Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYNHYRFIADAU EGLWYSIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNHYRFIADAU EGLWYSIG. (GAN DEGAR). GOLYGFA resynus a phruddaidd i bob Eglwys- wr ystyriol a chydwybodol ydyw cyflwr Eglwys Loegr y dyddiau hyn. Diau fod y dosbarth hwn o Eglwyswyr wedi ac yn tywallt dagrau heillt mewn dirgelfanau uwchben yr olygfa sydd iddynt hwy o gymeriad torcalonus: ac nid yw yn deg, dynol, na Christionogol, i'w gwawdio am hyny, hyd yn nod gan y rliai sydd yn llawenhau yn y cynhyrfiadau hyn fel arwyddion eglur o gyfnod gwell ar ddyfod i mewn-o wawr dydd gogoneddusach ar dori. Pictiwr tarawiadol iawn o gyflwr Eglwys llOegr yn y dyddiau hyn a geir yn un o'r Efengylau, Pob teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thy yn erbyn ty, a syrth. Ac os Satan hefyd sydd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas efT Y mae athroniaeth y pwnc yna yn eglur; ac y mae hanesiaeth yn gwireddu yr osodaeth fel ffaith ag sydd wedi cymeryd lie laweroedd o weithiau mewn byd ac eglwys. Llawer teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a wnaed yn anghyfannedd; llawer ty wedi ymranu yn ei erbyn ei hun a syrthiodd; ac y mae yr un anffawd wedi dygwydd i lawer eglwys hefyd; oblegid nid oes eithriadau i'r rheol hon. Yr un canlyniad a ddygwydd i'r da ac i'r drwg—i Grist ac i Belial, yn ol fel y cydweddont neu yr anghyd- weddont a'r osodaeth y cyfeiriwyd ati. Pa beth a welir yn Eglwys Loegr y dyddiau hyn? Beth, ond cadau arfog, dan lywyddion beiddgar, mewn ystum rhyfelgar, a'u cleddyfau gloewon yn clecian yn erbyn eu gilydd. Y mae yn amlwg fod apeliadau yr hen Iago gynt yn gymhwysiadol at y cyflwr hwn, 0 ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith cliwi ? Onid oddiwrth hyn, sef eich melus chwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau. Cenfigenu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael. Oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw 1 Pwy bynag gan hyny a ewyllysio fod yn gyfaill i'r byd, y mae yn elyn i Dduw.' 16, 1 cyfeillach y byd' y sonia Iago am dano sydd wedi bod y felldith fwyaf ar Gristionogaeth er dyddiau Cystenyn Fawr, pan unwyd yr Eglwys a'r llywodraeth wladol, a dyma elfen fawr dinystr Eglwys Loegr. Y gyfeillach hon a'r byd sydd yn asgwrn cynhen a ffrae gwahanol bleidiau yr Eglwys yr wyth- nosau hyn. Ar achlysur apwyntiad Dr. Temple i fod yn esgob Exeter, y mae atgasedd y pleidiau tuag at eu gilydd wedi cael dad- blygiad rhyfeddol. Perthyna Dr. Temple i'r blaid a elwir y Broad Church (yr Eglwys Lydan); ac yn wir, y mae platform y blaid hon yn aruthrol o lydan. Mae yn gasgledig arno Ariaid, Undodiaid, Trinitariaid, An- ffyddiaid o ddelw (Jolenso, ac eraill. Y n rhywle ar y llawr hwn y tybir fod y Dr. Temple. Y dyb yw ei fod yn gyfeiliprpus yn ei athrawiaeth; a tbybir hyny yn benaf