Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYNADLEDD ABERYSTWYTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNADLEDD ABERYSTWYTH. Os edrychir yn fanwl i gyfansoddiad ein gwa- hanol fudiadau enwadol fel Annibynwyr yn Nghymru, nid oes genym y fath beth ag sydd gan Henaduriaethwyr, sef CYNNKYCHXOLIAD enwadol. Ni welwyd yn ein henwad ni mewn un sir, llawer llai drwy Gymru yn gyffredinol, y fath beth a chynnrychiolaeth deg a llawn gydag unrhyw fater neillduol na chyffredinol. Nid oes un Cwrdd Chwarterol yn ei gynnadledd mewn un ran o Gymru na Lloegr erioed wedi pasio penderfyniad drwy gynnrychioliad deg a chyf- lawn o'r eglwysi, a'r penderfyniad hwnw yn ddeddf rwymawl ar holl eglwysi y air hbno. Gwelsom hyn yn mhlith y Trefnyddion Calfin- aidd. Nid wyf yn dywedyd yn erbyn cael cynnrychiolaeth deg*-a chyflawn ar wahanol faterion enwadol na throsto. Nid yw yn perthyn i'm pwnc presenol i mi yngan gair ar hyn. Yn awr, beth yw cynnadledd Cymanfa neu Gyfarfod Chwarterol ? Nid cyfarfod o gynnrych- iolwyr eglwysi unrhyw gylch, lie y mae eglwysi'r cylch yn ymrwymo cario allan ddeddfau'r gyn- nadledd; ond cyfarfod o garedigion crefydd o fewn cylch pennodol, yn cyfarfod i ymgynghori yn nghylch gwahanol faterion a berthynant i lwyddiant teyrnas lesu Grist; ao nid oes un o'u penderfyniadau yn ddeddf, fel eiddo Cyfarfod Misol y Trefnyddion. Nid yw penderfyniad cynnadledd Cwrdd Chwarterol neu Gymanfa ond peth yn cael ei gymeradwyo i sylw eglwysi'r cylch. Gall y gwahanol eglwysi yn y cylch ei wrthod neu ei fabwysiadu fel y mynont. Ni velais erioed ofal mawr pwy fyddai yn pleid- leisio, na phwy ni fyddant. Y mae llawer o ryddid ar y pwnc yn cael ei arfer. Nid ar gyn- nrychiolaeth, ond ar deilyngdod, y mae pynciau Annibynwyr, fel eiddo'r eglwysi cyntefig, i sefyll neu syrthio. Mae ymgynghoriad hir, pwyllog, a gweddigar, a hyny mor gyffredinol ag y byddo modd, yn dda; ond ewyllys da'r eglwysi sydd i gario'r mater i fuddugoliaeth, ac nid deddfau cynnadleddau. Felly y mae hi wedi bod hyd yn hyn yn mhlith Annibynwyr Cymru a Lloegr. A pe pasid penderfyniad gan y gynnadledd fwyaf henaduriaethol, nid oes dim yn cael ei ennill drwy hyny am nas gellir gorfodi y bobl i gynnal cymdeithas, neu godi Colegdy. Haelioni per- sonol yn unig a wna hyny. Nis gall deddf cyn- nadledd fyned i god na chalon neb. Mae ychydig yn beio ar gynnadledd Aber- ystwyth am nad oedd yn gynnrychioliad teg o holl eglwysi'r Annibynwyr Cymreig yn Nghymru a Lloegr. Mae'r fath beth yn analluadwy. Nid oes dyn ar y ddaear fedr, yn y dyddiau hyn, gael cynnadledd a fyddo'n cynnrychioli'n deg holl eglwysi'r Annibynwyr Cymreig yn Mhryd- ain Fawr. Mae cynnrychioliad (representation), a chyfuniad (federation), yn bynciau nad oes neb yn ddigon Henaduriaethol yn ein mysg i'w bregethu. Nid yw'r eglwysi etto yn eu credu. Nid yw'r gynnadledd oreu a fedrwn ni ei gael, ond bwrdd cymeradwyol =i unrhyw bwnc, ac ar ol cael cymeradwyaeth ddyladwy i unrhyw fater, rhoddir ef wedy'n gerbron yr eglwysi. Sut y mae'r gwahanol gymdeithasau yn cael eu cario'n mlaen ? Y mae'r Annibynwyr Cym- reig yn rhoddi tua dwy fil yn flynyddol at y Gymdeithas Genadol; ond a oes ganddynt gyn- nrychiolaeth deg i reoleiddio'r arian hyny? Nodir ambell i berson weithiau o Gymru i fod ar fwrdd y Cyfarwyddwyr. Ond nid cynnrych- iolaeth yw i fwrdd y Cyfarwyddwyr nodi'r cyfryw bersonau. Cyn y byddai yn gynnrych- iolaeth, dylai cefnogwyr y Gymdeithas Genadol gael ethol eu cynnrychiolwr