Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
SOCIAL SCIENCE
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SOCIAL SCIENCE wed'yn yn cael eu cynnal yn Saesneg bron i gyd. Papyrau Saesneg yn cael eu darllen, anerchiadau Saesneg, ymddyddan Saesneg ar bob mater; a chyda llaw, wn i ddim yn siwr faint o les y mae yr elfen newydd hon wedi ei wneud i'r Eistedd- fod. Ai nid gwell fyddai cael sefydliad y SOCIAL SCIENCE ar ei ben ei hun ? Prin y mae dadleu pynciau sychion felly yn cydfyned ag archwaeth Eisteddfod GOERS. Mae
COSTAU Y CANU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COSTAU Y CANU wedi hyny yn llyncu cannoedd o bunnau yn flynyddol. 'Dwy' ddim yn siwr a yw y rhan hon o'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y ffordd effeithiolaf a mwyaf llwyddiannus. Gyrir i Lundain am 'first class Artistes,' a thelir iddynt wrth yr ugeiniau o bunnoedd y pen, canant hwythau gerddoriaeth a geiriau Saesneg neu Italaidd, a gwneir y cyfan dan fantell noddi a symbylu talent gerddorol y Cymry. Y gwir am dani yw, nad oes neb yn hidio am glywed 'canu Llundain' yn yr eisteddfod Gymreig. Prin yr wyf ynrcredu fod hyd yn oed y dyrnaid Saeson a fydd yn arfer a d'od yno, yn cael eu boddhau yn hyn. Clywais fy hun pan ar daith ddaearyddol unwaith, nifer o Saeson yn cwyno, ac yn dweyd pan y byddent yn dysgwyl clywed canu Seisnig o'r radd flaenaf, eu bod yn myn'd i Lundain yn syth i'w glywed, lie y ceir ei glywed i bob man- tais,fiond eu bod yn myn'd i'r eisteddfod i glywed canu Cymraeg, mewn dull Cymreig, gan champions Cymru, a'u bod wrth glywed Cum- mings a Lewis Thomas yn ceisio canu mewn tent eang, yn teimlo yn hollol ddiflas ar ol bod yn eu gwrando mewn Halls manteisiol i ganu ynddynt. Yr wyf yn lied sicr mai yr uchod ydynt rai o'r achosion fod 'yr eisteddfod' wedi myn'd mor bell i ddyled. *»•. 'Dwy' ddim yn siwr| a ydyw yn rhyw les ychwaith i geisio gwneud
INSTITUTION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
INSTITUTION o beth fel hyn yn Ngiiymru. Tipyn o beth ydyw cynnal un math c| Institution i fyny yn Nghymru oddieithr eilbod yn un grefyddol. Sefydliadau crefyddol yflyw yr unig sefydliadau sydd yn safe yn N ghyIfru. Edrycher yn ol ar y deugain mlynedd diweddaf, a cheir gweled fod yna lawer sefydliad wedi ei gychwyn dan am- gylchiadau lied ffafriol, yn llenyddol, dirwestol, amaethyddol, a llawer:'ol' arall o ran hyny; ond eu bod yn syrthio i'r Jgwellt cyn bo rhyw hir iawn, a gallai mai dyijS. dynged 'yr Eisteddfod' fel INSTITUTION, ac t byddis etto yn gorfod gwneud ag ambell eijteddfod yma a thraw pan geir hwyl i'w cynnal. 1 Yr oeddwn wedi b|madu dweyd gair heddyw am Eisteddfod Goroqpg Treffynnon, ac am Eis- teddfod Gadeiriol Mon, ond y mae fy llith wedi rhedeg yn faith, a digon tebyg y barna llawer fy mod wedi siarad "iwy na nghlwb' yn barod. Wel, mi dawaf ynte.,
