Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

'GOD'S GIFT AT DULWICH.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'GOD'S GIFT AT DULWICH.' Ryw ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ol darfu i hen frawd hael o'r enw A lleyn, adael cymun-rodd drom at addysgu plant tlodion' yn Dulwich; ac yr oeddid yn galw ei gymun- rodd yn 'Rhodd Duw i Dulwich.' Ychwan- egwyd llawer, o bryd i bryd, at y gwaddol hwnw, fel y mae ei gynnyrch yn awr, er yr holl wastraff a fu, yn dros £16,000 y flwydd- yn. Buasai un mil ar bymtheg o bunnau y jflwyddyn yn ddigon i gael ysgol rydd rad i blant degau o filoedd o dylodion. Ond yn lie defnyddio yr arian er cael addysg rhad i blant y tlodion, yr ydys yn gwario yn awr dros gan' mil er codi rhyw Brif-ysgol ardderchog, ac er sefydlu ammodau uchel perthynol i hono, er cadw budd y gwaddoliadau allan o gyrhaedd plant y tlodion, a chrafangu y eyfan i afael plant y cyfoethogion. Y mae annhegwch corfforiaethau ymddiriedaeth felly yn waeth o lawer na lladrad ar ben y ffordd fawr. Yr oeddid, drwy'r blynyddoedd, yn crogi lladron pen-y-ffordd wrth y degau, ond yr oeddid yn seboni ac yn siwgro yn ddiddiwedd ladron cyfrwys hen gymun-roddion. Pe byddai i grwydryn diog dori i dy teulu tlawd i ddwyn eu bwyd a'u dillad oddiarnynt, cosbid ef yn gyfiawn am greulondeb ei ladrad; ond y mae Trustees a Corporations yn cael hyf-yspeilio teuluoedd tylodion o'r hyn sydd o fwy gwerth na bwyd a dillad; ac y mae cyfiawnderau dynol yn wincio ar greulondeb eu hanonest- rwydd, yn lie eu Gosbi yn ol eu haeddiant. Bydd Dulwich yn Witch ddwl iawn os goddefa i Governors yr 'Alleyn Endowment' barhau i wneud y fath gamwri ag y maent wedi wneud. Y mae v can' mil a wariwyd ar adeiladau mawrion addurnedig o'r I North- ern Italian Style,' wedi myned ar ddifancoll tragwyddol; ond nid yw yn rhy ddiweddar i geisio rhwystro camddefnyddiad y X 16,000 y flwyddyn a weddillwyd. Pa Drustee sydd i'w gael, os gofyn y tlawd iddo am y bara a gymun-roddwyd iddo, na ddyry efe gareg i'r tlawd, er cadw y bara i'w dylwyth ei bun]

. COSB MARWOLAETH.

-.r > HANES CREFYDD YN YR…