Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BIBL TALIESIN, FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BIBL TALIESIN, FFESTINIOG. (O'r DYDD am Mawrth 19, 1869.) Yr wyf yn meddwl mai y rhai sydd yn gyffredin o dan yr enw duwinyddion ydyw y rhai mwyaf angliy- mhwya i egluro yr Ysgrythyrau; fy rheswm dros liyny yw eu bod hwy, y rhan luosocaf o lionynt, yn credu mai bod yn hyddysg mewn Groeg, Hebraeg, a chyrff o dduwinyddiaeth sydd yn gwneud dyn yn dduwinydd; a chan hyny, nid ydwyf yn eu gweled yn gymhwys i csbonio ond cyfran fechan o'r Beibl. 'Chawn ni byth esbonwyr o'r iawn ryw hyd nes y delo ein myfyrwyr yn ein Colegau i welcd fod yn lianfodol iddynt (er bod yn addas i esbonio yr Ysgrythyrau Santaidd uwchbcn pobl eu gofal) fod yn hyddysg mewn seryddiaeth. daeareg, mildraith, llysieudraitli, fferylliaeth, &c.: o blegid yr esboniad goreu ar y Beibl yw lien "Lyfr Natur." Yr eiddoch, yn serchus, Ffestiniog, Mawrth 12. TALIESIN T. JONES. Pryd y gwelais y Hythyr ucliod yn y DYDD, meddyliais y gwnasthwn sylw o hono ryw bryd, o herwydd tuedd ei gynnwysiad. Am yr awdwr ei hun, nis gwn ddim-pwy na pheth ydyw, ac ni ddywedaf ddim yn ddir- mygus am dano yn bersonol (anffawd gyffred- in adolygiadau y Cymry ar olygiadau eu gilydd). Gan i'r awdwr roi y llythyr o flaen y cyhoedd, nis gall weled yn chwith fod y cyhoedd, neu un o'r cyhoedd, yn sylwi arno. Yn rhestr y gwybodaethau a enwir yn y llythyr uchod, gadawyd allan rai ag oeddynt mewn perthynas mor agos a'r Beibl a'r rhai a enwyd, megys physigwriaeth, daearyddiaeth, a hanes-hanes ymfudaeth a gwasgariad y cenedloedd, a'r tiroedd yr ymfudasant iddynt ar ol cymysgiad yr ieithoedd, a methiant y Twr yn Babel; ond fe allai y cynnwysid y gwybodaethau yna yn yr &c. Cynnwysiad y llythyr hwn, mor bell ag yr wyf yn gallu ei ddeall, yw, mai'gwyddoniaeth naturiol (physical science) yw y rhan fwyaf o'r Beibl; mai hen I Lyfr Natur' ydyw yr esboniad goreu arno, sef arno ei hun; a phwy all wadu hyny-mai rhan fechan o'r Beibl sydd yn aros yn anesboniedig i'r sawl sydd yn fedrus mewn gwyddoniaeth naturiol, I mai y rhai sydd yn gyffredin' (yn hytrach, yn gyffredin mai y rhai sydd) dan yr enw duw- inyddion yw y rhai mwyaf anghymhwys i egluro yr Ysgrythyrau; nad ydyw bod yn hyddysg mewn Groeg a Hebraeg, a chyrff o dduwinyddiaeth, yn gwneuthur dynion yn gymhwys i esbonio ond 'cyfran fechan o'r Beibl?' Ai gwir rhai o'r sylwadau hyn 1 A wna eu hawdwr neu y darllenydd eu credu? I mi ymddengys yn syn clywed neb yn Nghymru yn y ganrif hon yn dywedyd y fath bethau,- ac wedi i ddyn astudio daeareg, seryddiaeth, fferyllaeth, llysienaeth, a milaeth, a gwybod- aethau naturiol eraill, mai rhan fechan o'r Beibl fydd yn aros heb ei ddeall. fcGallesid dysgwyl i bin Cristion fod yn analluog i osod y fath sylw ar bapyr. Yn y sylwadau uchod, canfyddir anwybod- aeth llawn mor dywyll ag a dybid fod yn y pregethwyr hyny a waeddent, '.Rliad ras i