Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

.... • V LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

• V LLUNDAIN. f (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) DYWEDAI yr hen Napoleon er's talm na welodd y byd yma neb erioed nad ellid dweyd wedi iddo farw y gallasai wneud hebddo. Y mae hyny yn ddigon gwir mewn rhyw ystyr, nid yw symud- iad unrhyw gymeriad, bydded y peth y bo, yn effeithio fawr er attal y byd i fyned yn ei flaen; ond y mae symudiad ambell un, er hyny, yn cael ei deimlo yn llawer dyfnach na'i gilydd. Rhyfeddol y gwahaniaeth rhwng son am farw a'r ffaith pan ddaw hi adref. Ychydig amser yn ol, buom gyda phleser yn ceisio rhoddi hanes dadorchuddio y gofadail ardderchog a gyfodwyd er anrhydedd a pharch i'r enwog GEORGE PEABODY, ac erbyn heddyw wele yntau wedi gorphen ei daith. Y tywysog mawr haelfrydol wedi myned adref, nid anmhriodol fyddai dweyd, 'myned adref at ei wobr.' Dywedir fod George Peabody yn hanu o'r Pilgrim Fathers, y rhai a aethant tua gwlad y Gorllewin yn 1620. Ganwyd ef yn Danvers, Massachusetts, ar y 18fed o Chwef. 1795. Ym- ddengys iddo gael llwyr gasineb ar ysbryd a phomp rhyfel pan yn bur ieuanc, pan y gorfu iddo yn 1812 ymrestru yn y fyddim i 'ymladd dros ei wlad' yn y rhyfel fu rhwng yr Amerig a ni. Gwynfyd na ddilynai llaweroedd yr un llwybr. Wedi cael heddwch, nid hir y bu efe cyn mabwysiadu ysbryd tangnefedd. Cychwyn- odd ei yrfa yn Baltimore, ac yn 1837 daeth drosodd i Loegr, ac yn 1843 sefydlodd ei hun yma fel Money Broker. Tra yn y fasnach hon, byddai ei gynnorthwy yn cael ei ofyn yn fynych o'r Amerig. Yn 1848, tanysgrifiodd yn helaeth at Maryland yn amser Arddangosfa 1851, dangos- odd ei haelfrydedd drwy ddwyn yr holl gost yn addurniadau yr United States department. Tanysgrifiodd yn helaeth at yr ymchwil am Syr John Franklin. Cyfododd Institute yn ei dref enedigol gwerth £ 25,000, yr hon sydd yn dwyn ei enw. Bu ei drafodaeth a Maryland yn fen- dithiol iawn i'r dalaeth; tanysgrifiodd £100,000 tuag at addysg yno. Ymneillduodd o'i fasnach yn 1862, ac yn Mawrth yr un flwyddyn anrheg- odd ddinas Llundain a'r swm anrhydeddus o £ 150,000. Er budd y dosbarth gweithiol, yn benaf, yr oedd y swm i gael ei ddefnyddio, drwy adeiladu tai annedd taclus a lodging houses. Agorwyd y bloc cyntaf o'r cyfryw yn Spitalfields, 1864; ac yn Ionawr, 1866, synodd y dinasyddion a rhodd o £100,000 etto i'r tlodion; ac yn gyn- nar yn y flwyddyn hon, ychwanegodd at y swm uchod £100,000 arall, yn gwneud y cyfanswm o £350,000. Yn Mawrth, 1866, anrhegodd ei Mawrhydi y Frenhines ef ag arlun (minitun) o honi ei hun, fel math o arwydd o barch iddo am ei haelfrydedd. Ymddengys iddo wrthod cymer- yd ei 'urddo' yn Baronet. Yr oedd ar y darlun a ganlyn:V. R., Presented by the Queen to G. Peabody, Esq., the Benefactor of the Poor.' Nid rhaid canmol priodoldeb y teitl. Yn Hydref, 1866, anrhegodd yr Harvard University i sefydlu Museum a 150,000 dollars. Priodol y dywed y bardd- 'He served his country, and he loved his kind.' Gellid ychwanegu—'Loved his kind and served two countries.'

MANCHESTER.

.LLANELLI.

DOLSERAU HALL, GER DOL. GELLAU.

BEAUMARIS.

MACHYNLLETH.

LLANDDEWIBREF1. J

CYNWYD.I

TY-DDEWI.-YDLAN AR DAN.

Y LLOFRUDDIAETH GER CAERFYRDDIN.