Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I WERS SABBOTHOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I WERS SABBOTHOL. -0: GAN Y PARCH. L. ETANS, B A. Medi 22.—Joshua yn adnewyddu y cyfamod. JOSUA xxiv. 14-25. (TISTTN EUBAIDD A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Dnw a wasanaethwn 80 ar ei lais ef y gwrandawn.'—JOSUA xxiv. 24. Cwrdd mawr yn hanes y genedl ydoedd y ewrdd hwn yn Sichem. Nig gellid ei anghofio. Yn hwn adnewyddwyd y cyfamod oedd rhwng y bobl a'r Arglwydd. Ffurfiwyd y cyfamod gyntaf wrth droed Sinai wedi'rhoddiad y 'deng air deddf.' Cadarnhawyd y cyfamod yn Sichem cyn y tro hwn, wedi'r bobl glywed y melldithion o ben Ebal, a'r bendithion o ben Gerizim. Cwrdd crefyddol oedd y cwrdd yn Sichem. Gyda chenedl Israel fel gyda chenedl y Cymry cwrdd crefyddol oedd y cwrdd mawr. Yr oedd a fyno lie y cwrdd a'i bwysigrwydd. Anwylir lleoedd fet personau genym. Ymgylyma adgofion yn rhwydd o amgylch lie fel o amgylch berson. Yr bedd Sichem yn un o leoedd cysegredig cenedl Israel. Yma y derbyniodd Abraham yr addewid am y wlad gyntaf (Gen. xii. 6, 7), ac yma yr adeiladodd ei allor gyntaf i'r Arglwydd. Yma, wedi hir drigo yn Mesopotamia, yr ymsefydlodd Jacob, ,ac y prynodd faes o law meibion Hemor, tad Sichem (Gen. xxxiii. 18-20). Yma y bwriodd ymaith y delwau o'i dy (Gen. xxxv. 2-4) Yma y claddwyd esgyrn Joseph. Yr oedd Sichem felly yn le o bwys, a lie priodol i gynal cwrdd crefyddol—cwrdd i adnewyddu y cyfamod. Yr oedd y cwrdd hwn yn gwrdd urddasol—y bobl oreu wedi dyfod iddo. Dywedir fod Josua wedi galw am 4 henuriaid Israel; ac am eu penaethiaid, ac am eu barn- wyr, ac am eu swyddogion; a hwy a safasant ger bron Duw.' Y bobl oreu wedi dyfod, ac wedi dyfod. i sefyll ger bton Duw.' Peth arall oedd yn gwneud y cwrdd hwn yn gwrdd nodedig iawn oedd ei fod yn gwrdd olaf Josua ar y ddaear. Ni ddywedir hyn mewn cynifer o eiriau; ond y mae genym bob lie i gasglu mai dyma y tro olaf i Josua gwrdd a'r bobl mewn cyfarfod o'r nodwedd yma. Yr oedd presenoldeb Josua yn y cwrdd—yr hwn oedd wedi heneiddio yn brydferth yn ngwasanaeth ei Arglwydd —yn gosod gwerth arno na aliasai neb arall ei osod. Yr oedd Josua a Chaleb lawn ugain mlwydd yn hyn na neb arall yn y gynulleidfa. Y mae profiad yn werthfawr iawn yn mhob man; ond nid yw mor werth- fawr yn un man ag yn y ewrdd crefyddol. Gwrandewir gyda pharch ar y dyn profiadol yn siarad ar bynciau mwyaf bywyd, os bydd ei air a'i weithred yn un, ei gynghor a'i esiampl yn cyd-dystiolaethu. Blynyddoedd olaf ei fywyd y gwua y dyn da fwyaf o waith o ddigon. Yr oedd presenoldeb Josua yn y cwrdd hwn yn rhoddi gras a gwirionedd i'r cwrdd pe ef yft absenol, buasai yn gwrdd gwahanol iawn Adwaenid ef, edmygid ef, ac ymddiriedid ynddo gan genedl gyfan. Yr oedd pawb yn barod i wrando arno, ac ni chollodd y cyfleusdra o siarad pan ddaeth yr amser goreu i hyny, Rhwng pob peth, adnewyddwyd y cyfamod yn Sichem pan yr oedd yr amgylchiadau yn fwyaf manteisiol i hyny, Adn. 14. 'Yn awr, gan byny, ofnwch yr I Arglwydd,' &c Wedi olrhain eu banes fel cenedl, a dangos daioni Duw iddynt o'r dechreu, ceisia Josua argraffu ar eu meddwl mai eu rhesymol wasanaeth oedd ofni yr Arglwydd, a'i wasanaetjiu mewn rperffeith- rwydd a jgwirionedd.' Y mae pob dyledswydd yn cyfodi o ddaioni Davy tuag atom. Daioni Duw tuag atom yw y rheswm sydd dros gyflawnu pob dyledswydd. 'A bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau, o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aipht.' Cyfeirir yma at y duwiau a wasanaethid gan eu henafiaid yn nhir Chaldea. O'r tu hwnt i'r afon.