Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HEN EWYTHR I JAMES GRAHAM.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEN EWYTHR I JAMES GRAHAM. DDEUGAIN mlynedd yn ol, pan oedd Louis Philippe yn ngwres ei gariad cyntaf, newydd gael ei ddyrchafu i orsedd Ffrainc, yn chwyl- droad gwyllt 1830, cyhoeddodd yn deg iawn y mynai sefydlu ysgolion rhydcl i holl blant ei deyrnas; ond torodd ei addewid. Telid yno dreth o dros naw miliwn o ffrancs yn flynyddol tuag at 'ysgolion gwladol.' Cyflog- wyd yno 34,000 o athrawon; ond llwyr gaethiwyd yr. ysgolion wrth gredo eglwys y llywodraeth. A pha beth fu y ffrwyth neu y canlyniad o hyny, ond dyfnhau anwybodaeth plant y genedl. Yr oedd nifer y darllenwyr a'r ysgrifenwyr yn myned lai lai o hyd, yn ol cyfartaledd y boblogaeth, o dan ddylanwad y cynllun gwladol. Cynnygiodd Lloegr, yn mhen rhyw ddeuddeg mlynedd ar ol hyny, drefn wladol ddrutach a chaethach nag un Ffrainc; a phe buasai yn gallu llwyddo i'w rhoddi mewn gweithrediad, buasai yn fwy aneffeithiol nag un Ffrainc; oblegid nid yw y llywodraethwyr sy'n selog iawn am gael ysgolion y wlad i'w dwylaw eu hunain ddim mor selog dros addysg. Y maent yn ofni addysg rydd. Y mae rhai hyd heddyw yn y byd yn I easiu addysg.' Hoffent fygu addysg rydd o'r byd. Caru y maent y tywyllwch. Y tywyllwch ydyw elfen eu grym a sylfaen eu cysur, ac yn y tywyllwch y mae gobaith eu helw. ♦ V

,.UY L LEU AD.

Y TU ARALL I'll LLEN.