Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLWYNGWERN-GWAREDIGAETH GYF-YNG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLWYNGWERN-GWAREDIGAETH GYF- YNG I GANNOEDD 0 BERSONAU! RHAG ofn fod yr enw uchod yn anadnabyddus i rai o ddarllenwyr y DYDD, dymunaf am ganiatad i'w wneud yn hysbys i'r cyhoedd, yn nghyda'r hyn gymerodd le yma yr wythnos ddiweddaf. Palasdy prydferth ar waelod nant goediog, ar lan yr afon Ddulas, yw Llwyngwern, ar y ffordd sydd yn arwain o Machynlleth i Corris-tair milldir o Machynlleth, a thair o Corris. Yn y palasdy yma y mae boneddiges adnabyddus ddiarhebol am ei charedigrwydd i'r tylodion yn preswylio, sef Mrs. Ford, a'i hunig fab. Hefyd yn agos i'r palasdy yma y mae Llwyngwern Quarry, sydd yn cael ei gweithio yn fywiog gan John Lloyd Jones, Ysw., Nantlle. A thrwy y naill beth a'r llall, y mae Llwyngwern wedi dyfod yn lie o hynodrwydd. Ond dydd Iau diweddaf, yr oedd yr hall drigolion o Machyn- lleth i Corris wedi penderfynu gwneud Llwyn- gwern yn Llwynhynod, sef dydd priodas y mab, Cadben John Ford, Ysw. Trwy fod y foneddiges mor hynod o garedig at bawb, a neb wedi cael cyfleusdra i gydnabod ei charedigrwydd, yr oedd yr holl wlad wedi dyfod allan i hynodi y dydd heb edrych ar gost na thrafferth. Yr oedd banerau yn chwifio yn mhob man; a'r holl dai wedi cael eu prydferthu yn y modd goreu; a phontydd ardderthog wedi cael eu gwneud yn mhob cyfeiriad; a rhuad magnelau yn adseinio yn y mynyddoedd. Yr oedd troliau a gwageni wedi bod am lawer o ddyddiau yn cario defnydd tanau i benau y mynyddoedd, ac nid oeddym mewn gwirionedd yn gwybod yn nesaf peth i ddim yn y cymydogaethau yma nos Iau o herwydd i'r haul fachlud, am fod y tanau ar benau y mynyddoedd wedi cymeryd eu lie yn eu llawn ogoniant. Yr oedd hefyd Fire Works o bob math, ac Illuminations ardderchog yn Llwyngwern. Ond i goroni y cyfan, yr oedd yno ginio campus, neu yn hytrach swper, wedi cael ei wneud i lawer o gannoedd o wahoddedig- ion; a Brass Band Corris yno i'w difyru. Ond er mor ddedwydd a hapus oedd pob peth yn ymddangos ar y cyntaf, cafodd yr hen air ei wirio,—'Cheir mo'r melus heby chwerw'—'mae drain wrth fon y rhosyn.' Do, do; a hyny trwy i ryw berson neu bersonau o dueddiadau dryg- ionus ro'i rliyw ddrwg yn y bwyd. Priodol iawn ygallesid dweyd y boreu mai dyffryn llawenydd oedd yma, ond y nos ei fod yn ddyffryn galar. Nid oedd yma am chwe' milldir, ar ol un o'r gloch y boreu ddydd Gwener, ond wylofain mawr i'w glywed yn mhob man. Dywedir fod gruddfanau torcalonus preswylwyr pentref Es gairgeiriog, i'w clywed am filldiroedd; ac nad oedd cynnifer ac un enaid oddifewn i'r pentref heb fod o dan effeithiau y dirdyniadau; ac nad oedd cynnifer ac un bod rhesymol o'i fewn yn alluog i fyned i ymofyn meddyg, er bod papyrau pum' punnoedd yn cael eu cynnyg mor rwydd a phapyrau lapio tobacco! Buaswn yn caru rho'i dysgrifiad o natur eu poenau, ond gan nas gallaf heb ddolurio teim- ladau, a bod y testun yn gofyn gwyleidd-dra i'w drafod, gadawaf iddo. Y mae yn dda genyf hysbysu nad yw y clefyd wedi bod yn angeu i neb etto hyd y gwyddys, er ei fod wedi bod yn agos iawn i gannoedd. Y mae llawer yn priodoli hyny i fedrusrwydd y meddygon. Nid ydym etto wedi cael allan pwy achosodd y fath anhapusrwydd cyffredinol; ond y mae yr awdurdodau wedi cymeryd y peth mewn Haw, a hyderir y deuant o hyd i'r fileiniaid annynol, ac y cospant hwy yn ol Ilymder eithaf y gyfraitli. Hefyd, achosodd un peth arall lawer iawn o ddifyrwch i'r gwyddfodolion, yn enwedig y boneddigion. Trwy fod y boneddigion a'u good- manners yn cyd-eistedd wrth y bwrdd, a rhai o sefyllfaoedd llawer is, ac heb gael y cyfleusdra i weled ond ychydig, yr oedd fel y gellid meddwl ddau eithafion pur ryfedd wedi cydgyfarfod. Yr oedd un o'r boneddigesau mwyaf urddasol sydd yn y cymydogaethau yn eistedd wrth y bwrdd, ac yr oedd bachgen ieuanc digon dymunol yr olwg, a digon dymunol bob peth arall hefyd, ond ei fod heb gael yr hyfrydwch o fod mewn llawer o leoedd fel hyn o'r blaen, yn eistedd mewn gwell cyfleusdra i gael potatoes na hi. Estynodd ei phlate wedi cael ei lenwi yn weddol dda a phob math o gig, yn atebol i'w hurddas, er i'r bachgen ei helpu a potatoes, ond yn lie gwneud hyny cymerodd y cyfan er ei gwaethaf, ac nid oedd ei llefain-O no, no, pa rai oedd yn tynu sylw yr holl gwmpeini, yn tycio dim arno. Y mae hyn yn dangos yn eglur etto fod 'daniwain o'r Ilaw i'r genau' hyd yn oed gyda boneddigion. P. P. C. C. [Nid gwledd Llwyngwern oedd y gyntaf i gael ei chwerwi drwy y barbariaeth a nodwyd. Gobeitltio y ceir gafael yn awdwyr creulawn y fath ysgelerdra, er eu gwasgu i ddwyn eu penyd nes troi ceg fain eu sport yn geg gam eu hedifeirwch. Nid drwg fyddai eu rhwymo yn y stocks ar fore oer, a'n gadael yno, ar eu torau, am deirawr; a rhoddi commission i blant y pentref i fesur hyd a lied eu crwper noeth a brigyn oed wen wedi sychu.—GOL.]

ABERTEIFI.

WYDDGRUG A'I HAMGYLCHOEDD.

ABERYSTWYTH.