Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

V HAWLIAU MERCHED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

V HAWLIAU MERCHED. (GAN GRUFFYDD RISIART.) AT Y MERCHED IEUAINC,—Anwyl Garedigion,- Yr wyf yn meddwl fy mod yn eich caru: yr wyf yn sicr fy mod yn ewyllysio yn dda i chwi. Y dosbarth canol o honoch wyf am anerch. Dyna y dosbarth lluosocaf, a'r dosbarth dedwyddaf hefyd. Nid merched y cyfoethogion wyf am anerch, ac nid merched y begeriaid; ond. merch- ed amaethwyr a mechanics, sydd yn byw mewn Uawnder, ond heb ryw lawer yn ngweddill. rl Er fy mod wedi rhoddi y geiriau 'Hawliau Merched' uwchbeiHty ysgrif, nid wyf yn amcanu son llawer am eich 'hawliau,' ond yn hytrach am eich 'obligations:' nid wyf am son yn gymaint am y pethau yr amddifadir chwi o honynt, ond yn hytrach am y pethau ydych yn fwynhau. Y mae areithiau eich blaenoriaid-Mr. E. C. Stanton & Co., yn awgrymu eich bod wedi cael cam mawr; yr wyf fi yn methu gweled hyny; yr wyf yn meddwl y gellir profi-fod dynion y Taleithiau Unedig-y North yn enwedig, yn rhoddi gwell rhagorfreintiau i'r merched nag y mae dynion un wlad dan haul yn roddi i'w merched. Yr ydych yn cael gwell YSGOLION na neb, ïe, na neb. Challenge i chwi wrthbrofi hyna. Y mae eich tadau a'ch brodyr yn caniat&u i chwi WISGO yn llawn gwell na neb. Dangosir mwy o barch i chwi mewn cynnulliadau cyhoeddus nag a wneir i ferched odid o wlad yn y byd; ac yr wyf fi yn meddwl y gellir profi eich bod yn llawn mwy rhydd oddiwrth ofalon a llafur nag y mae merched odid o wlad dan haul. Ac er hyn oil, pwy sydd yn grwgnach ac yn cynhyrfu wrth son am fynu eu 'right?' Nid merched y Taleithiau Unedig 'does bosibl. Dywedaf etto eich bod yn fawr eich breintiau; ond y pwnc yw,—a ydych yn gwneud defnydd da o honynt? A ydych yn dwyn ffrwyth mewn gweithgarwch a defnyddioldeb i gyfateb i'r digaregu a'r bwrw tail a'r cloddio fn o'ch amgylch? Pa ddyben gwneud aradr a'i glodfori ar y 'fair grounds' os na wnaiff o 'Rwygo'r gwndwn cryf.' neu t 4Ddri undeb y dreindir?' r r. i. Pe baech chwithau, ferched ieuainc, am wnfeud exhibition o'ch accomplishments mewn rhyw Crystal Palace, yr wyf yn sicr yr ennillech ddi- gonedd o prizes am eich medrusrwydd; ond pa ddyben a atebai hyny oddieithr i chwi osod eich accomplishments ar waith er bod yn ddefnydd- itfl yn eich cylch? Byd y GWEITHIO ydyw ein byd ni; ac nid ellir myned drwyddo gyda dim cysur heb weithio. Dyna drefn y nefoedd. 'Chvro' diwrnod y gweithi, yr hyn yn ddiau a dybia, nid yn unig fod yn rhaid peidio gweithio ar y Sabbath, ond fod yn rhaid gweithio ar y chwe' diwmod. 'Trwy chwys dy wyneb y bwytai fara:' yr hyn a dybia, nid yn unig fod yn rhaid gweithio, ond fod yn rhaid gweithio yn GALED. Nid wyf yn meddwl fod y merched yn exempt oddiwrth y deddfau dwyfol a digyf- newid uchod. Anwyl chwiorydd,-A gaf fi ofyn cwestiwn neu ddau i chwi yn y fan yma ? A ydych yn helpu eich MAM hyd eithaf eich gallu ? Pa faint y mae eich mam wedi 'chwysu' yn eich achos? Pa sawl noswaith y bu yn methu cysgu o her- wydd pryder yn eich cylch ? A chofiwch fod y nosweithiau hyny ar lawr ar lyfrau y nefoedd yn running account yn eich erbyn, ac ni fydd dim heddwch i chwi o ochr y nefoedd hyd nes y talwch eich dyled i'ch mam am ei gofal am danoch. A ydych yn arfer loungio ar v sofa, pan y mae eich jnam jn Jjaeddn yn kitchen ? A ydych yn treulio prydnawnau ar y carpedau, yn chwareu melodeon gyda'ch cymdeithion