Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Nodiadau.
Nodiadau. Gan Ap y Frenni. Y mae tan y diwygiad yn ymledu drwy siroedd Gorllewinol y De. Mae wedi, cyrhaedd St. Clears. "Diolch Iddo Mae yn sain can a moliant yma bob nos hyd ddeg ac unarddeg o'r gloch a'r anhawsder gyda Ilawer yw ymadael wedyn. A'r hyn sydd wir am yr ardal hon, sydd wir am lawer ardal arall yn Siroedd Penfro, Aberteifi, a Chaerfyrddin. Yr ydym ar hyd yr wythnosau diweddaf wedi bod yn myned allan i gyfarfod y llanw, drwy weddiau dirgel a chyhoeddus, a dyhead calon am deimlo yn y tiriogaethau hyn yr hyn sydd yn ffaith mewn rhanau o Forganwg a rhai lleoedd eraill er ys ychydig wythnosau bellach. A myned allan i gyfarfod y llanw yr oeddem. Deuem ar brydiau i gyffyrddiad a folaen y don, a gwelem fod y llanw yn dod i mewn. Mewn ffordd bur ryfedd y daw y llanw i mewn yn naturiol. I'r sawl na wyr ei amser, mor anhawdd yw gwybod oddi wrth ddylifiad y tonau yn ol a blaen dros wyneb y tywod, pa un ai dod i mewn ai myned allan y mae. Hyd yn nod pan y mae yn ddiamheuol yn dod i mewn, teifl rai tonau yn bellach na'u gilydd. Nid yw pob ton yn ymdaflu yn belach na'r un flaenorol. Fel yna buom ninau am nosweithiau yn amheu a'i gorlifiad y llanw dwyfol oedd y profiadau eithriadol uchel a gaem ar brydiau, gan na chodai y teimladau yn llawn mor uchel feallai yn yr oedfa nesaf. Ond erbyn hyn, nid oes am- heuaeth nad ydym wedi cael llawn brofiad o'r cyffro mawr syd dyn y wlad. Yn wir, mae yn llawn Ilanw ambell noson a phe gofynai rhyw amheuwr genyf i brofi hyny, cyfeiriwn ei sylw at hen lestri a ryddheir, oeddynt wedi suddo, rai o honynt, yn y Ilaid a'r tywod er yr degau o flynyddoedd, ac ambell un yn wir heb ei symud gan don erioed. Chwareuai llu o ddynion iueainc ar y tywod,—y bel droed, etc. a daethai y llanw i mewn nes eu gwlychu drwyddynt, a gwaeddent yn ddolefus am newid dillad. Ca'r dillad chwareu fyned am byth. Ydyw, beR- digedig fo Duw! y mae Diwygiad '04 yn ffaith yn y siroedd tawel, digyffro, os nad oeraidd ar brydiau ,a nodais uchod. Yn Sir Aberteifi, o ran hyny, ei ganed. Daw yn 01, fel Evan Roberts ei hun, am dro i'w enedigol fro. Arosed yma'n hir. Gallwn, bellach, yn y Gorllewinbarth yma son am oedfaon byth-gofiadwy. Pe darfyddai y cyffroad heddyw, bydd tyrfa o bobl sydd ieuainc yn awr, yn adrodd yn mhen haner cant a thriugain mlynedd am Ddiwygiad 1904, fel peth y maent wedi ei brofi drostynt eu hunain. Nos Fawrth, Rhagfyr 20, y torodd yr argaeau yn y cylch neillduol yr wvf fi yn 'troi ynddo, yn Llan- ddowror. Cyfarfod unol oedd, agored i'r holl enwadau. Cawsom Ie da yn y prydnawn. Yr oedd pawb yn teimlo yn weddol gynes, ac wrth eu bodd. Tra yr ai y merched a'r gwragedd allan i gael te, arosodd y gwyr a'r gweision ar ol i weddio. Yna dychwelodd y benywod, ac aeth y gwrywod allan i gael te. Erbyn hyn yr oedd bron yn amser eto i ddechreu oedfa yr hwyr. Yr oedd y capel yn llawn. Aed yn mlaen am tua awr a haner, feallai, heb fod dim yn arbenig iawn yn digwydd yn wahanol i'r prydnawn; ond eodai'r: llanw yn gyflymach dipyn. Dechreu- odd y gwreichion tan ddisgyn yn awr, -i mi gael newid y ffigwr-gyda'r cyf- newidiad mawr adaeth dros yr oedfa. Torodd gwr ieuanc allan i weddio yn gyhoeddus, na chlywyd ef yn gwneud dim ond canu yn gyhoeddus erioed. Gyda'i fod ef yn gorphen ei weddi fer, semi, wefreiddiol, ddifrifol, dyma bedwar ger bron gorsedd gras gyda'u gilydd, yn wyr a gwragedd-cyfeillion mynwesol y gwr ieuanc. A dyna hi yn awr yn folianu drwy'r lie am ddwy awr arall. Gwelid ambell hen wrth- filiwr yn sypyn bach yn nghongl y sedd yn foddfa o ddagrau. Siarada y rhai oedd yn bresenol am yr oedfa hon tra y cofiant