Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GOHEBYDD AR LORD DERBY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOHEBYDD AR LORD DERBY. BRYDNAWN dydd Mercher, Tach. 3, cynnaliodd Annibynwyr Llangollen gyfarfod te eu hysgol Sabbothol; ac ar ol hyny rhoddodd y Gohebydd ddarlith ar Lord Derby. Cawsom i ddechreu gip-olwg ar gychwyniad yr House of Stanley, yn amser William y Gorchfygwr: fod un o ddilynwyr William ag oedd wedi ymladd gydag ef yn mrwydr Hastings, wedi cael etifeddiaeth am ei ddewrder; ac i *yr hwnw briodi merch hen Saxon o Staffordshire mewn Ue a elwid Stan Lay, ac i'r teulu gymeryd eu henw oddiwrth y lie hwnw, ac i'r enw lithro i fod yn STANLEY. Wedi hyny dangosodd fod y Stanleys wedi cymeryd rhan arbenig yn mhob 'Great Event' yn hanes Lloegr am saith gan' mlynedd. Cyfeiriodd at eu gorchest ar faes Bosworth, ac hefyd at un o'r teulu a lynodd yn ffyddlawn gyda Charles yn amser Cromwell a'i werin-lywodraeth; ac iddo golli ei ben oblegid hyny. Sylwodd y Gohebydd mewn iaith gref fod dienyddiad y Stanley hwnw yn extreme measure; a bod extremes yn sicr bob amser o gynnyrchu extremes; ac nid oedd ammheuaeth yn ei feddwl nad oedd y weithred farbaraidd hono wedi effeithio ar ysbryd ao ymddygiad y teulu o hyny hyd yn awr. Teim- lent yn anfoddlawn byth ar ol hyny i helaethu hawlfreintiau y werin; ac yr oedd y teimlad hwnw yn gryf yn yr Iarll diweddar. Wedi hyny rhoddodd fras-linelliad o'i hanes, o'r amser yr aeth i'r Senedd yn 1820, hyd ei farwolaeth. Crybwyllodd i'w araeth gyntaf, ei Maiden Speech, ar y 'Gas Bill i Manchester,' wneud argraff ar y Ty a'r wlad. Crybwyllodd hefyd am ei araeth yn erbyn y Railroad gyntaf a wnaed yn y deyrnas, pan yr ymunodd A'r Whigs; a bod ei enw yngysylltiedig a dau fesur afyddant iddo yn enwogrwydd arosol, sef Deddf Addysg yr Iwerddon, a Deddf Rhyddhad y caethion. Wedi hyny manylodd ar ei hanes yn troi at y Tories; ac iddo ar ol hyny wrthwynebu pob mesur Rhyddfrydig; sef Rhyddfasnach a Dilead Treth y Papyr. Wrth grybwyll am Dreth y Papyr,

CYNADLEDD ABERYSTWYTH.