ieuainc, a'ch mam yn 'chwysu' wrth waitio arnoch? Mae gaii y rhan fwyaf o honoch frodyr a chwiorydd ieuangach. A ydych yn caru y rhai hyny ? ac a ydych yn ymffrostio mewn DANGOS eich cariad atynt? Sicrhaf i chwi nad oes dim tebyg i hyn am ddenu serch yr young men. Ac y mae eich cusanau i'ch brodyr bach i gyd ar lawr ar lyfrau'r nefoedd, a thelir i chwi ar y ganfed am bob un o honynt; oblegid mae y y 'nefoedd yn good for its debts,' fel y dywedai H. W. Beecher, 'God stands up to his promises; there never was a run on heaven that was not promptly met; no creature in all the world, nor in lying audacious hell, shall eyer say that he drew a draft on heaven, and that God dishonored it.' Y mae genyf gwestiwn arall i chwi,—A ydych yn arfer cynnorthwyo eich tad a'ch brodyr, pan fydd gorchwylion y MAES yn pwyso yn rhy drwm arnynt ? Yn nheuluoedd rhai o honoch, y mae y merched yn Iluosocach na'r bechgyn: a ydych yn foddlon yn yr amgylchiadau hyny i gyn- northwyo yn yr 'out o' door' work? neu -ynte a ydych yn ei ystyried yn sarhad arnoch i osod eich dwylaw ar orchwylion o'r fath? Y mae cryn wahaniaeth yn America rhagor yn Mhrydain ar y pwnc yma; ond nis gwn i pa un ydyw y goreu. Yn Mhrydain, y merched sydd yn godro ac yn trin llaeth yn ddieithriad. Yr wyf yn meddwl pe b'ai dyn yn teithio drwy y wlad yn mis Gorphenaf, y gwelai fwy o ferched nag o ddynion yn trin gwair. Mae llawer mwy o ferched nag o ddynion yn rhwymo yd. Mae y dynion ieuainc i gyd gyda'r pladuriau. Y mae y merched hefyd yn usio cryn lawer ar yr hoe gyda'r green crops. Y DYN cyntaf a welais erioed yn gosod ei ddwylaw ar y 'culinary art' oedd dyn du, ar y Hong wrth groesi yr Atlantic; a rhwng ei fod yn DIWN, ac yn ddyn DU, mae yn rhaid i mi gyfaddef fod y scene braidd yn troi ar fy stumog! peth cryf yw ffasiwn ac arfer- iad. Mae yn well genyf fi fwyta o law y merched. Annoeth fyddai i mi ddweyd llawer ar y pen yma; ond mae rhyw argraff ar fy meddwl fod y genedl Americanaidd wedi colli braidd wrth gadw y merched yn hollol oddiwrth out o' door work. Gallai fod y merched yn ei ystyried yn sarhad arnynt i 'weithio allan;' ond nid ydyw hyny yn profi dim ond fod y ffasiwn a'r teimlad yn gryf yn erbyn hyny. Yr oedd y merched gynt yn 'gweithio allan '-merched dynion cyf- oethocaf y wlad. Dyna Rehecca,-unig ferch amaethwr parchus. Pan ddaeth gwas Abraham i'w cheisio yn wraig i un o brif ddynion yr oes, yr oedd hi yn tynu dwfr ac yn ei gario adref;— gorchwyl distadl yn y cynoesoedd, fel y prawf hanes y Gibeoniaid. Golwg dra dyddorol oedd ar ferch ieuanc 'deg odiaeth' yn tynu dwfr o bydew dwfn i hanner dwsin o gamelod, a chyn- nifer o lanciau yn edrych arni ac yn disychedu eu hunain. Pan ofynodd gwas Abraham iddi, 'A oes lie i ni lettya yn nhy dy dad 1 Hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon genym ni, a lie i lettya.' Yr wyf yn meddwl mai Rebecca oedd y 'cowman;' prin y gallasai neb arall wybod helynt y 'gwellt a'r ebran,' a bod mor hyf arnynt. Yr oedd yn rhaid hefyd ei bod o gryn ddylanwad yn y teulu cyn y gallasai roddi caniatad i'r fath nifer o ddynion ac anifeiliaid gael llettya yn nhy ei V .^>au oe(ld Jacob yn ffoi at Laban ei ewythr i Haran, cyfarfu 4 Rahel ei- gyfnith«r yn yr anialwch gyda y defaid; a mawr y cusanu fu yno. 