ddim. Teyrnasai math o arswyd melus drwy y lie. Fel y dy- wedai un brawd ar ei ddeulin nos Wener: Arglwydd mawr, fe gawsom ein dychrynu nos Fawrth! O! fe'n llanwyd ag ofn sanctaidd nos Fawrth!" Ymleda'r tan i gyfeiriad y Gorllewin. Aed dros Gymru oil a'r byd yn lan. Ysgrifenaf y nodiadau hyn yn Nghadle. Treulia "Tawelfryn" a minau Sul a Llun y Nadolig yma. Cawn siarad ychydig yn ein tro ond y mae yr holl bobl ar dan yn cadw gwyl i'r Arglwydd. Hen ac ieuainc yn barod i weddio, y canu yn gynes, a'r dyblu a threblu y gan yn ddiddiwedd bron. Y mae pob oedfa yn gyfuniad o gyfarfodydd pregethu, gweddio, a chyfeillach, a chymanfa ganu yn y fargen. Y mae Mr. Davies ar ei uchelfanau, wrth reswm. Yn sicr, y mae yma deimladau angerddol, ac y mae y canlyniadau yn fendigedig. Daw gwrandawyr a gwrthgilwyr i mewn i'r eglwysi wrth yr ugeiniau. Y mae gorymdaith yn awr ar gychwyn cerdded drwy y lie, dan ganu a siarad a gweddio ar gonglau yr heolydd. Sain can a moliant sy'n llanw'r holl wlad.
» YR EGLWYSI CYMREIG YN LLUNDAIN.
» YR EGLWYSI CYMREIG YN LLUNDAIN. Swn deffroad a gwaith sydd yn eglwysi Anibynol Cymreig y Brif Ddinas. Ymdyngheda aelodau y King's Crcrss y bydd iddynt i dalu B2,000 o'u dyled yn fuan, a hyny ar ol yn ddiweddar i dalu tua BIjOOO. Ac mae Barret's Grove yn dyheu am ac yn darparu ar gyfer Jubili cyn hir, drwy dalu £1,000 o'u dyled. Mae person di-enw yn adaw £30°1 os gwna'r eglwys gyfarfod a B700. Beth ddywed eglwysi segur a chybyddlyd am hyn ?
Mr. Albert Spicer, Y.H., a…
Mr. Albert Spicer, Y.H., a Deddf Addysg, 1902. Un o Anibynwyr amlycaf Llundain yw Mr. Albert Spicer. Mae yn wr o haelionusrwydd mawr, ac mae ei gyd- ymdeimlad yn fawr a Chymru. Efe yw Trysorydd Cymdeithas Genhadol Llundain, ac mae ei weithgarwch a'i wasanaeth crefyddol yn glodfawr. Cymer ei safle gyda'r gwrthsafwyr goddefol, yn ei berthynas a'r Ddeddf Addysg. Gelwid ef a Dr. Clifford, ac eraill o flaen yr ynadon y dydd o'r blaen. Er yn Ynacl Heddwch ei hun, cadd ei rwystro i siarau o flaen y fainc. Dadl cadeirydd y fainc ydoedd nad allasent oddef neu ganiatau i Deddf Seneddol gael ei beirniadu mewn llys barn sylw a., ddengys mor anffaeledig y sieryd ambell ynad heddwch digyd- wybod am Ddeddfau Seneddol. Felly y siarada ynadon nad oes ganddynt i'w harwain ond eu safle a'r ddeddf. Modd bynag, dadl Mr. Spicer, ger bron yr ynadaeth oedd, fod Deddfau Addysg 1902 a 1903, yn anghyfiawn; yn anghyfiawn yn y gorthrwm sydd yn nglyn a'u rhoddiad mewn grym. Ond nid agwedd wleidyddol anghyfiawn y Ddeddf oedd y wedd waethaf arni. Safai ef ger bron ar dir uwch. Nid oedd gan y Llywodraeth hawl i orfodi i neb o'r deiliaid i daitt am ddysgu crefydd yn yr ysgolion dyddiol. Gor- phwysai y cyfrifoldeb hwnw ar rieni plant, ac ar yr eglwysi, a hyny yn gyson a'u goleuni ac a'u gwirfoddol- rwydd. Pan adawai y goreugwyr hyn y Ilys, gofynai un, Pa mor hir eto y goddefa y wlad y fath faeddu ar bersonau da i gymeryd lie ?" Ac atebiad Cymru i'r gofyniad yw, hyd yr etholiad cyff- redinol nesaf. Yr ydym yn teimlo heddyw gymaint ag erioed, mai ein dylcdswydd ydyw dal y mater hwn ger bron y cyhoedd, ac mae y cyffroad crefyddol presenol, yn lie lleihau ein hymlyniad wrtho, wedi ei fwyhau, a'i angerddoli. Credwn gydag eraill fod dyoddefaint y wlad yn herwydd gorth- rwm y Ddeddf Addysg, wedi bod yn un o'r cynorthwyon anuniongyrchol i gymhwyso meddwl y bobl at dywalltiad yr ysbryd. Dylanwad aruthrol o gyf- riniol ac ysbrydol sydd gan wir ddy- oddefaint yn herwydd egwyddorion a chydwybocl a hyn a geir yn Nghymru heddyw; ac nid yw ton fawr y Diwyg- 'iad wedi ei foddi, nac wedi ei hamcanu i hyny. Mae pob cyfnod o ddyoddef yn gyfnod o ddiwygiad hefyd.
