Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ADDA A'I GEILIOGOD DANDY.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ADDA A'I GEILIOGOD DANDY. GAIR am ogan ac am anghysonderau Mr. Adda Jones. Cafodd ymdaith yn amlder ei swagger drwy lawer iawn o golofnau y Faner,' gan hoitio ei ben wrth frolio fel yr oedd yn llorio ar bob llaw hen Olygydd y DYDD. Dywedwn yn- 1. Air bach am y llorio/ Buasai yn fwy dyddorol i'r edrychwyr weled Adda a'r Gol. yn 'llorio' eu gilydd yn yr un ring, oblegid y mae ceiliogod dandy Adda yn canu ar glwyd y Faner,' pan y mae eu meistr, druan, wedi ei lorio a'i bedwar bag ar led, a'i drwyn ar gam, ar drothwy y DYDD. 2. Gair am y Pwy ymosododd V Haera Adda mai hunan-amddiffynydd ydyw-mai y DvDD ymosododd ar y Faner.' Wel, edrych- wn yn deg pa fodd y bu. Cyhoeddodd y DYDD, Awst 20, ei farn ar bwnc cyhoeddus pwysfawr, heb gyfeirio at y Faner' na neb o'i theulu; ond o hyny hyd yn awr y mae y Faner' wedi bod yn procio* ac yn 'llorio' y DYDD; ac etto, haera Adda mai y DYDD oedd yr ymosodydd. Tybier fod y Gol. yn cyhoeddi ei farn am Cobden a Rhyddfasnach, a bod Adda yn beio y farn hono, pwy, yn ol deddf dadleuaeth, fyddai yr ymosodydd? Adda, yn ol hen reol cydymresymiad. Y mae hyny yn bur wir, medd pob Adda bach drwy Gymru; ond ymosododd Gol. y DYDD ar Watkin Williams, er mai Adda ymosododd ar y Gol. Digon gwir; ond cofied pob Adda bach, a phob Adda mawr hefyd, fod Mr. Williams yn Seneddwr-ei fod mewn ym- ddiriedaeth bwysfawr fel un o gynnrychiol- wyr Cymru-fod ei motions yn y Senedd yn rhai cyhoeddus-fod rhwymau ar 01. y DYDD, a phob Gol., a phob Goheb., a phob deiliad arall, i ffurfio barn yn nghylch ei motion mawr; a bod rhwymau ar y cyfryw i amlygu eu barn, os yn ystyried y motion yn annoeth. A dyna wnaeth Gol. y DYDD. Yr oedd yn ystyried motion Mr. Williams yn un annoeth, a chrybwyllodd ei farn ar fyr eiriau. 3. Deuddeg o ddynion cyfanbwyll." Ar ol procio' ei oreu drwy'r wythnosau ar faes y .'Faner,' hysbysa Adda ei fod yn barod yn awr i roddi prociad nen ddau i'r Gol. ar lawr y. DYDD, os caiff gynghor gan ddeuddeg o ddynion cyfanbwyll' i wneuthur hyny. Un pwyllog ydyw Adda. Peth call yw gofyn cynghor I deuddeg o gyfiawnion cyfanbwyll,' cyn dechreu procio. Piti mawr na buasai yr A.S. o'r Plas Draw yn gofyn cynghor 'deu- ddeg o ddynion cyfanbwyll, cyn rhoddi ei broc yn y Senedd. Dichon erbyn y bydd Adda wedi cael cynghor deuddeg o ddynion cyfiawnion i brocio ar lawr y DYDD, y bydd hen borthor y DYDD yn ei brocio yn ol o ben y grisiau, ac yn ei lorio bendramwnwgl ar draws crimogau ei gynghorwyr. Peidied Adda a breuddwydio y caiff ef a'i ddeuddeg cyfanbwyll gau ac agor porth y DYDD fel y gwelant hwy yn dda. 4. 