Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
CENDL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CENDL. Cyfnewidiadau Teuluaidd.—Tna phum mis yn ol, yr oedd teulu o wyth o nifer yn byw mewn ty bychan, dodrefnus iawn, ar y mynydd-dir rhwng- Cendl a Sirhowy. Yma yr oedd glanweithdra, diwydrwydd, a darbodusrwydd i'w gweled. Yma y trigianai y famgu, a'i pblant, a'i hwyrion. Y famgu, debygem, oedd ag awenau y llywodraeth deuluaidd yn ei lIaw; ac yr oedd, fel y barnwn, yn ofalgar a deheuig yn eu llywio. Ond ow! daeth angeu yn lied annysgwyliadwy, a cbymerodd hi ymaith. Dyna'r teulu mewn galar mawr, ac wedi colli yr un yr edrychid ati fel ei ben. Aeth mis heibio mewn hiraethu a galaru am dani. Yr oedd cryn dipyn o gystudd wedi bod er's tro ar y ferch a'i gwr; ond yn awr dysgwylid gwell^ad— dys- gwylid etto heulwen ar ol cwmwl. Ond ow! dyma gwmwl mwy brochus etto. Yn mhen mis i'r dydd y claddwyd y famgu, pan yr oedd y ferch yn myned yn nghylch ei goruohwyliaeth yn y ty, darparu ciniaw i'w theulu, a'i thri phlentyn o'i deutu, yn nghyda merch fechan i gyinydog, yr hon a'i helpai—pob peth, mor bell ag y gwyddom ni, yn myned yn Hilaen yn dawel a hapus iawn; ond ow! ar daruwiad ttygad, dyna y daranfollt ofnadwy yn erch-drystio uwchben eu hannedd facb-dyna y fellten ar eu gwarthaf—dyna y to, a thalcen, a rhanau eraill o'r ,ty, yn holltau a arylliau wan—y dodrefn hardd a glan yn ysgyrion, a rhai o'r celfl wedi eu hyrddio allan o'r ty i gefn y buarth, a'r ffenestri fel pe buasent wedi eu cbwythu ymaith trwy nerth pylor! Ond pa le yr oedd y rhai hyny o'r teulu oedd yn y ty ar y pryd? Dyna. ferch fechan y cymydog yn rhedeg tuag adref yn anafus fel un wedi gwall- gofl-dyna. y plentyn hynaf yn rhedeg allan o'radfeihon yn ddychryaedig, a'r baban ar ei braich-a dyna'r fam yn annheimladwy (insensible) ar lawr y ty wedi ei gor. chuddio gan ddarnau o'radeilad ddystrywiedig! a'r bachgen bach pedair oed wrth ei hochr yn orchuddiedig gan goed, ceryg, a mortar, yn gelain marwl Adfer bywyd iddo nis gellir. Ymdaenodd braw drwy y gymydogaeth, ymgasglodd lluaws yn iaghyd Or cymydogion, gwnai pawb ei oreu i gynnorthwyo-yr oedd gwyr eryflon yn delwi. Ymddadebrodd y fam, a bu yn hir nychu obyny hyd ddydd Iau, Ebrill 29, pryd y bu farw. Claddwyd hi yn mynwent Carmel y Sadwrn canlynol. Ann Jones oeddenw y famgu, ond nid dan yr enw hwnw ei hadweinid oreu, eithr Nanny Bevan' oedd yr enw dan yr hwn yr adnabyddai y cyffredin hi. Jennet Lewis oedd enw y ferch. Btlm yn nhy Lewis Lewis, ei gwr gweddw, un o'r dyddiau