Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

"Y DYDD"

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Y DYDD" DAN WIAIL EI OHEBWYR. YR oedd y DYDD, druan, wedi breuddwydio am gael prydnawn tawel, difyr, o wledd wrth fwrdd ei ohebwyr; ond, yn lie hyny, cafodd oedfa faith, dywyll, a rhai mynydau o fellt a tharanau dan eu llaw geryddol." Ymosodwyd arno, yn gyntaf oil, gan tua naw o athrawon ieuainc pur dafodog. Dangosai y cyntaf wyneb hyf, a dywedai, "Anfonaisi ti hanes ein cwrdd Ysgol ni. Yr oedd ein canwyr a'n hareithwyr yn eu hwyliau goreu. Cy- merais boen i grybwyll yr alawon a ganwyd, a'r darnau a ddat- ganwyd, a'r pennodau a adroddwyd; ac i ysgrifenu crynodeb go lawn o araeth y cadeirydd, a fy araeth fy hun, ac areithiau pump o'r athrawon eraill; ac i ni ymadael wedi i bawb gael eu llwyr foddhau. Ond yr oil a allaist ti gyhoeddi oedd tair 'line' a chwarter—ein bod wedi cael cyfarfod lluosog a hwylus, a bod yr holl wasanaeth, y gan a'r gerdd, a'r weddi a'r araeth, yn felus ac yn fuddiol." Ac meddai yr ail athraw, "Gwnest yr un modd a'mhadrodd- iad innau o hanes pwysig ein cwrdd athrawon." Ac meddai'r trydydd, "0 hanes ein te parti ninnau, wedi i mi gymeryd ffwdan i ddarlunio tlysni ein llestri china' a bias ein bara brith, a gfoiau llaesion ein boneddigesau." Ac meddai'r pedwerydd. Ni ddywedaist ddim hanner gair am excursion' ribanawg ein Hysgol ni." Pan oedd pedwar eraill, yn lied goch eu hwynebau, wedi neidio ar eu traed i dywallt eu cwynion, twymnodd a gwylltiodd y DYDD, a gwaeddodd, "Stop, sit down; one at a time." Ond, gan nad oeddynt yn deall y geiriau dyfnion unsill hyny, llefodd yn llygaid. y gwr blaen, "Cau dy geg;" ond agor- odd hwnw ei geg yn lletach, a dywedodd, y mynai drin y DYDD hyd byth am na chyhoeddodd areithiau eu cyfarfod hwy. A phan yr oedd wedi myned bron allan o wynt wrth drin, dywed- odd y DYDD wrtho, Yn wirionedd i ti, nid oedd eich areithiau chwi ddim hanner cystal ag esboniadau, a phrofiadau, a chy- nghorion Bodo Gainor, a Modryb Pal, Neli Fach, a Sara o'r Ysgol, a Lois ddall, a'r hen Ifan Ifan, a newyrth Michael Brees, a William Jones, a Tomos William, yn y 'society' a'r cwrdd parotoad; ac yn wir, nid oes modd cael lie yn y DYDD i bob peth da a ddywedir gan hen bobl y society,' chwaethach i beth- au hanner da athrawon yr Ysgol; nac ychwaith i bob peth doniol a difyr a ddywedir hyd yn nod o ben bwrdd canol y te parti. Yn wir, yr ydych chwi, y gohebwyr Cymreig, yn nodedig o ddon- iol; ac yr wyfyn ofni yr anfonwch i mi, bob yn dipyn, hanes yr ymddyddan o bob cae ac o bob ty, yn gystal ag o bob melin a gefail. EDWARD WM. JONES, A. C. Yr wyf fi yn ddiolchgav i ti, y DYDD, am beidio ein beichio a hanes y teoedd a'r man-gyngherdd- au, a'r cyrddau Ysgolion. Carwn yn fawr dy gael yn llwythog hyd yr ymyl, bob wythnos, o ysgrifau dysgedig, clasurol, cryfion, cyfoethog o 'logic' a philosophi, fel rhai o 'Reviews' a 'Quarter- lies' Lloegr. Dyna'r hyn a'th wna di yn enwog ar unwaith yn mysg M.A.-S, a D.D.-s, ac F.C.-s, yr oes. DIACON EDWARDS. 