Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNNADLEDD YN ABER-J YSTWYTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GYNNADLEDD YN ABER- YSTWYTH. Abertawe, dydd Llun, Tach. 8. MAE'R gynnadledd yn awr wrth y drws. Pa beth bynag fyddant ei chanlyniadau, gwnaeth y rhai fuont ac ydynt a'r llaw benaf yn ei threfn- iadau a'i rhag-gynlluniau eu rhan yn ffyddlon, hyd y gallasent, beth bynag, .to deserve_success; ac y mae'r cydymdeimlad llwyraf a'r parodrwydd mwyaf calonog i gydweithredu wedi ei ddangos hyd yn hyn o bob cyfeiriad, fel y mae pob lie i gredu y ceir demonstration na chafwyd ei fath o'r blaen yn Nghymru. Bydd y cynnulliad yn un pwysig, nid yn unig gyda golwg ar a basiodd, ond hefyd gyda golwg ar y dyfodol. Bydd y'gynnadledd yn cyfarfod am unarddeg, o dan lywyddiaeth Mr. E. Matthew Richards, yr aelod seneddol dros sir Aberteifi. Yr ydys yn dra sicr yjteimla pob un sy'n adnabyddus o Mr. Richards, fel man of business, ei fod y 'right man' at awenau cynnadledd o natur mor bwysig. Dechreuir y cyfarfod cyhoeddus am saith, Mr. Osborne Morgan, A.S., yn y gadair. Nid ydys yn debyg o gael presenoldeb y ddau aelod aeneddol dros Forganwg-Mr. Talbot a Mr. Hussey Vivian, o herwydd eu bod oddi- cartref, yn ngwledd agoriad y Suez Canal; ond maent ill dauj'yn cydymdeimlo | yn llwyr; ag amcan y gynnadledd, ac wedi ymrwymo i gyd- weithredu a. pha beth bynag a gytunir arno. Bydd Mr. Dillwyn, o Abertawe yn bresenol, er y bydd dan yr angenrheidrwydd o deithio bron trwy'r nos y nos Lun flaenorol a'r nos Fawrth ganlynol. Well done Dillwyn! Yr ydys newydd dderbyn llythyr oddiwrth Mr. Henry Richard, A.S., o Florence, yn sicrhau, os byw ac iach, y bydd yn ol yn yr hen wlad mewn pryd erbyn y gynnadledd, (os na bydd iddo gael ei gadw yn rhywle yn snow-bound). Bu ef a Mrs. Richard am ddwy awr ar hugain yn methu symud wedi eu cloi gan eira ar eu taith o Vienna i Florence. Mae nifer o fanau yr iwythnos ddiweddaf wedi, a bydd llawer yn ychwaneg yr wythnos hon, yn appwyntio delegates i'r gynnadledd. Mae hyny yn dda, goreu oil po fwyaf; ond dealler hyn, na chyfyngir y gynnadledd mewn un modd i delegates. Gyda golwg ar yr :awgrymiad a'daflwyd>llan am gael casgliad yn y capelau ar Sul neillduol, y mae'r cynllun hyd yn hyn wedi derbyn cymer- adwyaeth bronjunfrydol a chyffredinol. Cymer- adwywyd y cynllun gan amryw gynnadleddau, megys rhai Cwrdd Misol Aberteifi, Cymdeithas- fa Llanelli, Brycheiniog, a rhai Sir Forganwg a Sir Gaerfyrddin. Pe buasai amser a lie, buasem yn adgyhoeddi eu penderfyniadau cryfion yn yr achos. Y GOHEBYDD. »

YR YSTORM.

DOLGELLAU.

WYDDGRUG.

FFESTINIOG.

CRUGHYWEL..

-TREFFYINTNOK. , J

DR. LIVINGSTONE.