diweddaf. ac .ni welais yno ond dau o'r wyth a gyfansoddent deulu cysurus ychydig amser yn ol. Trwy amgylchiadau yn nghwrs rhagluniaeth a gweinidogaeth angeu, maent wedi eu Chwalu mewn byr amser—rhai yma a thraw yn yr ardal hon, un yn America, tri yn V y bedd. Dyma enghraifft, yn mysg myrdd o rai cyfifelyb, o anwadalwch a chyfnew- idiolrwydd y byd hwn. Claddedigacth Lizzie Hughes.—Yn y DYDD am Ebrill 16, ymddangosodd hysbysiad am ei marwolaeth. Ail feich y Parch. R. Hughes, Carmel, ydoedd. Parhau yn hiraethlon a thorcalonus iawn y mae Mr. a Mrs. Hughes ar ol en hofl anwyles Lizzie.' Hi yn wir oedd «anwyl un y cyleh teuluaidd a'r cymydogion.' Annys, gwyliadwy iawn y bu ei marwolaeth. 0, tydi y scarlet fever I yr hen angyles ddin- ystriol! paham y gwnaethost hyn? O'r alaeth oesol a beraist i^u bron! ond rhaid ymattal. Dydd Ma wrth, Ebrintl3, claddwyd 'yr hyn sydd farwol' o Lizzie fach I mewn daeargell yn mynwent Carmel, yr hon oedd wedi ei llorio a'i murio, a'i gwneod mor gysurus efallai ag y gall bedd fod i olwg y byw. Yno y gorwedd yr hyn sydd lygradwy o honi wrth ochr bedd ygymydoges wddgar, Mrs. Needham, anwyl briod Joseph Needham, Ysw", Manager gwaith Cendl; yr hon hefvd oedd ferch i'r diweddar Barch. T. Evans, Llanwrthwl, ac wyres i'r diweddar Barch. Mr. Evans, Rhaiadr Wy. Daeth tyrfa luosog i arwyddo parch i weddillion marwol 'Lizzie fach,' a'u cydymdeitnlad a'r rhieni galarus ar ddydd ei chladdedigaetli. Elai yr orymdaith apgladdol o'r ty i'r addoldy yn y drefn ganlynol;—yn gyntaf, y gWeinidogion bob yn ddau; yna cantorion Carmel; yna merched byehain Ysgol Sab- bathol Carmel, yn nghyda rhai ysgol ddyddiol Miss Sarah Ann Jones, yn' yr hon yr arferai' Lizzie' fod, ac yn yr hon yr oedd hi yn favourite gan y feistres a'r plant; yna corffmarwyranwyles fach mewn arch gaboledig o good derw, yn cael ei ddwyn gan chwech o wyr ieiiainc Carmel, a menyg gwynion am eu dwylaw, a scarfs gwynion am eu hetiau; yna y tad a'r fam, a'u hunig blentyn yr hon sydd yn awr yn fyw; yna dau o'r perthynajsau agosaf; yna Mary Thomasy forwyn, yn nghyda dwy o gyfeill- esau yr un fach ymadawedig; ac yna ydorfo gymydogion a chyfeillion. Elidyn arafaidd dan ganu yn bruddaidd o gate yr ardd hyd ddrws yr addoldy. Yno dar- llenwyd cyfran o air Duw gany Parch. J. Edwards, Pontygof; gweddiwyd yn deiml- adwy gan y Parch. R. Parry, Victoria; pregethwyd yn Saesonaeg gan y Parch. E. A. Jones, Rehoboth, Brynmawr, ac yn Gymraeg gan y Parch. D. Hughes, B.A., Tre- degar— y ddau yn hynod bwrpasol ac