ni, bobl anwyl.' Gall pob un wybod yn rhwydd, os na fyn beidio gwybod, mai nid physical science yw y Beibl. Gweithredoedd Duw yw sail a chynnwysiad hono. Ni chynnwys hono, ac ni chynnyg i ddyn reolau a dyledswyddau moesol, nac iachawdwriaeth iddo, felpechadur, oddiwrth Dduw. Y Beibl yn unig a wna hyny. Wedi i ddyn astudio, a deall, a gallu esbonio anianyddiaeth y byd, nid rhyw 'ran fechan o'r Beibl' sydd yn annealledig ac an- esboniedig. O! na, y mae llawer o hono yn aros, a ni a allwn ddywedyd ei fod yn aros i gyd. Y mae creedigaetli y Beibl, y mae an- ufudd-dod a darostyngiad dynoliaeth, a diluw- iaeth y ddaear yn aros; y mae Patriarchaeth ac Iuddewaetli y Beibl yn aros i'w hastudio; y mae gwyrthiau a phrophwydoliaeth, a holl ysbrydoliaeth y Beibl yn aros heb gael dim goleu gan physical science. Yr un modd y mae profiadau, addewidion, a bygythion y Beibl, ac yn bendifaddeu Cristionogaeth y Beibl yn aros heb dderbyn rhith iotyn o lewyrch oddiwrth hen I Lyfr Natur.' Ai bychan o gynnavysiad, o eangder, o gadernid, o werth, o < rad ras,' o effeithiau tymmorol a thragwyddol ar ddyn yw Cristionogaeth y Beibi? Ie fe? Onid oes yn y gwahanol ranau hyn o'r Beibl faes digon helaeth i fyfyr- dod dyn dros ei oes, a digon o waith iddo i bregethu arnynt tra y byddo byw, a lie y rhaid iddo gael goleuni o ryw fan heblaw o hen I Lyfr Nature Nid yw y gwybodaethau a enwyd yn y llythyr uchod ond dygwyddiadol (incidental) i'r Beibl, heb fod yn fwy hanfodol iddo nac i ryw lyfr arall, megys Drych y Prif Oesoedd,' 'Hanes Prydain Fawr,' neu I Hanes Crefydd yn Nghymru.' Ni ellir ysgrifenu un llyfr i ddyn fel preswylydd y ddaear heb fod ynddo berthynas ag un neu y llall o'r gwybodaethau uchod, megys a goleuni, ni a ddywedwn, sef a. haul, lloer, a ser; neu a bwyd, sef a. llysieu- aeth ac anifeilaeth, yn gystal ag a gwyddon- iaethau eraill. Y mae cymaint perthynas rhwng daeareg, seryddiaeth, llysieuaeth, mil- aeth, a fferyllaeth hefyd, os mynwch chwi, a'r llyfrau a enwyd ag sydd rhyngddynt a'r Beibl. Ond nid y materion yna yw testynau yr hanesion uchod. Nid ydyw yn rhyw orchest neillduol i ddeall rhai o'r gwybodaeth- au yr arweinia y Beibl y darllenydd atynt, megys y milod, yr adar, y llysiau, a'r coed, a enwir yn y Beibl. Nid ydynt ond ychydig. Ond pe byddai dyn mor hyddysg mewn 'mil- draith' a'r Baron Cuvier neu Owen, ac mewn llysieuaeth a Linnseus, Jassieu, a De Cand-olle, ni byddai ei wybodaeth o'r Beibl wed'yn ond arwynebol a diffygiol hollol. Gall ei feddwl fod mor dywyll 4'r fagddu yn ysgrifeniadau 'Moses a'r prophwydi,' yr efengylwyr a'r apostolion. Y mae rhyw wybodaeth yn y Beibl ac yn y < rhad ras' vna sydd yn anym- ddibynol ar ddaeareg, seryddiaeth, a fferyll- aeth, a dyfnach a doethach na doethineb y llythyr uchod. Gall tybiau o fath y rhai sydd yn gynnwys- edig yn y llythyr uchod ddangos hefyd lawer o falchder ynddynt, yn gystal a meithrin yn y darllenwyr anffyddiaetli a dirmyg