- Y r afon Euphrates. Cyfeirir yn nesaf at y duwian wasanaethid gan y genedl yn yr Aipht. Un o blant yr Aipht oedd Josua, a gwyddai yn dda am eilun-addoliaeth y bobi yno. 15. 'Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddyw,' &c. Peth mawr ydyw dewis.. Y mae llawer o ddrwg yn y byd o ddiffyg dewis. Anystyriaeth a gynyrcha bechod lawer. Y mae yn rhwyddach o lawer fod yn ddrwg na bod yn dda. Nis gellir bod yn dda heb ddewis ac heb ymdrech; ond gellir bod yn ddrwg wrth beidio dewis bod yn dda, a thrwy esgeulusdod. Nid llawer sydd yn dewis bod yn ddrwg; y mae y rhan fwyaf o lawer yn ddrwg am eu bod yn rhy wan i ddewis bod yn dda. Yr oedd Josua yma yn awyddus i'r bobl ddewis-peidio addoli heb ddewis eu Duw. Dengys iddynt y gallant ddewis un o bedwar peth(a) addoli duwiau eu hynafiaid yn nhir Chaldea; (b) neu dduwiau yr Aipht; (c) neu dduwiau yr Amoriaid; (d) neu Arglwydd Dduw Israel. Gwaith rhwydd, gallasem. feddwl, ydoedd dewis. pnd un peth yw ymresymu, peth arall yw byw. Y mae rheswm yn dangos yn ddigon eglur hawliau Arglwydd Dduw Israel; ond y mae deddf yr aelodau yn ceisio eiaharwain yn barhaus ar ol duwiau dyeithr. 1 Ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.' Ffordd effeithiol iawn i fwrw y cynghor gartref. Pe troisai pawb yn anffyddlon i'r cyfamod, gallasai Josua ateb drosto ei hun a thros ei dylwyth. Peth ffodus iawn ydoedd ei fod yn alluog i ateb dros y tylwyth. Nid pob dyn da fedr roddi y sicrwydd hwn. Nis gellir rhoddi' cymeriad da i neb arall. Yn y pen draw y mae pob un yn gyfrifol drosto ei hun—y mae cymeriad yn unig iawn. Os doeth a fyddi, doeth a fyddi i ti dy hun; ac os gwatwarwr tydi dy hun a'i dygi.' 16—18. 'Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd,' &c. Yr oedd y bobl yn barod iawn i arwyddo y cyfamod, ac yn rhy barod, Llwyddodd Josua i'w codi i dymer frwd iawn, ac yn yr ysbryd hwn yr oeddynt yn barod i addaw pob peth. Perygl brwd- frydedd yw codi ein haddewidion yn mhell o olwg ein cyflawniadau. Coffhâ y bobl ddaioni Duw iddynt,. a'i "ryfeddodau mawrion,' ac yr oeddynt mor awyddus a Josua ei hun i adnewyddu y cyfamod. 19. 'A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd,' &c. Nid digaloni y bobl ydyw amcan Josua, ond dysgu iddynt gyfrifoldeb y cyfamod. Yr oedd am ddangos iddynt werth yr adduned, a dangos iddynt mai gwell oedd peidio addunedu nag addunedu. a bob heb dalu. Yr oedd Josua am iddynt adnewyddu y cyfamofl a'u llygaid yn agored. Gwyddai yn dda am eu hanfyddlondeb yn y gorphenol. Gwyddai mai tuedd addunedu yn frysiog oedd tynu oddiwrth rwymedigaeth yr adduned. Y mae ambell un mor anffyddlon i'w addttrledau, nes o'r diwedd nad oes yr un gwerth ynddynt. Pan wna addunedau nid oes neb a'i creda. ac nis gall gredu ei hun ychwaith. Camp Duw Sancteiddiol yw efe Duw eiddigus yw; ni ddyoddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.' Rhydd Josua yma ddatguddiad arywedd hono yn nghymeriad Duw, sydd yn lleiaf at-dyniadol i'r pechadur. Dengys y gwaethaf-dengys y groes, dengys ochr arwaf y cyfamod, os priodol dweyd felly. Duw' Sancteiddiol.-Cwbl rydd oddi wrth bechod. Duw eiddigus.—Duw nas gall roddi ei wasanaeth i arall Duw yn gofyn am bob peth yn llwyr—y galon yn llwyr, a'r gwasanaeth yn llwyr. Ni ddyoddef efe eich anwiredd:-Ni ddywedir yma fod Duw yn anmharod i faddeu. Ond dangosir nas gall wadu ei hun, fod yn rhaid iddo wrthwyriebu pechod, a chan gynawnhau na chyfiawnhi efe yr euog (Num. xiv. 18). 20. 4 O gwithodwch yr Arglwydd,' &c. Mor wir y dywedodd wrthynt! Yn union fel hyn y bu 22. 'A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun,' &c. Y fath drafferth gymer Josua i argraffu yr adduned ar eu meddwl, ac i wneud y cwrdd, hwn yn Sichem yri gwrdd byth gofiadwy yn eu hanes. 23. 'Am hyny yn awr, eb efe, bwriwch ymaith y duwiau dyeithr sydd yn eich mysg,' &c. Gwelir oddi wrth hyn nad oeddynt yn gwbl rydd oddi wrth eilun-addoliaeth, hyd yn nod y pryd hwn. Yr oedd delwau ac adduruiadau perthynol i dduwiau y cenedloedd yn eu tai ar yr adeg pan wnant y cyfamod hwn yn Sichem. Dengys Josua mai y peth cyntaf raid wneud oedd bwrw y rhai hyn ymaith. Addawsant wneyd, a gwnaethant hefyd. Bu heddwch yn nyddiau Josua, a chafodd efe yr hyfrydwch o farw mewn tangnefedd, a phobl ei ofal oil yn ffjddlon i'r cyfamod. Ond cuddio y delwau a wnaethant, ac nid eu dinystrio cawsant adgyfodiad drachefn, Gymaint yn rhwyddach yw cuddio pechod na'i ddileu

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.

YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.