effeithiol; a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. Griffiths, Gosen, Rhymni. Rhwng y ddwy bregeth, canwyd tin 0 hoff bennillion Lizzie fach,'sef— Guide me, 0 thou great Jehovah,'&c. Yr oedd yn hyfrydwch pruddaidd i'w thad i edrych ar yr arch ddysglaer, yn yr hon yr oedd ei hanwyl gorff yn amgauedig, ar y bwrdd cymundeb yn y sedd fawr gerbron y pulpud. Ond rhaid ei symud oddiyna i'w osod o'r golwg yn y ddaeargell baroto- edig. A dyma ni yn myn'd tuag yno. Wedi ei gosod yn dyner a destlus yno, tra- ddodwyd anerchiadau llawn o deimlad ac addysg gan y Parchn. Evans, Cendl (gynt o Nantyglo); Jones, Machen; Jones, Elim, Tredegar; a Jeffreys, Penycae; a g weddi- wyd gan y Parch. R. Hughes, Adulam, Tredegar; a rhoddwyd pennillion darluniadol iawn o deimlad y rhieni i'w canu ar y diwedd gan y Parch. W. Edwards, Tabeirnacle, Penycae. Yna darfu i'r tad ollwng ychydig flodau o'i law ar gauad arch ei hoff blentyn ar waelod y bedd; ac aeth un o wyr ieuainc Carmel i lawr i'r bedd, a gosod- odd yno amryw flodau amryliw a pheraroglus, fel yr arwydd diweddaf o serch allesid eiddangos. A dyma. ni y byw yn awr yu ymwasgaru i fod am ryw gymainto amser etto yn y byd hwn cyn cael ein gosod, un ar ol y llall, yn ngorweddfau y marw. Y Parch. JJ. Duvies, New lnn.-Pa fodd na b'si y gwr hwn yn fwy adnabyddus yn y Gogledd ? Mae yn wir ei fod ef yn adnabyddus tua Dinbych a Rhuthyn, a Chroes- oswallt, ae ychydig leoedd yn Maldwyn. Ond ni chlywais am dano mewn cymaint ag un GYMANFA erioed yn y Gogledd. A dychymygaf glywed rhai o wyr y Gogledd yn dweyd,' Pwy yw Davies, New Inn ?' Pwy yw yn wir! Y mae wedi bod yn preg- ethu yn nerthol a swynol i filoedd Cymanfaoedd mawrion y Deheudir yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae wedi bod yn weinidog yn New Inn, Sir Fynwy, er's saith mlynedd a deugain. Ac y mae yn awr a'i frawddegau mor lithrig, a'i ddawn mor ystwyth, a'i lais.mor beraidd, a i ysbryd mor wrol braidd ag y bu erioed. Dydd Sabbath, Ebrill 25, bu yn pregethu yn Carmel, Cendl. Traddododd yma ddwy bregeth ar farwolaeth Lizno Hughes.' Mewn dull toddedig iawn triniai yr athraw. iaethau melus o anfarwoldeb yr enaid ac adgyfodiad y corff. Ei deatun yn y boreu oedd Actau xxvi. 8, ac yn yr hwyr Job xiv. 14. Er fod gan Olygydd yDYn1) ysbryd tyner, etto, tybiwn nas gall ef gydymdeimlo nemawr a thad a mam alarus ar ol hof blentyn. Ond y mae gwyr y gwallt gwyn fel Jenkins, Rhymni; Jeffreys, Penycae; a Davies, New Inn, yn meddu mantais neillduol i wmoud hyny. Gwyddant hwy trwy brofiad am beth felly. Ac O! brofiad chwerw yw!—MABA.
