Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, A GYNNALIWYD YN RHUTHYN, Awst 4ydd, 5ed, 6ed, a'r 7fed, 1868. Nos Lun, y 3ydd, cynnaliwyd cyfarfod yn Neuadd y dref, perthyn- ol i'r Adran Gelfyddydol, pryd y darllenwyd papyrau galluog gan amryw bersonau.
-DYDD MAWRTH.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
DYDD MAWRTH. Llywydd-Syr Watcyn Williams Wynne, A.S. Ar ol y cyfarfod yn Neuadd y dref am 9, cyfarfu aelodau Pwyll- gor yr Eisteddfod, tanysgrifwyr, cyfeillion yr Eisteddfod, &c., yno drachefn am 11, pryd y darllenwyd cyhoeddiad neu "Osteg" yr Eisteddfod, ac yr arweiniwyd y llywydd i'r Babell. Wedi hyny, cafwyd toil genedlaethol gan y Seindorf; araeth gan y llywydd; can genedlaethol gan Owain Alaw. Yna aethpwyd at brif waith y dvdd. 1. Am y traethawd Seisnig goreu ar "Greigiau Cymru." Gwobr, £ 10 10s., a medal arian. Beirniad, Proffeswr Ramsay, Llundain. Goreu, Mr. J. E. Thomas, Park Street, Westminster. 2. Cystadleuaeth ar y Berdoneg, i ferched dan 20 oed. Gwobr, medal arian. Yr oreu, Miss Brayshaw, Llaneurgain. 3. Am yr Englyn goreu i'r "Melinydd." Gwobr, medal arian. Beirniad, y Parch. J. R. Morgan, (Lleurwg). Goreu, Mr. J. 0. Griffith, (loan Arfon), Caernarfon. 4. Cystadleuaeth mewn canu pennillion gyda'r Delyn. Gwobr, £110s. Beirniad, Talhaiarn.. Goreu, Mr. Ithel Williams, Corwen. Can gan Mr. Moses Davies, Glyn Ebbwy. Unawd ar yr harmonium gan Mr. Argent, Rhyl. 5. Am y Gan neu y Bryddest oreu, yn Seisnaeg, wedi ei chyfadd- asu i gerddoriaeth, heb fod dros 30 llinell, gan Gymro neu Gymraes.. Gwobr, £20, yn cael ei rhoddi gan W. Banting, Ysw., Llundain; a medal arian gan bwyHgor yr Eisteddfod. Gohiriwyd hyd ddydd Iau. 6. Cystadleuaeth Gorawl mewn canu "Y Mab Afradlon," gan Gwilym Gwent. Gwobr, JE10 10s. Beirniad, J. Hullah, Ysw., Llundain. Goreu, Cor Dyserth. 7. Am y traethawd goreu ar "Gartref y Gweithiwr." Gwobr, zC5 5s. a medal arian. Beirniad, Mr. Gee, Dinbych. Goreu y Parch. Robert Owen, Pennal, sir Feirionydd. 8. Cystadleuaeth ar y Berdoneg, i feibion dan 20 oed. Gwobr, medal arian. Goreu, Mr. W. Rees, Caerfyrddin. 9. Am y Bryddest oreu i "Gastell Rhuthyn," heb fod dros 300 llinell. Gwobr, C5 5s. a medal arian. Beirniad, y Parch. D. Howell, (Llawdden). Goreu, Talhaiarn. 10. Cystadleuaeth Gorawl mewn canu "Yr Ehedydd." Gwobr, £5 58. Beirniad, J. Hullah, Ysw., Llundain. Goreu, CorBettws- y-coed. Araeth Saesneg gan Faer'Rhuthin. 11. Am y Gan Ddirwestol Genedlaethol oreu. Gwobr, R5 5s. Beirniad, y Parch. T. Levi, Treforris. Goreu, Mr. D. C. Harris, (Caeronwy), Llandeilo Fawr. 12. Cystadleuaeth mewn canu "Ochenaid y Morwr." Gwobr, £22s. Beirniad, J. Hullah, Ysw., Llundain. Goreu, Eliza Jones, a Hannah Hughes. 13. GWOBR 0 150 GINI am y traethawd goreu yn Gymraeg, Saesneg, Ffrancaeg, neu Ellmynaeg, ar "Ddechreuad cenedl y Saeson; gyda chyfeiriad yn fwyaf neillduol at y cwestiwn, Pa cyn belled y maent yn deilliaw o'r hen Frythoniaid 1" Rhoddwyd 100 gini gan A. J. Johnes, Ysw.; a 50 gini gan bwyllgor yr Eisteddfod. Beirniad, yr Anrhyd. Is-Iarll Strangford. Goreu, Mr. John Beddow, M.D., Landsdowne Place, Bristol. 14. Am y Casgliad goreu o Beroriaeth Gymreig, wedi eu cyfadd- asu 1 r Seindorf. Gwobr, J610 10s. Beirniad, Edward W. Thomas, Ysw. Goreu, Mr. B. M. Williams, Ruthyn. Yn yr hwyr, am 6, cafwyd Cyngherdd ardderchog.
