Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
FY MRO ENEDIGOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FY MRO ENEDIGOL. Fy mro enedigol, mor anwyl yw hon, Ei henw sydd gadwen o amgylch fy mron IR wyf weithian yn 11awen ac weithiau yn brpdd Wrth gofio Llyn Tegid a'r Bala bob dydd. Awelon iaoh Penllyn, gardd y byd— Tra rhed fy ngwaed, tra ehwydda'm bron, Fy nghalon fyddynoo hyd. Llanuwchllyn a'r cyloboedd sydd anwyl i mi, Boed llwyddiant i'w dilyn tra daear a lli; *B wy'n earn eu henwau a deisyf eu lies— Hwy lanwant fy nghalon a eercb ac a gwrea. Mae nghalon yn Penllyn, gardd y byd— Tra rhed fy ngwaed, tra ohwydda'm bron, Fy nghalon fydd yno o hyd. Mewn dinas estronol yr ydwyf yn byw, A theimlad hiraethlawn wna'm calon yn friw IR wy'n earn doldiroedd a bryniau fy ngwlad, Ac anwyl hen aelwyd fy mam a fy nhad. Mae ngbalon yn Penllyn, gardd y byd- Tra rhed fy ngwaed, tra ehwydda'm bron, Fy nghalon fydd yno o hyd. (Mas.) BLANCHE SAMUEL.
NODIADAU WYTHNOSOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODIADAU WYTHNOSOL. -0- Parhau i waethygu y mae sefyllfa milwyr Ffrainc yn Madagascar. Coleddir y syniad hyd yu nod yn Paris fod yr awdurdodau yn gwneud camsyniadau dybryd yn nglyn a'r rhyfel. Rhyfyg o'r mwyaf oedd ceisio I cymeryd 15,000 o filwyr drwy randiroedd mor afiach ar adeg mor anghyfleus o'r flwyddyn. Mae y teimlad wedi codi mor uchel yn Ffrainc ei hun fel y credir y bydd rhaid i'r Llywodraeth ymddiswyddo os na thry y rhyfelgyrch allan yn Ilwyddiant buan. Dywedwn ninau Amen. Cyhoeddir yn awr fod Ymerawdwr China yn benderfynol o osod i lawr y blaid wleid- yddol fu yn ymosod ar y cenhadon yno. Dylid gwneud pob peth dichonadwy i ddyogelu bywydau a meddianau tramorwyr heddychol, yn genhadon a masnachwyr a phawb eraill. Mae gan y Presbyteriaid Seisnig nifer o genhadon a chenhadesau yn Ilafurio yn agos ilr fan lIe y llofruddiwyd y cenhadon eiaill yn ddiweddar, ac y mae yn naturiol iawn eu bod yn teimlo yn bryderus iawn yn eu cylch. Y mae, neu yn hytrach, yr oedd gan Mrs. Langtry werth tua £ 40,000 o emau yn cael eA padw er mwyn dyogelwch mewn ariandy yn Llundain, tra fyddai yn teithio ar hyd y byd. Daeth adref yr wythnos ddiweddaf, ac aeth rhywun i'r bank i geisio y blwca gemau i Mrs. Langtry, ac yr oedd ganddo nodyn yn dwyn enw y foneddiges yn gofyn am y blwch. Rhoddwyd y gemau iddo yn ddi-feddwl-ddrwg, ond yn mhen ychydig ddyddiau deallwyd mai lleidr beiddgar oedd y dyn, a bod y nodyn oedd ganddo wedi ei ffugio. Cynygir gwobr o £500 yn awr am ddwyn y lleidr i'r ddalfa. Cynhaliwyd ail gyfarfod o Ofynwyr firm Syr W. Davies dydd Llun. Awgrymai y pwyllgor ymchwiliadol fod iddynt ofyn am 10s. 6c. y bunt, a boddloni ar hyny yn hytrach na myned i dreuliau anferth Llys y Methdaliad. Gohiriwyd am wythnos er cael gwybod a foddlona y firm dalu hyny i'r gofynwyr. A barnu with arwyddion yr amserau, tybiwn mai dyna fydd y diwedd,— yr holl ofynwyr i ymfoddloni ar haner y symiau dyledus iddynt. Ymddengys fod rhagolygon y fasnach Alcan yn gwella yn Nghymru. Dywedir fod prisiau yr haiarn a'r dur a phethau angen- rheidiol eraill mor uchel yn America yn bresenol, fel nas gall y gweithfeydd alcan gael eu cario yn mlaen lawer yn hwy; ac felly y bydd yn rhaid can i fyny y rhan fwyaf o honynt yn fuan. Mae hyny yn golygu y bydd Inwyo alwad am gynyrehion gweithfeydd Cymru. Tra yn Uawenhau fod y fasnach yn adfywio yma, nis gallwn lai na chydymdeimlo a'r tin-platers yn America yn eu hadfyd. Mae