Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y TYDDYNDU,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TYDDYNDU, o.i'4 vf-i J"' NEU HELYNTION YR AFRADLON. (GAN TWRCH HIRFLEW). PEN. VI. CYN fod trwst croch lefus y daran flaenorol wedi llwyr adaw clustiau ein harwr a'i gyfaill, fflachiai mellten arall drwy yr awyr nes goleuo yr holl ddaear gan ei godre tanllyd, a chyn pen eiliad dyna y daran ofnadwy yn rhuo yu fwy bygythiol a dychrynllyd na'r un flaenorol. Tarawyd ein harwr gan ofn parlysol, a dywedai wrth ei gyfaill, 'Rhaid fod Duw yn sylwi ar ein hymddyddan, a'i fod yn ei gyfiawnder, yn penderfynu ymddial arnom drwy ein gyru o fodolaeth drwy yr yatorm ddychrynllyd hon.' 'Na fydded i chwi fod mor benwan,' atebai Watkin, fel pe yn gwawdio ydelfenau brochus. 'Nid yw y cyfan ond cwrs cyffredin natur Duw yn wir. Na fydded i chwi lanw eich ysbryd a'r fath ffug ddychymygion plentynaidd.' Gyda fod y geiriau anffyddol wedi dylifo tros ei enau llygredig, dyna fellten fflamgoch yn rhwygo y ddaear odditanynt, a hwythau yn syrthio fel meirw ar y ddaear, a'r daran eilwaith yn rhuo fel pe yn ddigofus am ogoniant y Duw anweledig. Yn mhen ychydig, adferodd ein harwr i'w bwyll a'i nerth cyntefig, ond yr oedd Watkin o hyd yn parhau i orwedd mor llonydd a marw. Cododd Dafydd ei gyfaill mewn dychryn an- nysgrifiadwy gan feddwl ei fod wedi llwyr farw. Gyda ei fod wedi ei osod rhwng ei freichiau, ac wedi ei godi ar ei draed, tarawyd ein harwr a dychryn drachefn gan oleuni mellten arall, a syrthiodd Watkin ac yntau ar y glaswellt eil- waith. Dadebrodd y ddau yn mreichiau eu gilydd gan swn y daran a ganlynodd y fellten a frawyehodd ein harwr nes syrthio mewn llewyg, a'r peth cyntaf a glywodd oedd ei gyfaill yn dywedyd- 'Yr wyf yn marw! Och! waedgwn annwn! cedwch oddiwrthyf. Och! boenau dychrynllyd! yr wyf yn trengu! Dafydd Llwyd, cedweh yr holl gyfrinach a fu rhyngom yn ddirgelaidd. Ffarwel, yr wyf yn marw!' Treiglai Watkin fel meddwyn gwallgofus ar hyd y glaswellt pan yn sisial y geiriau olaf hyn, 'yr wyf yn marw!' Yna yn sydyn, neidiodd ar ei draed gan groch- lefain, 'Y Tyddyndu neu farw!' Yna syrthiodd eilwaith ar y ddaear fel derwen doredig. Safai Dafydd Llwyd, ei gyfaill, yn bruddglwyfus uwch ei .ben, gan wrandaw yn dorealonus a brawychus arno bob tro y gallai gael ei anadl yn cablu Duw, ac yn dywedyd rhywbeth yn nghylch ei ewythr —'Y Tyddyndu neu farw,' ac felly yn y blaen. Yr oedd ymdrechfa a phoenau Watkin yn aruthrol ac annysgrifiadwy yr amser yma. Yr oedd yn gweled llu y fall yn ei amgylchynu, a fflamau y pwll diwaelod yn cynddeiriogi am ei dderbyn. Teimlai bicellau cydwybod euog yn ei drywanu fel myrdd o gleddyfau miniog-lym, am