DYDD MERCHER.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
DYDD MERCHER. Cyfarfu adran y I Social Science,' am 9, yn Neuadd y dref, dan lywyddiaeth Hugh Owen, Ysw., Llundain—cychwynydd yr adran. Darllenwyd yno bedwar o bapyrau o fudd pwysfawr. Bwriadwn gyfeirio atynt oil a gwneuthur defaydd o honynt mewn rhifynau dyfodol. Cyfarfuwyd yn y Babell Fawr an 12 o'r gloch. Llywydd-Townshend Mainwaring, Ysw., A.S. C&n gan y Cor. Can gan S. A. Jones. 1. Am y Gan oreu ar yr "Atlantic Telegraph." Gwobr £ 2 2sv Neb yn deilwng. 2. Cystadleuaeth ar y Delyn Deir-res. Gwobr, t5 5s. Beirniad, Ellis Roberts, Ysw. Goreu, Mr. Foulkes, Rhuthyn'. 3. Am. y traethawd goreu ar "Hanes yr Eisteddfod, o'i dechreu- adhyd yr adeg bresenol, yn nghyda'r manteision ymarferol sydd wedi deilliaw oddiwrthi. Gwobr, £ 15 15s. a medal arian. Beirn- lad, y Parch. R. Parry, (Gwalchmai). Goreu, T. E. Watkins, (Ynyr Gwent). 4. Cystadleuaeth mewn canu 'The Village Blacksmith." Gwobr, £1 Is. Beirniad, John Hullah, Ysw. Goreu, Ap Rhys, Caer- fyrddin. 5. Am y Bryddest oreu, heb fod o dan 800 o linellau, ercoffad- wriaeth am y diweddar Barch. Samuel Griffith, gweinidog yr Eglwys Gynnulleidfaol yn Horeb, sir Aberteifi. Gwobr, J615 15s., yn cael ei rhoddi gan Eglwys Horeb. Beirniad, y Parch. Samuel Roberts, (S. R.) Goreu, Parch. B. Thomas, Castellnewydd Emlyn. 6. Cystadleuaeth Gorawl—" Stone him to death." Gwobr, £20. Beirniad, J. Hullah, Ysw. Neb yn deilwng. 7. Am y Traethawd goreu ar "Enwogion sir Ddinbych." Gwobr, R15 15s. a medal arian. Beirniad, William Lloyd, Ysw., Maer Rhuthyn. Neb yn deilwng. Can gan Owain Alaw—"Hen Wlad fy Nhadau," a'r dorf yn uno yn y Cydgan. 8. Am y 12 Englyn goreu i "Moel-Fammau." Gwobr, £ 2 2s. Beirniad, y Parch. J. R. Morgan, (Lleurwg). Goreu, Rhisiart Ddu o Wynedd. Araeth wresog gan Morgan Lloyd Ysw., ar Gymeriad cenedl y Cymry. 9. Am y traethawd goreu, hanesyddol a dysgrifiadol, o holl Weithydd Alcan (Tin) Deheudir Cymru a sir Fynwy, (Cymraeg neu Saesnaeg). Gwobr, £1010s. a medal arian. Neb yn deilwng. 10. "Y BRYDDEST FA WR. "-Am y Bryddest oreu ar "EIiM y Thesbiad." Gwobr, R20 a'r Urdd Goronog. Beirniad, y Parch. John Evans, (I. D. Ffraid), Llansantffraid-glan-Conwy. Goreu, Llew Llwyfo. Taranau o gymeradwyaeth wrth ei goroni. 11. Cystadleuaeth Gorawl—"Sweet day so cool," a "Boat Song." Gwobr, £ 5. Beirniad, J. Hullah, Ysw. Neb yn ymgais. 12. Am y traethawd goreu ar "Hanes Rhuthyn," (yn Gymraeg neu Saesnaeg). Gwobr, £10 10s. a medal arian. Beirniad, y Parch. Warden, Rhuthyn. Neb yn deilwng. 