Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
TEULU Y MEDDWYN.^
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TEULU Y MEDDWYN. GWELW ydyw y gwael adyn,—rhodio Ar hyd llwybrau newyn Hyd ei fedd a wna'r meddwyn, Gwerthu 'i fyd mewn gwarth a fyn. Allan a'i blant heb ddillad-am eu crwyn, Dyma'u cri yn wastad,- 0 fan tost! 0 na f'ai'n tad Ar adael ei frwnt rodiad. Rhag y blaidd ei wraig a'i blant—a'i gyru'n Fegeriaid dihaeddiant; Yn eu hannedd newynant, O'i ran ef marw a wnant. CRYNEDIG.
PENNILLION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENNILLION Cyfl wynedig i Robert Owens, Ysw., goruchwyliwr y Welsh Slate Quarry Company, Ffestiniog, ar farw- olaeth ddisymwth ei anwylferch Catherine Jane, yn 6 mlwydd oed. Os tery hiraeth leddfol dant, Bob tro y cofir ambell un; Fe dery pan y cofir plant, Tra'r fam 'n ferch, a'r tad yn ddyn; Mae dagrau adgof yn fwynMd, Try'r wermod fel y melus win; Mae Catherine Jane i'w mam a'i thad, Yn enw o awyn mewn trallod blin. Er bod y deigryn ar y rudd, Ca' profiad weithiau wir fwynhad; Yn mriwiau'r fron, rhydd pluen ffydd Ryw falm all wella mam a thad; Fe ddywed hi fod Catherine Jane, Yn farw-na wna ond yn fyw; 'Doedd angau iddi hi ond Trcin I'w chludo ar orseddfainc Duw. Estynwyd marwol leni'r nos Gan angau'n orchudd tros ei grudd; Mae Catherine Jane 'r angyles dlos, Yn dlytiach mewn anfarwol fyd; Mae 'i phrydferth wrid, a'i denol w6n, A serchog drem ei llygaid byw, A'r beraidd gan gan Catherine Jane Yn swynol gan angylion Duw. Pa ryfyg fyddai tybio fod Y saint yn sylwi arnom ni, r .y, Ac i'w brawd William bach gael d'od 'c*. 1 gwrdd ft'i chwaer i gtirr y lli', ii t Gan holi yn bryderus am Gyfoedion bychain Cwm y Rhiw, Yn benaf am ei dad a'i fam, Bryd deuant hwy i'r nef i fyw. Os gallodd angau eich tiistau, Nis gallodd ddwyn eich gobaith chwaith; Rhoes galar fodd i lawenhau, A gwen o dan y gruddiau llaith; Na foed i alar gurio 'ch gwedd Mewn hiraeth am eich geneth gu; Ond boed i'ch mynwes deimlo hedd, uf aiaih Wrth ystyr ei phreswylfa fry. Dolyddelen. PBYSofe.
fHWRE I GYMRU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fHWRE I GYMRU. IJ:n. ALAW—' Hurrah for London.' TBAFAELIAIS i trwy wledydd pell, (Sef pell o wlad y mawn); Am ddrwg a da, a gwaeth a gwell, '.Rwy'n gwybod 11awer iawn; Ond er fy holl wybodaeth, 'Rwy'n cyfaddef nas gwn i Am unrhyw wlad mewn unrhyw Ie, Mor hoff a'n gwlad fach ni. Loj( Wei hwre i Gymru, Hwre i Gymru, hwre i Gymru, *■ Hwre i Gymru byth. Urddasol yw pob mynydd llwm, '• __Sy'n gwylio megia tad, Uwchben rhyw blentyn tlws o gwm, Yn uchelfanau'r wlad; Mae murmur ei haberoedd Yn beroriaeth lawn o swyn; A'r esmwythfainc esmwythaf yw Un o'i thwmpathau brwyn. d ? r Wel hwre i Gymru, &c. r" 'Ymled y son am wlad y Sais Fel del gartrefle dysg; Ond ni cheir dysgedigion da, Heb Gymro yn eu mysg; A bydd y Cymro hwnw 'N un o'r hen athrofa rad, Osododd natur ar bob trum 0 glir fynyddau'n gwlad. Wei hwre i Gymru, &c. Os dywed rhywun wrthyt fod Dy wlad yn Uom a thlawd, D'od iddo wers a blaen dy droed, Mewn s61 Gymroaidd, frawd, A dangos iddo'r llwybr I fyn'd i'w wlad ei hun; A chana wed'yn nerth dy ben, 'Ymunwn bod ag un, Mewn hwre i Gymru, j,• Hwre i Gymru, hwre i Gymru, Hwre i Gymru byth.' GWRTHEYRN.