CEMMAES, MALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CEMMAES, MALDWYN. Mai 15fed, cynnaliwyd cyngherdd yn y lie uchod o dan arweiniad Mynydd- og. Yr oedd pabell eang wedi ei darparu, fel ag yr oedd pawb yn gallu cael He cysurus i eistedd. Y darnau cystadleuol oeddynt (1) Owymp Llywelyn, o'r Cerddor. Neb yn deilwng o'r wobr. (2) 'The Carhovale,' canodd pedwar o'r Cemmaes, a chawsant y wobr. (3) 'YGarregAteb.'un party yncyatadlu, sef E. Williams, Llanbrynmair; a J. Williams, Machynlleth; canasant yn dda a chawsant y wobr. (4) 'Thou shalt break them,' ennillwyd y wobr hon gan Mr. Williams, Llanbrynmair. Y beirniaid oeddynt Mr. Edwards, (Pencerdd Ceredigion), a Mynyddog. Ni ddaeth yr un cor i gynnyg am y brif wobr, y dadganiad goreu o 'And he shall purify.' Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan gorau Llanbrynmair a'r Cemmaes, y naill o dan arweiniad galluog Mr. E. Williams, a'r llall Mr. Humphreys. Dadganwyd amryw unawdau a deuawd- auyn hynod alluog a meistrolgar gan Bencerdd Ceredigion, a'i ferch. Rhodd- odd y Fencerdd esiampi dda i'r dosbarth ieuanc o gerddorion yn ei ddewisiad o ddarnau mor glasurol. Mae'n gweddu rhoi gair o gompliment i Miss Evans, Ynyslas, hefyd am y dull teimladwy ydadganodd 'Trosygarreg. a gair hefyd i Mr. R. Owen, Llanbrynmair, ameiddadganiad campus o ddwy neu dair o ganeuon swynol, yn enwedig 'Rwy'n marw gyda'm hanwyl Fam.' Llywyddidwrthyr Harmonium gan Mr. Roberts, Bryneglwys; so wrth y Piano gan Miss Jones, Aberystwyth. Cawsom ein boddhau yn neillduol yn nadganiad amryw ddaman gan gSr Llan- brynmair; teilynga Mr. Williams, eu harweinydd. glod mawr am ei waith yn dwyn ei gor i'r fath raddaU o berffeithrwydd mewn cywirdeb a chwaeth. Mae y cyfeillion yn ardaloedd y Bont a'r Pennant wedi llafurio yn galed gyda'r cann, yn enwedig gyda'r canu cynnulleidfaol. Wedi rhoi three cheers i Syr E. Buckley,* Bart, a T. W. Haines, Ysw., am eu nawdd a'u caredigrwydd mewn cysylltiad a'r cyngherdd, ac i Fand y Dinas, yr htm a chwanegodd at ddifyrwch y cyfarfod, daraw ton, aeth pawb tuag adref yn llawen ei galon. Ymddengys fod y cyngherdd yn llwyddiant hollol mewn ystyr arianol, a chafwyd cryn swm i'w ddodi yn nhrysorfa y British School, ar ol talu pob treuliau, er fod gwynt rhyw ychydig o Eglwyswyr bach bach culion fymryn yn erbyn yr anturiaeth.YMDBITHYDD AM T »WTHWN.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. Y mae adroddiad newydd ei gyhoeddi o sefytlfa arianol y sefydliad, oddiwrth yr hwn yr ymddengys fod yr Eisteddfod raewn dyled o X 1276 17s. 4c. Cyanyrcbodd Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867, £ 4178.4c. o'r swm uchod; Eisteddfod Caer, 1866, £ 500; a Ruthin, 1868, jEMQ. Ya ychwanegol at hyn. yr oedd X150 yn ddyledus i'r diweddar Ysgrifenydd, Mr. Rhyddereh Williams, Rhyt. Yn ganiynol i'r sefyUfa boQ ar bethM, y mae Eisteddfod y flwyddyn hon wedi ei gohirio.
Watrjnalioelit* p ragtijnos.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Watrjnalioelit* p ragtijnos. Marchnad Yd Liverpool. BIBB GwisyBR.—Daeth nifer cymedrol i'r farchnad heddyw, ond yshydig o alw oedd am wenith, a gostyngodd y prisiau Ic. yoan' pwys. Araf oedd y fasnach mewn blawd, a'r prisiau yn ffafrio y prynwr. Trwy fod ceirch a blawd ceirch yn bnn, talwyd y llawn brisiau. Ffa 6c. y ohwarter yn rhatach. Gwnaed masnach helaeth mewn grawn India am o 9c. i Is. ychwartar oostyniad ar brisiau ddydd Mawrth. S. c. S. c. | Gwenith Seisnig, gwyn .10 3 10 9 y lOOps. „ coch 9 2 9 8 etto. Ceirch Seisnig 4 0 4 3 y 45ps. Haidd Gwyddelig 4 4 4 8 y 60ps. „ Seisnig at fragu 0 0 0 0 y 60ps. Blawd Americanaidd 22 6 23 0 y 196ps. „ Seisniggoreu. 38 0 40 0 y 280ps. Ffa Seisnig. 42 0 45 0 y chwa. „ Ewropaidd 40 0 41 0 etto. DTDD MAWKTH.—Arai oedd y fasnach mewn gwenith am ostyngiad o 2c. ar brisiau ddydd Gwener. Blawd yn sefydlog.
