Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

RHYDDFRYDWYR EISIEU EU GWYLIO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYDDFRYDWYR EISIEU EU GWYLIO. BUM yn adnabod llawer o Ryddfrydwyr mawrion ar eu tafodau gyda duwinyddiaeth a chrefydd yn orthrymwyr annyoddefol mewn ymddygiadau. Gwnaent Ryddfrydiaeth yn fantell i weithio trais odditani. Ac yr wyf wedi gweled pethau tebyg i hyn mewn gwleidyddiaeth hefyd. Y mae y rhan fwyaf o aelodau Corporation Conwy yn ddiwygwyr brwdfrydig ar adegau etholiadau, ac ar gyfer hyn rhoddaf unwaith etto yn y DYDD dalfyr- iad o reolan eu cynghorfa, rhag nad yw plant Cymru oil wedi dysgu y wers. Y mae yr aelodau yn dewis eu gilydd; ac wedi dyfod i fewn, byddant yno am eu hoes. Dewisir newydd-ddyfodiaid i'r dref ac estron- iaid, ond iddynt fod yn ddigon Eglwysaidd a Tlioriaidd^ a gwrthodir hen drefwyr y treth- oedd trymaf, a'r penau goleuaf, os na byddant felly. Gwnant lib ar eu derbyniad mewn i gatiwcyfrinach y gynghorfa. Cariant eu gorchwylion yn mlaen a drysau cauedig. Caethfrydwyr yw mvnyafrif yr aelodau, ac a fyddant hyd oni chwelir hwy, gan eu bod yn dewis eu gilydd. Gwna Ymneillduwyr aelodau rhagorol, ond iddynb fod yn ddigon Toriaidd. Bu ambell Ryddfrydwr mor anffodus a chymeryd ei ethol i'w boeni; canys ni fedr byth gario cynnygiad. Defnyddiwyd arian y dref at ddybenion plaid. Rhoddwyd yn flynyddol i'r Eglwys Y,78, a £55 i ysgol sydd o dan ei llywodraeth hi. Rhoddwyd Y,20 at Eglwys Cyffin, Y,20 at Eglwys Llanrhos, ac Y,20 at gapel y Wesley- aid. Gwnaed hyn o fewn y deng mlynedd diweddaf. Drwg iawn genyf i Ymneillduwyr ofyn am danynt na'u derbyn, am fod hyny yn anafu eu rhesymiad yn erbyn y grant flyn- yddol i'r Eglwys; ond darllenais yn mhapyr Caernarfon un o aelodau y Corporation, a blaenor gyda'r Wesleyaid, yn galw y rhoddion hyn yn bethau gogoneddus; ond ofnwyf mai gorwarthus y gelwir hwy yn llys cynawnder y nef. Os i bawb yn y dref y perthyna yr eiddo, ac os ymddiriedolwyr arno yw y Cor- poration, nid yw yn deg ei roddi i blaid nac i bleidiau. Byddai yn well genyf i deuluoedd y ring a'r rhedegfeydd dderbyn eiddo fel hyn nag i bobl yr Arglwydd wneud. A thra yn rhanu yr arian fel hyn, esgeuluswyd y gorch- wylion mwyaf pwysig a berthynai i'r dref, fel y mae Conwy hynod am ei phrydferthwch a'i chyfleusderau wedi myned yn hynod am ei marweidd-dra a'i hannhrefn. Y mae y grants blynyddol wedi eu hattal am eleni, am fod y Corporation, drwy draul cyfraith y pysgod, a'i haelfrydedd i'r Eglwys, wedi myned i ddyled; a phan delir hwn, mae yn debyg, os na cheir diwygiad, y rhenir yr arian fel o'r blaen. Gan fod G. Osborne Morgan, Ysw., A.S., y fath Ryddfrydwr a diwygiwr, a chan fod ganddo y fath ddylanwad yn Nghonwy, drwy ei fod yn fab i'r diweddar Barchedig Vicar, a yw yn ormod gofyn am iddo ddefn- yddio peth o hono i ddiwygio ein Corporation 