LLOFRUDDIAETH ERCHYLL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOFRUDDIAETH ERCHYLL. CAERFYRDDIN, bore dydd Sadwrn. MEWN lie o'r enw Blaenduad, yn mhlwyf Cynwyl, heb fod yn mhell o'r dref hon, dygwyddodd un o'r llofruddiaethau mwyaf erchyll ar nos y 4ydd cyfisol. Mae yr banes torcalonus yn fyr yn debvg i hyn:—Yr oedd par ieuanc yn byw yn Blaenduad beb fod yn briod ond am tua thair wythnos, a pban oedd y wraig ieuanc yn parotoi swper i'r dynion ar y noson a nodwyd, saethwyd ergyd ati drwy y ffenestr, yr hwn a brofodd yn angeuol iddi yn mhen tua chwarter awr. Aeth y fwled i'w chorff yn yr ochr dde, ac allan o dan ei bron chwith, tua modfedd islaw y galon, a suddodd i'r drws yn ei hymyl. Gwelais un o'r Detectives neithiwr, a dangosodd imi y fwled, yr hon sydd, gellid meddwl, yn fwled pistol lied fychan, a dywedai ef fod nifer mawr o shots bychain yn nghorff y wraig, heblaw archoll marwol y fwled. Cymerwyd dyn i fyny heddyw ar yr ammheuaeth o fod wedi cyflawni y weithred. Y mae y dyn hwn yn frawd i wr y ddynes a lofruddiwyd. Dywedir fod y ddau yn caru y ferch, ond ei bod hi wedi dewis priodi y naill, a'r ammheuaeth yw mai y brawd gwrthodedig yw y llofrudd. Y mae yr amgylchiad wedi taflu yr ardal dawel hono i gyffro anghyffredin. Yr oedd y llofrudd, pwy bynag yw, wedi bod yn hynod o gyfrwys gan ei fod wedi d'od at y ty ar ei neges felldigedig heb ddim ond ei hosanau am ei draed, ac felly y mae y police o dan anfantais i dd'od o hyd i ddim oddiwrth 61 y traed. Mae y trengholiad i gymeryd lie heddyw, a diammheu y daw rhyw oleu ar y pwnc yno.
! LLANARTltNEY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANARTltNEY. Cynnaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod blyn- yddol yn y He uchod ar yr 2il a'r 3ydd o'r mis hwn (Tachwedd). Dechreuwyd y gwasanaeth yr hwyr cyntaf gan y Parch. W. Thomas, Gwynfe; a phregethwyd gan y Parchn. Rogers, Pantteg; ac Evans, Salem. Am 10, bore dran- noeth, dechreuwyd gan y Parch. D. Henry, Penygroes; a phregethwyd gan y Parchn. D. Oliver, Llanberis; a H. Jones, Heol Awst, Caerfyrddin. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. T. Davies, Llandilo; a phregethwyd gan y Parchn. W. Thomas, Gwynfe; a J. Thomas, Bryn, Llan- elli. Am 6, dechreuwyd gan Mr. Howells, a phregethwyd gan y Parchn. W. Davies, Bethle- hem; a Thomas, Bryn. Cafwyd cyfarfodydd lluosog iawn o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd y brodyr yn siarad gwirioneddau'r efengyl gyda nerth mawr. Yr oedd yn lion iawn genym weled golwg mor obeithiol ar yr achos yn Saron o dan ofal ei llafurus a'i llwyddiannus weinidog, y Parch. W. Gibbon, Dangoswyd y gras ,o hael- ioni yn amlwg iawn gan gyfeillion yr achos yn y :lIe a'r gymydogaeth. Casglwyd yn agos i JE90, ac nid oes ond ychydig dros £ 100 yn aros o ddyled ar y capel erbyn y cyfarfod blynyddol nesaf. Costiodd y capel oddeutu £ 350; er's ychydig gyda blwyddyn yr agorwyd ef; hwn oedd y cyfarfod casglu cyntaf wedi'r agoriad; gobeith- iwn y ceir claddu'r ddyled yn mhen blwy ddyn etto o bellaf. Clywsom fod argoelion amlwg yr adeil- edir pont ar afon Towy yn agos i Llanarthney, heb fod yn hir; ac os gwir hyny, credwn yr aiff Saron yn rhy fychan yn fuan iawn.—CYFAILL.