13. Cystadleuaeth ar y Berdoneg, i foneddigesau. Gwobr, medal arian, a chyfrol o "Recollections of Wales," yn cael ei rhoddi gan Mrs. Edward Westbrook. Yr oreu, Miss Prydderch. 14. Am y Fugeilgerdd oreu ar unrhyw destun. Gwobr, R5 5s. a medal arian. Beirniad, Mr. D. T. Williams, (Tydfylyn), Merthyr Tydfil. Goreu, y Parch. J. Spinther James. 15. Am y Gan a'r Gydgan oreu, i'w chanu ar agoriad cyfarfodydd yr Eisteddfod. Gwobr, R5 5s. a medal arian. Beirniad, Brinley Richards, Ysw. Goreu-y geiriau gan Mr. Evans; y gerddoriaeth gan Mr. Brown, Aldershot. Am 6, bu cyngherdd mawreddog. RHUTHYN, Boreu Dydd Iau. Taenir y gair mai CADAIR WAG fydd Cadair Eisteddfod Rhuthyn. Nis gwyddom pa un ai gwir ai celwydd ydyw.
PARKYRHOS, GER LLANBEDR-PONT-STEPHAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PARKYRHOS, GER LLANBEDR-PONT-STEPHAN. CYNNALIWYD Cyfarfod Chwarterol sir Aberteifi yn y lie uchod ar y 29 a'r 30 o Orphenaf. Am 11 o'r gloch y dydd cyntaf, ymgyfarfyddodd y gweinidogion ac eraill mewn cynnadledd; ac wedi ethol y Parch. T. Thomas, Llanfairclud- ogau yn llywydd, cydunwyd:— 1. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i fod yn Aberteifi yn mis Hydref. 2. Darllenwyd papyr ar y "Cyfeillachau Eglwysig," gan y Parch. O. Thomas, Brynmair; ac wedi i amryw o'r brodyr siarad arno, a hyny yn gymer- adwyol o hono, penderfynwyd i Mr. Thomas ei ddarllen etto yn nghynnadledd y Cyfarfod Chwarterol nesaf. 3. Ar gymeradwyaeth y Parch. W. J. Davies, Salem, penderfynwyd cyf- lwyno Mr. M. C. Morris, aelod o Salem, i sylw Pwyllgor Athrofa y Bala, fel un cymhwys i gael ei dderbyn i fwynhad o freintiau yr Athrofa. 4. Ar ol i'r Parch. VV. J. Davies, Salem, wneud yn hysbys ei fwriad i ym- adael o'r sir, penderfynwyd "Rin bod yn ei wresog gyflwyno, er y teimlwn yn hiraethlawn iawn ar ei ol, i gyfundeb sir Gaerfyrddin, ar ei yniadawiad o'n plith i Salem, Llanymddyfri." Pregethwyd yn y gwahanol. gyfarfodydd gan y Parchn. Davies, Salem; Jones, Crugybar; Williams, Clarach; Rees, Talybont; Jones, Cilcenin; Thomas, Brynmair; Evans, Aberaeron; Phillips, Ty'nygwndwn; Owens, Pencader; a Williams, Rhydybont. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan Mr. Jones, Aberhonddu; y Parchn. Williams, Bettws, sir Feirionydd; a Morgans, Penlan; a Mr. Morris, Salem. Cafwyd cyfarfodydd da, a gobeith- iwn y byddant yn nerth ac adfywiad i'r eglwys yn y lie, yn weinidog a phobl, ac y cvnnvrchant les amserol a thragwyddol i lawer eraill.- R.J ONES.
OAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OAERDYDD. YR hyn a hynoda Caerdydd, Pontfaen, a Llantrisant yn awr, ydyw yr ysbryd etholiadol, yr hwn a ymledodd fel tan gwyllt trwy rengoecld byddinoedd y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr. Bu Col. Stuart, (yr hwn sydd gefnder i Arglwydd Bute), yn aelod ffyddlon dros y Bwrdeisdrefi hyn am flynyddait hirion, yn bob peth ag y dymunasai y Rhyddfrydwyr iddo fod; ond pender- fynodd y Toriaid i fynu terfyn ar ei wasanaeth fel aelod seneddol, os gallant; a daethant a Thori rhone yn ymgeisydd am yr anrhydedd o'u eynnrychioli yn y Senedd Newydd, o'r enw H. S. Giffard, Q. C.; ae y mae dyn o'r enw Boylr- am ddal, scriwio, a berwi pob un a'r a alio o weithwyr Arglwydd Bute, a gwneud cawl neu freci cryf a hwy i syfrdanu pob Rhyddfrydwr erbyn dydd yr etholiad. Ond credaf y bydd hyny yn ormod o '.job' iddo. Rhyddfrydwyr o galon ydym ni yma, a clireclaf fod digon o benderfyniad xnecldwl a g\^oldeb calon ynom i amddiffyn ein hegwyddorion; pe gorfyddai i ni golli ffafrau. a gwenau, a gwaith y Toriaid. Y mae yma gyfarfodydd lluosog yn cael eu cyn- nal. Bu cyfarfod gyda Mr. Giffard yn y Drill Hall nos Sadwrn, Gorph. 25; ond ni chafodd wrandawiad, fel y gorfu arno ymneillduo yn ngofal yr hedd- geidwad. Ac ar ol ei waredu ef o'r ffordd, cynnaliwyd cyfarfod oyhoeddus yii yr awyr agored gan y gweithwyr rhyddfrydol yn ddoniol a difyr, a phawb yn gwaeddi nerth ei ben, "Col. Stuart for ever." Hefyd, cynnaliodd y Rhydd- frydwyr amryw gyfarfodydd yn ystod yr wythnosau diweddaf, a chafodd y Cyniry gyfarfod lluosog iawn yn y Stuart Hall nos Wener diweddaf, pryd yr anerchwyd y cyfarfod gan amryw weinidogion a boneddigion eraill. Cafwyd cyfarfod hwylus; a phawb fel un gwr am anfon Col. Stuart i'w cynnrychioli yn y Senedd Newydd. A chredwch fi, felly y bydd hi hefyd; a rhaid i minnau dewi, onicte bydd i'r Gol. fy ngbadw innau allan o'r DYDD.—DEINIOL DDU. LLUNDAIN.-Cynnaliodd eglwys y Bedyddwyr yn heol y Castell eu eyfarfod biynyddol eleni Gorph. 31, ac Awst 2 a 3. Nos Wener, pregethodd y brodyr J. D. Jones, gynt o Pater; a J. Lloyd, Merthyr. Bore Sabbath, am 10, H. Morgan, Dolgellau; a J. Lloyd. Am 2, H. Jones, M.A., Llangollen; a J. Lloyd. Am 6, H. Jones, M.A., a H. Morgan. Nos Lun, deehreuwyd gan J. Lloyd; a phregethodd H. Jones, M.A., a H. Morgan. Cafwyd cyfarfod rhag- orol, a gobeithiwn y bydd effeithiau da yn canlyn. „