o herwydd ei fod yn un o awdwyr y llyfr a elwir 1 Essays and Reviews,' llyfr a ystyrid yn cynnwys egwyddorion anffyddol a gwrth- Gristionogol. Wel, pan apwyntiwyd Dr. Temple i fod yn esgob, cynhyrfodd y blaid a elwir yn High Church' yn arswydus. Cad- wyd cyfarfodydd, a thraddodwyd areithiau brwdfrydig yn condemnio yr apwyntiad hwn. Y mae y blaid hon o dan arweiniad Dr Pusey a'r Archddeon Denison, ac y mae y rhai hyn wedi cyhoeddi eu hanathema ar yr apwyntiad. Plaid yw hon ag sydd yn cynnwys y Defod- wyr—hanner-tri-chwarfcer a chyflawn Babydd- ion o egwyddor ac amcan—plaid ag sydd yn sychedu am weled undeb llawn a chynhes Eglwys Loegr ag Eglwys Rhufain, ac y mae yn resynus meddwl fod y blaid hon yn Iluosog iawn, os nid y lluosocaf fel plaid yn Eglwys Loegr-dynion dan fentyll Protestaniaeth, ac yn bwyta bara Protestaniaeth, yn rhoi eu holl nerth ar waith i arwain ein gwlad yn ol i fynwes aflan hen Eglwys lygredig Rhufain! Y mae yn ddios fod yr apwyntiad hwn o eiddo Mr. Gladstone yn siomedigaeth fawr i Denison a Pusey, a'u plaid-buasai yn llawer mwy boddhaus iddynt pe buasai un o honynt hwy eu hunain yn cael ei benodi, ac felly gryfhau y blaid Babyddol ar y fainc esgobol yn Nhy yr Arglwyddi. Wedi'r cwbl, beth bynag am y Dr. Temple, y mae gan y wlad achos diolch nad yw Denison na Pusey wedi eu gwneud yn esgobion. Ychydig o ddyddiau yn ol, yn Liverpool, mewn cynnadledd Eg- lwysig, cynghorai Denison yr offeiriaid i fyned allan ar y Sabbath i gael game. 0 cricket ar y cae gyda'r plwyfolion ar ol y gwasanaeth dwyfol. Ardderchog, yr hen frawd Denison, ti haeddit gael y teitl o Arglwydd Esgob y Cricket Club' tra byddi di byw. TJn o ffrwythau daionus y cynhyrfiadau a'r ymran- iadau hyn ydyw eyflymiad ysgariad yr Eglwys oddiwrth y llywodraeth. Y mae Archesgob Canterbury wedi datgan ei farn mai deng mlynedd, yn ol pob tebygolrwydd, fydd eithaf- edd lease ei bodolaeth yn ei ffurf bresenol. Ond gwell na'r cwbl, y mae Archddeon Denison a Dr. Pusey yn boeth dros ei hysgar- iad uniongyrchol a dioedi os gosodir Dr. Temple yn yr esgobaeth. Ar y pen hwn y nhw sydd yn iawn; felly y dylai fod, a goreu po gyntaf. Chwareu teg i'r High Church party, y maent yn dadleu dros yr ysgariaeth hwn oddiwrth awdurdod v llywodraeth, ond yn bur ofalus am danynt eu hunain—y maent am gadw y dorth i gyd; ac felly fe ddywed y llywodraeth wrthynt hwythau, 'Os ydych am fwyta ein bara ni, y mae yn rhaid i chwi fod o tan ein meistrolaeth ni.' Ar y pen cyntaf, y mae y blaid uchel-Eglwysyddol yn iawn; ac ar y pen arall y mae y llywodraeth yn iawn. Yr unig ffordd i dd'od allan o'r dyryswch a'r trybini ydyw tori y cysylltiad, a phob un o'r ddwy ochr i feindio eu busnes eu hunain. Y mae I cyfeillach y byd,' yr hwn sydd yn telyiliaeth i Dduw,' wrth gwrs, yn rhyfela yn erbyn egwyddorion y Testament Newydd. Cymerwph y pwynt dan sylw fel