GWLAD YR HWNTWS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWLAD YR HWNTWS. (ODDIWKTH JilN GOHEBYDU). Coleg Henadurol Caerfyrddin.-Gwelaf ddarfod i un o'r pwyllgor ddanfon hanes arholiad y Coleg i'r DTDD, ond gobeithiaf y caniatewch i'ch gohebydd ddweyd gair ar y testun. Mae yr arholiad, ar y cyfan, yn un tra boddhaol; ond nis gallwn lai na theimlo pwys neillduol yn y geiriau hyny o eiddo Mr. Higginson, yn condemnio yr arferiad sydd gan lawer o geisio teimlo eu ffordd i'r pulpud oddiwrth gyrn yr aradr, o'r ffos, neu o'r level. Dylid bod yn ofalus iawn cyn credu fod y rhai hyn wedi eu galw.' Eithriadau yw y rhai sydd yn llewy/chu clod ar y weinidogaeth o'r dosbarth yma o bregethwyr. Yn amser y diwygiad, meddyliodd llawer o feibion y gaib a'r rhaw,' y lapstone a'r goose,' y gwnaent bregethwyr; ond yn y blynydd- oedd canlynol, yr oedd cyrhaeddiadau ein hefrydwyr yn gywilyddus o isel a diamcan. Y myfyrwyr a'r gweinidogion goreu, fel rheol, yw y rhai hyny sydd f: wedi cael ysgol ragbarotoawl dda, ac yn dyfod i'r coleg rhwng 16 a 18 oed. Mewn cysylltiad a'r uchod, dywed y Welshman,' organ Doriaidd y wlad hon, mewn erthygl arweiniol yr wythnos ddiweddaf, Yr ydym yn rhwym o attegu yr hyn a ddywedodd yr arholwr. Nid unig ofyniadau gweinidogion yw gweddio a phregethu yn ddeallus, ond er llesad tymmorol ac ysbrydol y bobl, dylai eu haddysg gyffredinol gael sylw neillduol. Gall dyn fod yn weinidog da, ond yn aelod lied ddiwerth mewn cym- deithas. Mae Ymneillduaeth wedi gwneuthur gwaith mawr a da yn Nghymru, ac mewn llawer ystyr wedi bod yn fendith anmhrisiadwy. Ond y mae y defn- yddiau sydd ganddi i ffurfio yn newid yn raddol, ond yn sicr. Mae ysgolion a chledrffyrdd yn effeithio chwyldroad dystaw yn ein tir, ac oddiwrth hyn y mae yr angenrheidrwydd o ddanfon allan ddynion priodol eu dysg i arwain a thywys y bobl yn eu ffyrdd.' Cyfnewidiad yn nghylchdait/i gyjreithiol y Deheudir. Mewn Ilythyr a dderbyniodd yno don Ceredigion, rhoddir ar ddeall i ni y bydd cyfnewidiadau o bwys yn cael eu cynnyg gan y Judiciary Committee. Y mae genym sail i gredu y byda i rai, os nid yr oil, o siroedd y Deheudir i gael eu liuno er cynnal un brawdlys i'r oil; a hyny yn ddigon tebyg yn Aher- tawe. Mae Ilawer i'w ddweyd yn erbyn hyn. Byddai y tair sir—Ceredigion, Penfro, a Chaerfyrdd- in, yn ddigon i hawlio brawdlys bwysig rhyngddynt. Bydd iraul y iheithwyr a'r tystion yn fawr, os bydd raid myned i Abertawe. Mac .brawdlys Morganwg ei hun yn parhau yn wastad o 12 i 15 niwrnod, ond os bydd achosion y 5 sir yn cael eu trin yno, bydd yn ofynol cael o fis i bum wythnos i orphen y gwaith, oddigerth penodi dau farnwr. Ar yr ochr arall, y mae y drefn bresenol o gynual