1 Yr ydych chwi, yn nhref y DYDD yna, yn tyrfu yn arswydus gyda'ch Marian Mawr. A myned Dolgellau ei hiawnderau er gwaethaf pob hen gostwm anghyfiawn; ond nid yw y Marian Mawr ond bach wrth Forfa Conwy, a'r eiddo perthynol i'r Corporation yma. Y mae eu derbyniadau hwy yn gannoedd, a bu yn Ilawer mwy. Y mae Bywioliaeth Conwy yn perthyn i'r Foneddiges Erskine. Hi sydd a hawl i ddewis un i ofalu am eneidiau ei phlwyfolion. Eglwyswraig dyn yw hi, ac y mae ei hymddyg- iadau wedi bod yn gyson a'i phroffes. Yr wyf yn ei. pharchu am hyny, ae am iddi ganiatau i'r Eglwyswyr yma gael yr un a ddewisent, sef y Parch. H. Rees, i fod yn wein- idog iddynt. Flynyddau yn ol, rboddodd i'r Eglwys, yn hytrach iddi ei hun, gan mai hi biau y Fywioliaeth, ddarn o dir i fod yn gladdfa. Gwnaed treth i dalu am furio o'i hamgylch. Talodd rhai Ymneillduwyr cyd- wybodol gymaint a zC2 10s., a hyny am eu bod yn ystyried yn fwy priodol i dalu am furio y gladdfa nag am olchi y wisg wen neu am win i gymunwyr yr Eglwyswyr. A'r flwyddyn hon, rhoddodd y Foneddiges ddarn chwanegol o dir claddu. Nid oedd yn cael ei roddi i Ymneillduwyr, nac i'r dref; ond rhoddai y Foneddiges ef iddi ei hun, ac i'r Eglwys. Galwyd cyfarfod i ofyn a oedd y trefwyr am dderbyn y rhodd, ac yn foddlon cymeryd eu trethu i dalu am furio o'i hamgylch. Ni ddarllenwyd yn y cyfarfod Weithredoedd cyflwyniad y Fynwent, er gofyn am hyny; ond y mae yn amlwg ei bod yn cael ei rhoddi i'r Eglwys, ac y bydd gan awdurdodau hono hawl i godi tal am gladdu ynddi; ac yr oedd yn cael ei rhoddi i'w chysegru, a'i gwneud yn rhy santaidd i Ymneillduwyr weddio yn gyhoeddus arni wrth gladdu eu meirw. Ac er y cymerai Eglwyswyr Conwy arnynt wadu y dreth eglwys pan oedd yn fyw, ac er ei bod y pryd hyn wedi marw ac wedi ei chladdu, er hyn oil cynnygiwyd ymaadgyfodi ei hen gorffyn pydredig gan flaenoriaid y Rhydd. frydwyr! Gofynid i Ymneillduwyr a oeddynt am dderbyn gan y Foneddiges yr hyn na chynnygid iddynt, ac a oeddynt yn foddlon cymeryd eu trethu i furio o amgylch eiddo eraill. Yr ydwyf yn Hed sicr nad oes yr un cwmni o Dorlaid yn Arfon nac yn N ghymru, ac a arddelant eu hunain felly, a fuasai yn beiddio cynnyg y fath bethau yn y fl. 1869. Dadleuid am gael treth wirfoddol; ond profwyd iddynt nad oedd synwyr mewn iaith felly-ei bod yr un peth a dywedyd rhwymau rhyddion. Wei, ebai un Ymrteillduwr, aelod o'r Cor- poration, a pheidiwr y dreth, nid am yr iaith yr ydym yn dadleu, ond am y meddwl; a gorfu i mi brofi iddo nad oedd synwyr yn y meddwl chwaith. Os gwneir treth, ni all fod yn wirfoddol; ac os yw yn wirfoddol i bawb roddi neu beidio, a rhoddi y faint welont yn dda, ni all fod yn dreth; ond pa fodd bynag, collodd y Rhyddfrydwyr caethfrydig hi. Cynghorwyd yr Eglwyswyr i furio y gladdfa, a myned at yr Ymneillduwyr i gasglu. Ac ar ol methu cael treth, ni ddygwyddodd