0, na, yn wir, nid dyna beth sydd eisieu; ac ni wna hyny byth mo'r tro. Nid wyf fi ddim am adroddiad- au hirfeithion o bob man-gyfarfodydd; ond dylem gael hanes ein Cymanfaoedd, a phenderfyniadau ein cynnadleddau; ac am lwyddiant ein gwahanol gymdeitbasau crefyddol; ac eglurhad o'r cynlluniau goreu i gydweithredu, er gwareiddio ac efengyl- eiddio y byd. ARTHUR SECT. Dylit fynu adroddiadau llawnion o egllïadau ac o lwyddiant ein sect NI, beth bynag fydd ar ol. IOAN DDISECT. Na, yn wir, gad i ni gael hanes pob sect fel eu gilydd. Y mae rhyw gynlluniau gwerthfawr a nodweddau teilwng o efelychiad gan bob enwad. WIL RYDD. Dylit roddi adroddiadau llawnion o gyfarfod- ydd y Rhyddfrydwyr. Y maent yn cael eu cynnal drwy bob sir, a thref, a chwmwd; ac yn wir, y maent yn llawn bywyd a dyddordeb. Cymerais i lawer o boen i ysgrifenu i ti areithiau ein cyfarfod enwog, effeitbiol, yn Craigygilfach; ac nid areithiau man-athrawon oeddynt, ond areithiau Y sweiniaid, aBar-gyfreith- wyr, a Gohebyddion, ac A.C.-S, a Doctoriaid or 'class' uchaf. DYDD. Yn wirionedd i ti, nid oedd areithiau yr enwogion hyny ddim llawer gwell na rhai ffarmwr Owen a shopwr Jones, a rhai Ned y saer a Wil y g6f. YR ATHRAW YOUNG. Na, yn wir, Mr. DYDD, gyda phob dyledus barch i chwi, Syr, rhaid i mi gael dweyd, eich bod yn camgymeryd yn ofnadwy. Yr oedd araeth fanwl y Bar-gyfreith- iwr, yn ein cyftrfod mawr ni, yn logic' drwyddi oil; a'i holl osodiadau yn sylfaenedig ar ffeithiau gwladol o'r pwys mwyaf. Aethwn i gan' milldir o ffordd i'w gwrando. Dylasech gyhoeddi yr araeth hono, beth bynag, 'in extenso,' bob gair. DYlm. Gwarchod pawb rhag eich deddf chwi, Mr. Young. Buasai yr araeth hono yn covero' y DYDD bob modfedd o hono, o'i goryn i'w sawdl. MR. YOUNG. Yr oedd yn faith; ondyr oedd yn dda ofnadwy. Caraswn ei chael oil yn y DYDD. Ni buasai yn ei govero' bob modfedd, fel yr ydych chwi yn haeru. DYDD. Buasai yn wir yn ei 'govero' bob modfedd; ac yn mantell dros ben i DDYDD arall, a chap nos i DDYDD heblaw hyny. MR. YOUNG. Paham na buasech chwi yn cyhoeddi araeth y Gohebydd? Yr oedd hono yn bur gymedrol o hyd, ac yn bwysig iawn ei ffeithiau; ac yn cael ei dweyd mewn dull nodedig o ddifyr. DYDD. Nid allwn ni ddim gwneud tegwch A ffeithiau y Gohebydd, heb unochraeth, a gwneud cam a ffeithiau rhai eraill. Buaswn yn caru gwneud tegwch a'r Gohebydd ond cael darlunio ei ddull yn rhwbio ei glust, a'i drwyn, a'i wallt, ac yn yfed dwfr ar ol pob 'stori. Buaswn yn caru clywed rhai o'r athrawon cartrejol yno yn dweyd mwy nag a ddywedasant. DAFYDD BWYLLOG. Gwyddwn dy fod di, Mr. DYDD, am bethau byrion, ac felly cymerais i ddigon o bwyll i ysgrifenu i ti adroddiad mor gynnwysfawr ac mor gryno ag oedd bosibl o'n cyfarfod mawr ni yn y dosbarth acw. DYDD. Do, yn wir, cymeraist ti ddigon o bwyll, a thipyn bach gormod o bwyll; oblegid yr oedd hanes eich cyfarfod chwi wedi hen gyrhaedd i bob rhan o Gymru—drwy Ddinbych, a Chaernarfon, a Bangor, ac Aberdar, a Chaerfyrddin, a Le'rpwl; a thrwy yr haul, a'r lloer, a'r ser-cyn i dy adroddiad di gyr- haedd bwrdd y DYDD. Ac felly, nid oedd genyf ddim i'w wneud, mewn ias o nwydau drwg, ond ei anfon i fwrdd yr "House of Commons." Y mae cael adroddiadau byrion, cryno felly, mor hir ar ol eu hamser, yn fy ngyru i'r sterics.' NED Y POTIAU. Cafodd dau neu dri o ddynion ieuainc eu crogi, yr wythnosau diweddaf, am ryw droseddau; a chafodd bachgen hyll ei chwipio am roddi cusan i eneth heb ei gwaethaf; a chafodd rhyw hen Wyddeles ei llusgo i'r gell, a'i chloi yno drwy'r nos am lithro wrth drothwy ei thy, ar ol cael "drop above proof," yn Gin Palace congl yr heol; ac nid ydym byth yn cael un gair genyt am bethau difyr ac adeiladol felly. DYDD. Nid oes genyf ddim amser, nac yn wir ddim bias, i ddarllen 'calenders' Newgate, na'r "Life in London," na'r