Mr. Pritchard Morgan, A.S., wedi ymdrechu llawer yn y Senedd i symud rhai o'r rhwystrau sydd ar ffordd eangiad y mwngloddiau aur; ac y mae argoelion, bellach, fod ei ymdrechion i gael eu coroni a llwyddiant. Mae Ysgrifenydd Arianol y Trysorlys wedi addaw cymeryd y mater i'w ystyriaeth yn fuan. Da genym weled fod unrhyw gangen o lafur-waith yn adfywio. Bydd y fyddin sydd allan o waith yn rhy luosog wed'y n. Cynhaliwyd Gwyl Gerddorol fawreddog yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf. Derbyn- iasom ysgrif Saesneg yn rhoddi hanes y cyfarfodydd dydd Mercher a'r tri diwrnod dilynol, ond yr oedd mor bwyr yn dyfod i law fel nas gallwn fforddio amser,i'w chyfieithu yn gyflawn, er y buasai yn dda genym allu gwneud, ond dyfynwn rai o'r sylwadau.. Dydd lau oedd y diwrnod mwyaf Cymreig am mai dyma y dydd y datgenid Psalm of Life,' gwaith Mr. D. Jenkins-ar gyfer yr wyl arbenig hon. Rheriir y gantawd hon yn dair rhan, a gwneir hi i fyny oil o gydganau. Tybia ein gohebydd y cymerasai y gantawd yn well pe buasai ynddi rai unawdau. Daw ein gohebydd i lawr yn drwm ar rai o'r beirniaid Llundeinig am gondemnio Cyfansoddiad Mr. Jenkins, a dywed nad yw yn bosibl i'r Saeson i ddeall y Cymry yn drwyadl. Ychwanegai hefyd y dylasai y beirniaid Seisnig gofio mai dyn wedi gweithio ei ffordd i fyny drwy anfanteision mawrion yw Mr. Jenkins. Pe cymerasid hyny i ystyr- iaeth, diau na buasai eu condemniad mor eithafol. Rhoddir canmoliaeth uchel i ddat- ganiadau Mr. Ben Davies a Mr. Ffrangcon Davies ac eraill. Cwyna ein gohebydd nad oedd y gefnogaeth ddyladwy yn cael ei rhoddi gan y cyhoedd i'r Wyl Dair-blynyddol hon. Efallai mai un achos o hyny oedd y' crogbris a godid am fyned i mewn. Dichon hefyd fod sail i'r dybiaeth fod y canu yn rhy aruchel i gyfateb i chwaeth y lluaws. Gwir iawn y dylesid puro a dyrchafu ein chwaeth, ond nis gellir gwneud hyny ar unwaith. Er mwyn gwneud yr wyl yn fwy poblogaidd, awgryma ein gohebydd mai buddiol fuasai ei chyaal un diwrnod yn Nghaerdydd, a'r diwrnod dilynol yn Abertawe, a'r trydydd diwrnod yn Merthyr. Tybia efe y ceid cydymgeisiaeth iachus felly, ac yr arbedid y mudiad *rhag troi allan yn golledus mewn ystyr anianol. Nos Fawrth, yr wythnos flaenorol, cyflawn- wyd hunanladdiad yn y tren rhwng Glandwr a Chastellnedd gan foneddwr o'r enw G. H. Redgrave o Abertawe. Ymddengys iddo saethu ei hun gyda gwn yn y cerbyd. Darganfyddwyd y corff yn ngorsaf Castell- nedd. Cynhaliwyd trengholiad arno tranoeth. Yr oedd mewn iselder ysbryd er ys tro ar ol colli ei wraig, ac wedi ymollwng i raddau gyda pbethau meddwol. Yr oedd wedi ysgrifenu llythyrau, y rhai a ddangosent ei fod wedi rhag-fwriadu rhoddi terfyn arno ei hun. Nos Lun, rhoddwyd tystysgrifau Cym- deithas Royal Slumane i dn o fechgyn yn Nnreherbert am achnb bachgen arall o'r afon Rhondda pan yr oedd wedi llifo yn fawr. Tebyg ydyw yr agorir cronfa i roddi bathodau ilr tn. t.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAMS Largest Stock in Wales. 22ct Gold Wedding Rings. lSet Gold Keepers. ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. Brazilian Crystal Spectacles 29, CASTLE STREET, SWANSEA.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
[WILLIAMS Watchmaker & Jeweller. 29, CASTLE STREET SWANSEA. Gymry hoff dewch at y Cymra Os am heirdd fodrwyau aur Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd Gwres-fesurydd, cwmpawd m6r, Geir gan WILLIAMS, Heol-y Castell, Trowch i mewn i weld ei stSr