[No title]
Yn ystod yr ystormydd diweddar, cafwyd pedwar o lwynogod wedi boddi yn ngenau yr Afon Ogmore. Cafodd cyfarfod ei gynal yn Wrec- sam prydnawn dydd Llun, yr hwn a alwyd gan y Maer (Mr. E. Birkett Eva.ns), er cymeryd i ystyriaeth y moddion goreu i ymwneud a'r tlodi oedd yn y dref. Penderfynwyd agor trysorfa i gynorthwyo, ac addawodd amryw gyfranu tuag at y cyfryw.
Y Cadfridog Booth ar yr Aelwyd
Y Cadfridog Booth ar yr Aelwyd Un o ddynion goreu Cwm Aberdar, ydyw Mr. Powell, lie bu y Cadfridog Booth yn iletya yn ystod ei arosiad yn Aberdar. Mae efe, a'i briod caredig yn llawn o gydymdeimlad ac hynaws- edd; ac mae ei safle grefyddol yn Saron yn un anrhydeddus a da. Gwelsom ef ar yr heol y dydd o'r blaen, a gofynasom iddo, "Fath un oedd y f Cadfridog. Booth ar yr aelwyd? A ydoedd yn gartrefol?" "Un o'r rhai mwyafsyml a hydrin ydoedd, ac yr oeddym wrth ein bodd yn ei gyfeill- ach," ydoedd atebiad lion Mr. Powell. A ydoedd yn bwyta yr hyn a osodir yn gyffredin o flaen pobl, neu a oedd ganddo ei fwydydd ei hun?" gofynem eilwaith. Gwahanol i luaws o honom ydoedd ei fwyd," ebe Mr. Powell; ni chymerai gig na physgod o fath yn y byd. Hoffai fara wedi' ei dostio yn sych; ac yr oead yn credu yn gryf mewn te ,a llaeth wedi ei ferwi. Cymerai bytatws hefyd, ond eu cael heb dynu y plysg odai am danynt. Ei brif fwyd oedd bara sych, te, a llaeth twym. Dywedai y gallasai ymladd y byd a'r tri hyny a gwnaethai yn fawr o honynt." Awyddem wybod drachefn fath ym- gomwr ydoedd; a'r atebiad a gawsom ydoedd: "Yr oedd yn hollol ddi- seremoni yn yr oil; yn agos iawn atom ni fel teulu ond ei brif destyn oedd achub pobl a'u codi i anrhydedd. Am hyny y siaradai o hyd, ac am hyny y gweddiai 'beunydd a beunos. Dywedasom wrth Mr. Powell, ein bod yn eiddigeddus wrtho ef a Mrs. Powell, yn yr anrhydedd a. gawsant i gymeryd y fath berson o dan eu cronglwyd a dychwelodd ei atebiad yn gadarnhaol gyda deigryn yn ei lygad.
[No title]
-(!)- Rhoddir coes bren Ardalydd cyntaf Mon ar werth yn fuan yn Beaudesert, Sir Staffosd. Fe gofir mai yn nglyn a hyn yr anfarwolodd y Bardd Cocos ei hun. Penodwyd pwyllgor i ymgymeryd a'r gwaith o gasglu trysorfa i godi eglwys newydd yn y Barry.
... AELODAETH GREFYDDOL YN…
AELODAETH GREFYDDOL YN AMERICA. Mae Dr. Schauffer, Golygydd mis- olyn cenhadol yn Efrog Newydd, wedi casglu ffigyrau i osod allan gynydd yn rhif aelodau yr eglwysi Cristionogol ar hyd y ganrif ddiweddaf. Bwi-iedid hwynt yn gyntaf i Archesgob Caer- grawnt ar ei ymweliad a'r wlad. Gwas- anaethai y ffigyrau iddo er dangos Ilwyddiant eglwysi sydd yn rhydd o afaelion y Senedd. Dyina'r tabl:- Yn 1800 yr oeddynt yn 364,872 yn 1850, yr oeddynt yn 3,529,983; yn 1880 yr oeddynt yn 10,065,965; ac yn 1903, yr oeddynt yn 18,689,857. Dengys y tabl hwn fod y cynydd yn rhif yr ael- odau yn gyflym iawn, ac yn ateb i'r boblogaeth yn dda.