brawdlys yn mhob sir yn wrthuni Yn wyneb hyn, yr oreu, credwn, yw y frawdlys dair-sirol. Bydd yn hawdd- ach, ac yn llai treulfawr, i feibion Cjredigion fyned i GaerfyrdHin na myned i Abertawe; ie, ac yn llai treulfawr na myned i Aberteifi. Mae y cyfleusderau teitbiol yn hollol ddymunol i'r blaenaf, tra i'r olaf, nid oes dim o'r fath beth; a gwyr pawb a fu yn treulio wytlmos y sessions yn Aberteifi beth yw goddef ei flingo. Ys dywed y gwr o'r lleuad, y mae mwy o bepper yn eu biliau na dim arall. Mae yn wir y byddai y drefn bresenol yn well i reithwyr a thystion Penfro, ond gwell iddynt gael aros yn Caerfyrddin, na myned yn eu blaen tuag Abertawe. EfaIlai y gall rhai o honynt groesi congl y mor, a thrwy hyny osgoi Caerfyrddin. Yr un wrth reswm fydd manteision Caerfyrddin. Marwolaeth David Jones, Ysw.,Pantylas.—Bufarw y boneddwr hwn. er colled a galar mawr. Yr oedd Mr. Jones yn brif ar gwmni parchus a chyfoethog o arianwyr. John Jones, A.S., a William Jones, Ysw., Glandennis, oeddynt y cyfarwyddwyr eraill. Mae Banc yr Eidionau' yn dra adnabyddus mewn mas- nach arianol. Bu Mr. Jones yn ddyn cyhoeddus gwasanaethgar. Bu yn aelod seneddol am 16 m!. Ceidwadol ydoedd o ran ei olygiadau. Yr oedd yn ynad defnyddiol a dylanwadol. Bu farw yn 59 mlwydd oed. Llofruddiaeth-Boreu dydd Sadwrn, Gorph. 17eg, cyflawnwyd llofruddiaeth ysgeler yn Nghaerdydd. Fel yr oedd bachgen o'r enw T. Williams, egwyddor- was gyda'r pilots, yn dychwelyd adref braidd dan effeithiau y ddiod, daeth amryw longwyr Italaidd ar ei draws. Gofynodd Williams iddynt pwy oedd- ynt yn ei wthio, ar hyn, tarawodd un o'r Italiaid ef, a rhoddoda un arall ergyd iddo gyda rhywbeth gloew oedd yu ei law. Cwympodd y tranc- edig yn ol ar ei gefn, a. rhedodd y mileiniaid i ffwrdd, ond daliodd yr heddgeidwaid liwy yn fuan. Gwel- wyd fod Williams wedi cael ei stabio; ac er i bob gofal gael ei gymeryd ato, bu farw tua hanner awr wedi cliwech yr un boreu. Dygwyd dau o'r Italiaid, o'r enw Cairollo a Gastro, o flaen yr ynadon dydd Sadwrn, a chymerodd amryw dystion eu llw mai Gastro darawodd y trancedig gyda rhywbeth gloew. Ac er i un o'r tystion, wrth roddi ei dystiolaeth, godi ammheuaeth nad oedd y dyn stabiodd y trane- edig yn y ddalfa, profwyd fod y bidog, a gafwyd yn ymyl, yn eiddo Gastro. Taflwyd y ddau i garchar i sefyll eu prawf yn y Frawdlys am lofruddiaeth gwirfoddol. Tanchwa ddychrynllyd etlo,-50 o ddynion wedi eu lladd!—Boreu Mercber, aeth oddeutu cant o ddynion i lawr fel arferol i'r Queen's Colliery, yn agos i Wigan. Cymerodd y danchwa le oddeutu 11 o'r gloch. Gwnaeth oddeutu hanner y dynion eu ffordd drwy yr elfen danllyd, a gwnaethant eu diogeliad. Yr oedd wyth a deugain ar ol yn farw, a bu farw dau ar ol dyfod i'r lan. Cafwyd y rhan fwyaf o'r cyrff i'r lan cyn nos. Yr oedd lluaws yn dysgwyl y cyrff i fyny, a thorcalonus iawn oedd yr olwgarnynt. Cymerodd taneiiwa le oddeutu declireu y flwyddyn hon yn yr un lie. Undeb Cerddorol Aberteifi.