i mi glywed gair o son am y fynwent. Ond os daw Bill yr aelod anrhydeddus dros sir Ddin- bych yn gyfraith, ca Rhyddfrydwyr caethfryd- ig Conwy eu hamcan, drwy fynu modd o'r hyn a elwir yn Dreth Tlodion, ac a delir gan Ym- neillduwyr, i adeiladu muriau o amgylch eiddo yr Eglwys. Ac yr wyf yn credu na buasai Arglwydd Montague, Is-ysgrifenydd Cynghorfa Addysg o dan Disraeli, yn beiddio y fath Fill a gyn- nygir gan Mr. Forster, y Rhyddfrydwr. A phe daethai oddiwrth Dori, buasai cylchoedd ;y deyrnas yn myned yn chwilfriw wrth iddi ymchwyddo yn ei erbyn. Os daw y Bill yna yn gyfraith, bydd eneidiau a chyrff pobl Conwy o dan lywodraeth y Corporation hunan-etholedig a Thorïaidd a ddarluniwyd; canys hwy yw ein Town Council ni. Ond yr wyf fi yn credu, ac wedi ysgrifenu hyny lawer gwaith er's deng mlynedd, na all na Whig na Thori byth wneud Bill Addysg. Nid gwaith lly wodraeth ydyw, ond gwaith rhieni y plentyn ei hun, yr egwyddor wirfoddol, a'r Ysgol Sab- bathol. Tybiwyf fod 'Gohebydd' y 'Faner' wedi deall erbyn hyn nad oedd y wlad wedi | gwneud i fyny ei meddwl ar y pwnc pan oedd Gol. y DYDD yn Tennessee. Ysgrifenaf etto, boed i'n lly wodraeth fynu carcharu yr ygbryd- ion meddwol, y lladron a'r llofruddion penaf yn, y byd. Hwy sydd yn feini-tramgwydd ar ffordd addysg y dosbarth isaf, ac yn ei wneud yn beryglus, yn enwedig ar adegau etholiadau. Boed i'r llywodraeth ddileu pob peth sydd ar ffordd addyegj-gostwng traul cludiad llythyr- au etto, os oes modd; ,ac y mae modd gostwng i'r hanner draul cludiad newyddiaduron a chylchgronau addysg. Gaffed addysg ei gwobrwyo yn ol ei theilyngdod. Ac yn eu Bill Diwygiadol nesaf, a allai y llywodraeth ddim gwneud yn ammodau cael pleidlais i un fod yn medru darllen ac ysgrifenu, ond heb fod mewn carchar erioed, na meddwi er's: pum' mlynedd 1 Pe gwneid y pethau uchod, a gadael rhwng y genedl a'i dysgu ei hun, yr ydwyfyn lied sicr na byddai nemawr lane na llanc'es 20 oed yn yr heolydd ttotaf heb fedru darllen newyddiaduron acysgrifenu Uythyrau at eu cariadau. Gan mai cymeriad fy llythyr yw peth o bob peth, a fydd y DYDD gystal a chyflwyno fy niolch mwyaf diffuant i Mr. Edward Da vies, Is-gadeirydd Bwrdd Undeb Machynlleth, am ei araeth ar wastadhad treth y tlodion. Bum' yn ami gyfeirio at y mater, er nad yw yn hollol yn fy llinell, a byddai arnaf ofn gwneud. camgymeriadau drwy fy mod yn fyr o brofiad, ac o ystadegau. A bum yn dysgwyl llawer i un fel Mr. Davies ddyfod allan yn gefn i Cadnant.' Y mae genyf dafien awdurdod- edig yn cynnwys ystadegau am wyth o Undebau y Gogledd am 1867, ond âg tTndeb. Conwy yn unig y mae a fynwyf fi. Cyhoeddir mai rateable, value eiddo yr Undeb yw £56,291, ac mai 7je. y bunt bob chwarter a, delid o dreth—2s. 6c. y flwyddyn. Gwna hyny £ 7,036. Telais i y flwyddyn 1867 5s. 9c. y bunt. Gwna hyny £ 17,710; ,Tal- | —, 5V. teiiiyih »>t