Marchnad Yd Llundain.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marchnad Yd Llundain. iDTDD GwMrtBE.—Gwerthwyd y Gwenith Prydeinig am lawn brisiau f dydd Llun blaenorol. Ychydig o alw oedd am wenith tramor, ond y p isiau yr un fath. Haidd, ffa, a phvs, yu cadw at y prisiau. Yr oedd y ceirch 6q. y chwarter yn uwek. DYDD LLUM.—Yr oedd y fasnach mewn gwenith yn Uonydd am brisiau>rwythnos o r blaen. i
GAIR AT YR ANNOETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
llr blaen, a phenderfyniadau llys y cardinaliaid oedd yn ei llywodraethu, ac os oes rhagor rhwng Eglwys Loegr ac Eglwys Rhufain o gwbl, yna yn amser Harri y sefydlwyd y flaenaf. O'r ochr arall, os yr un yw y ddwy mewn han- fod, paham yr ymrwygodd Eglwys Loegr oddiwrth un Rhufain, yn lie aros i mewn i'w diwygio a'i phuro, fel y dannodir ddarfod i'r Ymneillduwyr wneud mewn perthynas i'r Eglwys Wladol? Haera 'Nemo' fod tair swydd yn yr Eglwys er dyddiau yr apostolion—sef esgobion, offeiriaid, a diaconiaid. Ymddengys ei fod yn golygu i'r blaenaf gynnrychioli yr apostolion; yr ail, henuriaid; a'r trydydd, y deoniaid! WeJ, os nad yw yr awdwr yn fwy cyfarwydd na hyn yn ei Feibl, ac os yw efe yn enghraifft o'r Defodwyr yn gyffredin, wfft iddo fe a hwythau! Nid rhyfedd eu bod mor ofergoelus tra mor anwybodus. Yn eibennodau ar 'Adenedigaeth' a'r 'Presenoldeb Sylweddol' ymae 'Nemo' yn ymosod yn ddefosiynol iawn ar yr wrthddadi nas gallwn ni amgyffred pa fodd y mae y naill yn ddichonadwy a'r llall yn cael ei effeitliio. Yr y'm mor rwydd a pharod ag yntau i addef fod Ilawer mater o ffaith mewn crefydd y rhaid i ni ei dderbyn a'i gredu, tra nas gallwn ddirnad y modd a'r dull o hono. Ar yr un pryd y mae synwyr cyffredin i gael rhyw orchwyl mewn crefydd, ac os na bydd tystiolaeth neu orchymyn pendant o blaid cwestiwn rhaid i ddyn ei benderfynu yn ol eyfarwyddyd ei synwyr cyffredin, 'wedi ei santeiddio drwy Air Duw a gweddi.' Oni feddyliodd 'Nemo' fod yn ddichonadwy i ni ankhydweled a'i egwyddorion esboniadol, ac a'i gasgliadau llythyrenol oddi- wrth adnodau? 'Synwyr cyffredin' sydd i esbonio iaith, onide rhaid ini gredu fod ysbrydoliaeth yn cael ei rhoddi i ddyn i'w gynnorthwyo, ac os felly, ni buasai waeth'heb Feibl, gan fod pob dyn yn bersonol yn cael ei ysbrydoli i dderbyn datguddiad yn uniongyrcholgan Ysbryd Duw. Ai tybed fod 'Nemo' yn deall pob peth a ddywedir wrtho mewn llyfrau ac mewn yrnddyddanioa cyffredinol yn llythyrenol? Na