Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

' '' ' t!~ .♦ V I." LIVERPOOL.…

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. T. JOHNS, EBENEZER, LLANDINORWIG. CrNNALiwYD y cyfarfod uchod yn addoldy Eben- ezer, nos Lun, Medi 27. Llywyddwyd gan y Parch. R. Thomas, Bangor. Declireuwyd trwy ddarllen a gweddÏo gan y Parch. W. Roberts, Cefn-y-Waen. Sylwodd y Ilywydd ychydig ar amcan y cyfarfod, a dywedodd fod y cynnulliad lluosog oedd yna. er ardalwyr yn arddangosiad eglur o deimladau da tuag at Mr. Johns, a bod y fath nifer o'i frodyr yn y weinidogaeth yn breseuol yn profi yr un peth ar eu rhan hwythau. Barnodd mai doethineb ynddo ef oedd bod yn fyr, gan fod y fath nifer i anerch y cyfarfod. Galwodd ar Mri. W. Williams a Rowland Hughes, pregcthwyr cynnorthwyol yn Ebenezer. Yr oedd y ddau yn teimlo yn ofidus wrth feddwl colli Mr. Johns o'u plith, a datganasant y dymuniad goreu iddo ef a'i deulu yn ei gylch newydd. Galwyd ar ddiaconiaid Ebenezer. Daeth 5 o honynt yn mlaen, ac un o ddiaconiaid Bozra, eglwys fechan oedd ganddo dan ei ofal yn Mhenisa'rwaen. Carasem yn fawr ddyfynu rhai o sylwadau y brodyr hyn, ond ni chaniata gofod. Ni chawn ond eu henwi:—Mri. W. Roberts, Llwyneogau; G. Williams, Cryngae; M. Jones, Post Office; H. Jones, Manchester House; E. Jones, Ebenezer; ac O. Jones, Penisa'rwaen. Dat- ganasant oil y dystiolaeth uwchaf i Mr. Johns,, a datganasant eu dymuniadau da iddo yn ei le newydd. Yn bresenol yr oedd yma lu mawr o weinidogion i anerch y gynnulleidfa:—Parclin. Griffiths, Trefriw; Evans, Caernarfon; Parry, Llandudno; J. R, Con wy; Williams, Bangor; Rowlands, Cefn-y-Waen; T. C. Ellis, Ysgoldy, (T. C.); Davies, Llanelli; Griffith, Amana; Oliver, Llanberis;- Griffiths, ieu., Bethel; Griffith, Port Dinorwig; Thomas, Bryngwyn; Davies, Waenfawr; Nicholson, Bethesda. Yr oeddynt oil yn llefaru yn barchus ac uchel am Mr. Johns, fel gweinidog yr efengyl, ac yn teimlo yn ofidus wrth feddwl ei golli o Arfon, ac yn dymuno pob llwydd- iant iddo yn ei gylch newydd. Mr. Griffiths, Trefriw, a ddywedodd ei fod yn ei adwaen er's 8 mlynedd. Buont gyda'u gilydd yn Ngholeg Aberhonddu, a'u bod wedi dygwydd d'od i'r un sir i weinidogaethu. Ei fod wedi cael cyfleus- dra da i'w adwaen. Ei fod wedi ei gael yn ddyn yn mhob peth,—yn ysgolor da, yn gyfaill cywir, ac ya ol pob argoel yn 'wr Duw.' Mr. Evans, Caernarfon.-Dywedodd ei fod yn meddwl yn uwch yn awr o eglwys Ebenezer, wrth eu elywed heno yn siarad mor barchus am eu gwein- idog. Canmolodd yr eglwys am ei chwaeth uchel yn newisiad Mr. Johns fel ei gweinidog. Dywed- odd wrth Mr. levies, Llanelli, am ddweyd wrth eglwys Capel Als, ei bod yn myned i gael dyn o ddifrif yn mherson Mr. Johns, ac nid rhyw india- ruber o ddyn. Mr. Parry, Llandudno.-Dywedodd mor dda oedd iddynt hwy fel dyeithriaid glywed gair mor dda gan ddiaconiaid Ebenezer i'w gweinidog. Dywedodd air wrth Mr. Johns ar y geiriau hyny, Dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.' Yr oedd yn dda ganddo gael ar ddeall trwy y tystiolaethau heno, yn nghyda'i adnabyddiaeth ei hunan o hono, ei fod yn weithiwr mor enwog yn y winllan. J. R.—Dywedodd fod yn ddrwg ganddo fod Mr.' Johns yn myned i ymadael ag Ebenezer, Arfon, a'r Gogledd. Ei fod yn meddu gradd o adnabyddiaeth o bono,—yn y parlour, y gynnadledd, a'r areithfa; a chan belled a hyny yr oedd yn gallu dwyn y dyst- iolaeth uwchaf iddo. Sylwodd ei fod yn myned i le pwysig. Er mor enwog oedd pulpud Ebenezer, nad oedd i'w gystadlu ag un Llanelli. Yr oedd ei fyned- iad i hwnw yn rhoddi mantais i'r holl wlad i'w weled, gan fod enwogrwydd yr Hybarch D. Rees wedi ei godi mor uchel. Mr. Williams, Bangor.—Rhoddodd y dystiolaeth uwebaf iddo fel dyn, cyfaill, a Christion. Mr. Ellis, Clwt-y-Bont, (T. C.)—Dywedodd mai fel cynnrychiolydd cyfundeb arall o grefyddwyr yr oedd ef yn siarad yno heno. Nid oedd yn synu dim at yr holl ganmol oedd yno, oblcgid credai fod Mr. Johns yn haeddu y cyfan. Dygodd y cymeriad goreu iddo fel dyn selog gyda phob achos da yn yr ardal, yn yr hyn yr oedd yn olynydd teilwng i'w, flaenorydd, Mr. Edwards. Mr. Rowlands, Cefn-y-Waen.—Dygodd yntau yr un dystiolaeth a Mr. Ellis. Buont gyda'u gilydd mewn gwahanol bwyllgorau yn yr ardal, n chyda'u gilydd ar esgynloriau ar faterion cyffredinol. Yr oedd yn dda ganddo allu tystio nad oedd dim o'r

>• .1 OYNNADKBDl). V -lOKIofSOl-PATDDlOir…