PORTHMADOG. ^
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTHMADOG. Damwain ar y Cambrian Railway.-N os Fawrth, Tachwedd 2il, tra yr oedd Goods Train sydd yn due yma 4 y prydnawn, yn ngorsaf Cricieth, syrthiodd y guard o dan y cerbydau, a derbyniodd gymaint o niwaid fel y bu farw y noson hono, gan adael priod a phlant i alaru ar ei ol. Dywed y rhai a'i hadwaenai ei fod yn un hynod o ryfygus gyda'r cerbydau, ac o'r herwydd dyma fu y diwedd. Llongddrylliad.—Bore Mawrth, aeth yr 'Elin Ester' allan o'r porthladd hwn; ond gan iddi godi yn ystorm, amcanodd dd'od yn ol i'r porthladd drachefn; ond gan fod rhyw ddyrys- wch ar y cwmpawd, cafodd ei hyrddio gan y tbnau ar y 'Sarn' nos Fercher, a suddodd; ond cafodd y dwylaw y làn, a da hyny, er colli pob peth arall.—LLYGADOG.
Y MENAI A'I PHONTYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MENAI A'I PHONTYDD. MR. GOL.Er mwyn darllenwyr pellenig, gofynwyd i ni er's tro yn ol, gan wr o fri, i barotoi ysgrif neu ddwy ar 'y Menai,' a'u hanfon i'r DYDD. Ond ar ol peth ystyriaeth, gwelem fod y testun yn y wedd yna braidd yn rhy eang, yn gymaint a bod y fath nifer o drefydd, a phalasau, a hynodion oddeutu ei glenydd; ac felly, mewn trefn i fod yn gall am dro, wele ni yn estyn y penawd, er ceisio byrhau y gwaith o ysgrifenu. Ond y Menai i ddechreu. Enw ydyw hwn ar y cul* for sydd yn gwahanu Mon ac Arfon oddiwrth eu gilydd. Llygriad ydyw, fel y mae yn hawdd gweled, o 'Mainai,' yn golygu dwfr main neu gul. Mewn ymddyddanion cyffredin, yr ydys yn arfer galw y Menai yn afon; a phe yr ymollyngai rhywun i wneud felly wrth ysgrif- enu i'r DYDD am dro, ni ddylid beio rhyw lawer arno, am y byddai yn fwy dealladwy felly i'r Iluaws; etto dylid cofio mai culfor ydyw mewn gwirionedd, yn gyinaint a bod ei dyfroedd yn y naill ben fel y llall yn gysylltiol a'r 'm6r mawr llydan.' Pan fydd y llanw yn dyfod i mewn, gan hyny, daw i mewn o ddau gyfeiriad gwahanol. yr hyn a bair fod deufor-gyfarfod yn cymeryd lie yn rhy wle heb fod yn mhell o Borthaethwy. Oddeutu y lie hwn, rhwng bod gwely y dyfroedd yn gul, y creig- iau yn lluosog, a phob peth, edrycha y Menai yn debyc- ach i bair berwedig nag i ddim byd arall. Rhuthra ei Hit gwyrdd trochionog rhagddo, gan droi o amgylch a chryeh-ferwi yn ofnadwy,— edrycha fel pe wedi digio wrth bawb a phobpeth,— 'Chwyrna wrth edrych arnom.' Ychydig yn is i waered rhwng y ddwy bont, y mae y lie rhyfedd a elwir Pwll Ceris, ac yma yn ddiau y can. fyddir y gwyrdd-lif yn man eithaf ei wylltineb. Yma. y berwa ac yr ymgynhyrfa yn iawn! Ar ryw adegau o'r dydd, fe fydd yr olwg ar ryferthwy y Pwll yh arswydol o fawreddog. Ysguba y dyfroedd trochionog yn mlaen gyda grym a gorwyllter rhuadwy, fel pe baent am ysgubo hen greigiau duon PwllCeris am byth o'r golwg i rywle. Yno, pa fodd bynag, yr erys yr hen greigiau, ac yno hefyd o'u deutu y rhuthra ac y crych- ferwa dyfroedd heilltion y Menai oes ar ol oes, a