choeliaf i yn wir. Wrth gwrs, y mae i bob brawddeg feddwl ac ystyr llawn a manwl, ond i ychydig iawn o'r tuallan i Euclid a llyfrau twrneiod y mae ystyr llythyrenol yn briodol. Nid llyfr meintonol, rhesymegol, na chyfreithiol yw y Beibl, ond llyfr poblogaidd at wasanaeth dynoliaeth o bob gradd a dosbarth, yn siarad wrth ddyn yn ei ddull a'i iaith gyffredin, ac o ganlyniad yn defnyddio y ffugrau yn barhaus yn unol & deddfau iaith a chyfansoddiad y meddwl. Meiddiaf ddweyd nad yw 'Nemo' ei hun yn deall nae yn derbyn mo'r ddegfed ran o'r Ysgrythyrau yn eu hystyr lythyrenol. Am Gyffesiad—rheol y Beibl yw i bawb gyffesu i'r Arglwydd ac i'w gilyeld —nid i'r offeiriad. Ond dyma yw y gwreiddyn melldigedig sydd yn cynnal "boll geinciau defodaeth ymhoniad offeiriadol. Rhaid i ddyn gael myned i Ie y Cyfryngwr Crist— yr unig Gyfryngwr. Pe buasai arall yn ei osod, ac yntau yn cydsynio 4 ohais annuwiol gwerin baganaidd, buasai ynwaith anfad; ond mor ofnadwy y rhaid fod cyfrifoldeb y dynion sydd yn ymwthio rhwng Duw a dyn, ac yn honi hawli gael eu hystyried yn gyfryngau offrwm dyn i Dduw, a doniau Duw i ddyn. Y mae genyf ddigon o ymddiried mewn Beibl a phulpud rhydd i rwystro i'r fath anfad gyfeiliornadau ail ymdaenu yn ddylif dinystriol dros ein gwlad; ond ar yr un pryd fe ddylai pob Cristion Efengyl- aidd fod yn effro iwrthwynebuyrhoniadauPabyddol hyn ar eu hymddangos- iad cyntaf, fel na byddo i'r gwan, y dibrofiad, a'r ieuanc gael eu denu a'u llithio i'w credu. Bu y cyfeiliornadau Rhufeinig hyn yn cael eu dysgu yn eofn yn ngholeg athrawol Caernarfon, ac am wn i nad ydynt yr un mor flodeuog yn awr, er nad oes eymaint o stwr yn eu cylch. Yr hyn sydd yn drist, yn nglyn a, hyn, i feddwl pob Ymneillduwr yw gweled bechgyn ymneillduwyr diegwyddor yn cael eu trosglwyddo i ofal y cyfryw ddreigiau, er mwyn elw tybiedig, ac yn dyfod allan yn llawn o'r gwenwyn marwol. Rieni, pa hyd y trosglwyddwch feddwl eich plant i ddylanwad y eyfryw a hwn, i'r fath ddynion ag awdwr y traethodyn dan sylw gael tywallt iddynt y fath gyfeiliornadau? Y gwirionedd yw, pe byddai gallu y llywodraeth wedi ei dynu oddiwrth yr Eglwys, buan y mathrai y bobl y fath syniadau allan o fodolaeth. Ni oddefid i 'offeiriad' ei alw ei hun felly yn hir, na gwisgo ei chasuble, nac 'inturo' ei weddïau, na goleuo ei ganwyllau, na myned drwy ei luosog ymdumiau. na phregethuei gyfeiliornadau. Llwyddiant i Gladstone ennill ini Eglwys Rydd mewn gwlad rydd. ALIQUIS.