'Out o' door work' oedd ganddi hi beth bynag, 'oblegid hi oedd yn bugeilio.' Pan oedd Nofies yn ffoi i tlaeth j^4jc^avra /ait^ 0,. ferched yn bugeilio;—merched Jethro, offeiriad Midiam (tywysog Midian ar ymyl y ddalen), yr hyn sydd yn llawn mor debyg o fod yn gywir, Yr oedd y bugeiliaid yn arfer bod yn gas wrth y merched. Ffei honynt. Pe buasai rhai o lanciau America yno, ni chawsai y merched ddim cam, mwy nag y cawsant gan Moses. Nid bugeilio yn unig yr oedd y merched gynt., Yr oedd Ruth a llancesau Boaz yn gweithio yn y cae haidd bob dydd. Ac y mae yn eglur fod, Boaz yn 'Gentleman Farmer.' Pan mae Lemuel neu rywun yn y bennod olaf o'r Diar. yn gwneud model gwraig dda, dywed, 'Pwy fedr gael gwraig rinweddol ? Gwerthfawr- ocach yw hi na'r carbwncl. Calon ei gwr a ymddiried ynddi. Hi a gais wlan a llin, ac a'i gweithia a'i dwylaw yn ewyllysgar. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau. Hi a feddwl am faes, ac a'i pryn ef, a gwaith ei dwylaw hi a blana winllan. Hi a rydd ei Haw ar y worthyd, ali llaw a ddeil y cogail. Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylaw i'r anghenuS. Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thy; ac ni fwyty hi fara seguryd. Ei phlant a godant ac a'i gallant yn ddedwydd; ei gwr hefyd, ac a'i canmol hi,' &c. Dyna i chwi, lanciau, batrwn gwraig. Camp i chwi gael ei chyffelyb. Ferched anwyl, mae yn rhaid i chwi gael fresh air rywsut: pid allwch fyw yn y cysgod a than do yn barhaus: byddwch farw felly cyn hanner eich dyddiau. Dichon eich bod yn cysuro eich hunain y cymerwch ddigon o exercise, yr ewch 'am walk' bob bore: mae hyny yn well na dim efallai; ond yr wyf yn ei weled yn bity, i ferched o'ch manteision chwi i daflu eu hamser' gwerthfawr i ffwrdd felly. Yr wyf yn cofio yn dda am y gyntaf a welais erioed yn 'myn'd am walk.' Yr oeddwn pan yn lied ieuanc ar ym- weliad a cheraint yn o bell oddicartref. Ac wrth drin gwair ar un o'r meusydd, yr oeddym yn ngolwg palas boneddiges. Tua deg or gloch, daeth unig ferch y foneddiges allan i gae bychan wrth dalcen y palas, a cherddodd yn ol ac yn mlaen, i ben draw y cae ac yn ol, am awr neu ragor. Yr oedd peth fel hyn yn idea hollol newydd i mi. Nid allwn gael un amgyffred pa ddyben a allai cerdded felly fod, heb ddim eisieu cyrhaedd pen y daith! Ac yr wyf yn meddwl etto ei fod yn ddiraddiad ar ddynoliaeth i gerdded yn ofer felly mewn byd lie y dylai pawb WEITHIO. Ferched amaethwyr, gwrandewch! Y mae eich tadau a'ch brodyr yn gweithio yn GALED. A allwch mo'u helpu fodd yn y byd ? A oes ganddynt 'run gorchwyl a allech chwi wneud, yn lie cerdded yn ofer o un pen i'r cae i'r llall ? Cofiwch! y mae yn RHAlD i chwi fyned 'out o' door,' onide byddwch farw. A fedrwch chwi ddim bugeilio? A fedrwch chwi ddim godro y gwartheg? A fedrwch chwi ddim c'weirio y gwair ? A fedrwch chwi ddim rhwymo haidd ? Y mae cystal merched a chwithau wedi bod wrth y gorchwylion yna, ac wedi cael cystal y. gwyr a gewch chwithan hefyd. Ac y mae yn anhawdd genyf fi gredu y byddai eich gweled ar y maes yn gweithio yn un attalfa i chwi gael gwyr da; a byddai yn help mawr, os oes yna lawer o lanciau o'r un deimlad a myfi; ac yr wyf.. yn sicr fod yna rai. Yr wyf yn gweled ami awgrymiad fod IECHYD 1 merched ieuainc America yn wan iawn. Yr wyf fi yn ofni eu bod yn cymeryd llawer iawn Q." 'bitters.' Os cymerwch gynghor genyf fi; gallaf;¡l arbed y draul a'r drafterth i chwi yfed bitters. I Wel, sut? GWEITHIWCH, a gweithiwch ALLAN. R Sicrhaf i chwi ei fod yn well bitters na'r BitteniH) Hostetter. Rhoddwch un cynnyg teg ar bitters: G yr wi Y mae hwnw dipyii)y»r