chanrif ar ol canrif, gan adgofio i genedlaethau o edrychwyr pa mor wael a diflanedig ydynt hwy, o'u cymharu A, rhai o wrthddrychau a golygfeydd y byd gweledig hwn. Oddeutu pymtheg milldir yw hyd eithaf y Menai o'r naill eang-for i'r llall. Y mae ei chyfeiriad megys o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain, ag i ni ddechreu ei mordwyo o'r He a elwir Abermenai. Ei throadau ydynt esmwyth a hyfryd i edrych arnynt. Oddeutu ei glen- ydd o bob tu, canfyddir pob math o olygfeydd, o'r prydferth a'r syml i fyny hyd at y mwyaf rhamantus a goruchel. Y mae yn ammheus genym a oes mewn rhyw ran o'r byd y fath amrywiaeth godidog o olyg- feydd a'r rhai a ddeuant i'r golwg wrth ein bod yn mordwyo y Menai o Borth Dinorwig hyd at Beaumaris. Gyda phob troad o eiddo ei gyrfa, canfyddwn hynodion ar ol hynodion i ddenu a swyno ein bryd. Y mae natur a chelfyddyd wedi bod yn wastraffus o'u rhyfeddodau 0 gylch y Menai yr holl ffordd a nodwyd,—yn gymaint felly, yn wir, fel nad oes odid le o fewn y byd gwar- eiddiedig yn fwy clodfawr ac adnabyddus na hwnyma yn bresenol. Amrywia y Menai gryn lawer o ran lied; mewn rhai lleoedd, y mae yn Hawn ddwy filldir, ond prin yn ddau cant o latheni mewn lleoedd eraill. Oddeutu y manau lie saif y pontydd y ceir ei bod hi gulaf; etto, er holl beryglon ymddangosiadol y lleoedd hyn, & cannoedd o longau yn ol ac yn mlaen drwy y llif gorwyllt a berw- edig hwnw, yn ddiogel bob blwyddyn, drwy gael pilots hyfedr i'w llywio. Ant drwodd hefyd agos ar bob math 10 wyntoedd; ac etto anaml os byth y clywir am un long yn cael niwaid yma. Yr oedd gynt chwech o borthfaoedd (ferriea) dros y Menai, o'r naill sir i'r llall, sef, Abermenai, Talyfoel, Moelydon, Porthaethwy, Garth, ac êber. Nid oes ond rhyw dair o'r rhai hyn yn werth eu henwi yn bresenol, set y Garth, ger Bangor, Moelydon, a Thalyfoel. Y benaf o'r cwbl ar un adeg oedd Porthaethwy; ond j mae Pont Menai wedi peri i hono fod yn afreidiol yn awr er's llawer blwyddyn, a da hyny. Y Bont hon a fydd testun ein hysgrif nesaf, ac felly dyma ni yn cael modd i adael y Menai heb son dim am y trefydd porth- laddol, y cestyll. y palasau, a'r coedwigoedd heirdd a daflant eu cysgodion ar ei dyfroedd hi, ac hefyd am yr holl frwydrau gwaedlyd a ymladdwyd oddeutu ei glen- ydd, o ddyddiau Suetonius a Julius Agric«l* i lawr hyd ddyddiau Iorwerth y cyntaf, ac wedi hyny. Dichon y 'bydd rhai yn teimlo yn^siomedig oblegid hyny, ond diolcha eraill i ni am.beldio manylu ar gynnifer o bethau, yr ydym braidd yn aier. C. E,
FFRWYDRIAD-IO WEDI EU LLADD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFRWYDRIAD-IO WEDI EU LLADD. FEL yr oedd agerlong (gun-boat) newydd ei Mawrhydi, 'Thistle,' yn myned ar ei thaith brawfol, ffrwydrodd y berwedydd dydd Mercher, y 3ydd o'r mis, a lladdwyd deg o'r dynion, a niweidiwyd 8 eraill yn drwm iawn. Yr oedd i fyned i wasanaethu i dde-ddwyrain Affrica. Adeiladwyd hi yn Woolwich,