'Merthyru y DYDD.' Camgymeriad ynfyd, medd Adda, oedd i 01. y DYDD ddy- chymygu fod Adda a seconds eraill Mr. W. Williams, yn ceisio 'merthyru' y DYDD a'i Olygydd. Sut yn y byd y dychymygodd y Gol. fod brodyr mor rasol yn ceisio ei ferthyru ef, pan nad oeddynt yn gwneud dim ond procio' tipyn arno, jyn enwedig yn ei gefn, a'i lorio ar loriau eu plaid, a'i dreiglo hyd ffosydd sychion y Faner' fach, a chwterydd lleidiog y 'Faner' fawr, yn ol cynghor eu jurymen cyfanbwyll,' er ei adferu i gyflwr o ras. Y maent yn tystio ar eu llw (a dylid credu y fath gyfiawnion cyfanbwyll ar eu llw) na feddyliasant erioed am 'ferthyru' ei DDYDD. Dymuno iddo fyned yn Nos' yr oeddynt. Ridiculous sublimity,' chwedl Adda, ydoedd i'r Gol. feddwl^eu bod yn ceisio ei ferthyru.' Adda dyner gyfanbwyll, yn ceisio merthyru' y DYDD. Na, ei holl amcan ef wrth brocio a llorio, oedd gwneud llugorn' y DYDD yn fwy goleu, a Gol. y DYDD yn fwy Rhyddfrydig a grasol. Ni bu erioed brocwyr mwy bonedd- igaidd, mwy ansectaidd, mwy haelfrydig a duwiolfrydig, nag Adda a'i gyd-ddysgyblwyr cyfanbwyll. Ni wnaethant ond annog ambell i Adda bach i losgi y DYDD ar ol swper. 5. 'Tori Gol. y DYDD o'r seiat.' Ni fynai Adda a'i blant er y byd i dbri y Gol. o'u seiat, er ei fod wedi syrthio oddiwrth ras. Cydnab- yddant eu bod wedi hir eistedd wrth ei draed, i ddysgu ganddo yn oes y Pre-adamitiaid. Y mae yn ofid ganddynt orfod ei brocio, oblegid nad yw yn ddigon o ddyn' i symud yn mlaen gyda'r gwersyll; ond er; ei fod yn fradwr i achos Rhyddfrydiaeth, nid ydynt am ei dori o'r seiat. 6. Htraeth am y Nos. Y mae Adda yn gruddfan am ryw 'Nos' yn lie DYDD Dol- gellau; ac y mae ganddo röswm dros. hyny, sef fod y nos yn fwy dymunol na'r dydd i ddalluanod coedwigoedd Dinbych. 7. Cwymp y Gol. oddiwrth ras.' Y mae pwnc pwysig cwymp y Gol yn dyrysu rhes- ymeg Adda. Haera weithiau na soniodd erioed fod- y Gol. wedi cwympo, ac y mae yn ei wrftio am ddweyd y fath beth. Tystia bryd arall mai ei amcan daionus drwy boen ei lafur yn procio a llorio, oedd I dychwelyd y Gol. i'w gyflwr gynt o ras.' Ni feddyliodd ei fod wedi 'syrthio'—cymeryd poen i'w 'godi' yr oedd ef-ymboeni i geisio ei godi o'i god- wm, a'i adferu o'i gyfeiliorni, a'i ddychwelyd i'w gyflwr cyntefig o ras, yr oedd y dysgybl- OY wr parchedig. Ond pa raid oedd i Adda ym- ffrostio o'r llafur a gymerodd i geisio ei godi,' os nad oedd am i'r byd dybied ei fod wedi 'syrthio1?' Ni waeth i Adda heb wingo nac ymnyddu, na lledu ei safn i son am y 'sublime' a'r ridiculous,' ceidw y Gol. ef dan ei fawd,' nes iddo gyfaddef ei fod ef a'i frodvr wedi gwneud eu goreu i daenu y gair drwy'r wlad fod y Gol. wedi syrthio oddiwrth ras—nad oedd ddim yn ddigon o ddyn i symud yn mlaen—ac nad oedd ei galon yn uniawn gyd- ag achos Rhyddfrydiaeth. Dyna oedd game wyllt Adda a'i frodyr drwy eu holl hunt greulawn ar ol y Golygydd. Ond y maent mewn dyryswch yn awr, am eu bod yn methu argyhoeddi eu teulu eu hunain fod hyny yn wirionedd; ac y maent am retreatio a chy- hoeddi na feddyliasant erioed fod Gol. y DYDD wedi syrthio oddiwrth ras. Do, yn wir, gwnaethant eu goreu i gael gan y byd gredu ei fod wedi Syrthio, a throi