- Y drydedd wledd gerddorol a gynnaliwyd yn Castellnewydd Emlyn, ddydd Mercher, lie yr oedd 26 o gerddorion o'r gwalianol cglwysi, dan arweiniad Eos Llechid. Cymerwyd rhan yn yr wyl gan y Parch. D. Lewis, Llandygwydd; Parch. J. Sinnett, Bangor; Parch. J. B. Herbert, Cilrhedyn; Parch D. Williams, Llan- elli; Parch. D. Evans, Corris, &c. Cafwyd gwledd wrth fodd calon pawb oedd yn bresenol. Dygwyddiad hynod gyffrous.—Dydd Llun diweddaf, yr oedd gwr a gwraig barchus, a thri o blant, yn teithio yn y gerbydres o Lanelli. Oed yr hynaf oedd chwech mlwydd. Chwareuai o gylch drws y carriage, a phan oedd y gerbydres yn myned yn y cyflymder mwyaf, agorodd y èrws, a syrthiodd y bychan allan. Gydag anbawsdra y rhwystrwyd y tad trallodus rhag neidio ar ol ei blentyn. Teithiodd y gerbydres yn agos i ddwy filldir cyn gwneud y dygwyddiad yn hysbys i'r driver. Gyrwyd yn ol, a chafwyd y bychan yn bynod ddianaf.
CYMANFA GERDDOROL CAERNARFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA GERDDOROL CAERNARFON. HYNODIK y blynyddoedd diweddaf hyn gan y lluaws cyfarfodydd mawr, a chymanfaoedd, o bob rhyw a natur, a gynnelir. Ac nid ydym yn credu fod un parth o Gymru wedi ei breintio a mwy o'r rhai hyn na sir Gaernarfon,- cyfarfodydd llenyddol, penny readings, darlithoedd, cyfarfodydd a chymanfaoedd canu, cyfarfodydd a chymanfaoedd Ysgolion Sab- bathol, cyfarfodydd a chymanfaoedd pregethu yr efengyl. Am y gymanfa agosaol, gallwn ddweyd, dyma beth newydd. Hyd etto nid ydym wedi cael cymanfa i ganu tonau cynnulleidfaol. Lla wcr o son a pharotoi sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Y mae yr amser bellach wrth y drws, sef dydd Iau nesaf. lihoddwyd yn ein llaw y dydd heddyw y programme am y dydd, wedi ei drefnu gan yr ysgrifenydd medrus, a'i gymeradwyo gan y pwyllgor; ac yn sicr, y mae arno olion Haw gelfydd iawn. O'r holl brogrammau a fu yn ein dwylaw, braidd na ddywedem am hwn, Tydi a rngoraist arnynt oil,' mewn eglurder trefn, ac yn arbenigol mewn symledd. Nid oes yma ddim o'r show off a deimlir yn rhy fynych mewn cysylltiad a phethau fel hyn. Y mae y cyfan fel pe byddai wedi ei gyfuno mewn un amcan gostyngedig i ddyrchafu cerddoriaeth gysegredig yn y temlau heirdd sydd gan yr Annibynwyr yn nghylchoedd yr undeb. Gallwn feddwl, wrth edrych yn frysiog dros y rhag-gynllun, ei fod yn proffesu dau beth, sef, yn gyntaf, mai cymanfa i'r gweithwyr ydyw. Eithaf gwir. Gweithwyr ydyw y pwyllgor ffydd- lon, gweithwyr ydyw y cantorion, gweithwyr yw yr arweinwyr ymdrechgar. Y mae yma enwau wyth o wyr ieuainc i wasanaethu fel accompanists. Gweithwyr y dcuddeg awr