neu gynnrychiol- wyr. Yn ol egwyddor gyffelyb y mae'r Feibl Gymdeithas yn cael ei dwyn yn mlaen, a chym- deithasau da eraill, ac ni chlywais neb erioed yn dywedyd na chyfranent at y Feibl Gymdeithas na'r Gymdeithas Genadol, o herwydd nad oedd- ent yn cael trefnu arian y cyfryw Gymdeithasau. Codwyd ty eang yn Llundain yn ddiweddar at wasanaeth y Feibl Gymdeithas, a galwyd arnom ni y Cymry i gyfranu, a gwnaethom hyny yn llawen, am y gwyddem heb benderfyniad Cymanfa na Chwrdd Cwarter, fod eisieu'r fath adeilad, o leiaf, yr oeddem yn ymddiried hyny i Gyfarwyddwyr y Gymdeithas, aryr un egwyddor ag yr ymddiriedwn i saer wneud trol i ni, yn fwy nag i'n deall ein hunain yn y oyfryw fater. Ni ddarfu neb o Benfro, nacun man arall, danio dros gynnrychiolaeth, ac ni ysgrifenodd neb i'r Tyst' yr un gair yn erbyn gwario miloedd o'u harian heb eu cynghor. Yr oedd yr amean mor dda, a'r peth mor reidiol, fel na phetrusodd neb ddim yn ei gylch. Sut y cerir yn mlaen ein hathrofeydd 1 Mae Athrofa Caerfyrddin yn ymarferol, i'r amcan o godi gweinidogion, yn fwy o athrofa i'r Anni- bynwyr nag i'r un enwad arall yn Nghymru. Undodiaid yw ei rheolwyr bob un. Nid oes gan Annibynwyr yr un gair i'w ddweyd yn ei rheol- aeth. Mae rhai Annibynwyr.yno wedi ymffurfio yn bwyllgor i gymeradwyo ymgeiswyr am dder- byniad; ond nid oes gan y cyfryw bwyllgor yr un iota o awdurdod i dderbyn neb. Cyfrana eglwysi Cymru yn agos i J6600 yn flynyddol ati, heb un rhithyn o gynnrychioliad i'w rheoleiddio OY mewn dewisiad athrawon, nac mewn derbyniad myfyrwyr a'u gwrthodiad. Os penderfyna yr Undodiaid sydd yn rheoleiddio Coleg Henadur- iaethol Caerfyrddin dderbyn neu wrthod dyn ieuanc, nid oes gan y Pwyllgor Annibynol yno air i'w yngan yn eu herbyn. Etto dyma'r Coleg sydd yn ffafryn llawer o weinidogion Penfro. Undodiaid sydd yn ei reoli, heb un rhithyn o gynnrychiolaeth i Annibynwyr yn ei reolaeth. Ac y mae eu hymddygiadau at Drindodiaid wedi 9 bod yn fil boneddigeiddiach nag ymddygiadau rhai Trindodiaid trystfawr am iachusrwydd ffydd wedi bod at eu brodyr Trindodawl yn y Bala. Mewn deng mlynedd y mae £ 600 yn dyfod yn £6,000, a pob dimai yn cael eu gwario heb gyn- nrychiolaeth yn llywyddiad yr Athrofa. Mae'n ddigon amlwg oddiwrth ymddygiadau rhai o'n gweinidogion yr aberthent bob peth yn nglyn a dyrchafiad Colegau y Bala ac Aberhonddu, er mwyn i Goleg Caerfyrddin beidio gael ei adael ar ol. Paham y mae hyn yn bod, nid af yn awr i geisio esbonio. Pan yr oedd eisieu i'r Gogledd gasglu at Goleg Caerfyrddin y caniataodd Cwrdd Chwarterol un sir i Goleg y Bala gasglu yn ei heglwysi. Nid beio Coleg Caerfyrddin yr wyf, ond amlygu ei wir gyfansoddiad. Er ei am- mherffeithderau, y mae wedi bod ac yn parhau i fod o wasanaeth i'r Annibynwyr; ond nid oes gan Annibynwyr y gradd lleiaf o awdurdod drosto. Etto rhai o'r bobl a feiailt Gynnadledd Aberystwyth am ddiffyg cynnrychiolaeth ydyw 5 gwresocaf y Coleg sydd yn hollol am- j i! ° ^ynnrychi°laeth. Mae dwy fil y genad- adaeth mewn pum' mlynedd yn dyfod yn ddeg mil o bunau o Gymrn, a chyfeillion crefyddol, ond digynnrychiolaeth Penfro yw rhai o bleidwyr gwresocaf y Gymdeithas Genadol. Sut y mae Coleg Aberhonddu yn cael ei ddwyn yn mlaen"? Nid oes yno gynnrychiolaeth gyflawn o'r enwad, er fod yno gynnrychiolaeth dda yn rheoliad yr Athrofa. Mae cyfranwyr o swm penodol yn cael dewis eu cynnrychiolwyr i fyned i'r pwyllgorau, ac y mae y rhai.hyny eil- waith yn dewis pwyllgor -am y flwyddyn. Felty