yn anffyddlon, a hyny yn unig am na fedrai neidio i'r gad ar ol pob random shot,' na marchio i'r frwydr ar ol sain anhynod pob whistle, na rhuthro i'r bwlch ar ol pob pioneer. Y mae ei lygad yn sefydlog ar gwmwl y gwersyll—y mae am ymdaith yn mlaen ar ol hen flaenoriaid-y mae yn adwaen cwmwl yr hen dystion, a sain udgyrn yr hen udganwyr—y mae am ddilyn y Brigade, nid oes ganddo ddim trust yn yr Independent Pioneer.' sy'n scornio pob 'con- certed union;' ond rhydd ei law hyd yn nod i'r Pioneer hwnw pan y syrthio yn ol i'w le yn y rank. 8. Anghysonderau Adda. Y mae yn ym- drybaeddu yn llaid ei anghysonderau. Ar ol gwenieithio i'r Gol. fel un o hen gewri rhydd- id, cyhoedda nad yw yn I ddigon o ddyn i symud yn mlaen.' Lie iawn Mr. Williams, medd ef, yw bod yn Pioneer y Brigade; na, medd ef eilwaith, yn nghanol y Brigade y dylasai symud, am fod eraill cymhwysach i fod yn Pioneers. Mr. Williams, medd ef, ddarfu 'ddechreu deffro a goleuo y wlad; na, medd ef eilwaith, yr oeddid wedi I deebreu gan y pre-adamitiaid. 9. 'Y sut,'—y gwybod sut. Dwrdiai y Gol. am iddo ddwrdio Mr. Williams. Addefai yn ymyl hyny ei fod ei hun wedi dwrdio Mr. Williams; ond ei fod yn gwybod I' sut' i ddwrdio. Dywed ei fod ei hun wedi taro Williams, ond nid 'yn ei ben,' fel y gwnaeth y Gol. Gwyr Adda 'sut' i daro-dyna sy'n ei ogoneddu. Medr ef daro yn ddeheuig- taro yn mhwll y galon, nid taro yn y pen, fel y gwna y Gol; a diau mai ei' sut' ef sydd yn iawn, sef taro blunder y Pioneer yn ei galon, ac nid yn ei ben, oblegid ar ei galon, ac nid ar ei ben, yr oedd y bai, pan neidiodd i'r 'blaen,' ac y cydiodd yn y 'llyw.' Gras mawr ydyw gallu gwybod, fel Adda, sut' i ddwrdio y Pioneer am ei fyrbwylldra, a 4 sut7 i brocio Gol. y DYDD, er ei adferiad i'w gyflwr o ras. Y mae Adda am gadw y Gol. yn y seiat, er ei fod wedi syrthio. Gall ef bigo y Gol. a'r Pioneer ar unwaith, er nad oes dwy- big i'w ffon. Nid oedd yr un dyn byw bed- yddiol, medd ef, yn y cwch pan neidiodd Mr. W. at y llyw. Nid oedd neb yn gofalu am yr hwyliau, pan y darfu iddo ef eu lledu. Buasai yn dda ganddo weled rhywun heblaw ei gyfaill gwronaidd wrth y llyw; ond nid oedd neb i'w gael, neb ond Mr. W. yn 'adnabod' yr adeg. Yr oedd amryw wedi goddef pwys y dydd gyda'r gwaith, ac yr oeddynt yn deall y gwaith yn dda, ond yr oeddynt wedi 'colli yr adeg,' am nad oeddynt yn ei hadnabod;' ac yr oeddynt wedi gadael y cwch i drugaredd y tonau. 10. Y mae Adda yn awr am ymostwng i ddysgu gwell manners i Olygyddion. Gwerth- fawr ydyw cael tad mor mannerly ag ef i ddysgu manners i Olygyddion unmannerly. Y mae ef wedi dangos y chwaeth goethaf, a'r ysbryd boneddigeiddiaf, a'r manners mwyaf refined drwy holl rediad hyn o ddadl; ac y mae wedi dangos yn y modd egluraf ei gy. mhwysder i fod yn Feirniad a Statesman-yn Foreman Jury y Cyfiawnion Cyfanbwyll-yn Athraw rheolau Rhesymeg-ac yn Professor of Good Manners. 4

EDMYGU HAELIONI.

'WHIT WHAT Y PLAS DRAW.