Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Diwygwyr Crefyddol Cymru gynt.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Diwygwyr Crefyddol Cymru gynt. Gail H. I. J. Siaredir am Gymru fel Gwlad y Diwygiadau," neu yr Adfywiadau Crefyddol." Pa un o'r ddau ymadrodd yna yw yr hapusaf i'w gymhwyso at y ddiwygiadau crefyddol bendigedig gy- mei-asant Ie, ac sydd yn cymeryd lie y dyddiau hyn mewn Ilawer parth o'n gwlad anwyl ? Gwelaf mai y blaenaf bron yn ddieithriad, arferir yn y wasg Gymreig tra mai yr olaf, yn ddieithr- iad, arferir yn y wasg Seisnig. Ai tybed nad y Sais yw yr agosaf i'w le yn yr achos hwn, modd bynag ? Bu cyfnewidiadau er gwell yn hanes creiydd gymdeithasol yn ein gwlad ni a gwledydd eraill, pan mai y gair diwygiad oedd yr ymadrodd priodol f-r gosod hyny allan. Braidd na thyb iaf mai adfywiad" yw yr ymadrodd puodolaf i'w arfer am y "peth yma" s/cld drwy ras y nef yn cymeryd le yn awr yn Nghymru. Diau genyf y gellid cyfleu gwir ddy, mi niad holl ddarllenwyr y Cel o lethynas i hyn yn ngeiriau yr em;pydd Cerdd yn mlaen, nefol da i, Cymer yma feddiant glan." Yn y mwynhad o'r adfywiad pr^eno!. nic oes dim yn fwy naturiol na bod (m ntdclyIiau yn rhedeg yn ul at y "dlwygiwyr," y "diwygiadau, aV "ad- fywiadau," a'r rhai y bendithiodd y nef ein cenedl a hwy, yn yr amseroedd gynt a fu." Y mae i'n gwlad hanes gwerthfawr yn y cyfeiriad hwn. Nis gallwn byth ryddhau ein hunain o'u rhwymau i gydnabod am y dyn.on gwerthfawr godwyd ganddo flynydd- flynyddoedd lawer yn ol, er cynydd crefydd ysbrydol yn ein tir. Erys d)- lanwad y gwaith dros y nef, gyflawnwyd gan y cedyrn hyny hyd y dydd hwn. Y mae Duw o hyd yn ateb gweddiau offrymwyd ato ganrifocdd ac ugeiniau o flynyddoedd yn ol, mor wirioneddol ag y mae yn ateb gweddiau y dyddiau hyn. A bydd Efe yn parhau i ateb am oesau eto ddel, y gweddiau anfonir ato yn y presenol. Mae gweddiau hen weddiwyr Fel angylion yn y gwynt; Pwy a wyr sawl bendith heddyw Sydd yn dod o'r oesau gynt." Nac anghofiwn ein dyled i ddiwygwvr gweddigar Cymru Fu. Beth fyddai i ni mewn nifer o ysgrifau byrion, gymeryd taith h..itio iddynt, gan wrth sylwi arnynt, gyd- nabod Duw yn ddiolchgar am danynt, a phenderfynu y mynwn yn nghymorth ei ras Eí, fod yn olynwyr teilwng idd- ynt. Dechreuir gyda John Penry, a deuwn yn mlaen hyd doriad allan y Diwygiad Methodistaidd," fel ei gelwir. Er mai am Gymru yr ydys yn ysgrifenu, etc, purion peth fyddai deall yn glir fod y syniad—yr ystyr syld i1 ymadroddion—" Diwygiad MedDdist aidd," yn eangach ei gylch na 1 hy- v/ysogaeth Cymru. Y mae yr env\ wedi ei ddefnyddio weithiau s.mrano..t--a dweyd y lleiaf—heb fod yn anrliydcdd- us iawn. Cofied y darllenydd ieuanc fod yr enw yn cynwys y diwygiad trwy y Wesleys a Whitfield. A dyna ei ystyr eangaf. Bu yn Nghymru ddiwygwyr anrhyd- eddus yn flaenorol r Penry, megys Bradwardine, Walter Brute, a John Hengastell-wedi hyny a adwaenid wrth yr enw Arglwydd Cobham. Blodeuai y blaenaf a enwyd yn flaenorol i John Wycliff. Yr oedd Walter Brute vn bregethwr teithiol, ac yn dra efengyl- aidd ei athrawiaeth. Bu efe farw yn ¡ ferthyr dros wirionedd efengyl lesu Grist. Llafuriodd efe fel hyn am tua ugain mlynedd, sef o 1372 hyd 1393. Ganwyd John Hengastell yn Sir Fynwy—yn Swydd Henffordd, medd eraill. Bu hyn fel y tybir yn y flwydd- yn 1360. Merthyrwyd ef yn Llundain, a hyny mewn dull tra dychrynllyd, ar Rhagfyr 25, 1417. Diwygwyr Cymreig o'r iawn ryw oeddynt William Salisbury, yr Esgob Richard Davies, Thomas Huck, a'r Dr. William Morgan,-y rhai rhyngddynt a roddasant i'r Cymry Air Duw yn eu hiaith. Modd bynag, awn heibio i'r dynion rhagorol hyn, heb ond eu henwi fel yna, a chychwynir y tro nesaf gyda John Penry. Ni roddir ond yn unig fras linelliad o'u bywydau a'u gwaith. (I'w barhau.)

CILYCWM.

Tanchwa mewn Glofa yn Gowerton.

Carmel, Clydach.

BETHEL, PENRHYNDEUDRAETH

MYFYRDOD YR AFRADLON UWCH…

Advertising