at y All Beibl, gan eu calonogi i daflu y Beibl o'r neilldu, a rhoi y flaenoriaeth i hen Lyfr Natur,' heb gofio bod Duw wedi mawrhau ei Air uwchlaw ei enw oil,' uwclilaw y gweith- redoedd oil ar y rhai y mae ei enw ef yn ysgrifenedig. Gallasai doethawr o'r hen Aiplit, o India, o dir Groeg a Rhufain, lafurio a bod yn fedrus mewn philosophi, fel y gwnaeth llawer o honynt hefyd, a methu neu wrthod deall y Beibl er hyny. Do, methas- ant dd'od o hyd i'r ffaith sylfaenol sydd ynddo, yr un a'r 'unig wir Dduw.' Nid oedd efe neppell oddiwrthynt; ond er ymbalfalu am dano, methasant a'i gyrhaedd. Yn lie deall a pharchu y Beibl pan y lledwyd ef o'u blaen chwerthin am ei ben wnaeth llawer o honynt. Y mae hyn yn wir am Jannes a Jambres yr Aiphtiaid,-yn wir am ysgolheigion Stoicaidd ac Epicureaidd Athen pan y pregethai Paul yno yr 'Iesu a'r adgyfodiad,'—yn wir am ddoethion Corinth pan y ffaelent gael gronyn o oleuni o hen I Lyfr Natur' ar athrawiaeth yr adgyfodiad o feirw, gan wawdio yr athraw- iaeth Batriarchaidd a Christionogol werthfawr a chysurus hon, a gofyn yn ddiystyrllyd, Pa fodd y cyfodir y meirw, ac a pha ryw gorph y deiiant I' Ac y mae yn wir am holl I yiu- holyddion ac ysgrifenyddion a doethion y byd hwn.' Do, gwnaeth y gwyr hyn wawd 0 ddwyfoldeb athrawiaethau a 'rhad ras' y Beibl yn mhob gwlad. Hyn, fe allai, yw y rhan fechan o'r Beibl' ag na ddarfu iddynt ei deall, na charu ei gwybod. Onid yr un peth sydd wedi andwyo llawer Athrofa, a llawer parth o Ewrop yn yr 50 mlynedd diweddaf,—codi natur uwchlaw y Beibl, astudio a chanmol y gweithredoedd, a dirmygu y Gair, gan daflu pob peth sydd goruwch gwyddoniaeth ac yn anymddibynol arni allan o hono, gan wneuthur ei wyrthiau a'i bro- phwydoliaethau yn wawd, a'i Gristionogaeth yn fath o ysgolfeistraeth anwadal. Os cyn- nygir dwyn syniadau o'r fath i Gymru, dy- noether hwynt ar unwaith. Bydded i'r DYDD, a Golygydd y DYDD, eu taflu i'r dyfn- deroedd nes eu trengu, ac na chodont mwyach. At ddeall ysgrifeniadau y gwahanol awd- wyr sydd yn y Beibl, y mae yn ofynol deall iaith yr ysgrifenwyr. Gadawer i gyrif duw- inyddiaeth' ymdaro drostynt eu hunain goreu y gallont. Pa lyfr arall a ddeallwyd heb ddeall ei iaith' Yn yr anwybodaeth hon o iaith yr ysgrifenydd, y mae hubub uchel afraid wedi codi yn mhlith rhai dynion o berthynas i ddaeareg a Moses. Yn yr hubub hyn y mae yn eydgyfarfod ddynion sydd yn medru peth ar ddaeareg, ond heb ddeall iaith Moses; eraill yn deall hono, ond yn anghynnefin â. daeareg; a rhai yn siaradus iawn heb ddeall nac iaith Moses na iaith daeareg, a hwn yw y dosbarth tlottaf o'r tir; ac os yw awdwr y llythyr uchod yn ddiangol rhag y cwmpeini olaf yma, iddo ef y mae yr ennill. Ond rhwng y tri y mae Moses weithiau yn cael cam, a daeareg hithau dro arall yn cael cam. Ond ni wna Moses gam a daeareg—ni chymerodd arno erioed ei dysgu i'r byd, dysgodd beth oedd uwch; na daeareg gam a Moses, ond i bob un o honynt if.