eglurhad A oes rhywbeth yn fwy eglur yn y Testament Newydd na bod holl weinidogion Crist yn esgobion, a'r rhai hyny oil yn gydradd mewn awdurdod, a bod etholiad ac apwyntiad y cyfryw yn unig gan Eglwys Crist. Yn awr, edrychwch ar esgobyddiaeth Eglwys Loegr yn ngoleuni y Testament Newydd. A oes y graddau lleiaf o debygrwydd cydrhwng esgob- ion Eglwys Loegr ac esgobion y Testament Newydd? A oes yn y Testament Newydd yr awgrym lleiaf am esgob uwchraddol i weinidogion eraill? A oes yno awgrym mai ganddo ef yn unig y mae yr hawl i ordeinio gweinidogion Crist? A oes yno son am un felly yn esgob neu yn arolygwr dros weinidog- ion eraill? A gydnabyddir yno fod gan fren- hinoedd a llywiawdwyr bydol hawl i osod y sawl a fynont hwy yn esgobion ar Eglwys Crist? Yn Eglwys Loegr y mae y pethau hyn, ac nid yn y Testament Newydd. Gyda phob dyledus barch i Mr. Gladstone, nid oes ganddo ef, na neb o'i fath, hawl i benodi esgobion i Eglwys Crist; un o ffrwythau naturiol, ond gwenwynig, cyfeillach y byd' ydyw hyn. Mor wrthun ydyw fod dyn a ddygwydda fod yn Brif Weinidog y llywodr- aeth, pe byddai yn Tom Paine neu Voltaire, anffyddiwr neu atheist o'r rhywogaeth waethaf —mor wrthun ydyw fod dyn felly yn meddu ar awdurdod i benodi esgobion ar Eglwys Crist! ac etto, dyna system Eglwys Loegr. Cymer y frenhines ami mai ganddi hi y mae'r awdurdod i ddewis esgobion; ac felly y mae, yn ol y gyfraith wladol, ond trosglwyddir yr awdurdod i'r Prif Weinidog; a pha beth bynag fyddo ei gymeriad a'i opiniynau crefyddol, neu CIY anghrefyddol, efe sydd yn gwneud y gorchwyl hwn; ac y mae hwnw bron yn ddieithriad yn ethol dynion o'r un Iliw politicaidd ag efe ei hun. Gresynus yn wir yw'r Eglwys hbno sydd yn ddarostyngedig i driniaeth fel hyn: ei swyddau uchaf a phwysicaf fel pel droed i wasanaethu amcanion—mympwy neu ddifyr- wch—y sawl a ddygwydda fod wrth lyw y llywodraeth. Y mae genym achos i lawenhau fod egwydd- orion y Testament Newydd yn cyflym ddad- blygu eu hunain y dyddiau hyn, a bod eu dylanwad yn cael ei deimlo fwyfwy bob dydd -fod tywyllwch caddugol yr oesoedd yn cilio o'u blaen. Dydd ardderchog fydd y dydd hwnw pan bydd Eglwys dalentog a chyfoethog Lloegr wedi ymryddhau yn Jlwyr oddiwrth 'gyfeillach y byd;' ei gweinidogion a'i gwein- idogaeth ar seiliau y Testament Newydd, yn lie bod fel y mae yn awr, ei gweinidogion yn ddarostyngedig i feistrolaeth y byd hwn, a'i gweinidogaeth, fel y mae yn awr yn rhy gyffredin, o gymeriad crefftwrol, ac yn rhoi y fath fantais 1 ddynion iselwael ac o amcanion bydol i ymlusgo at draed yr awdurdodau bydol, a dywedyd fel hwnw a sonir yn Llyfr y Pro- phwyd Samuel, 'Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.' Pe delai fel eglwys i gydnabod ac i weithredu ar egwyddor fawr y Testament Newydd, sef yr egwyddor wirfoddol, beiddiem ddweyd y byddai ei dyfodol yn orwych ac ysplenydd.