ydynt oll. Ac yn ail, y mae yn proffesu mai cymanfa i'r enwad Annibynol yw. Ni sonir gair am un enwad arall, ac ni sonir fod un gwro frio'r un arallo lwythau Israel i wasanaethu. Mae yr enwad y tro hwn am ymddibynu ar ei ad- noddau ei hunan. Canfyddir unwaith y gair Undeb yma, ond Undeb Annibynol ydyw. Cofied yr enwad hyny,. ac mai atynt hwy yr edrychir am fod capel eang Salem wedi ei orlenwi cyn dan o'r gloch dydd Iau nesaf. Bydded yno y gwjr, y gwragedd, a'r plant. Yr ydym yn llawenhau am fod y pwyllgor wedi sicrhau gwasfyiaeth y fath staff o weinidogion i gyf- arch y cyfarfodydd. Heblaw enwau y conductors, Mri. Stephen a J. D. Jones, gwelir enwau Mr. Thomas, Bangor; a Mr. R, W. Griffith, Bethel, yn llywyddion. Yna daw enwau y Parchedigion David Griffith, hynuf; G. Thomas, Llanrug; D. Oliver, Llanberis; E J. Evans, Penygroes; David Griffith, Port Diuorwic; E. W: Jones, Talysarn; D. Williams, Beulah; a D. K. Davies, Waunfawr. Yr adeg i ddechreu yw dau o'r gloch. Bydd y trains yn rhedeg yn gyfleus iawn, gan adael Llanberis am 12.30; Penygroes, 12.6; Port Dinorwic, 1B.2S. Gofaled gwyr Eryri am fod yn brydlawn yn y gwa- hanol orsafoedd (stations). Cynnelir pwyllgor yn vestry room capel Salem am un o'r gloch, a dys- gwylir dau, o leiaf, o gynnrychiolwyr o bob cym- deitlias gerddorol i fod yn bresenol. Fe gofir am gyhoeddi y gymanfa yn holl gapelau yr Undeb y Sabbath nesaf. Cyn terfynu, ni a ddywedwn wrth y cantorion oil, yn nghyda phawb eraill sydd wedi addaw gwas- anaethu, byddwch ffyddlon i'ch ymrwyniiadau. Y mae anrhydedd yr enwad, a chynnydd moliant yn ein plith, yn dibynu ar hyn A hydded arnom, megys y bu yn Jerusalem, tra yr oedd y cantorion yn clodfori ac yn moliannu yr Arglwydd, ae yn dywedyd, Canys da yw, lie yn dragywydd y mae ei drugaredd ef; y llanwyd y tj a chwmwl gogoniant yr Arglwydd.' Ein 1118liant ninoau a esgyno i fyny yn gymeradwy. A bydded i'r dylanwadau a deimlid wrth ganu yr hen emynau Cymreig gynt, gael eu teimlo yno; a chwmwl gogoniant yr Arglwydd a lanwo deml ein cyfarfod, fel y byddo y bobl yn dychwelyd i'w pebyll yn hyfryd, ac a chalon lawn am y pethau a wnaethai Duw i Israel ei bobl; a chydargylioeddiad mwy dwfn nag erioed y dylai pob dawn a medr, pob gallu a thalent, pob athrylith, a dylanwad, gael eu eysegru er gogoniant yr Hwn a fu farw.—MOLIANNYDD.
MERTHYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR. Cyfarfod blynyddol Hope Chapel.-Dydd Sul, yr 18fed o'r mis hwn, cynnaliodd y Presbyteriaid Seis- nig eu cyfarfod blynyddol yn y capel uchod, pryd y pregethodd v Parchn. D. Saunders, Abercarn, a I). Jones, B.A., Soar, ar yr achlysur. Gwnaed casgl-
YB HOLL SAESNEG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ac nid ei gwneud hi yn un pisyn o Saesneg 'unlliw.' Dyna gyfarfodydd y