu y 'Gleaners Union,' sydd yn nglyn a Chymdeithas Genhadol yr Eglwys. Mae y rhai hyn yn gwneud gwaith rhagorol, ac nis gallwn weled, ond myned o gwmpas y peth yn ddeheuig, paham nas gellid cael undeb cyffelyb a Hawn mor lwyddianus yn nglyn a'n Cyfundeb ni. Ond yr olwynion yn y peiriant ydyw y pethau yna wedi'r cwbl, rhaid cael I ysbryd y peth byw yn yr olwynion' cyn y bydd i'r peiriant wneud gwaith effeithiol. Ac fe geir hyn trwy weddi yr eglwys. A dyma y moddion mawr ag y bydd rhaid ymafael ynddo. Os ydym am fwy o weithio, rhaid i ni gael. mwy o weddio. Gweddiwn am yr Ysbryd Glan yn ei ddylanwadau grymus i roddi adnewyddiad yn y bywyd ysbrydol yn yr eglwysi yn gyffredinol. Ffrwyth bywyd ysbrydol ydyw gweithgarwch cenhadol, ac i'r graddau y gwelir y bywyd hwn yn cynydda yn yr eglwysi, i'r nn graddau y,gellir dysgwyl gweled gwaith o'r natur yma yn eunodweddu. Gweddiwn la we' mwy. Mae genym' addewid- ion mawr iawn a gwerthfawr,' ac fe ddylai addewid fawr dynu allati weddi fawr. Mae gweddian yr eglwys i fod yn gyfled ag addewidion Duw. Credwn fwy hefyd. Ni chododd neb erioed yn uwch na'i gredo. Yn 01 dy ffydd bydded i tidyna reol Duw o gyfrann. Gofynwn fwy gan Dduw, dvsjwyl- iwn fwy wrth Dduw, amcanwn fwy dros Dduw; a phan y gwelir yr eglwysi wedi en trwytho ag ysbryd gweddio, dyna'r adeg y gellir dysgwyl gweled ieuenctyd yr eglwysi wedi eu trwytho ag ysbryd cenhadol.

MARWOLAETH A OHQDDEDIGAETH…

HYN A'R LL ALL.