y deallais eu bod yn ol gweithred yr hen Goleg- dy. Sut y mae gweithred y Colegdy newydd i fod nid ydym etto wedi ein hysbysu. Er mwyn tangnefedd, gwell i mi beidio olrhain y modd y codwyd Colegdy Newydd Aberhonddu. Digon yw dweyd mai nid yn ol yr egwyddor o gynnrychioliad. Ni ddodwyd y mater gerbron yr holl eglwysi, ac nid cynnrychiolwyr o'r eglwysi oedd yn y cynnadleddau. Sonia fy nghyfaill, Mr. Simon Evans am gyfrifoldeb. Nid oedd y cyfrifoldeb o hyny ar y De mwy na'r Gogledd. Thomas Williams, Ysw., Goitre, oedd yn y cyf- rifoldeb. Yr oedd pobl garedig sir Benfro yn casglu yn union yr un fath at Golegdy Newydd Aberhonddu 'ag at gapel'—yr achos yn deilwng —cynnadledd o Ogleddwyr a Deheuwyr yn ei gymeradwyo, a pobl Penfro a manau eraill yn rhoi eu harian, am eu bod yn dwyn sel dros achos lesu Grist. Mae dygiad yn mlaen Athrofa'r Bala yn fwy gwerinol na nemawr o fudiad ag sydd genym. Mae cynnrychiolydd pob eglwys a gyfrano bunt, a phob tanysgrifiwr o ddeg swllt yn aelod o'r pwyllgor. Nid y cyfryw sydd yn dewis pwyllgor fel yn Ngholeg Aberhonddu, ond y maent yn bwyllgorwyr eu hunain. Yn llaw'r cyfryw y mae holl reolaeth yr Athrofa, a danfonwyd cylch- lythyrau atynt oil i ddyfod i Gynnadledd Aber- ystwyth, a chyhoeddwyd amser y gynnadledd yn y papyrau, fel y gallai llais pob eglwys ei clilylylli. ed ag oedd yn dewis anfon cynnrychiolydd. Mae'r mudiad i gael Colegdy i Athrofa'r Bala ar droed.cyn dechreu y mudiad Baucanmlwydd- WY ol. Anfonwyd ef cyn eleni o flaen y Cymanfa- oedd, a phasiwyd penderfyniadau ffafriol gan rai cynnadleddau; ond ni chafwyd digon o sylw at y mater i anturio myned yn mlaen. Anfon- wyd yr un achos eleni etto o flaen cynnadleddau yr holl Gymanfaoedd, ac fe driniwyd y pwnc yn mhob cynnadledd. Os ydym yn cofio yn iawn, darfu cynnadleddau naw o'r siroedd basio pen- derfyniadau dros gael Colegdy i Athrofa'r Bala, ar ol talu dyled Colegdy Aberhonddu. Annog- odd cynnadleddau Cymanfaoedd tair sir ar fod cynnadledd gyffredinol yn cael ei galw, ac yn unol a chais y tair sir hyn y cafwyd Cynnadledd yn Aberystwyth, fel y man mwyaf canolog. 'Ni ddarfu un gynnadledd anghymeradwyo'r amcan o gael Colegdy. Nid oes gan yr Annibynwyr well cynnrychioliad cyffredinol nag sydd yii y Cymanfaoedd. Cafodd pob gweinidog a diacon gyfle i ddweyd ei olygiadau; a phe byddai ryw gywirdeb ynnghynnrychioliad ein Cymanfaoedd, y mae'r enwad yn Nghymru yn benderfynol y dylid cael Colegdy i Athrofa'r Bala, ac nid oes un sir yn erbyn, neu o leiaf, nid oes un sir yn ddigon gonest i ddweyd hyny, os oes un i'w chael. Ni ddygwyd yr un mater enwadol erioed yn fwy cyffredinol o flaen yr enwad na hwn. Er hyny oil, myn rhai nad yw yr enwad wedi cael mynegi ei farn. Edrychaf yn awr ar ba egwyddor y galwyd- Cynnadledd Gyffredirol Aberystwyth. Anfon- wyd cylchlythyrau i bob un sydd a phleidlais yn rheolaeth yr Athrofa i ddyfod yno i osod mewn grym benderfyniadau y Cymanfaoedd. Yr oedd y gynnadledd hon yn ohiriad o bwyllgor diwedd- af y Bala. Oni bai ei bod felly, ni fuasai awdur- dod gan Gynnadledd Aberystwyth i benderfyriu dim yn nghylch yr Athrofa. Yn ol cyfansoddiad yr Athrofa, cynnadledd neu bwyllgor o danys- grifwyr 10s., a chynnrychiolwyr o eglwysi yn cyfranu punt sydd i lywodraethu'r Athrofa yn gyfangwbl. Nid yw'r cyfansoddiad yn nodi un eithriad i'r rheol. Mae rhai yn dadleu fod codi Colegffy yft aim-' gylchiad eithriadol, ac yn honi na ddylai Pwyll- gor bychan fel Pwyllgor cyffredin yr Athrofa gael