ei dwyll a'i anfadrwydd. Yr oedd yn gweled etifeddiaeth doreithiog y Tyddyndu wedi dianc o'i ewinedd yspeilgar, a'i ewythr yn melldithio y golled ryfeddol a phwysig yma. Yr oedd yn breuddwydio gweled ei gynlluniau ystrywgar wedi cael eu darganfod gan Dafydd Llwyd, a'i fod drwy hyny wedi troi yn wr ieuanc pwyllog a rhinweddol fel ei dad, a'i fod yn byw bywyd o hapusrwydd digymhar ar fronau ffrwythlawn y Tyddyndu. Gwyn fyd na fyddai ei freuddwyd cyffrous yn un gwirioneddol. Yn mhen ychydig gwelai Watkin benaeth y fall yn hyll-dremu arno, ac ymaflodd ynddo gan ei wasgu yn aruthrol; yna cododd ef i fyny a thaflodd ef i dywyllwch eithaf, a theimlai ei fod yn cael ei 'rwymo draed a dwylaw.' Pan yn teimlo arteithiau yr oruch- wyliaeth chwerw hon, rhoddodd ysgrech annaearol a neidiodd ar ei draed yn berffaith wallgofus tros ychydig, a rhegai a melldithiai ddydd ei enedigaeth, a chrochlefai—' Y Tyddyndu wedi ei golli'—y cynlluniau wedi eu darganfod-melldith a'm daliodd. Yna cablai a rhegai nes oedd yn arswydus ei glywed. Tynai ei wallt yn gudynau, ac yr oedd yn ysgyrnygu ei ddanedd gan ddigof- aint. 0!'r dychryn arswydol oedd wedi dal ein harwr wrth ei weled a'i wrandaw. Yr oedd weithiau yn credu fod rhyw dwyll yn ei gyfaill tuag ato pan yn ei gynghori i ddilyn llwybrau dyrus anufudd-dod i'w rieni hynaws, ond buan yr alltudiai y fath dyb o'i feddwl gan sylwi fod y fath beth yn anmhosibl mewn cyfaill mor bur a Watkin. Nis gwyddai pa fodd i weithredu tan yr amgylchiadau rhyfedd yr oedd ynddynt. Penderfynai weithiau i fyned tua thre a gadael ei gyfaill i'w dynged ei hun ar y maes unigol yr oedd ynddo, ond sylwai eilwaith nad oedd hyn mewn un modd yn deilwng o gyfaill gwirionedd- ol; o'r diwedd penderfynodd fyned yn nes ato er mor ddychrynllyd oedd ei olwg a'i leferydd. Rhoddodd ei law ar ei ysgwydd gan ddywedyd- 'Fy anwyl gyfaill, y mae yn dda genyf eich gweled wedi dadebru. Yr oeddwn unwaith yn credu eich bod wedi derbyn niweidiau marwol gan y fellten chwyrnellawg hono.' 'Beth, ai llais fy nghyfaill Dafydd Llwyd wyf yn ei glywed yn disgyn mor felusber ar fy nghlustiau?' meddai Watkin gan edrych yn wyllt o'i gwmpas.' 'Dafydd Llwyd eich cyfaill sydd yn ymddy- ddan a chwi; na fydded i chwi edrych mor wyllt a chyffrous. Byddweh yn eich lie yn mhen yehydig.' 'A ydwyf yn fyw ar y ddaear, ynte yn annwn yr wyf?' ychwanegai Watkin yn anmharchus. 'Yr ydych gyda eich cyfaill yn fyw, wedi brawychu yr ydych.' 'Dafydd, cedwch yr oil fel cyfaill yn gyfrin- achol. Yr wyf yn deall fy sefyllfa yn awr.' 'Bydd pob peth yn iawn.' d.i'fHtr *?Ofir »tTnirfiy;

Cafol g Beirirtr.

Barttooniaeti).

[No title]

Y DARFODEDIGAETH. .hù !>W

ENGLYN I'R LLYGAID.